Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

BWRDD Y GW ARCHEIDW AID. CORWEN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

BWRDD Y GW ARCHEIDW AID. CORWEN. Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, D.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen; David E. Davies, Garthiaen William Williams, Pandy William Roberts, Gwnodl Bach; Ed. P. Jones, Cileurych T Jones, Tre'rddol; T. W. Edwards; R. Meyrick Roberts, Gwylfa; Geo. Evans, Bryneglwys; Thomas Davies, Tynywern John 0. Davies, Maesyrychain J. Roberts, Vron; T. Williams, Pencraig; W.H.Parry,Bridge End; E Morris, Llanarmon; E. E. Jones, Pentrellawen; David Jones, Brynsaint; Jonn Wynne, Gro; W Pencerdd Williams Miss Walker Mrs. R. T. Jones; R. E. Pugh, Penybryn; E. Derbyshire, (clerc), a Lemuel Williams, (meistr). Yn Haw y Trysorydd, 713p. 3s. 10c. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf Yr wythnos gyntaf, 84, ail wythnos, 78. Crwydriaid. Nifer y crwydriaid gynortbwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf Y r wythnos gyntaf, 59; yr ail wythnos, 38. Y Rheidweinyddion. Pasiwyd i ganiatau y symiau canlynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol:—Mr. D. L. Jones, Corwen, £ 33 Mr. R. 0. Davies, Llan- gollen, £ 38. Adroddiad y Meistr. Hysbysodd y Meistr fod dau farwolaeth wedi digwydd yn y tlotty yn ystod y bythef- nos ddiweddaf, sef Mr Job Roberts, 65 oed, o Corwen, a Mrs Winifred Roberts, 73 oed, o Llandrillo. Claddu yn Llangollen. Bu ymdrafodaeth led faith ynglyn a'r mater hwn, a phasiwyd fod aelodau Llangollen i'w ail-ystvried. A ganlyn yw'r prisiau a dderbyniwyd oddiwrth yr awdurdodau. Cemetery Llan. Marwanedig, ac o dan fis oed 2s6c Mis, a than 12 oed 5s0c Dros 12 oed 1080C Ail-agor (8 troedfedd) tro cyntaf 9s0c ail dro 7s0c trydydd tro 5s0c Mynwent yr Eglwys. Bedd (9 troedfedd) 20s0c Ail-agor, tro cyntaf 18s0c „ ail dro 16s0c „ trydydd tro 14s0c Gohebiaeth. Derbyniwyd llythyr oddiwrth Mr. Thomas Williams, Pencraig Fawr, i rybuddio y bydd yn y Bwrdd nesaf yn codi y cwestiwn am gael gwell gohebiaeth yn y newyddiaduron o weithrediadau y Bwrdd. Mewn atehÜtd i'r Cadeirydd dywedodd Mr. Williams fod trethdalwyr ardal y Bettws ddim yn cael adroddiadau llawn ar faterion pwysig, hyny yw cael adroddiadau belaethach. Pasiwyd i'r gohebwyr gymeryd yr awgrym. Archeb newydd. Ar gynygiad y Cadeirydd a chefnogiad Mr. W. H. Parry pasiwyd i bwrcasu 60 copiau o'r archeb newydd Poor Law Institutional Orders. Tenders. Pasiwyd fod y Clerc i anfon am brisiau llyfrau cyfrifon gan y Oyhoeddwyr. Cartref y Plant. Gyda golwg ar gwestiwn y Famaeth i'r uchod trowyd y Bwrdd yn Bwyllgor. Adroddiad. Cafwyd adroddiad y Pwyllgor Ymweliadol gan Mr. R. M. Roberts, yr hwn a ddywedodd fod tri o achosion wedi bod dan eu sylw, sef, Mrs. Wolffe, yr hon oedd wedi anfon o'r tloty at ei mhab am arian. Yr unig beth oedd yr hen wraig eisieu oedd ychydig o arian poced, ac nid oedd sail o gwbl i'r hyn ddywedwyd yn y Bwn d diweddaf ei bod yn anfoddlon ar ei bwyd. Am hyny yr oedd y Pwyllgor yn argymhell yr aelodau £ i beidio rhuthro achos di-sail fel hwn i'r Bwrdd yn y dyfodol. Yr ail achos, Edward Jones o Langollen, yr hwn fu yn gwneud arddangosiad o fwyd y tloty yn Llangollen er pan y bu yn ngholeg Rhuthyn am wrthod wneud ei waith yn y Tlotty, y mae wedi gwella ac yn awyddus am fyned allan i weithio. Y trydydd achos oedd William Williams, o Gorwen, yr hwn oedd yn hwyr yn dyfod i'r tlotty ac o dan ddylanwad y ddiod. Ar ol y wers gafodd gan y Pwyllgor addawodd wella yn dyfodol. Pwyllgor Arianol. Darllenwyd adroddiad y Pwyllgor uchod gan Mr W. 1:1. Parry, cyfanswm y biliau oedd 146p. 14s. 7c. Pasiwyd i'w taiu.

- CORWEN,I

Family Notices

Advertising