Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

/> OORWEN.

News
Cite
Share

/> OORWEN. Cymdeithas Seion.-N oson Seneddol- Hwyl godidog gafwyd nos Wener, diweddaf yn y gymdeithas uchod, pryd y cynygiwyd pleid- lais o ddiffyg ymddiriedaeth yn y Llywodr- aeth. Yr oedd y ty yn llawn pan gyfododd yr aelod dros fwrdeisdrefi Trefaldwyn i gynyg y bleidlais. Siaradwyd o'i blaid gan yr aelodau dros Penmaenmawr, Dolgellau, Deheu Lerpwl, ac arweinydd yr wrthblaid. Yr oedd y llywodraeth yn cael ei chynrychiol yn dda, Methodd y Gwir Anrhydeddus yr Ysgrifenydd Tramorol a bod yn bresenol gan ei fod yn y wlad yn anerch ei etholwyr, ac yr oedd Arol- ygydd Bwrdd y Llywodraeth Leol dipyn yn hwyr fel eanlyniadanghaffael i'w fodur pan ar y ffordd. Gwnaed amddiffyniad gadarn i'r Llywodr- aeth. Siaradodd Arolygydd y Llynges, Ysgrifenydd yr Iwerddon, yr Ysgrifenydd Cartrefol, Canghellydd y Trysorlys, a chlowyd i fyny mewn araeth campus gan y Prif Wein- idog. Collodd yr Wrthblaid eu pleidlais er dir. fawr foddhad i'r Llywodraeth a'i chanlynwyr. Digwyddiadau y Mis ydyw testyn y cyfarfod nesaf, a phan ddywedwn yr agorir gan Mri. H. R. Jones ac Edward Roberts, L. C. & M. Bank, prin y bydd angen rhoddi gwahoddiad i'r aelodau fod yn bresenol. Byw DdarZuniau. Y mae y rhai hyn a ar- ddangosir heno a nos Wener nesaf yn Neuadd Gynull, Corwen, y rhai goreu ddangoswyd eleni. iRhaglen heno :—The Spell Simple Simon's Bear Dance; Single Handed Jim; Bill King of Sahara; Burgundy Lombardy; Redemption of Rawhide; Getting Married. Rhaglen nos Wener:-Riviera Bewitched Restaurant; At the hour of Three; Widower's Quest; No Sweets Auntie takes the children to the Country; Unmasked by Kanaka. Yn ychwanegol ceir amryw ganeuon digrif, etc.

I GWYDDELWERN. t

Advertising