Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Y diweddar Mr> Edward Jones,1,…
Y diweddar Mr> Edward Jones, 1, Maesgwyn Felin. Chwith genym orfod cofnodi marwolaeth un o drigolion hynaf yn ardal Gwyddelwern yn mherson y gwr anwyl a charedig uchod, yr hyn a gymerodd le fore dydd Gwener wythinos i'r diweddaf. Er ei fod bron a chyraedd yr oedran addfed o 83, ac fod ei iechyd i raddau yn ddiweddar wedi tori lawr, ychydig feddyliai ei deulu na 'i gyfoedion fod pen y daith mor agos. Nid oedd henaint wedi dweud dim ar ei ysbryd ef. Yr oedd bob amser yn fyw i bob peth ac mewn llawer i ystyr yn para'n ieuanc o hyd. Pythefnos i'r Sul olaf y bu fyw yr oedd yn bresenol yn y capel ac yn edrych fel pe yn mwynhau y moddion cystal a neb. Llanwodd y swydd o flaenor parchus gyda 'r Methodistiaid am ysbaid o 24 o flynyddau gyda 'r ffyddlondeb mwyaf. Dyn tawel ydoedd ond yn ddarllen- wr mawr ac o ganlyniad yn meddu ar wybod- aeth eang mewn llawer cyfeiriad. Hwyrach mai'r peth hynotaf ynddo ydoedd ei wybod- aeth lawn o'r Ysgrythyr. Cymwysai hyn ef i fod yn athraw defnyddiol yn yr Ysgol SuI dros ba un yr oedd yn hynod selog. Amlwg ydoedd ei fod wedi trysori llawer o'r gair ar ei g6f a mynych y cloai i fynu ei sylwadau gydag adnodau. Yroedd ganddo adnod ac ac adnod newydd ar gyfer pob amgylchiad. Adroddodd lawer ar y penill canlynol yn ddiweddar:— 1 'Rwyn tynu tuag ochr y dwr, Bron gadael yr anial yn l&n; Mi. glywais am gonewest, y Gwr A rydiodd yr afon o'm blaen. Gellir dyweud dano Fe'i carodd Ef deued a ddel," ac erbyn heddyw mae ei obaith wedi troi yn wynfyd. Rhagflaenwyd ef gan ei anwyl briod tua 30 mlynedd yn ol, ond cafodd ef fyw i wel'd ei deulu oedd mor hoff ganddo wedi ymsefydlu yn y byd. Prydnawn dydd Mercher diweddaf am un 6'r gloch cychwynodd yr angladd o Maesgwyn a gorymdeithiwyd i Gapel y Methodistiaid lie y cynaliwyd gwasanaeth; oddiyno cludwyd ei ei weddillion marwol i fynwent Eglwys y Plwyf, Gwyddelwern, lie y dodwyd ei i orphwys yn dawel yn meddrod y teulu hyd fore y codi. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. J T Williams, Bryneglwys Foulkes Ellis, Gwyddelwern; Edward Edwards, Carrog; H. A Jones, Cynwyd; a Meistri Ellis Evans, Bryndu, a Joseph Davies, Wernddu. Gedy ddwy ferch a thri mab gyda 'u teulu- oedd i alaru ar ei ol, pa rai oil sydd wedi cartrefu yn eu plith, oddigerth Mrs. Lloyd, priod y Parch. W. W. Lloyd, Caernarfon. Mae ein cydymdeimlad dyfnaf a hwy oil yn eu profedigaeth chwerw, a nawdd y nef fyddo drostynt oil. Gwag fydd ei le ar yr aelwyd a gwag yn y capel, ond os colled i ni, enill yw iddo ef.
Advertising
HYSBYSIAD PWYSIG. —♦ ^— Stoc Helaeth o ESGIDIAU A BOTASAU Bargeinion Digyffelyb DYMUNA HUGH HUGHES, leirion Boot Stores, Corwen HYSBYSU Cedwir mewn Stoc bob amser y Shooting K Boots, a'r Country K Boots, Holdfast" a'r New Welsh Adamant Brand ac Esgidiau Cryfion eraill i Feibion, Merched a Phlant at tymor y Gauaf. LEGGINGS o bob math i Ddynion a Phlant am brisiau gwir rhesymol.! Trwsir yn daclus a chvda'r lledr goreu gan weithwyr profiadol. Hefyd mewn Stoc pob math o ddefnyddiau goreu at glanhau Esgidiau, a'r oil am y prisiau iselaf bosibl, pa rai a ellir eu cydmaru yn foddhaol gydag unrhyw eraill. Cofi weh y Cyfeiriad- Bridge Street, Corwen. I Everybody claims to supply the best. We ask a trial. Facts are stubborn things." now at ? it! ?<m?i? ?r JjLJ? jjSS? NOTED CASH SALE COMMENCES TUESDAY NEXT-FAIRODAY, The sound principles followed in previous successful Sales will be strictly adhered to. W REAL DARGAINS. GENUINE REDUCTIONS. Some Goods selling at Half their Value. REMNANTS AT LESS THAN COST. ?????????W??N??NEr?' 'TjES? TNflMS?n? ??E?? w C01\lr:E> WATERLOO HOUSE.