Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

.OYNWYD.

News
Cite
Share

OYNWYD. Prawf Gyngherdd-Cynaliwd Prawf Gyng- herdd llwyddianus dan nawdd eglwys y Bed- yddwyr yn Ysgol y Cynghor, nos Wener, Ion. 2il.. Daeth cynulliad anferth yhghyd, a chafwyd cyngherdd na welwyd ei fath yn yr ardal o'r blaen. Llywyddwyd yn ddeheuig gan J. P. Hughes, Ysw., Corwen. Clorian- wyd y cantorion gan y Parch R M Edmunds, Llanbedrog, a- gwnaeth ei waith i foddlon- rwydd pawb. Beirniaid yr adroddiadau oeddynt Meistri H W Anwyl, Corwen, a R W Jones, Gwyddelwern. Cafwyd detholiad gan y Cor Plant, Cwsg fy Noli,' dan arweiniad Mr Edwards, a'r Cor Cymysg, Seren Unig,' dan arweiniad Mr J E Morris, yn ganmoladwy Wele restr o'r enillwyr:—Unawd i blant dan 16 oed, 10 yn cystadlu, 1 Sarah Jane Thomas, Cynwyd, gyda chanmoliaeth uchel, 2 Maggie Edwards, Cynwyd, 3 Ada Jones, Gwyddel- wern. Adroddiad i blant dan 16 oed, Corwena Jones, Glan'rafon, cydradd ail Gwladys Jones, a Maggie Edwards, Cynwyd. Prif adroddiad 11 yn ymgeisio, cydradd gyntaf, Miss E. G. Owen, Moelygarnedd (gynt o Cwm Isa), a Mr J Anthony Jones, Glyndyfrdwy. Cystadleu- aeth Pedwarawd, 4 parti yn ymgeisio, dau o Landrillo a dau o Gynwyd, goreu, Misses Jones, Gwerclas, Edith Edwards, Post Office, Mri John Evans, Llandrillo, a J. E. Morris, Cynwyd. Cystadleuaeth yr Her Unawd, 10 ar y llwyfan, a dywedodd y beirniad eu bod oil oddigerth un yn haeddu y gini, dyfarn- wyd Mr D R Jones, Wrecsam, yn fuddugol, yn canu Gweddi gwraig y Morwr." Tal- wyd y diolchgarwch arferol gan Mr Moses Williams, aceiiiwyd gan Mr Robert Edwards. Gwasanaethwyd fel ysgrifenydd gan Mr Edwards, Brynheulog, ag fel cyfeilydd gan Mr H. Edwards, Corwen. Mae diolch hefyd yn ddyledus i Miss Ellis, Branas, Llandrillo, am gyfeilio i'r upartion. Marwolaethau.—Yn ystod y flwyddyn ddi- weddaf collwyd trwy farwolaeth yn y plwyf uchod cynifer a deg, sef y rhai canlynol:— Ionawr 12fed, Mr William Davies, Shop Gan- ol, yn 62 oed; Chwefror 8fed, Myfanwy Williams, Oak House, 4 diwrnod oed Chwef 14eg, Dilys May Price, Fronheulog, 3 oed Ebrill 15fed, Mr Thomas, Ivy Cottage, 91 oed Ebrill 10, Mr Morris Morris, Glantrystion, 82 oed; Mai 15fed, Mr John Thomas, Tanllwyn, 75 oed Meh. 25, Mr Evan Evans, Brynteg, 64 oed Awst 17, Mr R Jones, Lerpwl, yn Caemawr, yn oed; Tachwedd 12, Mr Moses Jones, Miniopa, 73 oed Rhag. 3, Miss May Roberts, Copa Derw, 19 oed Rhagfyr 30, Mr John Evans, Y Dryll, yn 87 oed. Y diweddar Miss M. E. Evans.—Crybwyll- asom yn ein rhifyn diweddaf am farwolaeth y ferch ieuangc rinweddol Miss Mary Elizabeth Evans, Lion, yn 36 oed, yr hyn a gymerodd le bore Sadwrn, Ion. 3ydd, ar oldwy flyneddo gystudd caled. Dywedodd lawer gwaith yn ei chystudd y buasai-yn hoffi, cael mynd adref, ond dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach. O'i mebyd yr oedd wedi ei dwyn ifyny yn grefyddol, ac adnabydd-id hi êryfi blentyn yn nodedig o ddarllengar ac ymroddgar. Yr oedd yn aelod gyda 'r Methodistiaid, a bu yn ffyddlon mewn moddion gras. Prif nodwedd y chwaer ymadawedig oedd ei sirioldeb a'i thawelwch; yn un a fawr berchid yn yr ardal ac yn un hawddgar a charedig, a beunydd yn barod i wneud ei goreu i baw b. Ei hoff adnod oedd lesu Grist, ddoe a heddyw yr un ac yn dragywydd." Cafwyd pregeth darawiadol ar yr adnod hon yn Bethel (M.C)., nos Sabboth, gan y Parch H. A. Jones (ei gweinidog), a gair yn y seiat gan y swyddogion, a'i hathraw Mr Thomas Jones, Tynygotel. Cymerodd yr angladd le dydd Mercher, Ionawr 7fed, am 2 o'r gloch, yn mynwent Eglwys St loan, pryd gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch. H. A. Jones, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. A, Abel, B.A., rheithor. Daeth cyn- ulliad lluosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf o barch i'w choffadwriaeth. Datganwyd ar yr achlysur yr emynau canlynol, yn yr eglwys Yn y dyfroedd mawr ar tonau," ac ar lan y bedd Bydd myrdd o ryfeddodau." Huned yn dawel hyd y Bore y bydd beddau bvd Ar un gair yn agoryd.' Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu oil yn eu profedigaeth lem.

I Baneri yr hen Filisia..

I I' Cymdeithas Lenyddol Zion.…

Advertising