Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

At y Golygydd GAREDIG SYR, PANDY'R CAPEL. Gadawyd allan o adroddiad ymddangosodd yn yr Adsain yr wythnos ddiweddaf, o Gyfarfod Cystadleuol y Nadolig, y gystadleu- aeth ar y prif adroddiad, ymgeisiodd pump yn y rhagbrawf, galwyd dau i'r llwyfan, sef, Miss Jones, Brithdir, yn adrodd "Oedfa gyda Mr. Moody," a Mr. W. P. Hughes, Pwllglas, yn adrodd Y Ffoadur." Cafwyd adrodd- iadau rhagorol, a dyfarniad y Beirniad ydoedd nas gallasant wneud yn well na rbanu y wobr cydrhyngddynt. Hefyd enw Miss Jones, Brithdir, ddylasai fod fel yr fuddugol yn yr Arholiad yn Safon IV. Diolchaf am i chwi am i'r uchod i ym- ddangos yn y rhifyn nesaf o'r 1 Adsain.' BRODOR.

.II; CORWEN,

Advertising