Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Marwolaeth Miss HANNAH EVANS,…

News
Cite
Share

Marwolaeth Miss HANNAH EVANS, Westbourne Terrace, Corwen. Gyda gofid dwys yr ydym yn croniclo am farwolaeth yr hen chwaer uchod, yr hyn gym- erodd le prydnawn ddydd Sadwrn diweddaf, yn ei 72ain mlwydd oed. Bu yn dal y swydd o drethgasglydd i Blwyf Corwen, er marwol- aeth ei thad, y diweddar Mr Edward Evans, London House,,30Il11.yn ol; a phenodwyd hi yn ysgrifenyddes i Gynghor Plwyf, Corwen, er pan ddaeth y Ddeddf i rym yn 1894, llanwodd y swyddau gydag urddas ac i fodd- lonrwydd cySredinol. Yr oedd yn aelod ffyddlawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a phob amser yn dwyn mawr eel dros achos ei Gwaredwr. Y mae ein cydymdeimlad yn fawr a'i nith (Miss Lilian E Evans) yn ei thraUod a'i galar, yr hon a fu yn cario y gwaith yn mlaen yn ddeheuig yn ystod afiechyd hir ei modryb. Cymerodd yr angladd (preifat) le heddyw'r prydnawn yn Mynwent Eglwys y Plwyf, Corwen, lie y dodwyd ei gweddillion marwol i orwedd yn dawel yn meddrod ei diweddar thad.

Advertising