Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN.

News
Cite
Share

BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN. Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, U.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen Ial, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen; Robert Owen Roberts, Bryn; William Williams, Pandy; William Roberts, Gwnodl Bach; Thomas Jones, Tyncelyn; John Jones, Llan T. W. Edwards; R. Meyrick Roberts, Gwylfa; Geo. Evans, Bryneglwys David E. Davies, Garthiaen; John 0. Davies, Maesyrychain E. H. Ellis, Branas Miss Walker, Corwen W. H. Parry, Bridge ;End J. Wynne, Gro E. M. Edwards, Brynhowell; E. E. Jones, Bodtegir; John Wm. Jones, Pentrellawen R. E. Pugh, Penybryn E. Derbyshire, (clerc), a Lemuel Williams, (meistr). Agorwyd y gweithrediadau trwy i'r Cadeir- ydd ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i'r aelodau. Yn Haw y Trysorydd, 1028p. 17s. Ie. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yn y Tlotty yn ystod y bythefnos ddiweddaf :-Yr wythnos gyntaf, 77, ail wythnos, 75. Crwydriaid. Nifer y crwydriaid gynorthwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf :—Yr wythnos gyntaf, 21; yr ail wythnos, 24. Y Rheidweinyddion. Pasiwyd i ganiatau y symiau canlynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol:—Mr. D. L. Jones, Corwen, £ 25 Mr. R. 0. Davies, Llan- gollen, 138. Gohebiaeth. Derbyniwyd llythyr o Fwrdd Llywodraeth Leol yn cadarnbau penodiad Mr. a Mrs. Lemuel Williams, fel Meistr a Meistres i'r Tlotty. Hefyd, llythyr i'r un perwyl ynglyn a pen- odiad. Nyrs Jenkins. Ymddengys fod Miss Jenkins yn dal y swydd er y 7fed Gorphenaf, 1899, ond trwy rhyw amryfusedd neu gilydd. ni ddaeth y cadarnhad i law hyd yn hyn. Archeb Newydd. Penodwyd Mrs. Richards, Meistri W. H. Parry, R. James Jones, D. W, Roberts, a'r Cadeirydd i gyflwyno adroddiad i'r Bwrdd nesaf o berthynas i'r archeb newydd yr hon sydd yn ymwneud a gweithrediadau y Ty. Ychwaneg o Gyflog. Derbyniwyd cais oddiwrth Mr R 0 Davies, rheidweinydd Llangollen, am godiad yn ei gyflog, gan ei fod yn dal y swydd er y 4ydd o Awst, 1911. Pasiwyd i'w drosglwyddo i'r Pwyllgor Ar- ianol i'w ystyried, a bod eu hadroddiad i gael ei gyflwyno yn y Bwrdd nesaf. Mamaeth. Derbyniwyd cais oddiwrth Gymdeithas Famaethol Corwen trwy law Mr. L. Lloyd John yn gofyn am i'r tanysgrifiad tuagat y Nyrs yn Nghorwen gael ei godi o chwe gini i lOp. i' Hysbyswyd mai chwe gini ydyw y swm a ganiateir i'r holl ddosbarthiadau eraill trwy yr Und3b. Ar gynygiad Mr J. 0. Davies a cht fnogiad Mr. E. H. Ellis pasiwyd i anfon at Mr. Lloyd John i'w hysbysu nas gall y Bwrdd weled eu ffordd yn glir i newid yr hyn benderfynwyd arno flwyddyn yn ol, sef, chwe gini i bob dosbarth. Gofidus ydoedd ganddynt ddeall trwy lythyr Mr. John mai cefnogaeth wael a roddir gan Gyhoedd Corwen i achos mor deilwna a hwn. Claddfa Llangollen. Pasiwyd i beidio agor llythyr Mr. George, clerc claddfa newydd Llangollen, hyd nes y ceid clywed oddiwrth Rheitbor Llangollen o berthynas i le i gladdu y Tlodion yn Llan- on nfn bw-. Y Crwydriaid, Pasiwyd fod y rhybudd canlynol i gael eu gwasgaru ar hyd a lied yr Undeb, a hefyd i'w gosod i fynu ar bob gorsaf heddgeidwadol:- Pwyllgor Cyssylltiedig a 'r Crwydriaid Gogledd Cymru. Rhybudd Cyhoeddus. CRWYDRIAID. Er Sefydliad Gorsafoedd Bara a Chyfun- drefn y Tocyn Teithiol yn y dosbarth hwn y mae pob esgusawd am Gardotta wedi cael ei symud ymaith. Rhoddir Bwyd a Llety i unrhyw Grwydryn gwir anghenus yn y Tlottai, hefyd caniateir iddynt Fara neu Fara a Caws fel Pryd Canol-dydd tra ar eu taith o un man i fan arall. Er mwyn eich amddiffyniad, ac er lies cyffredinol, taer erfynir arnoch i beidio rhoddi cynorthwy iddynt, ac i rhoddi rhybudd i'r Heddlu o unrhyw un a fyddo yn cardota. I Pwyllgor Ymweliadol. Cafwyd adroddiad y pwyllgor uchod gan Mr R Meyrick Roberts, a dywedai mai hwn oedd eu hymweliad cyntaf er penodiad y Meistr a'r Feistres newydd, yr oedd y Tlotty a phobpeth yn cael eu cario ymlaen yn briodol a threfnus. Adroddiad y Meistr. Rhoddwyd cyngherdd uwchraddol i bres- wylwyr y Tlotty gan gwmni y 'Bohemians' o Langollen, nos Fawrth, Rhagfyr 30ain. Yn ystod y cyfarfod anrhegwyd y dynion gyda pibell a myglys, a teganau i'r plant gan Dr. Walker. Anrhegwyd te i'r merched gan Mrs Walker a siwgr gan Miss Walker. Anrhegodd Mr W. H. Parry, Llangollen, y dynion a pibell a myglys, y merched a the a siwgr, a'r plant a theganau. Anrhegodd yr Anrhydeddus Mrs. Wynn, Rug, y plant a theganau, ac anfonodd Goeden Nadolig hardd. Rhanwyd y teganau gan Miss Walker. Anrhegwyd afalau ac aurafalau gan Mrs. Richard, Dolafon, a Mrs. Hubbard, Minffordd Shop, pa rai a ranwyd gan Mrs Derbyshire. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddynt oil ar gynygiad yr Is-gadeirydd.

Advertising