Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

AMAETHWYR AC AMAETHYDDIAETH.

News
Cite
Share

AMAETHWYR AC AMAETHYDDIAETH. Annogir ffermwyr sydd a buches ganddynt i gofnodi yn fanwl swm y llaeth a. roddir gan bob buwch sydd ys eu meddiant. Nid ydyw y drafferth yn j fawr, ac yr ydym yn cred u y byddai iddo da-lu am eland ei hun yn fuan. Y mae llawer gwell prisiau i'w cael am fucliod ag v gellir profi eu bod yn rhoddi symiau neiflduol o laeth bob blwyddyn. Gwerth- wyd pedair buwch yn sir Gaerefrog yr wythnos o'r blaen am, 140p., 140p., 250p., a 300p. Yr oedd y rhai hyn o rywogaeth bur, ond yr oedd y prisiau uchel a nodwyd yn cael eu priodoli i'r ffaith fod cofnodiad awdu'rdodedig yn bod o'r swm o laeth a gafwyd gan bob un o honynt. Yn Thru sly, yn agos i Carlisle, cafwyd canolbris o 144 ginis yr un am 12 o fuehcd, ac yn Westward, Carlisle, cafwyd canolbris o 174 ginis am saith buwch. Yn Hutton, Carlisle, gwerthwyd 23 o fuchod am ganolbris o 179 ginis yr un. Y mae yr oil o'r pris- iau nodedig hyn yn cael eu priodoli i'r ffaith fod rhywogaeth y gwartheg yn bur ac yn adnabyddus, a bod cofnodiad awdurdodedig o'r llaeth oeddynt yn ei roddi yn cael ei hysbysu am bob un o honynt. Er profi i'n darllenwyr nad y rhywogaeth yn unig oedd yn gyfrifol am y prisiau, gallwn ddyweyd fod dwy fuwch o rywogaeth gymmysg ac an ad- nabyddus wedi cael eu gwerthu yn Reading, ar y 30ain o Hydref diweddaf, am 165 a 160 ginis yr un, a, hyny yn unig am y gellid profi eu bod yn llaetha yn dda, drwy y cofnodion a gadwyd. Yn Yeovil, ar y 4ydd o'r mis diweddaf, gwerthwyd buwch gyfTelyb am 1401 ginis, a heffer flwydd a hanner oed, merch i'r fuwch a, nodwyd, am 100 ginis. Nis gall pawb, o angenrheidrwydd, gyr- haedd prisiau fel yr uchod, ond gall pawb gael gwell prisiau, gyda chofnod- lad ffafriol am swm y llaeth gyda'r buchod, nag a gant hebddo, Buddiol fyddai i'n darllenwyr sydd yn magu ceffylau anfon am gopiau o'r Rheolau, etc., sydd newydd gael eu har- graphu o berthynas i gofrestriad ystal- wyni. Gellir cael y Rheolau yn swyddfa argraphu y Llywodraeth neu drwy lyfr- wertfawyr, ond gofyn am Rhif 1439 yn 1919. Y mae cyfraith magu ceffylau yn awr yn goruwehreoli cofrestriad gwir- foddol Bwrdd Amaethyddiaeth. Amean y gyfraith a'r Rheolau ydyw cael ym- wared o'r ystalwyni afiach ac anghym- mhwys sydd etto yn trafaelio yn y wlad. Prif bwyntiau y Rheolau newydd yclynt. a ganlyn:—Ar ol y cyntaf o Ionawr nepaf ni oddefir i berchenog ystalwyn dwy flwydd oed a throsodd i drafaelio y wlad neu i'w ddefnyddio gartref, oni fyddo wedi cael trwydded o dan. y ddtfddf. Gellir cael fiurf i ofyn am y drwydded oddi wrth Fwrdd Amaethydd- iaeth. Wedi derbyn hon bydd i'r Bwrdd wnoyd trefniadau i wneyd ar- chwiliad ar y ceffyl, ond rhaid talu ban- ner gini am bob ystalwyn dan bymtheg 4yrnfedd o uchder, u iniarnbob un arall. Rhaid adnewyddu y drwydded yn flynyddol, a gellir gwneyd trefniadau i'w throsglwyddo o un perchcnog i un arall. Os gwrthodir trwydded gall y perchenog appelio at lys neillduol. Yphydig, mewn cymmhariaetli, o lin sydd yn cael ei dyfu yn Nghymru, ac nid cymmaint ag yn y blynyddoedd a bas- i044, Fel rheol y mae yr ainaethwr Cyrrireig yn ioddlawn ar ychydig o had Hin i'w roddi i'r lloi, etc., gan ddefnydd- io y gwellt i wneyd rhaffau toi. Ond mewn rhai siroedd yn Lloegr, ac yn fWyaf arbenig yn Somerset, Yorkshire, t'eterbrough, Suffolk, a Fife. (Ysgot- la-nd), yn y flwyddyn 1918, yr oedd yn y lleqedd hyn 12,363 o aceri o dir yn tyfu Jiin. Eleni nifer yr aceri ydyw 12,568. P dan: gyttundeb a'r Llywodraeth y tyf- *,yd. y llin hwn, ac yr. oedd y Llywodr- aqth yn ei brynu i ddvbenion neillduol. Nid oedd sylw yn cael ei gymmeryd o'r bad fel y cyfryw. Yn awr y mae y Llywodraeth yn barod i werthu y ffactries a godwyd ganddyn.t er ymdrin a'r llin, a, chredir y gall ffermwyr y dosbarthiadau a nodwyd fanteisio drwy gymmeryd meddiant o'r gweithfeydd. Ond am; rai | pydd yn byw yn mhell o'r gweithfeydd yn ofer fyddai iddynt, dyfu llin er ei werthu, gan y byddai y draul o gario y gwellt yn fwy nag unrhyw elw y gellid ei ddiggw-yl. Yn ol araeth Mr. MacCurdy disgwylir y gellif gwneyd i ffwrdd a'r rheolau yn i ngnylch gwerthu cig ar ddiwedd y flwyddyn.* Y mae rhai yn darogan y byffil i hyn anfon cigau o bob math yn uwch eu pris nag ydynt yn awr. Prin y gallwn gredu hyn. Y mae amaeth- wyr y wlad yn gallu cynnyrchu rhan fawr o'r cig a ddefnyddir. Y mae gan y clgyddion, fel rheol, ddigon o gig i'w holl gwsmeriaid. Yn ysfod y prinder mwyaf dywedir fod dros banner cwsmer- laid y cigyddion yn prvnu Hal na'r ddop'n yr oedd ganddvnt, hawl iddi. Pan wneir ? ffwrdd a'r rheolau presennol gall y wlad woled pwv sydd yn gyfrifol am y prisiau Vicbol presennol. Ar hyn o bryd der- bynia y ffermwr Is. 3c. y nwys am ei anifeiliaid ar ol eu lladd. Y mae cws- meriaid y cigydclion yn talu o Is. 8c. i 2s. 4c. y pwys, neu ganolbris 6 2s. Dyn30 naw ceiniog y pwys o wahaniaeth rhwng yr hyn dderbynia y ffermwr a phris y eig i'r bwytawr. I ba le yr ant? Pwy sydd yn eu cael! Derbynia y cig- l ii i d' r o- i 1. y vdd ycbydig o hono, ond nid yr oil. Y gwir am dani ydyw fod costau y Llyw- odraeth yn llyngcu y gweddill. Y mae Gweinyddiacth Ymborth yn gwneyd bost o'r ffaith eu bod wedi gwneyd elw o filiwn o hunnau. Dylasai yr arian yna fod yn llogellau y ffermwr, y cig ydd, e phrynwr y cig. :=:

-PENSIWN YR HEN BOBL. !

PRIS Y LLEFRITH AM Y GAUAF.

UNDEBAU LLAFUR. I

[No title]

I NODIOK.1

Advertising

- - - ?- - -i -_ IDIN BYCH.