Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

JLENYDDIAETH Y CiMRY,

News
Cite
Share

JLENYDDIAETH Y CiMRY, CAN r. GWYNN JONES. (Parhad o'f Rhifyn diweddaf). TUDUR PENLLYN. Un o ysbrydion tymhestlog ymdrech y uduriaid oedd Tudur Penllyn. Yn 61 wgrym Owain ap Llywelyn Moel yn oi irwnad, brodor o Lanuwchllyn i d- Bdd- lilyn a dir, lie nid araul, Llanuwllyn Penllyn heb haul." Buasai hanes ei fywyd yn ddiameu n rhamantus-gellir casglu cymaint a ynny oddiwrth weddillion ei weithiau. 'engya ei farwnad gan Owain ap Lly- elyn Moel ei fod yn liysbys trwy Gym- i fel bardd a brudiwr. Geilw Owain (f A n frut," proffwydwalch," lien al, a llyfr anoeth," neu lyfr dir- lwch." Y mae'n amlwg bod y brud- yr yn meithrin y gred eu bod yn gallu wino, ac yn ysgrifennu yn gudd i iangos eu medr. Manteisient ar ym- iangosiadau naturiol i brofi eu dawn. mae gweddillion hen ser-ddewiniaeth i y peth—canodd lolo, fel y gwelsom, ehanodd ereill wedyn, i'r ser darogan. ermau'r hen ddewiniaeth ser a arfer- it-y gaeaf, y gwanwyn, a'r liaf. eth y traddodiad hwn i lenyddiaeth loegr, fel y cysylltodd Shakespeare ef 1 Owain Glyn Dwr ei hun— At my birth, The front of heaven was full of fiery shapes; The goats ran from the mountains, and the herds Were strangely clamorous to the frightened fields.' Cynt ac ar 61 hynny, Merlin oedd jwin mawr Ewrob. Gwyddai Drayton n dano, fel y dengys y Polyolbion. eth lolo yn ddewin yn y traddodiad aesneg, ac oddi wrth ei enw, dychmyg- yd iddo fan tell goeh, a rhyw dde- iniaeth ynglyn a hi. Pa faint ynte dd y gred ar bethau o'r fath yng ghymru ei hun? Dengys cannoedd o nvyddau faint dylamvad y Brudwvr. nodd meddwl nad oedd llawer ohonynt I credu yn eu dawn eu hunain. Cred- 'r bobl gyffredin hwynt. Esgeulus- it eu gwaith i ddisgwyl rhyw ddig- yddiadau hynod. Aethai'r peth yn ligon gwrtliun yng ngolwg Meredydd ) Rhys, megis y gwelsom, fel y canodd luchan i'r Llyfr Brud. Un or brudwyr hyn yn arbennig oedd ndur Penllyn. Mewn rhai ysgrifau :ir ei enw wrth bethau a briodolir mewn eill i Lewis Glyn Cothi, megis Cy- ydd Saeson y Fflint," ac awdl i Rein- It ap Gruffudd. Y mae'r cywydd hod yn debycach i waith Lewis, id delw Tudur sydd ar yr awdl. De- treua drwy alw ar Reinallt i ddial ar -igoliofi Sir Gaerlleon am rywbeth a naethant. Ymddengys ei fod yntau edi gwneuthur hynny, canys disgrifia adur yr helynt a fu. Enwa amryw o'r tai a laddwyd yn yr ymladd, ac y mae rmyg aruthr yn ei gyfeiriadau atynt:— Curwyd Wil a'i bac, a Siae a Sion, Lias Twm a gordd blwm, fel blowmon mewn cors, Lias Siors a'i hors, ni wnai hirson. Nid oes farddoniaeth mewn peth fel m, ond y mae'r manyldeb personol a !ir gan Dudur Penllyn yn arbenig- v-vdd arno. Canodd awdl arall i Rein- It, wedi iddo ladd gwyr Caerlleon." mae honno yn llawn o ffyrnigrwydd, a rthedd ymadrodd yr oes. Y mae rhyw windeb, a fuasai'n clafychu llawer o )bl cyn dcchreu Awst, 1914—ac na all i na chael yr effaith honno ar rai o hon- n eto,—yn ei chreulondeb cignoeth. JA'r olwg oedd ar wyr Sir Gaer wcdi aledd Rheinallt:— Camlan, wrth y tan, tynion fu pen- nau, Crimogau, trwynau fal uwd rhynion; Curo'r Uu yno a Ilinon we wyr, Y rhai'n fy eryr a'u rhoi'n feirwon." Yr un un oedd y ffasiwn yn yr oes mno ag yn lion, liefyd, ar 61 gorchest- n o'r fath:— I Ddewi, offrwm addawaf, a Non, Br ordro Saeaon i'r drws isaf." T1'hÐ I8IM:1 EJib h '1 'P.YW..U y .w.YWtt1f fJffl B.wfc.. a rhakl bod Tudur yn gynefin ai4 rhai oedd yn ei fyw. Rhydd ei gywydd Moliant i Ddaf- ydd ap Sieneyn ini olwg ar fywJd gwyllt dynion dibris yn y doed a'r creigiau, dynion a'u bvwydau yn eu dwylaw bob dydd, a dim ond eu dibrisdod rhyng- ddynt a marwolaeth. Yr oedd swyn "11 y bywyd hwnnw i Dudur, a fiwyddodd i'w gyfieu yn ei gerdd—swyn antur ddi- bris a rhyddid peryglus:- Dy gastell ydyw'r gelli, Derw dol yw dy dyrau di. Gwylia'r trefydd, celfvdd .call, A'r tiroedd o'r tu arall; Da yw secwndid y dydd, Gwell, wyr Cadell, yw'r coedydd; Da yw ffin a thref ddinas, Goreu yw glyn, a'r graig las; Da oedd bardwn dydd bwrdais, Ac nid oedd waeth saeth rhag Sais!" Canodd un cywydd i Ruffudd Fycli- an, pan oedd yn Ial gyda Harri Seith- fed. Ond nid bardd gwleidyddol yn unig ydoedd Tudur ychwaith. Rhydd ei gerddi lawer o oleum ar arferion a gyniadau ei oes. Os byddai Wrthi a'i lioll egni vn ei gyrru'n AdrAg rhwng y Cymry a'r Saeson, byddai hefyd yn cymodi'r Cymry a'i gilydd. Canodd gywydd i Ruffudd o Lwydiartli i'w gymodi a'i fab, wedi iddo ddigio wrth hwnnw am ryw dro a wnaeth yn ei ieu- enctid. Nodweddiadol iawn o ddiystyr- rwch v beirdd Cymreig at ffeithiau cv- ?redm yw na rydd Tudur ddim manyl- ion am y ffrae, dim ond canmol y tad a'i fab, a'r fam, a dymuno eu cymodi; ac oni wnaent Inmny, dywed y duchanai yntau hwy, ac yr ai i Nannau, lie cai roeso. Dro arall, can Gywydd Cymod i Feredydd ap Llywelyn o E, nau'r Glyn." Rhyngddo ef ei hun i'r gwr mawr y bu'r I ffrae y tro hwn, ond ni ddywed i ni eto pa beth oedd yr helynt, amgen na'i fod of wedi torri ei addewid i ymweled a Meredydd. Ond gwyddai Tudur sut i gymodi, drwy gyfrwng y merched:— Nid rhaid im', i'r tir y dof, Ond rhoi Esyllt hwn trosof Barned hi a Maredydd, Ag yn y t,9 gwnawn oed dydd." Canodd i lawer o w £ r mawr, gan gan- mol eu hurddas a balchter eu hachau. Yn ei Gywydd Moliant yr hen Huw Conwy o. Fryn Euryn, c-awn ddisgrif- oJ I I iad liyawdl o waith maen yr oes, fel y gwelai Dudur ef:- IMur Alai y graig ym Merwyn, Maen nadd i gyd, mynydd gwyn; Mae'r deri rhom a'r dwyrain, Wrth yr haul, ar wartha rhain." Paentiwyd y parwydydd yn gywrain, I meddai, a lluniau coed a blodau:— Bwriwyd in', er byrhau dydd, Baradwys ar barwydydd; Bernos vw hirnos yn hon, Bwrw gwinwvdd, siumbrau gwvn- ioii. I Ym Marwnad Mailt ferch Hywel Sele," cawn olwg arall ar yr un byw- yd. Disgrifia'r wledd a fyddai yn Llwydiarth y Nadolig—gwin a medd, aur ac arian, a cherddorion medrus. Yn ei Gywyddau Gofyn, ceir y gamp ddy- falu mewn cypledau, a llawer o ryw ffansi ac afiaith troiog, er nad oes yn y gwaith nemor ddim gwreiddiol iawn— hyny yw, ceir yr un cyffelybiaethau gan feirdd y Cywyddau Gofyn yn gyffredin. Y mae ei ddisgrifiad o'r Tarw cystal a dim o'i waith yn y math hwn ar ganu;— Blew du, fiyrf, fal dwbled ffwl, Trymlais, tew rownbais, trwynbwl; Gwallt uchter iad, gwylltwych drem, Gwddf unllath a gwaedd feinllem; Dau bost ar wastad ei ben, Mai yn dyrau ymlaen derwen." Tebyg mai ama-ethwr ydoedd, canys mewn cywydd a ganodd Guto'r Glyn, yn disgrifio ei helynt ei bun yn ceisio gwerthu ftyn degwm person Corwen yn Lloegr, cyhuddir Tudur Penllyn o'i! dwyllo ar fargen, a cheir cywydd ateb ¡ gan Dudur yn edliw i Gut-o mai nid I colli'r wyn a wnaeth, fel y dywedai, end eu gwerthu a chadw yr arian. Y mae disgrifiadau Tudur o fywyd cvftVedin yn llawer mwy byw na'i ddisgrifiadau o fywyd y cyfoethogion. Yn ei dduchan i ryw gybydd o Gaer, cawn holl graster arferion ac iaith yr oes. Dywed bod y oybydd hwnnw I Yn twyllo oler niferoedd IV galcVaidd o%dd. Yna, disgrifir y ty, y gwr a'r wraig, a'r gymdeithas yno, yn ddigon byw a gerwin, Yr oedd y wraig yn rhostio cegyrn," ac yn cynnyg iddo yntau afal- au surion. Dacth y gweision i gad bwvd, a dechreu wyd clirio'r bv/rdd. lle'r oedd v gadr aradr-swch, A'r did lie rhwymid yr hwch." Ar y bwrdd hefyd yr oedd penffest, ystrodur, rhaff, panel, tresi, mynci, a nhob math o daclau. Ar ol bwyta, galwodd y gwr ar ei deiliwr, gan rodli telvii iddo, ac yna- Canu l'hine o'r cenau rhonca, Yn ffest ar 61 bresych fia." Tebyg yw'r bywyd a ddisgrifir yn ei gywyddau ymryson ag Ieuan Brydydd Hir. Y mae'r iaith yn fras, a'r arferion yn eirwon. Canu'r Gler oedd hwn, a'i amcan arbennig oedd duchanu, a gosod popeth yn ei ffurf wrthunaf. 3\Iawr y ywahaniaeth rhwng y bywyd hwn a inoesau mirain y Mabinogion, ac hyd yn oed a bywyd yr awyr agored yng ngherddi Dafydd ap Gvvilym.

;DAFYDD LLWYD AP LLYWELYN…

CYMMRODORION CAERDYDD.

[No title]