Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
M. BRIGGS & SON, T^TjJ±3STlDTTlD2>r O GENERAL AND FAMILY DRAPERS. Novelties in Blouses, Sunshades, and Lace Goods. DBESSMAKHTO-. 4322 (ST ORDERS BY POST RECEIVE PROMPT AND CAREFUL ATTENTION. LADIES' HIGH-CLASS FRENCH & GERMAN-FINISHED TAILOR=MADE COSTUMES Are now Made on the Premises BY -W-)( S. WILLIAMS, "The Pioneer," LLANDUDNO. Moderate Charges. Perfect Fitting. 3669 Comfort and Elegance Combined. N. SIKIN, PRACTICAL TAILOR AND HABIT MAKER, Caldmore Villa, Llewelyn Road, Colwyn Bay. Cycle & Walking Costumes, Tailor-made Dresses, Military Coats & Bodices, made on the Premises. TWENTY YEARS' EXPERIENCE IN BIRMINGHAM & DISTRICT. 3840 W. T. DAVIES, FARIS XXOTTSIE, PENRHYN ROAD (Next Door to Hotel Metropole), COLWYN BAY, High=class Ladies' Fancy Draper and Gent's Outfitter. SEE WINDOWS. 3987 T. TRELEAVEN JONES, CHESTER HOUSE, OLD OOLWYW. Provisions a Speciality. IRISH, DANISH, SMOKED AND PALE BACONS. Weekly Arrivals of Danish & Creamery Butters. Guaranteed Absolutely Pure. QUALITIES FIRST. PRICES SECOND. 3065 A. J. FLEET, Music Warehouse, PENRHYN ROAD, COLWYN BAY. FIRST-CLASS TUNING BY EXPERIENCED HANDS. TUNER TO THE COLWYN BAY & LLANDUDNO PAVILIONS. 3541 LARGE STOCK OF INSTRUMENTS AND MUSIC Table and Pocket Cutlery, Brushes, Lamps, Bedsteads, &c. &c. .1 JOHN EVANS, Post Office, COLWYN, General and Furnishing Ironmonger, Plumber and Contractor. Ranges, Orates, Paper Hangings, Gas and Electric Bell Fittings. 3700 NOBLETT'S I 'f t. MINT SAO,, V%6 ROCK TO BE OBTAINED AT 3736 CONWAY RD., COLWYN BAY HARRISON KNITTING MACHINES, for Socks, Stockings, or Clothing ti FOR CASH OR HIRE. THE HARRISON PATENT KNITTING MACHINE CO. LIMITED, 48, UPPER BROOK STREET MANCHESTER. 3509 Commercial and General Printing THE "PIONEER" OFFICES, COLWYN BAY & CHESTER.
Yr Adran Gymraeg.
News
Cite
Share
Yr Adran Gymraeg. Llyfr Canu Undebol Llandudno Junction. SYR,—Byddaf yn ddiochgar i chwi os gwnewch ganiatau i'r llythyr hwn ymddangos yn h newyddiadur poblogaidd, y "Pionper," am yr wythnos hon. Y mater yr wyf yn dymuno dweyd ychydig arno yw mater y "Llyfr Canu Undebol a Chaniadaeth y Cysegr yn Llandudno Junction." Fel un ag sydd yn cymeryd dyddordeb neill- duol mewn cerddoriaeth, fe faddeuwch i mi am ddiolch yn galono'g i'r cyfeillion perthynol i'r gwahanol enwadau yn y Junction am ddangos cymaint o sel, drwy roddi eu presenoldeb yn y cyfarfodydd canu undebol a. gynhelir yma o Sabboth i Sabboth. Y mae amcan y cyfarfodydd hyn yn dda-yn ardderchog-sef perffeithio ein canu cynulleid- faol drwy y lie. Nis .gellir ddweyd fod ar hyn o bryd ganu gwael yn yr un o'r addoldai; ar yr un pryd gellir yn ddibetrus ddweyd fod digon eto o le er codi y canu i "safle lawer uwch" nag y mae ar hyn o bryd, ac, ond i'r cyfeillion benderfynu gwneud eu goreu drwy roddi eu presenoldeb a thalu sylw dyladwy i'r gwahanol arweinwyr Ilafurus yn y cyfarfodydd rhagbarotoawl (rehearsals), yr wyf heb un amheuaeth yn dweyd y bydd caniadaeth y cysegr yn Llandudno Junction yn glod i'r ardal ac i Gymru yn gyffredinol. IAGO FYCHAN. »
Cyfarfod Cystadleuol yn Llanrwst.
News
Cite
Share
Cyfarfod Cystadleuol yn Llanrwst. CYNHALIWYD cystadleuaeth ragorol yn y lie uchod dydd Iau, Mehefin 19. Y mae y gys- tadleuaeth yn sefydliad blynyddol yn yr ardal, ac y mae yn hyfryd genym ddeall fod safon ei llwyddiant yn dal i fyny y naill flwyddyn ar ol y llall. Y beirniad cerddorol eleni oedd Mr D. D. Parry, Llanrwst, yr hwn a wnaeth ei waith yn dra boddhaol. Beirniadwyd y farddoniaeth a'r rhyddiaith gan y Parch Howell Roberts (Hywel Tudur), Clynnog, a'r adroddiadau, etc., gan Mri John Williams, Ffrith Uchaf, Maenan, a David Edwards, Rhwng-y-ddwy-ffordd, Llanddewi. Cyfeiliwyd gan 'Mr Arthur Morley Jones, Llan- rwst, a Mr Robert M. Owen, Hendre, Gwytherin. Cynhaliwyd dau o gyfarfodydd, a chafwyd gwledd o de a bara brith, etc., rhwng y ddau gyfarfod, ac ar ol cyfarfod yr hwyr. Cyfarfod y Prydnawn. Llywyddwyd y cyfarfod hwn gan Mr John Morris, Bryn Aber, yr hwn a wnaeth ei waith yn ddeheuig iawn, a chafwyd cyfarfod gwir adeil- adol. Aed trwy waith y cyfarfod fel y canlyn — Ton gynulleidfaol: "0 Fryniau Caersalem ceir gweled." Deuawd i blant dan 12 oed, "Hedd, Hedd i Mi" i, Miss Winnie Morris Bryn Aber, a Miss Sarah Jane Morris, Bryn Castell. Dysgu allan "Gweddi yr Arglwydd" i, D. E. Williams, Llugwy-terrace. Adroddiad i rai dan 10 oed, "He,n Feibl Mawr fy Mam" i. Miss Catherine Ann Jones, Bodunig; 2, Miss Maggie Jones, Bodunig; 3, Robert Parry, Penxhiwardor. Unawd i blant dan 12 oed, "Arglwydd Iesu, Ddwyfol Oen": i, Winnie Morris, Bryn Aber; 2, Maggie Williams, Llwyn Du Uchaf; 3, Sarah Jane Morris, Bryn Castell. Hemio pocket hand- kerchief: i, Miss Megan Williams, Llwyn Du Isaf. Deuawd i blant dan 16 oed, "Plant Jerusalem" i. Miss Winnie Morris, Bryn Aber, a Miss Mary Ellen Morris, Bryn Castell. Dysgu allan y "Deg Gorchymyn" i, Robert Hughes, Fotty, a Ellen Ann Evans, Rhos Lan, yn gyd- radd. Sawdl hosan: i, Miss Mary Croxen Williams, Glan'rafon. Unawd i rai dan 16 oed i, Maria Morris, Nant yr Rhiw. Adroddiad i xai dan 15 oed, "Wesyl Tipyn" i. Miss Maria Morris, Nant y Rhiw, a Miss Mary Croxen' Williams, yn gydradd. Ladies' print petticoat: nyw. Triawd, "Fy Angel Bach" i, Mr Francis bren i, Mr John Hughes, Pen Rhiw, Llanger- niew. Triawd, "Fy Angel Bach" i, Mr Francis Williams, Tu-hwnt-i'r-Afon, Llangernyw, a'i barti. Bookmark: i, Miss Lizzie Williams, Llwyn Du Isaf. Cor plant: Parti Mr O. Jones, Fron Deg. Dysgu allan y 14 benod o'r Hyffordd- wr i, Miss Bessie Williams, Llugwy-terrace; 2, Miss Lizzie Williams, Llwyn Du Isaf. Cyfarfod yr Hwyr. Llywyddwyd y cyfarfod hwn gan Mr David Jones, C.C., Tanlan, Maenan, yn dra medrus. Rhoddodd iMr Jones rodd sylweddol at yr achos. Can, "Hen Wlad fy Nhadau," Mr Owen Jones, Fron Deg. Arholiad y "Temtiad" i, Johnny R. Jones, Ty'nyffynon, a W. John Williams, Llugwy-terrace, cydradd. Dau englyn i'r "Ysgyfarnog" i, Ap Cledwen, Gwytherin. Aherchiad Barddonol gan Mr Robert Daniel Jones, Dinbych. Unawd tenor, "Galwad y Tywysog" i, Mr Johnny Morris, Dolhyfryd. "Cawell Llwyau" i, Mr William Davies, Petryal. Unawd i rai heb enill o'r blaen, "Myfyrdod yr Unig": I, Miss Laura Williams, Tu-hwnt-i'r-Afon, Llangernyw. Traethawd, "Petr": i, Miss L. Kate Evans, Penmachno. Adroddiad, "Y Ffoadur" i, Mr Ellis Thomas, Pen-y-Waen. Pedwarawd i feibion, "Myfanwy" 1, Mr F. Williams, Tu-hwnt-i'r-Afon, a'i barti. Sillebu unrhyw eiriau Cymraeg: i, Miss Lizzie Williams, Llwyn Du Isaf. Table centre 1, Miss Bessie Thomas, Tregarth, a Miss Annie Parry, Penrhiwardor, yn gydradd. Unawd baritone, "Y Mynydd i Mi": i, Mr Francis Williams, Tu-hwnt-i'r-Afon, a Mr Evan Roberts, M'aesmadog, yn gjdradd. Par o fenyg: Mrs Jane Roberts, Dolgeiri. Penillion coffadwriaeth- ol i'r diweddar Robert Jones, saer: i, Mr R. Lloyd Jones, Penmachno cystadleuaeth ragorol naw yn ymgeisio. Cyrieithu geiriau o Saesoneg i'r Gymraeg: i, Mr R. T. Jones, Ty'nyffynon. Cystadleuaeth gwledd i barti o 12: Goreu, Mr Francis Williams, Tu-hwnt-i'r-Afon, a'i barti. Araeth ddifyfyr: i, Mr David O wen, T'yddyn Dafydd. Y prif draethawf, "Uchel- gais" i, David Wynne, Bryniau Pair. Y brif gystadleuaeth gorawl, "I'n Heglwys Hoffusaf," Ni ddaeth ond cor y He yn mlaen, 0 dan arwein- iad Mr John Morris. Bryn Aber, a dyfarnwyd hwy yn deilwng o'r wobr. Cawsant ganmoliaeth uchel gan y beirniad. Beirniadwyd y gelfyddydiaeth gan Mri Owen Hughes, Nanerth, ac Evan Evans, Nant Erw, a Mrs Williams, Llugwy-terrace, a Mrs Thomas British School. --4
Bettws (Abergele).
News
Cite
Share
Bettws (Abergele). Darlith.— "Heb atal dowch i'r Bettws" nos Wener, Gorphenaf 4ydd, i Seion, capel yr Annibynwyr, i g]ywed darlith boblogaidd y bardd ddarlithydd, "Penllyn," Colwyn, er ei destyn dyddorol, "Rhwyfo yn erbyn y lli'
Barddoniaeth.
News
Cite
Share
Barddoniaeth. ;h.st(e TYgflbio -i, Ar briodas Mr W. LI. Jones, c Llanrwst, a Miss M. E. Davies, v cyfaUA Wrth ddewis Mary Lizzie J Cofiaist am y gwersi; Rhan natur yw hon iti, Asgwrn del o d'esgyrn di. „ C, b rllo Cest goron ffyddlon ,a. pheri-a lor heddyw i'th angen; Hefo haf cest Efa wen, Wir ddenol hyd Iorddonen- cjj Mary Lizzie, mawr lesiant A William ac urddiant; Yn y bleth cewch lu o blant, Ac eginer gogoniant. R. Llanrwst. ,eddar Penillion coffadwriaethol i'r d-i^e Williams, Llwyn Saint, GwytheÓn. O mor ansicr yw ein ^°e^' Mor groes i'n disgwylif t Ymdeithio'r ydym yn y Ar hyd glyn cysgod ange Yn sydyn iawn mae anoe11itj • I ganfod rhywrai'n Ac ami iawn 'r anwylaf un ch. O'r teulu mae yn chweny Daeth yn lladradaidd i Pwy ddeall faint ei ddi Cymerodd oddiyno un A fu'n addfwynaf briod- Mae ffyrdd rhagluniaeth faJ^_ 1$ Er hyny rhaid ym<?stw^oaVri011 Rhyw ddoeth ddibenion Yn nghudd yn mhob argj Un addfwyn, o gymeriad pur, A fu'r ymadawedig g. Un gymwynasgar, 'roedd 3 Yn llawen a charedig- Un fu yn dirion yn ei Gwyn pery 'i choffadwn3 ^yd, Bu yn ddarbodus, cadd y '0 bethau'r byd yn helaotl" Er hyny 'roedd ei sS1;c^ ° Ar bethau efengylaidd, i^.dral Er gwaetha'r byd a'r ^oe°taidd- Ymdrechai fyw yn sanc ^0jd Hyd Iwybrau rhinwedd ce Er troion chwerw'r yr ^ed A phan ddaeth an'geu du Yn addfed 'roedd i'r Pandy Tudur. -0-- I1 VII.
DYMUNIAD I IORWERTd pob caftl
News
Cite
Share
DYMUNIAD I IORWERTd pob caftl dde Boed iddo gael cymorth i 11erdded ifqfn O'i yrfa yn llwybrau rhinweddo d .bY( Dyrchafu cymdeithas, llesoli y d 0 bY Fo nod ei uchelgais drwy'i fywY 1 1 è> U ei w a ;l1a 1 Boed iddo amddiffyn iawilderatl el A chadw ei ddeddfau o hyd > £ n- I ryddid crefyddol, moesolde rth A phob peth daionus, boed' I°r Boed iddo ystyried pwysigrwy^ a A gofyn i'r Arglwydd am tigW A ninau o'n calon ddymunw y Fendithion y Nefoedd i deyrn Pandy Tudur. A
Straeon o'r Wlad.
News
Cite
Share
Straeon o'r Wlad. Rhif. i.-Myned i Briodi. 'RWAN bois, busnas, busnas! Cnociodd Sami ei forthwyl yn awdurdodol er y bocs sebon oedd o'i flaen, a daeth distawrwydd I ar bawb. Yr oedd Sami a'r morthwyl a'r bocs sebon yn 'sgubor Ty Pella', a golygem wrth "bawb," tea wyth o hogiau perthynol i blwyf Llanlleban. Yr oedd hogiau Llanlleban wedi enill cymeriad- au am ddireidi er's llawer o flynyddoedd cyn hyn, ond pan ddaeth Sami Jones, Ty'nyffordd, i fyw i'T ardal, daethant yn feistriaid ar y gelfyddyd. Yr oedd Sami a hwythau fel cadfridog a'i filwyr. Gwnant bob peth ofynai ef iddynt, ac yr oedd ganddynt feddwl mawr iawn oho.no. Er's dechreu y gauaf, yr oeddynt oil wedi arfer cyfarfod yn 'sgubor Ty Pella', er dyfeisio pa fodd i godi'r gwynt yn ystod yr wythnos ganlynol. Tynent allan brogram, fel pe bae, ac mi ellvvch benderfynu y byddai y program hwn yn un pur gyflawn ac effeithiol. Heno, wedi i Sami gael distawrwydd, trwy gymhorth ei forthwyl, cododd ar ei draed, a safodd gan edrych arnynt yn ddifrifol. Ar ol rhoid ei fys a'i fawd yn mhoced ei wasgod, a phesychu, fel yr arferai yr hen Domos Evans wneud pan ar ddweyd gair, dywedodd "Anwyl frodyr a (gan wneud bow isel i gyfeiriad rhesiad o ieir oedd yn clwydo ar un o drawstiau y to)—"chwiorydd. Ma'n dda gin i wel'd gimin a hyn ohonoch chi wedi dwad yn nghyd." Dywedai Sami hyn gan ddynwared llais ac osgo yr hen Domos Evans i'r dim, ac yr oedd ei wrandawyr bron a hollti o eisieu chwerthin. Ond nid oedd wiw iddynt wneud hyny, gan nad allai Sami oddef i neb ei ddisturbio pan yn siarad. A buasai yn well ganddynt hollti bron, na thynu gwg Sami ar eu penau. Ünd cafodd y capten ei aflonyddu heno. Yr oedd Tomi, Ty Pant, yn un hawdd iawn effeithio ar ei deimladau, ac wrth wneud ym- drechion egniol i beidio chwerthin, nes yr oedd 'ei wyneb yn 'goch-ddu, syrthiodd i lawr oddiar ben y drol, lie yr eisteddai, ar ysgwyddau Dafydd, Ty Glas, yr hwn oedd yn eistedd ar stol odro o danodd. Bu y ddau yn bentwr di-lun am funud neu ddau, nes y dadgyslltwyd hwynt gan y lleill. Ar ol cael distawrwydd unwaith eto, ac ar ol i Sami geryddu y troseddwr yn llym am aflon- yddu ar y cyfarfod, aeth y "Capten" yn mlaen gyda'i araeth. Ond siaradai yn ei lais ei hunan yn awr. "Gyfeillio.n, ma'n dda gin i hysbysu fod petha wedi pasio'n llwyddianus iawn yr wythnos ddwytha 'ma, ac os cawn ni gystal hwyl yr wyth- nos nesa', mi wnawn y tro y siort ora. 'Rydw i yn gobeiothio fod gyno chi gyd gynllunia reit dda i'w cynyg, a mi 'gawn ninnau bigo'r rhei gora ohony nhw. 'Rwan, Bob, 'rwyt ti yn edrach fel iar isiododwy. Be sy' gin ti i ddeud ? Fel y sylwodd-Sami yn ei ddull ei hun, yr oedd gan Bob, y Groes, yn amlwg rhywbeth ar ei feddwl, ac yr oedd wedi disgwyl yn bryderus am gyfle i siarad. "Wyddoch chi be, bois," dechreua Bob. Daeth morthwyl Sami i lawr gyda bang ar y bocs sebon. "Bob," meddai, "ai dyna'r ffordd i anerch cyn- nulleidfa barchus fel hyn!" "0, ddaru mi ddim cofio. Mr Cadeirydd, Anwyl Frodyr, a Ieir,"—("chwiorydd," ebai Sami),—Wyddoch chi be, ma gin i hanas ffyrst class i chi. Mi wyddoch am Ned Jos, mab y Ffarm Isa. Wel, mae o yn lico Kate acw yn arw iawn, a mi fydd y ddau yn cyfarfod i gilydd yn amal iawn gyda'r nos, ac yn myn'd am woks efo'i gilidd. Fedar nhad na mam mo'i ddiodda fo, achos i fod o yn meddwi weithia, a tas,a nhw yn gwybod fod Kate yn myn'd hefo to, mi fasa 'na row gynddeiriog acw. Mi fuo arna i flys unwaith deud wrth nhad, ond mi fasa hyny yn dro sal hefo Kate. Taswn i yn medru dangos iddi hi yn iawn sut un ydi o mewn gwirionadd, mi fasa hi yn gorphan hefo fo. Ond sut i meud dyna'r cwestiwn. Wel, dyma oedd gin i i ddeud wrtha chi heno. 'Roeddwn i yn digwydd dwad ar draws y Cae 'Mawr neithiwr, a phen oeddwn i yn nesu at y gamdda pwy welwn i yn sefyll yno ond Kate a Ned. Clywson nhw mohona i yn dwad, a mi 'eis i i ochor y clawdd rhag iddynt nhw ngwel'd i. "Mi glywis Kate yn deud, 'Na, wir, well i mi bidio, Mr Jones. Tydy o ddim yn reit. Mi fasa nhad o'i go las.' "'Be ma'r llyffant isio iddi hi ,neud, tybad,' medda fi, wrtha fy hun, 'rhywbath o'i le, mi 'feiai o "A mi ellwch fod yn siwr y gwrandis i yn. astud i ga'l allan. "Be ddyliach chi oedd o isio iddi hi neud? 'Roedd y scamp isio iddi hi ddengyd i ffwr hefo fo ryw noson ar ol i bawb fyn'd i'w gwlau. 'Roedd 0 am ddwad a cherbyd, a mi oedd hitha i ddwad allan o'r ty yn slei bach, a mi fasan ill dau yn deifia i'r dre, ac yn priodi y dwrnod wedyn, cyn i neb wbod. Tasa nhw yn priodi, medda fo, fasa nhad a mam fawr o dro a dwad yn ffrindia hefo fo. Onibai i fod o yn fwy na 5, mi faswn wedi cythru iddo fo a hannar i ladd o yn y fan." "Ddaru dy chwaer ddim addo myn'd hefo fo?" gofynai Sami. "Na, mi wrthododd yn lan, chwara teg iddi hi. Ond tydi hyny yn gneud dim gwahaniaeth. Ma Ned Jos yn haeddu ca'l hannar 1 ladd am ofyn i hogan neud y fath beth. Be gawiJ. ni neud iddo fo, bois?" Daeth tri ,neu bedwar o'r bechgyn ac arorywici gynygion yn mlaen. Yr oedd un eisieu ei drochi tros ei ben yn yr afon, neu mewn pwll chwiad. Ond syllai Sami yn fyfyrgar o'i flaen heb gymeryd sylw o neb na dim. O'r diwedd, gofynodd i Bob:- "Oes gin ti gopi 0 law-'sgrifen Kate?" Atebodd Bob nad oedd ganddo, ond y gallai gael gafael yn hawdd ar lythyr neu rywbth wedi ei ysgrifenu ganddi. "Ol reit, cofia ddwad a fo i mi fory, a mi chwarwn ni dric a Master Ned na anghofith o mohono fo tra y bydd o fyw Adroddodd Sami ei gynllun iddynt, a threfn- wyd pob peth cyn iddynt ymadael. "Dyma lythyr i ti, Ned," meddai ei fam wrtho boreu dydd Mawrth. Gafaelodd Ned ynddo, a gwridodd pan welodd y llaw-ysgrifen. Llaw-ysgrifen daclus Kate y Groes ydoedd, ac aeth Ned allan i'r buarth i fwynhau y llythyr mewn llonyddwch. "Beth od iawn iddi hi 'sgwenu mor fuan hefyd, a hitha wedi digio tipyn wrtha i am ofyn iddi hi redag i ffwrdd hefo mi. Be sy' gyny hi i ddeud,tybad?" Wedi agor y llythyr, cafodd ei fod fel y eanlyn "Anwyl Mr Jones,—Ar ol bod yn meddwi llawer iawn am yr hyn fuo ni yn siarad am dano nos Wener diweddaf, yr ydwyf wedi penderfynu cydsynio a'ch cais chi. Nos Fawrth fuasai yr —; nv-r; amser mwyaf cyfleus i mi- j, a fyned i fy ngwely tua deg 0 r g yC d pob man yn ddistaw, mi oriP wrth 1 „iii^ bach. Os gwnewch chwi aflii j gyda'r cerbyd, mi groesaf y c G ei ddreifio i'r dref heb i neb ein a gynal J aros gyda ffrind i mi yno, ac y £ (registraf' wedyn, gallwn briodi yn offis J$,af fyddan yn wr a gwraig cyn ■> ~Q^ mod i wedi myn'd oddicartref. ,eidd°c brydlo,n heno wrth y Waen. byth, Katie." aid. Yr#aiJ Pxin y gallai Ned gredu ei meddwi y byddai Katie ac yn a cyn pen pedair awr ar hugam y galon neidio o lawenydd. 111eddianu Ond yr oedd rhywbeth heblaW !l blf yn ei blesio. thad y boll Gwyddai yn eithaf da f°,ny i Zf arianog, ac fod Kate, heblaw lly-ny, 11 berc eiddo ei modryb Elin, yr hon 0 edd Y ffarm fawr yn y plwyf nesaf. xfarin, a yfl Gwelai ei hun yn feddianwr ginait, ei wraig yn edryen mor d^wj y rhagori ar bob merch, lfanc a & aiusC Ond cofiodd nad oedd ganddo barotoi. iV tua'f Yr oedd ganddo lawer 0 wart ffarm eto. Crwydrai ei fed1dy 1 aSio ^el Groes, ac fel yr oedd y diwrnoa y e; fwy o bryder. tad jij' Beth os digwyddai Mr °s ^eil' gweled yn myned allan o'r ty? wyddai yr ugeiniau o bethau a allent ddigwydd yn hawdd? j a'r 'rl a Yr oedd arno bron ofn ymgymer^ei Ond yr oedd Kate bach anwy J a byddai yn dro gwael ei sioffi1- oedd Felly, ychydig funudau wedi deg> -yyae0' a'i gerbyd wrth ochr y c-law'dd o g(j. cuddio yn y cysgod. fel J tJ. Inawr, ty, Curai ei galon fel hen gloc ^eiddi° rychai dros y clawdd, gan §elS^u- je( wyllwch a gweled Kate yn a»° j{0.ddef P „oS' Ar ol aros tua deg munud, a,.wedd ofnadwy, clwodd swn traed oi a 0edd hau at y clawdd, a'r munud nesa j yn ei freichiau. t Cododd hi i'r cerbyd a neidio gyfeifl hochr, a gyrodd y ceffyl yn ffllae j dref. prld ga»ddi 5 Ni ddywedai Kate air, ac yr °f yn oedd bron yn cuddio ei gwyneb 1 dJ ^5f',$ Rhoes Ned ei fraich am dangyi°al ^d-. ceisio ei chusanu onibae fod gan Qij ff°sA ei a allai wneuthur i gadw'-r cer^^r^ag Nid oedd wedi goleuo ei lampaU j adnabod. id itla pe yr Wedi cyrhaedd y dref, yr hon o milldir o ffordd, disgynodd Ned oedd ffrind Kate yn byw.. ihY^ 5 e' Meddyliai fod ei llais yn swnio y y siaradai, ond yr oedd y s^1^Vjviiai genau i'w chadw yn gynes, a meddy oedd y rheswm am hyny. ^yd aC Gyda fod Ned wedi disgyn o'r y t euro y drws, cymerodd Kate ata_ £ 0&o a throdd ben y ceffyl am gartref, ref. ío, chwip ar draws ei gefn gyda HaW" st-pyf Gwaeddodd Ned nerth i ben oeS. ond ni stopiodd nes cyrhaedd y ddaeth i lawr o'r cerbyd ond Bob) wedi ei wisjo yn nillad ei chwaer • <j Bu raid i Ned druan gerdded Y wrth adref, ac mae wedi digio am bytn Groes, am cliwareu y fath dric h)^| °