Skip to main content
Hide Articles List

24 articles on this Page

"'RWYF YN DY GARU."

EPISTOL "WMFFRE'R PEDOLWR."

PENILLION

AWELON Y BOREU.

COEDWIGFAB AR DAITH.

News
Cite
Share

COEDWIGFAB AR DAITH. [ISLE OF WIGHT OR GARDEN ISLE.] MB. GOL.Ar y 6fed o'r mis hwn (Mehefin) daethum ar fy hynt i'r lie yma am y tro cyntaf yn fy oes. LIe fashionable rhyfedd yw hwn—ymneill- dufa gwyr mawrion o Loegr, ac Ysgotland, a hefyd ambell Gymro gwibiog, fel eich gohebydd sydd yn rhoddi ambell dro byr ar ei holidays. Yn wir, tystia hanesiaeth yn gystal ag hen olion, mai rhan o'n tiriogaethau ni, y Cymry, oedd yr ynys hon, yn yr hen, hen amscroedd, er ys tua dwy fil o flynyddoedd yn ol. Ond, erbyn heddyw, mae gweled Cymro yma yn beth mor anaml a gweled Zulu, os nad yn fwy, canys gwelais rai ohonynt hwy, y Zulus yma end dim un Cymro, er y gallasai Cymro fod yn mhlith y lluoedd aneirif o bobl y tarawai fy llygaid arnynt yma ond fod Cymro a Sais wedi myned mor ym- ddangosiadol debyg i'w gilydd, fel nas gallwyf eu hadnabod wrth liw eu croen a'u hosgo, a bod Oymro fel Sais yn siarad yr iaith fawr ag sydd yn gyn- wysedig o bob dialed ar wyneb daear, sef y Saesneg, neu y Saeson-aeg; a dyn helpo pob un nas deallo'r dafodiaeth hon yma hefyd. Dywedir fod yr ynys hon rywbryd yn y gorphenol pell, yn un a chyfandir Lloegr, a bod y Solent, y Channel hon sydd yn amrywio tuag o dair i chwe milltir o led, wedi ymwthio yn raddol o'i hamgylch. Rheda yr afoa Medina drwy ganol yr ynys, ac a'i rhana yn ddwy ran gyfartal o un-ar-bymtheg-ar-ugain o blwyfau vr un ae y mae dyffryn yr afon Medina yn hardd a swynol, ac yn dra ffrwythlon ac y mae y palasau gorwychion ar bob Haw, fel pe yn codi eu penau am y talaf i gyfarch yr ymwelydd hyd dref Newport, yr hon a saif yn nghanol yr ynys; ac a ystyrir yn brif ddinas y lie. Y mae yn lo hynafol iawn. Blodeuai yn y ganrif gyntaf fel dinas Rhufeinig, o'r hyn y mae yn dwyn olion amlwg hyd v dydd hwn. Saif Newport tua chwe milltir o Cowes, tref a phorth- ladd, a saif ar lan y Medina, lie yr arllwysa i'r Solent. Yn y lie hwn sef West Cowes, y mae fy llety i. Saif East Cowes ar ein cyfer, yr ochr arall i'r Medina. Nid lie anenwog yw hwn, Cowes, heb law ei fod yn lie mawr masnachol; yma, yn East Cowes, y mae Osborne, a chastell ei Mawrhydi, yn nghyd a Noris Castle, yn sefyll. Aethum un diwrnod, am dro, hyd byrth Osborne Castle, neu fel y gelwir y lie yn gyffredin yma Quwen's Estate,' yr hon a gynwys tua phum mil o erwau o dir, ac Osborne House yn sefyll tua chanol y llanerch. Ni raid i mi ddywedyd wrthych fod hwn yn le rhyfedd a gorwych. Ni fum i ynddo, ond gwelais ef oddiar y mor, wrth fyned heibio tua thref Ryde gyda'r agerlong un diwrnod; ac oddi yma y ceir yr olwg oreu a llawnaf ar y castell, gan ei fod y* sefylLar lethr a wyneba tua'r mor. Pan gyrhaeddais at y porth cyffredin, sef yr hwn sydd yn wastad yn agored, gofynais i'r porthwr os oedd yn rhydd dyfod i fewn, a'r ateb oedd No admittance for strangers.' Nid oedd y gair hwn yn disgyn yn hyfryd iawn ar groen fy hen ddyn eywrain I, ond nid lie i winco oedd hwn. Yr oedd holl nerthoedd Prydain Fawr yn gwylio ar fy nghamrau. Wedi ffrwyno tipyn ar fy natur, gwelais mai purion peth oedd hyn hefyd; oblegid nid Coedwigfab yw pob gwibiad ag sydd yn myned heibio yma. Ni fynwn, er dim, glywed fod dim niwaid wedi digwydd i'n tirion Victoiia. Nid yw Osborne House yn ryw hen iawn, ymddengys mai y Tywysog Albert a'i cododd. Y mae Castell Noris yn llawer hynach, lie bu y Duchess of Kent, a'r Dywysog Victoria yn aros cyn adeiladu Osborne House. Er na fum oddimewn i'r Queen Estate yn gweled Castell Osborne, gwelais lawer o Osborn- gastelli bychain yn nghymydogaeth East Cowes; sef yr amryw balasau balchdremol o'r lleiaf i'r mwyaf ohonynt, yn dwyn delw y Castell Breninol. Ymaent mor debyg iddo, fel y tybia dyeithriaid cyfarwydd a'i ddarlun, mai arno ef ei hun yr edryahant; tra nad oes o flaen eu llygaid, ond un o'r palasau hyny. Rhyfedd yw tuedd pobl lai am ddilyn camrau pobl fwy hefyd, onide a hyny serch myned yn ganddryll yn yr ym3rech. Clywais am un a dreuliodd ei oil olud wrth adeiladu un o'r palasau yma fel pan ddaeth ei dy mawr yn barod, nid oedd ganddo fodd i fyw ynddo am ddau neu dri diwrnod. Nid yw hyn, Mr Gol., ond un engraifEt o fil o'r fath yma yn ein byd mawr ni; a thra thebyg mai felly y pery hi, byd nes delo pobl i ddysgu'r wers hono, • Adnebydd dy hun.' Rhaid i mi eich gadael yn awr yn nghanol yr Isle of Wight, syr, chwi, a darllenwyr y Glorian, hyd nes caffwyf hamdden i roddi tro am danoch rywbryd eto; os, os. COEDWIGFAB.

"CARIAD, GWENO AR DY RUDD.'"

Y BYD EISTEDDFODOL.

IN MEMORY

TRUE LOVE IS BEAUTIFUL I

LOCAL VOLUNTEER INTELLIGENCE.

PORT TALBOT COMPANY DOCK &…

SOMETHING AN NO YIN TI.

TESTIMONIAL FROM THE GREAT…

"TOUCHES THE SPOT."

WRECK OF THE 'NEATH ABBEY.'

DEATH OF THE REV. E. W. LLOYD.

MR. TOM MANN AT NEATH

CRICKET.

Advertising

WELSH DISESTABLISHMENT MEETING…

THE GLAMORGAN COUNTY ASYLUM.

INTERESTING PARS. ) ———

[No title]

[No title]