Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

BOREUOL ADGOFION.

News
Cite
Share

BOREUOL ADGOFION. Yn ymdroi ac ymdrosi yn nghanol eiddigedd Mari, fel dall yn ymbalfalu ar bared, y gadawsom yr hybarch Domos Hywel. Nid oedd neb yn amheu cariad Mari at Tomos gwyddai Tomas hefyd fod Mari yn ei garu a chariad oedd braidd tuhwnt i gariad gwragedd, ond eto yr oedd yr hen bererin beunydd a beunos mewn ofn am ei hoedl. Nid ofn direswm a slafaidd chwaith ydoedd ofn Tomos, eithr ofn seiliedig ar brofiad chwerw, canys cafodd eithaf ac ami olehfa banas gan Mari nwydwyllt, weithiau am gael ei ddarganfod ganddi yn siarad a rhyw un 0'1' ryw deg, a phryd arall am wincio, meddai hi, ar ryw ferch neu wraig. Gwyr y darllenydd fod eiddigedd yn fynych yn adeiladu ar seiliau ansafadwy fel dwfr, ac felly yn achos Mari. Wrth gwrs rhwydd gydnabyddwn fod gwaith Tomos yn wincio ar ferch yn y fan hon, ac ar wraig yn y fan draw, yn y capel ar y Sul, yn ryw fath o sail i amheuaeth mewn perthynas iddo ef, ond dylasai Mari o bawb dynion y byd wybod fod y cyfan i'w briodoli i wcndid naturiol, ac felly esgusodol ar du Tomos. Yr oedd llygad chwith Tomos gryn raddau yn wanach na'i un deheu, ac yn herwydd y gwendid naturiol hwnw yr oedd amrantau'r llygad chwith yn cau yn fynychach o lawer nag eiddo'r un deheu, a gallaeech wneyd llw ar fin bedd eich mamgu fod Tcmos yn wincio arnoch, pan nad oedd gan y creadur diniwaid feddwl am y fath beth yn y byd. Y gwendid naturiol hwn, fodd bynag, brofodd yn ami a blin brofedigaeth i Tomos, ac a fu yn achlysur i Mari roddi llawer maethgan' anwyl iddo. Gwyddom y dylasai Mari goclio pethau gwell am Tomos, ond gwyddom hefyd fod eiddigedd, fel cariad, yn ddall post i bob rheswm, ac felly rhaid gochel bod yn rhy lawdrwm ar yr hon sydd bellach er's meithion flwyddi mewn gwlad nad oes eiddigedd, na dim o'r cyfryw bethau, o fewn ei gororau. Mae'n debyg fod Rhagluniaeth yn rhoddi rhyw un Iroblm fawr i bob dyn ddadrys, neu geisio dadrys, yn ei fywyd. Lleddfu trueni carcharorion oedd problem Howard; rhyddhau caethion oedd p■roblem Wilberforce sicrhau bara rhad i'r bwytawr oedd problem Cobden a gorchfygua lladd eiddigedd Mari oedd problem fawr bywyd Tomos Hywel, ac am wn i nad oedd problem Tomos ar rai ystyron mor bwysig a'1' eiddo un o honynt. Wedi iddo geisio lawer gwaith a llawer modd i ddadrys ei broblem, yn y dyddiau diweddaf Tomos daravvodd ar gynllun lwyddodd yn hollol. Yr ydym am i'r darllenydd ddeall y gwasanaethai Mari fel byd-wraig. Fel y cyfryw ystyrid hi yn alluog iawn, ac nid ychydig fyddai'n cyrchu am ei gwasanaeth o bell ac agos. Derbyniodd lawer o feibion a mercbed gwragedd i'r byd yn ardaloedd y Coity, Penybont, Llangrallo, Pencoed, Heolycyw, Bryncethin, a Brynmenin, a diau fod ami un o'r cyfryw yn mhlith darllenwyr hyn o linellau, a dymunant hwy fel fy hun esmwyth gwsg i'r hon fu mor dyner wrth, a gofalus ohonynt hwy a'r rhai a'u hymddug. Nid oes wybod ar wyneb clawr daear pa brydy digwydd yr amgylchiad alwai am wasanaeth Mari. Pan fo clychau haiarnaidd haner nos yn gwaeddu ei bod hi'n bryd i bawb a phobpeth, ond hyll ysbrydion, a gwangcus gwn Bendith y Mamau, fyned i gysgu, ie, dyna'r pryd yn fynych y daw'r waedd fod dyn bychan neu ddynes fechan yn galw am ffordd rydd i chwareu-fwrdd amser. Felly'r oedd yn nyddiau Mari, ac felly mae eto, fel y gall llawer poor dab dystio sydd wedi gorfod ei choeso hi cyn hyn am fyd-wraig ar oriau digon annaearol o'r nos. Wel, ar ryw noson ddryghinog iawn yn nghanol gauaf tymhestlog wele waedd haner nos wrth fwthyn Tomos Hywel, ac fel arfer cyn pen nemawr amser yr oedd Mari ar ei ffordd tua Phenybont yn brwydro fel cawres a'r elfenau cythryblus. Cyn fod Tomos braidd wedi ymollwng i'w ail hun mae euro enbyd ar ei ddrws eilwaith, a'r waith hono gan Robert o'r Giblet, yr hwn ddych- welai ar yr awr hwyr hoifb o'r nos o dramwy ar hyd y ddaear ac ymrodio ynddi rywle yn wlyb sopyn, heb gymaint ag edefyn sych yn ei gylch. Cais am noson o letty, neu yn kytrach ddarn o noson, oedd gan Robert, a gwyddai ef fod gofyn i Thomas Hywel yn gyfystyr a ciiael- Wedi i Robert ymddiosg a chael crys sych gan Tomos, aeth y ddau i'r gwely—Robert i gysgu fel pren, a Thomas i feddwl am gynllun i wella clefyd meddyliol Mari. Gyda sydynrwydd bar odd i Tomos gredu ar y pryd, ac o hyny hyd drangc, fod a fynai Rhagluniaeth a'r peth, fflachiodd ar ei feddwl y syniad o arwain Mari i gredu ar ei dychweliad mai menyw oedd gydag ef yn y gwely. Tua saith o r gloch foreu tranoeth clywai Tomos swn traed Mari ynagoshau at y drws. Cwyd Mari'r latch dealla fod y drws yn gloedjl" geilw'n uchel ar Tomos godi i'w ddadgloi. Ar byr. wele Tomos yn tori allan i riddfan, "0, 0, Shan dyma ni wedi'n dal o'r diwedd Mae Mari wrth y drws, ac, mor wir ag fod bara mewn torth, hi'n lladd ni'n dau O gwae ni'n geni erioed l" Mae Robert yn cysgu'n dawel, ond am Mari, mae hi'n glustiau i gyd. Cred fod rhyw fenyw yn cydorwedd a'i Thomas hi, a pha ryfedd ei bod wedi ei chynhyrfu i waelodion ei henaid ? Llefa'n groch ar Thomas agor y drws ar darawiad. Cwyd hwnw, a chan riddfan yn ddwys fel dyn ar ddarfod am dano, egyr y drws. Pwy sy' gyda chi yn y gwely, Thomas ?" ydyw'r geiriau daranant ar glustiau Thomas. Etyb yntau, 'Does neb wir, Marifacb, nghariad anwyl i." "Paidngalw i'n gariad anwyl i ti'r llvffant brwnt. Llawer tro y gwedaist yn fy ngwyneb dy fod yn cadw ladies, ond o'r diwedd anturiaist i halogi ngwely plu i ag un o'r giwaid brwnt ac aflan. Ond dere di, ti 'difaru, mi dora'ch hesgyrn chi'ch dau." Fe wel y darllenydd, bellach, fod arwyddion dryghin yn mwthyn Tomos Hywel. Mae cymyl duon yn ymgasglu, yr wybren yn duo drosti, a choes ysgwydedig ysgubell yn llaw Mari yn arwydd sicr fod ystorm ddychrynllyd ar dori. Mae'r mellt yn gwibio a'r taranau'n rhuo, a Mari'n cyfeirio ei chamrau tua'r gwely—chest bed yn nghongl yr ystafell fyw ydoedd—fel un ag awdurdod ganddi. Mae Tomos yn prysur wisgo ei ddillad yn y gadair- gornel, a dywed wrth Man, < Gadewch eich gwaith y wraig ff'ol.' Nid yw Mari fodd bynag ary pryd yn cofio dim, neu os yn cofio, yn malio botwn corn am y gorchymyn, Y gwragedd ufuddhewch i'ch gwyr,' a rhagddi yr a rhwng dau oleuni, oblegyd mae bellach yn 7.30, at y gwely, ac yna mae'n dechreu ar yr oruchwyliaeth o ganu 4 M yn fy nuwiau, gorau gwir, yn ddarniau fe a ddyrnir.' Un oedd Mari wnai bob peth yr ymaflai ei llaw ynddo a'i holl allu, ac nid hir y bu'r cysgadur Robert cyn deall yn drwyadl fod rhywbeth rhyfedd yn digwydd y dwthwn hwnw. Gwaeddai'n groch Be' sy'nbod 'r Be' sy'n bod ?' Dyrnu yn mlaen wnai Mari, fodd bynag, nerth braich a llaw, gan foddi llefau Robert a llefau uwch ei hunan. Nid hir y bu cyn myned yn rhy boeth i Robert, a llamodd allan o'r gwely fel ewig, a bachodd Mari'n dyn yn ei freichiau. Wedi ei sicrhau gofynodd, Wel, Mari fach, be' sy'n bod ? Odi chi ma's o'ch cof ?' Ar hyny cododd goleuni allan o'r tywyllwch i Mari, a'r canlyniad fu, hi lewygodd yn mreichiau preiffion Robert. Yr oedd Tomos er ys meityn yn chwerthin cil-boch, ond pan welodd lewygu 0 Mari, difrifolodd gryn g wrs. Gadawodd Robert yn ceisio gwneyd gwynt ag hen hosan i Mari, a charlamodd yntau tua'r King's Head i geisio dropyn o rywbeth wnai symbylu ei chylchrediad. Ca'dd ddogn o chwys y ci, a dychwelodd ar ei union a'i anadl yn ei ddwrn Ar y llawr ar ei hyd cy'd fel pren yr oedd Mari, a Robyn yn swil yn ffwdanu o'i chwmpas. Gwlyehwyd arleisiau Mari a dwfr, a bu rhaid i Robert ei choeso hi tua ffynon Bestwn i'w gael; arllwyswyd chwys y ci lawr i wddf Mari, ac wedi i amynedd gael ei pherflaith waith, dechreuodd y greadures ofergoelus arddangos arwyddion bywyd, er mawr orfoledd i Tomos a Robert. Pan ddaeth Mari ati ei hun a deall y sefyllfa, wylodd ddagrau'n hidl, a dywedodd yn dorcalonus wrth ei haner oreu, 0, Tomos peidiweh chi na Robert son gair wrth neb am hyn, a ,spreta chi byth mwy.' Bu'n llonaid ei haddewid, a bu llonyddwch mawr yn awyrgylch priodasol Tomos Hywel o'r dwthwn hwnw hyd ddyad du'r diddyfnu pan welodd briddio'r hon oedd iddo yn harddach na'r wawr, ac anwylach na chanwyll ei lygad. Bwriadwn wrth gychwyn orphen gyda Tomas yn y llythyr hwn, ond gwelaf y rhaid iddo gael un arall. WMFFRE'R PEDOLWE.

IFILIAL OBLIGATIONS IN THE…

TEACHERS' CONFERENCE AT COWBRIDGE

ENGLYN

GWELUANT GWALL.

PENILLION

JENKIN ROBERTS,

CYFEILLACH.

MARWOLAETH A CHLADD-EDIGAETH

MARWOLAETH MRS HOPKINS,ABERKENFIG

TRADE RISKS AT PORTHCAWL.

--------------SERVANTS' CHARACTERS.

BRIDGEND RURAL SANITARY AUTHORITY.

Advertising