Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Stitch in Time.

Advertising

---------------I OR TWR.

Advertising

---__--------.--_----------------LIFE…

Welshpool Pensions SubCommittee.

[No title]

LLANIDLOES GOVERNORS.

Gair at yr Etholwyr.

Dolfor Rainfall for November,…

[No title]

Warning to Milksellers at…

The National Memorial.

The Welsh Church Commission.

Advertising

Mr. Addie's Unfulfilled Promise

Injustice to Llanmerewig.

To Succour the Poor at -1.…

HUNTING APPOINTMENTS.

[No title]

---------------I OR TWR.

News
Cite
Share

yn troi at y Cyffredin ffyddlawn, ac yn gofyn iddynt roddi iddo yr arian angenrheidiol at dreuliau y Deyrnas, yna dychwelai at y pethau eraill berthynert i'r ddau dy. Yr un wedd ar derfyn blwyddyn diolchai i'r Cyffredin yn unig am yr arian gafodd. Nid oedd i'r Arglwyddi ran na chyfran yn y gofyn na'r diolch. Dylasai fod os oedd ganddynt law yn y rhoddi. Llynedd dangosasant fod y Brenin a phawb wedi methu gan wrthod gadael i'r Mesur Arianol fyned trwodd. Eleni gadawsant i'r un mesur fyned ymlaen wedi peri mwy na mwy o rwyatr ac o gollid. Felly y penderfyniad cyntaf yw na chant wneud yr hyn wnaethant llynedd a Mesur Arianol mwy, eithr y rhaid iddynt wneud yr hyn wnaethant eleni. Bydd yr hyn oedd o'r blaen yn arferiad ddealledig yn awr yn ysgrifenedig ar lyfr deddfau y deyrnas fel y gallo yr Arglwyddi sydd yn rhedeg ar ol gwylltfilod ei ddarllen. Ni chant mwy ymyryd a'r hyn nad oes gan lawer ohonynt un syniad am dano ond sut i'w wario- sef arian. Syniad rhyfeddol sydd ganddynt am y gwario o ran hyny. Bellach cynrychiolwyr dewisedig gweithwyr a masnachwyr y deyrnas sydd i benderfynu beth wneir a'r arian. Yr ail benderfyniad yw pan fyddo Ty y Cyffredin yn anfon unrhyw fesur a Thy yr Arglwyddi yn ei wrthod ddwy flynedd yn olynol, os a drwy Dy y Cyffredin y drydedd waith y eaiff ddod yn ddeddf heb gydsyniad yr Arglwyddi. Ni chaiff yr Arglwyddi atal 0 hyd mwy. Cydsynia Cymru a'r cynygiad yma oblegid onid yw yn gydffurf a'r hen wireb Gymreig, Y trydydd tro y bydd y goel ? Rhaid i bob mesur y byddo yr Arglwyddi yn wrthwynebus iddo fyned trwy driniaeth yn Nby y Cyffredin a goddef beimiadaeth yr wrth- blaid am dair blynedd yn olynol. Nid oes fawr 0 berygl y rhuthrir yr un mesur yn ddeddf ar y wlad yn amrwd er na chaiff mo fendith yr Arglwyddi ar ei ben. Y tebyg yw na fydd raid defnyddio y gallu hwn gan y Cyffredin. Digon fydd ei fod yno os bydd galw. Y mae eto drydydd penderfyniad, Nad yw y Senedd i barhau ond am bum mlynedd yn lie saith. Felly os bydd raid gyru mesur trwodd er gwaethaf yr Arglwyddi, rhaid iddo gychwyn ar ei daith yn gynar yn oes y Senedd. Byddai cychwyn mesur o'r fath a'r Senedd yn bedair oed allan a'r owestiwn ac yn ol pob tebyg ni byddai fawr ddiben cychwyn un i gerdded pan fyddai y Senedd yn ei thrydedd flwyddyn gan na ddeuai yn ol hyd nes y byddai y Senedd yn rhy agos at ddydd ei hymddatodiad. Felly cyeb wynid tuesurau o'r fath yn Nhy y Cyffredin o fewn y ddwy flynedd cyntaf, ac o ganlyniad pan fyddai y Ty newydd ddychwelyd o fod yn cael arch yr etholwyr ar yr hyn sydd eisieu. Byddai hyn yn Referendum yn y ffurf twyaf cydweddol achyfan- soddiad gwladlywiaeth Prydain. Rhywbeth dieithr i wladweiniaeth Prydain yw y Referendum (ni bydd byw ddigon o hyd i mi drafferthu i ddyfeisio enw Cymraeg iddo). Rhyw anelwig ddefnydd yw, heb na ffurf na threfn. Annheg oedd ei daflu ger bron yr etholwyr yn ddirybydd ar fin etholiad. Dylasid ei drin -à'i drafod gan oreugwyr y deyrnas a'i ddwyn i ffurf cyn gofyn i'r etholwyr roi lie iddo yn eu meddyliau llawer llai yn eu dyfarniad yn yr etholfan. 0 ran hyny yr amcan ydoedd taflu llwch i lygaid a gwyro barn. Y mae llawer o'r Ceidwadwyr yn amheus o ac yn wrthwynebus i ddiffyndollaeth ac i gael eu ploidlais hwy ac os bydd modd eiddo eraill o ffrindiau Masnacb Rydd taflwyd mwgwd dros ben yr hen Tariff Reform druan gan gyhoeddi, nid yw ef ddim yma, rhowch eich pleidlais i ni, raid i chwi ddim ofni. Yn 1900 dywedid etholiad i derfynu y rhyfel yw hon ac i ddim arall. Gall yr Anghydffurfwyr a'r Dirwest- wyr ddod i'n helpu ni yn awr; ni bydd dim byd am faterion eglwysig na meddwol yn y Senedd hon. Bu llawer yn ddigon diniwed i goelio, ond cawsant agoriad llyg-aid a digon o le i edifeirwch ar ol hyriy. Yn y Senedd hono y rhoddwyd yr Ysgolion Eglwysig ar bwys y trethi, ac y rhoed hawl i iawn i'r tafarnwr am gymeryd yn ol yr hyn roddid iddo ond am flwyddyn. » GWYLIWR.