Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

Stitch in Time.

Advertising

---------------I OR TWR.

News
Cite
Share

I OR TWR. Llawer o siarad sydd ac anhawdd i wr syml ydyw gwneud pen na chynffon o lawer ddywedir wrtbo. Bydded iddo sefydlu ei hun ar ryw uu neu ddau f) byneiau pydd yn sefyll allan yn glir a phenderfynu ffordd y rhydd ei bleidlais wrth hyny. Er engraipbt, eglur yw na ddylai chwe chanwr am eu bod wedi eu geni yn y teuluoedd maent feddu awdurdod i atal gwaith y chwe chant dewisedig gan yr etholwyr. Eto, nid mantals i bobl gyffreain y wlad hon fyddai fod tollau ar ymborth ac ymlaen ddygir i'r wlad. Drud iawn oedd byw i vveithwyr a'u teuluoedd yn amser y tollau er ystalm, a llwm oedd hi arnynt. Llawer amgenach yw er pan ddaeth Masnach Rydd. Ffolineb o'r mwyaf fyddai i ni gymeryd ein troi yn ol fel y myna yr ymgeisydd Toriaidd. Mae y ddau bwynt yna yn ddigon i beri i ddyn cyffredin roddi pleidlais i Mr Humphreys-Owen er mwyn iddo ef fyned i'r Senedd i sefyll y tu cefn i Mri Asquith, Lloyd George, John Burns, Churchill a'r rhelyw, ac i'w helpu i roddi atalfa ar rwysg yr Arglwyddi a dwyn i'n cyrhaedd lu o ddiwygiadau sydd wedi hir ddisgwyl wrth y drws. Rhaid mai pobl hynod o bunangar ydyw Pro- testaniaid yr Iwerddon. Dyma hwy wedi cael Rhyddid Crefyddol. Nid oes un eglwys wladol a'i hualau caethion yn cyfyngu arnynt wrth addoli. Eto deuant yma i ofyn genym bleidleisio i'r blaid 3ydd yn gwrthod rhoddi yr un rhyddhad i Gymru. Paham? Oblegid, meddent, y bydd yn ddrwg arnynt hwy os rboddir i'r Iwerddon yr hyn y ruae y mwyafrif o'i pbobl yn dyheu am dano. Cwrddais a phobl o'r blaen sydd yn jredu yn gryf yn hunanymwadiad pobi eraill. Gofynant yn daer am i Gymry ohirio dydd eu rbyddhad, rhag ofn y byddant hwy ar eu colled. Pan roddir i'r Iwerddon ffurf o hunan- lywodraeth gofelir am ddiogelu by wyd, meddianau, a iawnderau y lleiafrif. Yr hyn roddir i'r Iwer- ddon fydd yr awdurdod i drin a pbenderfynu ei hachosion mewnol ei hunan. Erys megis cynt yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol a bydd cyfreithiau y Deyrnas mewn grym yno megis yma. Derfydd un path, ni chaiff y lleiafrif yn y wlad hono ormesu ar y mwyafrif. Felly y mae wedi bod yn. hanes yr ynys anhapus. Aiff y gallu llywod- raethol o law yr ychydig dirfeddianwyr ac Arglwyddi i ddwylaw cynrychiolwyr y bobl. 0 ran hyny gwedd at all ar yr un ymgyrch sydd yn yr Iwerddon ac yma. Brwydyr rhwag yr Arglwyddi a'r bobl ydyw yno fel yma. Bydd yr un dyrnod yn taro Arglwyddi y ddwy ynys. Dyna'r paham y mae yr holl gri a'r miri. Felly Gymry, wrth daro drosoch eich hunain, wrth bleidleisio yn erbyn gallu yr Arglwyddi yn y wlad hon yr ydych yn rhoi ergyd i'r ddolen olaf yn y gadwyn haiarn sydd wedi dal eich brodyr yn yr Ynys werdd yn gaethion ar hyd yr oesau. Druan o Tariff Reform, nid oes croesaw iddo gyda'r bobl, ac y mae ei ffrindiau yn troi eu cefnau arno. Dywedodd Mr Balfour na byddai waeth ganddo ei droi allan i'r bobl gael eu hewyllys (arno. Gofalodd am adael y geiriad yh amwys fel y gall olygu un peth neu arall fel yr eabonir ef, a rhydd fydd yntau yny diwedd i ddal nad yw ef yn gaeth o gwbl gan esboniad undyn, ac mai yn hollol fel arall yr oedd ei feddwl ef. Da genyf mai ofer fu taenu rhwyd y Referendum o flaen etholwyr prif ddinas Masnach Rydd. Man genedigaeth a hen gartref Masnach Rydd yw Manceinion. Saif Manceinion fel un gwr dros Fasnach Rydd. Gwyr llygadog sydd yno a gwyddant both sydd oreu i'r bobl. Ystyriaf fod cynygion y Llywodraeth yn hynod dyner tuag at Dy yr Arglwyddi. Fel y dywed Mr David Davies yn ei anerchiad: Cynwys y penderfyniadau yw, (1) Difodiant gallu yr Arglwyddi i atal Mesurau Arianol. Dyma allu na ddefnyddiwyd mohono gan yr Arglwyddi er ys llawer blwyddyn hyd y llynedd. Yr oedd heb ei ddefnyddio er ys cyhyd fel yr oedd y Brenin a phawb wedi anghofio ei fod. Yn ei anerchiad ar ddechreu tymhor, wedi dyweud gair wrth yr Arglwyddi a'r Cyffredin ynghyd, byddai y Brenin

Advertising

---__--------.--_----------------LIFE…

Welshpool Pensions SubCommittee.

[No title]

LLANIDLOES GOVERNORS.

Gair at yr Etholwyr.

Dolfor Rainfall for November,…

[No title]

Warning to Milksellers at…

The National Memorial.

The Welsh Church Commission.

Advertising

Mr. Addie's Unfulfilled Promise

Injustice to Llanmerewig.

To Succour the Poor at -1.…

HUNTING APPOINTMENTS.

[No title]

---------------I OR TWR.