Hide Articles List

18 articles on this Page

OR TWR.

News
Cite
Share

OR TWR. Yn araf i safle-r gerbydres gerllaw, Y rhodiai fy mam da.'i phlentyn; I waelod ei chalon disgynodd y braw, Pan welai y fan oedd raid cychwyn. Ymwelwodd ei gwefus-ei llygaid droi'n syn, Rhy floesg oedd i roddi cynghorion; Fe'i clywais er hyny yn sibrwd fel hyn,- "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Canfyddodd fy Uygad mewn dagrau'n pruddhau, Gwir ddelw o'i llygad ei hunan Hyn ydoedd am enyd fel yn ei boddhau, Er nad fy nbristau oedd ei hamcan. Ond er fod cyfyngder yr enyd yn gwneud Atalfa ar ffrwd o gysuron, Mudanrwydd rodd genad i'w hanadl ddyweyd,— Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." f;Nid son am gynllwynion y diafol, a'i fryd, Er enill ieuenctyd i'w afael— Nid son am ffolineb, a siomiant y byd, Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael; Dymunai'n ddiamau bob lies ar fy nhaith, Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion: Ond hyn oedd yr oil a ddiangodd mewn iaith,— Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." CEIRIOG. Rhwng pawb caifE dirwest gryn sylw yn y dyddiau hyn. Llawenychaf wrth ei gweled mor amlwg, siriol a heini. Gwelodd ddyddiau tywyllach na'r rhai hyn pryd yr oodd ei chyfeiiiion yn ychydig. Erbyn heddyw y maent yn llu mawr ac yn eu plith gwelwn wyr blaenaf y deyrnas. Swn pen del fyniad i ddal ymlaen nea ynill buddugoliaetb lwyr sydd i'w glywed yn lleferydd ei ffrindiau. Y mae eisoes gyfnewidiad mawr er gwell yn y blynyddau diweddaf ar argoelion yn eglur ddangos fod dyddiau gwell ete yn ymyl gwawrio. Dyddorol iawn oedd clywed Mr David Davies yn dwyn i mewn yr ymgyrch yn erbyn y Darfodedigaeth yn niwedd ei araeth ar ddirwest. Yr oedd yn llygad ei le, y mae y diodydd medd- wol yn gyfritol yn ami am achosi yr afiechyd hwn fel liawer aiiechyd arall. Pa beth bynag yr ymafael dy law ynddo, gwna a'th holl egni. Felly y gwna Mr Davies gyda'r gwaith hwn, myn ei gael yn llwyddiant. Da fuasai genyf weled mwy o'r rhai y mae ganddynt dda lawer yn prysuro i'w gefnogi. Buasai cant a haner o wyr gyda mil o bunau bob yr un yn cwblhau y gwaith yn ddiatreg. Pa le y maent ? Pe gwnelent ryw- beth fel hyn byddem yn llawer parotach i gydymdeimlo a hwy pan ddaw y Canghellydd i wasgu yn Had dyn ar eu gyddfau neu yn hytrach ar eu llogellau. Daeth cynulliad rhagorol i Gleiniant ar noson dywell, oerllyd, i wrando hanes Tom Ellis, ao i roddi cynorthwy i sicrhau llyfrgell gref ynglyn a'r Ysgol Sul. Ni pberthyn i mi ddyweud dim am y ddarlith er fy mod wedi ei chlywed lawer gwaith bellach. Dywedodd y Cadeirydd, brawd yiagbyfraith i'r gwrthrych, bod yr holl ffeithiau ynddi yn gywir. Llawenydd i mi fydd gweled Gleiniant yn meddu llyfrgell. Disgwyliaf y ceir bi yn gaffaeliad gwerthfawr i'r ardal. Bydd ysgol Cefncoch hefyd yn meddu llyfrgell cyn bo hir. Yr oedd yn dda genyf weled y gwir ofal eydd am y llyfrgelloedd yn Aberangell, Mallwyd, a Dinas. Cynyddant bob blwyddyn a chynwysant amryw o'r llyfrau goreu. Yr adnod ddarllenwyd yn y dosbarth ydoedd, Ystyriwoh y brain," &a., a dyma esboniad un brawd, Styriwch y brain pan ddaw haid o honynt i lawr ar y cae i fwyta'r hadau. Atebion Twin o'r Nant, Thomas Edwards, sut mae y tatws yn codi yn eich gwlad chwi ?" Yn llon'd eu crwyn," ebe Twm. Beth oedde'n nhw yn ei roi am y tatws heddyw yn y ffair P "Sache." Yr oedd Ifan Puw, Caenewydd, yn un o'r rhai diocaf dan haul. Pe buaaai yn byw o flaen Solomon, gallesid meddwl yn sicr mai ato ef y cyfeiriai pan yn rhoddi darluniad mor gywrain o'r diogyn y chweched benod o'i lyfr. "Ychydig hepian, ychydig bletbu dwylaw," oedd hi ar Ifan bob dydd tra y byddai yr haul yn ei anterth; ai wed'yn byddai bron yn amser iddo hwylio cyn y byddai wedi hollol ddeffro!—O Hynodion Dick Nancy (6665). Llyfr bychan difyr a llawn o gyngorion gwerth- fawr ydyw Y Ferch leuanc,' gan y Parch David Williams, Cwmyglo (6653). Ehenir y llyfr i dair-ar-ddeg o benodau byrion yn cynwys—Syl- wadau arweiniol, mamau dynion mawr, boreu oes, addysg, chwaeth, gwisg, moesgarwch, rhag- gyfeillach, priodas, cadw ty, dirwest, crefydd, y diwedd ar dechreu. Ysgrifena yr awdwr yn chwaethus, yn s-yml ac yn eglur. Difyna syl- wadau da o eiddo dynion doeth hea a diweddar. Byddai ei ddarllen a myfyrio ar ei eiriau yn fendith i ben a chalon pob merch ieuanc. Gwyn eu byd a'i darlleno yn feddylgar. Trowch bob addysg yn ymarferiad, a phob gwybodaeth yn waith. Gall Duw roi cymorth i fyw oes gyflawn mewn amser byr, y llafur trymaf o bob llafur yw gwneyd dim. Tymbor y tymhorau ydyw tymhor ieuenctyd. Yma y gosodir i lawr sylfeini teml fawr cymeriad. Dyma wanwyn bywyd, y tymhor i hau yr had ac os esgeulusir y tymhor hwn, y mae y tymhorau eraill yn rhwym o deimlo oddiwrth yr anfantais. Gwyliwch lithro trwy y tymhor euraidd hwn yn ddifeddwl ac anystyriol. Y mae'r plentyn ag sydd wedi dysgu ufudd-dod wedi derbyn haner ei addysg.—David Williams (6653). Ni waherddir defnyddio alcohol yn Yabytty Dirwestol Llundain ond pan y defnyddir ef, y mae y meddyg fydd yn ei orchymyn i ysgrifenu ei resymau droa wneyd hyny a'r canlyniadau o wneyd. Y mae hyny yn peri i ni feddwl, a phur anfynych y defnyddir ef. Myfi oedd meddyg hynaf yr ysbytty am 18 mlynedd, ac ni orchy- mynais unwaith iddo gael ei ddefnyddio, a gallaf eich sicrhaa y dal yr effeithiau mewn gwella anhwylderau ynyrYsbyi ty Dirwestol gydmariaeth pur ffafriol ag eiddo sefydliadau cyffelyb. Fel rheol yr wyf yn dal mai camgymeriad yw rhoi alcohol, ac ni byddaf byth yn gorchymyn hyny.— Dr James Edmunds. Yr wyf yn hollol sicr fod diod eplesedig yn ddianhenrhaid fel rhan o ymborth. I'r ychydig y gall fod ei angen fel cynhyrfai alcoholaidd arferol nis gellir ei ystyried ond fel meddygin- iaethau eraill fodd bynag, y mae tuedd i gam- ddefnyddio yr arferiad o hono, ac felly cymerir gwin neu wirod pan na bydd ei eisieu o gwbl, yn fynych pan y bydd yn hollol niweidlol. I bobl sydd !yn mwynhau iechyd gweddol, ond er hyny yn cael fod eu "trellliad yn araf," neu yn "amherffaith." neu fod "rhediad y gwaed yn llesg"—ffurfiau poblogaidd ar yr esgus dros gymeryd gwin-ymddengys i mi ei fod yn fwy mynych yn fagl beryglus nag yn feddyginiaeth weddol.—Syr Henry Thompson. Yn y 5ed flwyddyn o'i theyrnasiad, rhoidodd y FrenhiDes Elizabeth orchymyn ar i'r Beibl gael ei gyfieithu i'r iaith Gymraeg. Gosodwyd y ddyledswydd yma ar esgobion y pedair esgobeeth Gymreig, ac Esgob Henffordd (yn esgobaeth yr hwn yr oedd nifaroedd o Gymry Cymreig). Ni cyflawnodd yr esgobion y gwaith, ac yn wir, nid oeddynt yn gymhwys i'w gyflawni. Fodd bynnag, cyfieithiwyd y Testament Newydd gan William Salesbury, o Lansannan a chyhoeddwyd ei gyfieitbiad ef yn 1567. "Ymhen un mlynedd ar hugain ar ol hyn (1588) I gorffenwyd cyfieithiad Dr Morgan o'r Hen Destament, a'i argraffiad diwygiedig o Destament Newydd Salesbury. Yn 1620 ymddangosodd argraffiad diwygiedig Dr Richard Parry o gyfieithiad yr Esgob Morgan, ac yr oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr eglwyei ac yn 1630 cyhoedd- wyd argraffiad newydd at wasanaeth teuluoedd; a dyma'r gwaith aruchel a dreiddiodd drwy holl fywyd ac iaith y genedl. Nis gall neb gyfrif na gorsynied am ganlyn- iadau gwaith yr yagolheigion enwog a'r dynion defosiynol, na dylanwad y Beibl Cymraeg ar genedl y Cymry: bu yn foddion i buro a chadw yn fyw yr iaith Gymraeg; bu yn gyfrwng i'r genadwri a gynhwysai gael ei phregethu gan ddynion nad oedd eu hyawdledd yn hafal i neb yn hanes y cenedloedd. Gofynai yr 'holwr i'r plant, If Pam y darfu plant Israel wneud llo aur?" a'r ateb gafodd oedd. Am nad oedd ganddynt ddigon o aur i wneud buwch." Gweddi yw nerth penaf dyn. Y mae dynion mawr pob oes yn weddiwyr mawr.—Islwyn. Hen Gymru, ei btra, ei dwfr, ei braint, Ei nefol fenditbion, ei Seion, a'i saint.—Islwyn GWYLIWIM.

MORE ABOUT ROSES.

State of Trefeglwys School.

MONTGOMERY CRICKET CLUB.

Sunday Golf.

Welsh Football Cup Draw.

. BUTCHERS' HIDE, SKIN AND…

Advertising

THE Borough Member in Parliament.

Taint of Pauperism.

Defence of the Church.

The South Wales Riots.

[No title]

Stole Money from his Mother.

Contented Lunatics.

Machynlleth Guardians and…

Advertising

Old Woman Found Dead at ,Machynlleth.