Skip to main content
Hide Articles List

16 articles on this Page

O'R TWR.

News
Cite
Share

O'R TWR. AGORWCH Y DRYSAU. Mae awel y dehau yn tramwy drwy'r ardd, Agorwch y drysau. Yn chwilio am danom mae'r tyner a'r hardd; Agorwch y drysau. Rhyw ddyfais gan ddynion yw drysau y byd: Mae'r pyrth greodd Duw yn agored i gyd. Daw'r dydd pryd na welir cyfoethog a thlawd; Agorir y dry&au. (Gofala di ymddwyn fel gweddai i frawd, Pan egyr y drysau.) Rhyw ddyfais gan ddynion yw'r drysau o byd Mae'r pyrth greodd Duw ylb agorbd i gyd. Mae pyrth gwir ddedwyddwch bob amser ar led 'D oes eisiau dim drysau. Mae'r nefoedd i'w chael i bwy bynag a gred; 'D oes yno ddim drysau. Bhyw ddyfais gan ddynion yw'r drysau o hyd Mae'r pyrth greodd Duw yn agored i gyd. R. H. JONES. Tair wythnos o ysgol ddyddiol a gafodd fy nhad, medd Ap Vychan, ond troes allan yn hunan-ddysgydd rhagorol. Deallai ramadeg iaith ei fam, rheolau barddouiaeth ei wlad, a chasglodd lawer o wybodaeth gyffredinol; ond rhagorai yn fawr fel duwinydd. Ysgrifenai law deg a gwastadlefn, sillebai yn gywir, a chyfansoddodd ami ddernyn barddonol, caeth a rhydd, a chy- hoeddwyd amryw oh(>nynfc. Yr oedd crefydd wedi darostwng yr ardal y magwyd fi ynddi yn rhyfedd o dan ei dylanwad. Perchid dydd yr Arglwydd yn bur gyffredin. Ychydig iawn o feddwi oadd yn y fro. Yr oedd 11 won a rhegfpydd wedi eu bymlid ymaith o'n terfynau ni. Ni wyddem ni fel plant beth oedd tyngu a rhegi. Ni fyddai neb, am a wn i, yn glanhau esgidiau, na thori gwair i anifeiliaid ar y Sabbath. Yr oedd tori barf, a golchi cloron, a'r cyffelyb allan o'r cwestiwn yn ein plith ar y dydd hwnw.—Ap Fychan (6639). Gwelaf fod yr Express' yn cyrhaedd i gyrau pell y sir. Derbyniaf geisiadau am y llyfrau roddir gan y Llyfrfa i Lyfrgelloedd. Gwnaf nodiad o'r ceisiadau ac anfonaf y llyfrau pan gaf gyfle. Cefais awgrym y daw eto lyfr neu ddau fceisnig yr un wedd yn y man. Rhoddaf bob hysbysrwydd pan ddelo hyny. Byddai yn sirioldeb mawr i mi eto glywed awn paratoi lie i dderbyn rhoddion fel hyn trwy ddarparu llyfrgell Ue nad oes un. Os teimla rhyw fra wd neu ch waer haeliunus ar eu calon i wneuthur y gymwynas hon i'r Ysgol SuL y perthynant iddi, neu y mae ganddynt hoffder at ei meini hi, llawenydd i mi fydd bod yn bob help i ddwyn y bwriad i ben. Tra dyddorol ydyw adroddiad y Parch D. B. Edmunds i'r Gymdeithasfa yn Llaafair am ansawdd yr eglwysi yn y Rhan Isaf. Rhoddir ynddo grynoldeb o'r atebion gaed i'r holiadau yn yr Ymweliad diweddaf. Fel esiampl rhoddaf yma yr ateb i'r gofyniad, A delir sylw dyladwy iddirwest? "Y mae dirwest yn cael cryn sylw gan y rhan fwyaf o'n heglwysi, a gwaith da yn cael ei gyflawm ynglyn ag ef drwy Gymdeithasau Undebol mewn rhai manau, a thrwy Gymdeithasau y Merched, a'r Bands of Hope, mewn lleoedd eraill. Y mae amryw o'n heglwysi yn cadw Llyfr Dirwest, ac yn myned ag et oddiamgylch yn yr Y sgol Sul i geisio gan rai i gvmeryd yr Ardystiad. Mae ein gweinidogion oil yn Ddirwestwyr trwyad], a nifer mawr o'n blaenoriaid a'n haelodau. Defnyddir y gwin anfeddwol yn y Cymundeb yn y mwyafrif o'n heglwysi. Mae cydwybod ein gwlad wedi ei henill o blaid dirwest. Y mae amryw o blwyfi yn ein sir heb yr un ty tafarn o'i mewn." Yil yr ymweliad gofynwyd naw o holiadau. Oni ddylasai fod yn ddeg? Dymunaf awgrymu y degfed holiad. A oes genych Lyfrgell? Os oes, pa wedd sydd arni a faint o fyned sydd ar y llyfrau ? Os nad ces, paham hyny ? Gwelaf fod rhai o'r atebwyr wedi gwneud lie i'r llyfrgelloedd wrth roddi ateb i'r nawfed cwestiwn, Pa bethau sydd yn hros fel ffrwythau y diwygiad diweddaf ? Nodir chwech fel effeithiau arosol y diwygiad. a'r pumed yw, Mwy o awydd am wybodaeth—y cyfarfod darllen yn cael ymofyn am dano, a dyddordeb yn cael ei gymeryd ynddo. Defnydd helaethach yn cael ei wneud o'n llyfrgelloedd." Diolchaf yn fawr i'r atebwyr am y llinell olaf. Hyderaf yn yr ymweliad nesaf, y caiff y llyfrgelloadd le gan yr holwyr a chwestiwn iddynt eu hunain. Yn ol y cyfrifon yn y Blwyddiadur 21 o ezlvryai y Rhan Isaf sydd yn meddu llyfrgell allan o 46; fel y mae yn aros 25 heb y ddarpar- iaeth hon ar gyfer yr ieuenctyd ag eraill sydd wedi eu codi gan y diwygiad i fwy o awydd am wybodaeth. Gaf fi apelio at y Cyfarfod Misol i wasgu ar y 25 hyn ddeffro at eu rhwymedigaeth i ddarparu ac i ddangos iddynt mor hawdd fyddai sicrhau llyfrgell dda ar ychydig iawn o draul. Ai ni ellid anfon cenhadon o'r eglwysi mwy goleuedig lie mae y diwygiad wedi cael cyfle iadael ei ol mewn defnydd helaethach o'r llyfrgell- oedd at ei chwaer eglwysi sydd hyd yma yn ymfoddloni ar fod heb y cyfleusdra gwerthfawr hwn i'r bobl ac i'r diwygiad. Prin y rhaid i mi ddyweud y rhoddaf pob cyfarwyddyd a chynorthwy yn fy ngallu er cychwyn ac helaethu llyfrgell; a llai o anghen sydd, mi obeithiaf, i mi fynegi fod adnoddau cyfoethog y caiff yr eglwysi dynu arnynt, fel y mae llyfrgell o fewn cyrhaedd y ddwy eglwys dan 20, a'r holl eglwysi o ran hyny. Ni raid i'r leiaf ofni y draul, cydmarol fychan yw. Gwn am eglwysi dan 20 yn meddu llyfrgell o ganoedd o lyfrau yn ffrwyth tyfiant graddol yn nghwrs y blynyddau diweddar. Awyddus wyf am weled pob Eglwys M.C. yn Sir Diefaldwyn yn meddu ei llyfrgell ac yn gwneud yn fawr o honi. Y mae eglwysi yr Henaduriaeth yn gyflawn, 24 o eglwys, 24 o lyfrgelloedd; Cyfarfod Misol y Rhan Uchaf, 24 gyda, 14 heb y Rhan Isaf sydd hyd yma yn i6af yn y gras hwn. Ond daw ei thro hithau yn y man, a goreu pa gyntaf meddaf i. Y mae un dosbarth yn gyflawn, lie y mae chwe' eglwys, Tregynon, Felin Newydd, Adfa, Gerizim, Horeb, a Channel, pob un a llyfrgell werthfawrogir. Byr waith fyddai cael yr holl ddosbarthiadau yr un wedd. Pwy ddyry gychwyn yn yr eglwysi sydd heb ? Yn awr yw yr amser mwyaf cyfaddas fel ac i gael yr arlwy yn barod erbyn dechreu gauaf. Gweler 'Y Drysorfa' am Ionawr diweddaf lie y ceir pob cyfarwyddyd ac anfoner gair i'r Dref- newydd. Hawdd ydyw peidio trwy oedi, ond felly collir y cyfleusderau sydd yn myned hoibio i ni. Rhed y-ffrwd o flaen y drws, ond ui chawn ni ein rhan ohoni oni wnawn ddisgyn ein piser i mewn a chodi. Er oedi cawn ran heddyw, ond ni chawn yr hyn allasem ei gael yn y dyddiau fu; a rhyw ddiwrnod sych y ffynon a dyna ddiwedd ar y ffrwd hono am bob heddyw. Yr wyf wedi gweled rhai ffynonellau y bum yn derbyn llyfrau ohonynt i'r ysgolion wedi myned yn hesp. Cefais lawer a chawswn fwy y pryd hyny, ond yn awe nid oes dim i'w gael oddiyno. Gyda byny y mae ffrydiau eraill sydd yn parhau tic heb olwg sychu arnynt. Ond nis gallwn gael o'r rhai hyny ond cyfran y presenol, a gelwir arnom i brysuro i gael hwnw nen fe'u collwn ef. Er engraipht, yn Rban Uchaf y Sir derbyniodd rhai eglwysi, trwy gyfraniad y Llyfrfs a charedigrwydd Mr Davies, Llandinam, ynghyd, werth .£205 o lyfrau am .£61 10s; ond gallasent fod wedi cael yn ychwanegol werth .£31.5 am J691 10s. Pe buasai yr holl eglwysi wedi bod mor effro a blaenllaw a rhai buasai y gwerth heddyw o'r ddau darddle yma yn I .£920 am draul o £ 156. Gyda hyn, eieni gwnaed y trydydd rhaniad allan o'r arian adawodd Mr David Jones at lyfrgelloedd. Derbyniodd yr eglwysi allent ddaagos fod ganddynt le i dderbyn gyfran, ac y maent yn yfoethocach o'r herwydd. Ond nid oedd dim i'r rhai nad oeddynt barod. Ni ddaw y rhaniad nesaf am dair blynedd. Eto, dyma y Llyfrfa yn agor ei Haw i roi rhai llyfrau. Terfynedig yw rhif y rhai hyn, y rhai sydd yn eisio sydd yn cael, a phan dderfydd yr ystor dyna ddiwedd. Hoffwn yn fawr weled yr eglwysi lgwanaf yn dod i fanteieio ar y cynygion hyn. Own am un eglwys fechan He y gosododd y yfarfod athrawon ar ddwy ferch ieuanc i gasglu at yr amcan. Cawsant yn faan dair punt i gael gwerth deg punt o lyfrau, am dair punt ereill namyn coron gwnaed cell; a dechreuwyd ar hyny, cyn pen blwyddyn y mae yno 200 o lyfrau, 40 o 4darllanwyr, a llyfrau yn myned allan ar gyfar- taledd o 17 yn yr wythnos. Yr hyn wnaed yn Capel Isaf, Llangurig, ellir ei wneud yn mhob CAPEL trwy y sir. GWTLIWK.

, POWYS PROVINCIAL .EISTEDDFOD.

A Farmer's Grievance.

LLANIDLOES GOVERNORS.

" He Clouted Me Awful."

Old-Age Pensions in Montgomeryshire.

CAERSWS.

IMIDDLETOWN.

The Government and the Lords.

Sensational Incident at Brecon…

The Royal Declaration.

MACHYNLLETH URBAN COUNCIL.

The Royal Standard.

The County Member's Gift to…

LLANIDLOES BOROUGH SESSIONS.

Local Views on the Proposed…