Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

OR TWR.

News
Cite
Share

OR TWR. Trugaredd-awel falmaidd G wanwyn yw, Yn ddwyfol dyner ac anfeidrol gref. Drwy rym ei swyn ddadebra Natur wyw, I grindir gwae ddwg wlith adfywiol nef. Mwy grymus yw i'r gwron dewr na'i gledd,— Ar fainc y frawdle, deddf i'r deddfau yw,— Prydferthaf am y teyrn, sail s'cra'i sedd,— Cadernid a disgleirdeb hanfod Duw. Pelydryn gwyn dros ganllaw'r byd a ddaw, Ryw foreu oer, dywynodd ar y byd. Trugaredd a gwirionedd, law yn 11aw, Yw nod a hanfod Duw mewn cnawd o hyd. LLEW TEGID. Daeth i'm Ilaw y datganiad canlyaol ganfeddygon yn Ngogledd Cymru ar ddefnyddiad diodydd alco- holaidd :-Gan ein bod yn gweled y mwed difrifol a achesir i Iechyd y Genedl gan y defnyddiad annghymedrol a wneir yn y dyddiau hyn o'r gwabanol fathau o ddiodydd alcoholaidd; gan ein bod yn gweled hefyd ntd yw yr arferiad o'u defnyddio yn annghymedrol yn cael ei ffurfio yn sydyn, ond ei bod yn tyfu yn raddol o'r hyn a ystyrir yn ddefnyddiad cymedrol ac yn y gredin- iaeth fod y cyfryw ddefuyddiad cymedrol yn lies i iechyd, yn c.ynyddu y gallu i weithio, ac yn estyn yr tinioes a chanein bod yn argyhoeddedie fod y grediniaeth hon yn gamgymeriad peryglus, wedi ei phrofi felly gan sylwadaeth faith ac arbrawfion manwl gwyddonwyr,— Yr ydym ni, y rhai y mae ein henwau isod, yn apelio at yr oil o'n cyd-feddgon yn Ngogledd Cymru ar iddynt ymuno a ni mewn ymdrech i symud y gwahdnol gamsyniadau sydd eto yn aros mor gyffredin ar y mater hwn ymhlith y bobl. Yr ydym yn apelio yc arbenig atynt ar iddynt beidio rhoddi eu cefnogaetb fel meddygon i unrhyw ddefnyddiad cyffredinol o ddiodydd alcoholaidd mewn achosion o afiechyd. Yr ydym yn credu nad ydyw y diodydd hyn yn angen- rheidiol er cadwraeth iechyd; nad ydynt yn cynyddu, ond yn hytrach yn lleihau, effeithiol- rwydd corphorol a meddyliol ac nad ydynt ychwaith yn eatyn yr einioes. Arwyddir y dataraniad gan 101 o feddygon. Buaswn yn disgwyl cael mwy yn gwnend. Wele yr enwau yn Sir Drefaldwyn. Doctoriaid Byrne, Crump, a Thomas, Trailwm Davies, a Williams, Machynlleth; Davies, Llanidloes; Davies, Dref- newydd; Thomas, Llanfair; ac Edwards, Cem- maes. Dyna'r oil. Llongyfarchaf y Trail wm ar feddu tri meddyg up to date a Machynlleth ar feddu dau. Gobeithiaf, pa fodd bynag, y gwrendy y gweddtl ar apel eu brodyr sydd wedi cael y blaen arnynt ar y llwybr mae y wyddon- iaeth ddiweddaf yn cyfeirio ato fel y diogelaf, iacbaf, a diogelaf i feddygen arwain dynion ar byd-ddo. Yr wyf inau wedi darllen petb ar hyn, ac yn llwyr gredu mai gwell i ddyn yw peidio cymeryd dafn o alcohol i'w gyfansoddiad. Nid yw yn gwneud lies eithr hyd y gall, drwg. Bid sicr nis gall ychydig o l ono ond gwneud jchydig ddrwg. Gadewch iddo gael adgyfnerthion, anfonwch ragor ate, a dangosant ynghyd eu natur, a beth fedrant ei wneud. Ysywaeth y mae olion niweidiol alcohol yn rhy ami, ac yn rhy amlwg o'n deutu mewn tref a gwlad. Ac eto ni chaed ond naw drwy y sir i uno yn y waedd yn erbyn y gelyn hwn. Pa le yr oedd y gweddill, wys ? Dymunaf ar yr ysgolion M.C. sydd heb gael y llyfrau canlynol yn rhodd o'r Llyfrfa i anfon gair ataf—' Cofiant Edward Morgan,' Cofiant Thomas Jones,' I Y Gymdeithasfa,' I Llyfryddiaeth Cymru.' Dyma bedwar llyfr dyddorol i'w cael heb dal i'r llyfrgelloedd. Rhyfedd na bai clywed son am roddion fel hyn yn dod 0 bryd i bryd yn peri fod y lleoedd sydd heb yn prysuro i gael. Fel rheol deffro yw pobl pan fydd pethau am ddim ar gynyg. Y mae Maldwyn yn cael mwy o arian y diweddar David Jones na'r un sir arall yn Ngogledd Cymru eleni at y symiau mawr a gadd o'r blaen. Diolch i Lwydiarth Mon am gofio am y golofn unwaith eto, ond ysywaeth bu yr ysgrif trwy y dyfroedd mawrion yn rhywle ar ei ffordd ac er iddi gyrhaedd yn ddiangol i'r lan eto nid yn ddianaf. Golchwyd ymaith yr inc mewn manau mor Uwvr fel nad oes modd i'r cysodydd gael gafael ar y farddoniaeth. Nid oes i mi ondgofyn, Moes adys,rif,-O Lwydiarth Mon. Bu dipyn yn brysur arnaf yr wythnosau diweddaf yn gwneud rhestrau o lyfran i ychwanegu at rhai o'r llyfrgelloedd, Hynod ddymunol yw eu gweled yn tyfu, a rhai ohoaynt yn gordyfu eu dillad. Y mae'r lie yn mynd yn rhy gyfyng a rhaid yw helaethu y gell. Dywenydd fyddai genyf gael hanes am gychwyn rhai newydd etca Mae mwyafrif eglwysi y M.C. yn y Sir yn medda llyfrgell ond erys rhai heb. Amser cyfaddas yw yn awr i symud i gael un. Nid yw yn amser prysur yn y swyddfeydd, ac felly caiff cais well croesaw a mwy o sylw. Trwy symud yn ddiymaros gellir gosod y seiliau i lawr yn deg ac adeiladu gyda gofal er cael pob peth yn barod i roddi benthyg llyfrau gyda dechreu gauaf. Siriolir fi o weled llyfrgell pan af i mewn i gapel neu i ysgoldy ar fy nheithiau. Llawen wyf wrth ganfod ol gotal arni a chlywed fod defnyddio a gwertbfawrogi ar y llyfrau. Felly yr wyf yn cael gyda'r nifer liosocaf. Da iawn genyf fydd gael ymgom a'r llyfrgellydd a'i gael yn un fydd yn ymhyfrydu yn ei waith, yn mawrhau ei swydd ac yn gwir ofala am y llyfrau. Llawer o gymorth hefyd yw fod y gweinidog a'r swyddogion yn cydymdeimlo ac yn arolygu. Adroddai un blaenor syml wrthyf nad oedd ef yn cydweled a mi pan oeddwn yn eu hanog i gael llyfrgell ond yn awr wedi ei chael ei fod yntau wedi newid ei feddwl ac yn ei gwerthfawrogi. Dywedai ei fod wedi sylwi ar y bobl ieuainc oedd dan ddylanwad y diwygiad,—fod y rhai ddarfu ymroi i ddarllen wedi aros ac yn ddef nyddiol, a'r rhai ymfoddlonodd ar y teimlad heb fyned i ddarllen a dysgu wedi cilio. Erys cyngor Paul yn ei rym heddyw, Glyn wrth ddarllen. Cwyna ambell i lyfrgellydd nad oes cymaint o ddefnyddio ag ddylai fod ar y llyfrau goreu. Dymunol fyddai fod galw sylw at y rhai hyn yn yr Ysgol Sul ac mewn cyrddau eraill. Cynllun da, debygaf, fyddai fod rhyw frawd yn darllen llyfr, neu yn ngeiriau y prophwyd, yn bwyta y llyfr, ac yna yn cael deg lseu bymtheg munud yn y cyfarfod gweddi ar y Sul i roi crynoldeb o'i gynwys neu alw sylw at ryw ranau 0 hono. Arweiniai hyn i fod un pa fodd bynag yn gwybod y llyfr, fod eraill yn cael hysbysrwydd am dano all eu dwyn i awyddu darllen drostynt eu hunain, ac hefyd rhoddai elfen newydd o ddyddordeb yn y cyfarfod gweddi. Nid darllen papur wyf yn ei olygu, eithr dyweud, cyfranu o'r trysor fydd dyn wedi ei gael a'i feddianu iddo ei hun trwy ddarllen. Prif amcan llyfrgell yw cael casgliad helaeth o'r llyfrau hyny nas gall person unigol fforddio arian na lie iddynt ei hunan, a rhoddi amrywiaetb o lyfrau yn nghyraedd y rhai na wnant neu nas gallant gael llyfrau iddynt eu hunain. Nid yr amcan na'r dymuniad yw lleihau y prynu llyfrau i'r tai, dylai fod cyflenwad o lyfrau da wrth law yn mhob ty. Gwell fyddai boddloni heb ambell ddodrefyn drud os rhaid i gael llyfrau. Gwasan- aeth da wnel y rhai sydd yn myned a llyfrau oddiamgylch i'w gwerthu. Dygir felly ami lyfr i dy na ddaethai yno byth fel arall. Croesawer y llyfrwerthwr sydd hefyd yn llyfrgludydd, ac na chymerer y llyfrgell yn esgus dros omedd prynu llyfr y bydd yn dda ei gael wrth law. Er engraipht dylai pob ty faddu ei esbotiiadau ei hun. Gadawer yr esboniadau yn y UyfrgeH at ddefnydd y rhai nas gallant fforddio prynu, neu i'r rhai sydd eto yn rhy dywyll i weled gwerth llyfr yn feddiant. Clywais banes unwaith am athrawes yn yr Ysgol Sul wedi cymeryd esboniad ar y wers allan a'i gadw drffy y tymhor. Aeth hono i lawr gryn raddau yn fy ngolwg. Bid sicr yr oedd bai ar y llyfrgellydd am ganiatau y path. Y rbeol yw dychwelyd yn mhen pythefnos, ac ni cheir adnewyddu os bydd rhywun arall yn gofyn am y llyfr. Ysgrifenodd clerigwr esboniad ar Alarnad Jeremiah, ac anfonodd gopi i'w Esgob gan ofyn am ycbydig eiriau beirniadol ganddo. Dychwelodd yr Esgob y llyfr yn ol gyda'r sylw, Un peth yn unig wyf yn ei ofidio gyda golwg ar y llyfr yma, hyny yw, na buasai Jeremiah yn fwy yn awr i gyfansoddi Galarnad newydd ar yr esboniad." Pan oedd H. W. Beecher yn llogi ceffyl, gofynai am un, Ydi Q cystal ac yr edrycha?" Cat odd yn ateb, Gweitbia y ceffyl yna lie bynag y rhoddwoh ef, a gwsa bob peth all ceffyl ei wneud." Edrychai Mr Beecher ar y ceffyl gydag e&mygedd, gan ddy weud, "0 na byddai yn aelod o'n heglwys ni." GWTLIWR.

NEWTOWN WATERWORKS.

Remarkable Speech by Mr. Roosevelt.

Frank Lloyd's Horse Sales.

Competitive Festival at Llangynog

Our Finest Bowler.

Welah Newspaper Pays for Carelessness

Advertising

Advertising