Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

0. --YR EGLWYS A SOSIALAETH.

News
Cite
Share

0. YR EGLWYS A SOSIALAETH. ANERCHIAD GAN Y PARCH D. ADAMS, B.A., LERPWL. Bu y Parch. D. Adams, B.A.. Lerpwl, yn traddodi anerchiad o dan nawdd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yn Nghaernarfon y noson o'r blaen, ar y testyn "Yr Eglwys a Sosialaeth." Llywyddwyd gan y Parch O. Madog Ro- berts, yr hwn. yn ystod ychydig sylwadau, a ddywedodd y dylai yr eglwysi ddeall ar- wyddion yr amserau. Y cwestiwn mawr oedd pa un ai v byd oedd i arwain yr eg- lwys, ynte yr eglwys oedd i arwain y byd. Desgrifiai y symudiad Sosialaidd fel llifeir- iant mawr yn dod tros y byd, ond credai ei fod wedi dod i aros. Yr oedd yn bwysig i'r eglwysi dnoi cwjrs y llifeiriant i'r cyfeSrad priodol. h Cyfeiriodd ,Mr Adams at y miliynau pobl dlawd oedd yn cael cymorth plwyfol. a'l miloedd plant oedd yn gorfod myned allan i weithio i enill ychydig gyflog i helpu i gynal eu teulu. Yr oedd llawer o weithwyr gonest yn methu enill digon o gyflog i gadw newyn oddiwrth eu drysau ac yr oedd fferm- wyr bychain yn gorfod dioddef llawer a thalu rheiiti mawr, tra yr oedd y meistr tir yn byw yn ei balas hardd gerllaw. Con- demniai hefyd y gyfundrefn o or-weithio am gyflogau isel. Clywid pobl, meddai, yn ym- ffrostio yn y cynydd mewn masnach addysg a chrefydd, ond yr oedd yn amheus a oedd cynydd yn nghysuron y bobl. Priodolid safle pethau yn y wlad hon i wahanol achosion, a .Chynygid llawer o feddyginiaethau gan y gwahanol 'bleidiau cymdeithasol. Holid beth cedd meddyginiaeth Cristionogaetli ar gyfer yr anhwyldeb yma. Condemniai crefydd Crist ddynion oedd yn gosod casglu cyfoeth yn brif amcan bywyd. Rhoddid cyfoeth i ddyn fel math o ymddiriedaeth. Cael medd- iant o gyfiawnder Duw oedd y peth a ddysg- id gan Qrist. Aetli y gwr parchedig yn mlaen i gyfeirio at v gwalianol gymdeithas- au Sosialaidd, a'r mesurau a fabwysiedid ganddynt i gario yn mlaen eu gwaith. Siar- adodd am y gwaith da a wneid gan Undeb Sosialaidd Cristionogol. Rhoddai bwys ar i'r eglwysi sylweddoli yr angen i wella am- gylchiadau dyniori. Ceisid achub enaid dyn heb ystyried fod yn rhaid hefyd geisio y cylchfyd yr oedd y dyn yn byw ynddo. Yr oedd angen galw sylw y cyfoethogion at eu cyfrifoldeb yn gysta! a phregethu i'r werin bobl. Credai ef gallai yr Eglwys Grist- ionogol wneyd llawer i ladd rhagfarn a drwgdeimlad rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Yr oedd yn bwysig i'r eglwys chwilio am y moddion goreu i wella amgylchiadau dynion, a phe gwneid hyny, clywid llai o son am ragfarn.

Y PLA MILWROL. -

Advertising

[No title]

--YSGOL NEWYDD BRONANT.

MARKETS

Advertising

YR WYTHNOS

—.I GLOWYR Y DEHEUDIR.

--------------------YSENIDDT…

PWYSO'R MOCHYN.