Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
Advertising
T"íNG v'" r r¿' )r -===- ro -Gdo WESTERN CANADA WESTERN CANADA X I.. ELBOW RIVER FREE FARMS p|j 160 ACRES Si «&8JWM THE MOST PROGRESSIVE fBpfr-J "J&G31 amS MO8PSB30S GOLONV. mbI Pamphlets, Maps, and all information supplied gratis. Iff For particulars apply to Mr. H. M. MURRAY, Canadian Govern- MPF^WLCYTBSKBI xiylvil ment Agent, Western Mail" Buildings, Cardiff. tr sch 7-, I EST -i
- WYTHNOS.
WYTHNOS. Achosir anesmwythder niawr yn New Tre- degar, Tvhymni, gan ael mynydd yn llithro. Mae llawer o adeiladau mewn perygl. Dengys amcangyfrif y Fyddin y bydd yn ofynol cael 29,8113 OOOP. ar gyfer y flwyddyn ddyfodol, mwy o filiwn o bunau na'r llynedd. Gwneir ymdrech egniol y dyddiau hyn yn yr YllYS Werdd i adgyfodi y Wyddelaeg, ac i gael gan y werin i'w hymarfer. Dydd Mercher, hysbyswyd fod y Parch. J. Pritchard Hughes, ficer Llantrisant, sir For- ganwg, a mab y diweddar Esgob Hughes, Llanelwv, wedi ei benodi yn Esgob Llandaf. Aeth y Llysgenhadwr Rwsiaidd yn Llundain i Swyddfa Arglwydd Lansdowne, ddydd Iau, a chyflwynodd iddo bum' mil a thriugain o bunau o iawn i bysgotwyr Hull am y niwed a gawoont gan Lynges y Baltic. Dydd Gwener, bu ffrwydriad yn Nglofa Llanhilleth, ger Caerdydd, drwy yr hon yr anafwyd chwech o bersonau i raddau pur fawr, ond nid yn agos yn debyg i'r danchwa yn Nghlydach Vale. Dydd Iau, ger Great Hanley, rhedodd car- modur ar draws pont sydd yn croesi yr afon Trent. Torodd y cerbyd fur y bont, a syrth- iodd i'r dyfnder islaw ynghyd a'r ddwy fon- rodiges oedd ynddo. Boddodd un, ond achubwyd y llall. Torodd pum' mil o weithwyr vheilffyrdd yn Efrog Newydd, America, allan ar streic. Hawlia y dynion lai o oriau gweithio amwy o gyflog. Yn un o'r ymdrechfeydd lladdwyd pedwar o bersonau a chlwyfwyd deg ar llUgain. Dywed Mr. Alfred Davies, A.S., y bydd iddo ymladd yn erbyn cant o Lloyd-George a Herbert Gladstone er sicrhau ei sedd dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin. Aeth Mr. Lloyd- George i Llanelli i anerch cyfarfod o blaid Mr Llewelyn Williams, M.A., ymgeisydd swydd- ogol y Rhyddfrydwyr dros y bwrdeisdrefi hyny. Nos Sadwrn tarawyd ty Mrs. Morgans, gweddw y diweddar Barch. John Morgans, Rhiwbwys, gan fell ten. Gwnaed niwed i'r adeilad, ond diangodd y rhai a annent ynddo yn ddianaf. Hefyd yr un noson tarawyd ty yn Dihewvd, a niweidiwyd gwraig a phlentyn yn ddrwg iawn. Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor Rheolaeth Tsgolion Mon ddydd Gwener, pan ystyriwyd y cynllun i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion elfenol. Fendarfynwyd mabwysiadu y cyn- llun dynwd allan gan y Proffeswr J. Morris Jones, y Proffeswr Lewis Jones, a Mr. Owen Roberts, Caergybi.—Buwyd hefyd yn ystyr- ied y cwestiwn o ddysgu dirwest yn yr ysgol- ion elfenol, ond ni phasiwyd dim. Boreu ddydd Gwener bu farw y Parch. T. Mortimer Green, cofrestrydd Coleg y Brifys- gol, Aberystwyth- Yr oedd yr ymadawedig yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a bu yn bugeilio eglwysi yn Ninbych a Chaer- fyrddin. Bu yn gyd-athraw ysgol a'r di- weddar Barch. Edwin Williams, M.A., Tre- fecca, yn Nghasnewydd. Yr oedd yn fawr ei sel dros addysg Cymru.
■'..■■11 (JYNlRYN OUR O'R…
■ ■ 11 (JYNlRYN OUR O'R GWYDDELOD. Mae peldroedwyr Cymreig. dan reolau Rugby, wedi euro Lloegr, yr Alban, a'r Wer- ddon, ac wedi enill y gamp am eleni yn rhwydd. Yr oedd yr ornest rhyngddynt a'r Werddon yn Abertawe, ddydd Sadwrn, yn un galed iawn. Yn anffodus yr oedd y gwynt yn gryf, ac an-odd iawn ydoedd chwareu yn deg. Chwareuodd y Gwyddelod yn erbyn. y gwyfrt yr haner cyntaf, a chwareuasant yn well o lawer na'r Cymry hefyd am bum' myn- yd ar hugain ond ni fuont yn llwyddianus i gael y bel adref. Ond newidiodd pethau wedi hyn, a gorphenodd y Cymry yr haner -cyntaf gyda 10 pwynt yn erbyn 3. Yn ystod yr ail haner, ceisiodd y Cymry rwystro y Gwyddelod i enill tir, a buont yn llwyddian- us iawn. Canlyniad yr ymirysonfa oedd:— Cymru, deg pwynt; y Werddon, tri phwynt.
Cyfivvvniad Tysteb i'r Parch…
Cyfivvvniad Tysteb i'r Parch 13. Oliver, Xwrgw^n. Wedi bugeilio eglwysi y Methodistiaid yn Twrgwyn a Salem am yr ysbaid maith o ddwy llynedd ar bymtheg ar hugain, penderfynodd Mr. Oliver er's ychydig amser yn ol, oher- wydd afiechyd a Uesgedd, i ymddihatru oddi- wrth ofalon eglwysig er mawr anfoddlon- rwydd pobl ei ofal. Da genym hysbysu fod Mr. Oliver wedi adenill i raddau helaeth ei iechyd arferol, erbyn hyn, ond fod pwysau blynyddau ynghyd a'i afiechyd diweddar ynei orfodi, er gwneyd cyfiawnder ag ef ei hun, ac a'r eglwysi dan ei ofal, i roddi y fugeiliaeth i fyny. Er dangos eu harwydd o'u parch a'u hedmygedd o hono, penderfynodd yr eglwysi wneyd tysteb iddo, nid i'w gyfoethogi, gan fod Mr. Oliver mewn amgylehiadau cysurus, ond fel amlygiad o'r teimlad da cyffredinol a ffyn- ai rhwng y bugail a'r praidd. Ni amcanwyd at wneyd tysteb fawr, a chyfyngwyd y cyf- ranwyr i aelodau y dwy eglwys a rhai o'i gy- feillion lleol eraill. Yn hollol ddiffwdan caed yn fuan swm sylweddol i'w chyflwyno iddo, a nos Fawrth, y 7fed cyfisol, yn Nhwrgwyn, caed cyfarfod cyhoeddus er anrhegu Mr. Oliver a'r cydaid aur, ac hefyd er rhoddi cyf- leusdra i'w bobl a'i gymydogion i roddi myn- egiant i'w teimladau da tuag ato. Cadeir- iwyd gan y Parch. T. J. Thomas, Capel Ffynon; un o ddisgyblion Mr. Oliver, ac wedi i'r Parch. Daniel Lewis, Penmorfa ddechreu y cyfarfod drwy ddarllen a gweddio, eglurodd y cadeiryd amcan y cyfarfod, a gal- wodd ar y Parch. D. Evans, D.D. (gweinidog eglwys Annibynol Hawen), i siarad. Cyfeir- iodd Mr. Evans at y parch a'r cyfeillgarwch oedd rhyngddo a Mr. Oliver, a'r teimlad da a fodolai rhwng Mr. Oliver a'r eglwysi per- thynol i enwadau eraill yn y cylch, ynghyd a phoblogrwydd Mr. Oliver drwy y gymydog- aeth yn gyffredinol, yn anibynol hollot ar enwad. Yn nesaf galwyd ar y Parch. Simon Davies, Twrgwyn,.yr hWll a ddywedai y gall- asai ddweyd yng ngeiriau Brenines Sheba "na fynegwyd mo'r haner." Cyfeiriodd Mr. Dav- ies atto ei hun fel rhyw Eliseus byclian wedi bod am flynyddau yn cael noddfa o dan gwr o fantell Elias, sef Mr. Oliver, neu fel rhyw Samuel bychan yn nhy Eli -Mr. Oliver bob amser yn dwr o nerth iddo. Mr. John Lloyd, Farmyard, blaenor yn Salem, a ddy- wedai ei fod yn adnabod Mr. Oliver o flaen neb yn y gynulleidfa, a'i fod yn cofio am dano yn Niwygiad '59, yn pregethu yr adeg hono gyda nerth ac arddeliad mawr. Cyfeiriodd hefyd at boblogrwydd Mr. Oliver yn mhwl- pudau Methodistiaid Canolbarth y Sir, a'r parch cyffiedinol oedd iddo pa le bynag yr elai. Mr E. Jones, blaenor arall yn Salem, a ddywedai fod yr amgylchiad yn dwyn llu o hen adgofion i'w feddwl, am gynghorion Mr. Oliver pan ddaeth ef (Mr. Jones) i'r ardal i fyw. Hefyd cyfeiriai at natur deimladol Mr. Oliver, fel yr oedd yn llawenhau gyda'r rhai oedd yn llawen, ac yn wylo gyda'r rhai oedd yn wylo, a dangosai fel yr oedd Mr. Oliver wedi bod yn gweinyddu naill ai ym mhriodas neu mewn achlysur o farwolaeth ym mhob teulu perthynol i'r eglwysi. Diolchodd yn gynes hefyd i ddwy ferch Mr. Oliver am ym- geleddu eu tad mor anwyl yn ei henaint. Mr Powell, Blaenwern (blaenor yn Nhwrgwyn), a gyfeiriodd at y teimladau hapus oedd bob amser wedi bodoli rhwng yr eglwysi a'r gweinidog; yn cydymdeimlo a phawb,—wedi gweled tywydd garw ei hun. Mr. W. Jones, Talgarth (blaenor yn y Bryn, M.C.), a ddy- wedai mai ef fu yn cludo Mr. Oliver o orsaf Maesycrugiau pan y galwyd arno i'w bugeilio. Yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau ag oeddynt yn fyw y pryd hwnw wedn blaenu. Drwy y blynyddau yr oedd yr Arglwydd yn coroni ymdrech a llafur Mr. Oliver a llwyddiant. Dymuniad Mr. Jones oedd iddo gael pryd- nawn bywyd hyfryd, a'i haul i fachlud yn ddigwmwl. Mr. Richard Davies (blaenor gyda'r Annibynwyr yn Hawen), a fynai ddwyn tystiolaeth fod Eglwys Hawen yn meddu y syniadau uchaf am Mr. Oliver, fel dyn, Cristion, pregethwr, a gweinidog da i Iesu Grist. Yr oedd yn fwy na'i enwad, ac yr oedd ei gynghorion call a phwyllog wedi bod yn fendith i eglwysi y cylch. Barnai Mr Davies mai y swydd o fugail yw yr anrhyd- eddusaf ar y ddaear, er yn swydd anesmwyth yn ami, ond aeth Mr. Oliver drwy y prawf yn ddidramgwydd i neb. Yr oedd yr is-fugail yn meddu y cymeriad ag oedd yn goreuro y Pen-bugail. Mr. D. Davies (blaenor o Capel Drindod), a ddywedai nad oedd y dysteb ond rhywbeth i sirioli ysbryd Mr. Oliver. Yr oedd yn falch am ei adferiad. Bwriadai Capel Drindod "etto wneyd cydnabyddiaeth o'u parch i Mr. Oliver. Mr. Dan Jones Parry, Gwarllwyn, a wnai gyfeiriad at allu Mr. Oliver i gyfaddasu ei hun i'w amgylch- oedd. Yn ieuanc gyda'r ieuanc, a'i arwydd- air wrthynt bob amser oedd, Ewch yn mlaen." Mr. T. Elias, Ysgolfeistr, a. bwys- leisiai yr elfen lieddychol yn nghymeriad Mr. Oliver,—ei awydd bob amser i ddiffodd y Avreichionen cyn yr elai yn fflam, a sylwai ar werth dyn o'r fath mewn cymdeithas, ac yn enwedig mewn eglwys. Yna galwyd ar flaen- or hynaf Twrgwyn i gyflwyno y dysteb, sef Mr. David Thomas, Felincwm, yr hwn a am- lygai ei dristwch am fod lr. Oliver yn tori cysylltid a hwynt. Yn ystod gweinidog- aeth Mr. Oliver, bu Mr. Thomas yn flaenor yn Nhwrgwyn am un nynedd ar ddeg ar hugain, ac ni fu ond y berthynas fwyaf anwyl rhyngddo ef a Mr. Oliver ar hyd y blynydd- au. Yr oedd cymdeithas Mr. Oliver bob amser yn ddyrchafol. Mr. Oliver gyda hwvnt- yn eu lielbulon, eu galar, a'u llawen- ydd. Gobeithiai y byddai Mr. Oliver fod eto yn en plith am flynyddau. ac wrth gyflwyno iddo y godaid aur. nid oedd dim ag a roddai fynegiant gwell i'w deimladau na dweyd, 0 Frenin, bydd fyw byth Yna caed di- olchgarwch Mr. Oliver. Nis gallai siarad, ond dymunai ddatgan ei deimladau yn I ngeiriau Ceiriog: "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Yn ystod y blynyddau hirion y bu ef yn gweinidogaethu yma, ni dderbyn- iodd ddim ond pob cydymdeimlad a phob car- edigrwydd. Cafodd lawer mwy o barch nag oedd ef yn meddwl yr haeddai. Yr oedd yn ddiolchgar am yr heddweh a'r ysbryd tang- nefeddus oedd wedi nodweddu yr eglwysi ar hyd y blvnyddoedd. Yr oedd ei deimladau yn ddrylliog wrth feddwl am yr hen wynebau oeddent wedi eu cuddio am byth. Gobethiai gael cyfarfod a hwynt eto i gyd yr ochr draw. Diolchai i'r brodyr a'r chwiorydd o waelod ei galon am yr amlygiad hwn o'u caredigrwydd. Parch. R. R. Davies, Capel Drindod (M.C.), a sylwai mai cyfuniad o'r Heddf a'r lion oedd yno y noson hono. Buasai yn hyfryd ganddo ef allu .cadw y goron ar ei ben mor ddilych- win a Mr. Oliver am gymaint o flynyddau. Yr oedd yn hoff o Mr. Oliver fel un ag oedd bob amser yn dangos cydymdeimlad a phre- gethwyr ieuainc. Yr oedd yn dda ganddo fod yn bresenol. Fel rheol, rhoddi blodeu ar ben y marw fyddent, ond y tro hwn taflu blodeu oeddent ar lwybr y byw. Yna dar- llenodd Mr. Davies benillion pwrpasol a thoddedig yn ymwneyd a'r amgylchiad. Mr. Griffith Jones (Llangranog), a fynegai ei fwynhad i gael bod yn bresenol ac i ddymuno pob daioni i Mr. Oliver. Mr. D. E. Thomas, Ysgolfeistr, Penmorfa, a ddymunai newid ychydig ar linellau Marc Antony, a dweyd: "We come to praise Caefear, not to bury him." Braidd na theimlai yn eiddigeddus wrth Mr. Oliver ei fod yn gallu edrych yn ol am dros haner canrif o fywyd digwmwl, heb grwydro oddiwrth y llwybr glan, gan gadw i fyny ogoniant yr hen Efengyl fendigedig. Yr oedd Mr. Oliver yn dolen gydiol rhwng y ddau Ddiwygiad, ac yn gynorthwy cryf i'r ddau. Adroddodd Mr. Thomas linellau Goldsmith i'r Village Preacher," gan ddangos mor gyfaddas oeddent i Mr. Oliver. Parch. D. Lewis (Penmorfa, M.C.) a gyfeir-
GLYNARTHEN.
GLYNARTHEN. Treat.—A very pleasant and enjoyable evening was spent by the pupils of the Even- ing School at the above place, on Friday, when they were entertained to a well-pre- pared afternoon tea by Mr. and Mrs. D. 0. Jones, the School House. The table was spread, with a variety of the most delicious dainties which were heartily partaken of by all. The managers—Alderman T. Morris, Messrs. J. Lewis and R. Rees—were also present, and seemed to enjoy themselves well. After tea, a very interesting competi- tive concert occupied the remaining hours of the evening. Mr. T. Morris and Mr. D. 0. Jones acting as adjudicators. Mr. E. Jones, one of the pupils, gave a very effective ren- dering of the solo, '• The Noble boy of Truth." A vote of thanks to Mr. D. O. Jones, C.M., was unanimously passed for the excellent del- icacies he had provided, and for his untiring and energetic efforts in connection with the Evening School. Gwyl Gerddorol.—Dydd Iau, Mawrth 9fed oedd diwrnod gwyl ganu eglwysi Annibynol Beulah, Bryngwenith, Erynmoriah, Bryn- mair, Glynarthen a Hawen, a gynhaliwyd eleni fel arfer yn y capel uchod. Yr arwein- ydd y tro hwn oedd Mr. D. W. Lewis, Bryn- aman, un o brif gerddorion ein cenedl. Dyma y waith gyntaf iddo i arwain y Gym- anfa hon, ond gobeithiwn, gan mor foddhaol y gwnaeth ei ran yn yr holl gyfarfooydd, y ceir ei wasanaeth ef eto gyda'r un gwaith. Trodd yr hin yn ffafriol, yn wahanol i'r diwr- nod cynt, yr hyn oedd yn fantais i gynulliad pobl. C'ynhaliwyd cyfarfod i'r plant yn y boreu. Y llywydd oedd y Parch. D. D. Dav- ies, Beulah. Cafwyd canu da yn nghyfarfod y boreu, er nad oedd rhifedi y plant mor lios- og ag. y disgwylid iddynt fod. Canwyd dwy don, Pwy bynag a ddel," a Disgyblion yr Iesu," yn hwylus iawn, a chanwyd hwynt hefyd yn ystod y prydnawn a'r hwyr. Dech- reuwyd cyfarfod y boreu gan y Parch. D. D. Davies. Llywydd cyfarfod y prydnawn oedd y Parch. J. Davies, Glyn, yn absenoldeb y Parch. D. Evans, Hawen, yr hwn fel yr otcd yn ddrwg genym ddeall gafodd ei luddias i ddyfod i'r Gymanfa oherwydd cystudd yn y teulu. Yr oedd y capel yn bur 'lawn yn y (prydnawn. Dfcchreuwyd drwy adarilen a gweddio gan Mr. P. Davies (Ap Myrnach), Aberporth. Canwyd y ddwy anthem "Deu- wch ataf fi," (D. W. Lewis), a Pebyll yr Arglwydd" (Dr. Parry), yn y prydnawn ac yn yr hwyr yn hynod o effeitliiol. Canwyd y tonau, Saul,' Treforris,' 'Penybryn,' a. Bryniau Canaan,' felly yr un modd. Yn mhell cyn dechreu cyfarfod yr hwyr, yr oedd y capel yn orlawn, a ehyn y diwedd yr oedd rhai ugeiniau heb le i eistedd. Yr oedd y son wedi myned allan y byddai pedair o'r ef- engylesau sydd wedi bod yn dilyn y Diwygiwr yn Sir Forganwg (y rhai oeddynt yn aros yn yr ardal) yn bresenol yn yr hwyr, ac felly yr oedd. Tua pump o'r gloch, dechreuwyd canu yn y capel rai o emynau y diwygiad, megis, Gwaed y Groes," Dyma Gariad," "Marchog Iesu," "Arglwydd dyma fi," etc., a pharhawyd i ganu gyda chryn hwyl hyd nes y cafwyd gosteg i ddechreu y cyfarfod. Lly- wydd y cyfarfod hwn oedd y Parch. J. Davies.
Advertising
jai DANIELS'ILLUSTRATED CATALOGUE 164 4to pages, 158 illustrations, post free to intending purchasers, gives all particulars of these most successful competitions, as well as full lists of EVERYTHING REQUIRED for the GARDEN, and up-to-date instructions for cultivation. The 150 PRIZES now offered, ranging from &PIS downward, are for Vegetables and Flowers easilv grown by Amateurs, including BEANS, PEAS, POTATOES, CARROTS, PARSNIPS, ONIONS, TOMATOES, CELERY, STOCKS, SWEET PEAS, ZINNIAS, kc. Priecs,nwd,e?-ate. Cash Discount. K N lq'ORWICH
--------MARKETS.—Saturday
MARKETS.—Saturday ABERYSTWYTH, Monday, March 13th.— Wheat, 5s 6d to 6s barley, 4s (M to 4s 6d oats, white. 3" Od to 3s 3d;, black, 2s 9d to 3s per 651bs; eggs, 16 to 18 for Is; butter, salt, Is to Is Id; fresh, Is to Is Id per lb; fowls, 3s 6d to 4s Od; chickens, 4s to 4s 6d ducks, 5s to 5s Od geese, 10s to 12s turkeys, 14s to 15s per couple potatoes, 4s per cwt BUTTER. Carmarthen.There was a small supply of but- ter in the market, which realised from Is. Od. to Is. Id. per lb; basket butter, Is. to Is. 2d. per lb, according to quality. CATTLE. Doncaster.Rather better supply of cattle, and though milch beasts did notsell freely, stores met with a fair demand.Milch beasts, X16 to £ 22; bul- locks, £ 11 to £ 17; heifers and drapes, £ 10 to £ 16; stirks, £ 7 to £ 10; young stores, £ 4 to £ 6 each; hogg sheep, 40s. to 46s.; ewes and lambs, 56s. to 66s. per pair. Leicester.Moderate consignments of home-bred bullocks. Buyers and dealers were moderately represented, and trade ruled sluggish at 10s. per head decline. Milch cows, JE14 to 219; bullocks, R12 to £15; heifers, E10 to £ 13; young stock, £ 6 to C8; and calves, 20s. to 35s. each. Nottingham.Average show of milch beasts with rather 3, slow trade. Best milch cows, £17 to JE21; in-calf heifers, L13 to 918. Small show of store beasts, which met with a fair trade. Strong heif- ers and steers, ClO to £ 14; younger beasts, jE6 to £10; cahes, 25s. to 50s. GRAIN. Hereford, Wednesday.Moderate attendance, English wheat unchanged. Barley dull. Smaller business in oats, at last week's values. Round maize 6d. per qr. dearer on the week, whilst flat maize remained unchanged. Wheat, 3s. 8d. to 4s. per 621b.; barley, 2s. 9d., to 4s. per 651b.; oats, 2s. to 2s. 6d. per 401b.; beans, 3s. 6d. to 3s. 8d. per 65Jlb.; maize, 3s. to 3s. 3d. per 60 lb.; vetches, 4s. 6d. to 6s. 6d. per 65Jlb. PIGS. Doncaster,More pigs on offer, and trade more active. Small pigs, 10s. to 16s.; stores, 20s. to 30s. each; bacon pigs, 5s pork pigs, 5s. 9d. to 6s. per stone. HAY, STRAW, AND ROOTS. Leicester, Wednesday.Hay, 60s. to 80s., infer- ior 50s. to 57s. 6d.; clover, 60s. to 8Js inferior 45s. to 57s. 6d.; swedii turnips, 20s.; white turnips, 37s.; mangels, 15s. to 19s. per ton; wheat straw, 2s. Id. to 2s. 3d. per cwt. WEATHER AND THE CROPS. Copicus rains have fallen within the past seven days over most of the United Kingdom, and re- lieved anxieties of those who began to fear the possibility of a water famine. The aspect of the country is good, the spring wheat having taken a good hold of the soil, and spread out well without being too forward. Barley has been sown very largely, and oats will also be planted extensively as soon as the soil is dry enough. Fortunately. the co d has checked the rather forward buds on fiuit trees, and there will, therefore, be less risk of injury when the bloom expands later in the season. Favourable reports continue to come from the Continent as to the appearance and pro- spects of all cereals, the acreage of wheat sown in most countries being larger than a year ago. THE GRAIN TRADE. The market for wheat has been sluggish pretty generally throughout the whole of the United Kingdom, and while the tone is on the whole steady there is less strength apparent than there I was eight days ago. At a few market buyers were able to supply their limited needs on easier terms, but these instances were exceptional, there being nothing like general reaction or weakness noticeable. Home-grown whe2.t., owing to small supplies, is well held everywhere, but sellers of many foreign grades are moie disposed to meet buyers. Barley, though selling somewhat slowly, is held with firmness, and accasior.ally buyers have had to pay a slight advai.ee, grinding corn especially sliovvtog a tendency to appreciate in value. Oats, wnile quiet, are firm in most direc- tions at recent prices The demand for seed corn bas ceased, fro'ii which it is infer ed that farmers bas ceased, from which it is infer ed that farmers I'Kve fully supplied their wants, though very little has so far been sown. Maize is held with extreme* firirness, and prices are higher, especially for yellow corn, the supply of which Is small. Beans and peas sell steadifcy at unchanged rates. The demand for fionr continues moderate, and prices are witout appreciable change, though the tend- ency has been against sellers ocortsionalily at some of the markets held during the past week. Sowing Grass Seeds.—The present is the best time to sow grass eeede either for Per- manent and Temporary Pastures or for Alternate Husbandry. AB much care should be given to the selection of the seeds as to the preparation of the laud. The seeds should be of high germinating power true to name and perfectly clean. Messrs Sutton and Sons, of Reading, who have had during the past century practical experience in lay- ing down land to grass in all parts of the world, invite correspondence from land- owners and farmers contemplating the con- version of arable land into meadows or pas- tures. They prepare mixtures of Grasses and Clovers for alternate Husbandry from 10/6 per acre; for Temporary Pastures, from 12/6 per acre; and for Permanent Pastures, from 16/6 per acre. Full particulars of these prescriptions are given in Sutton's Farmers' Year-Book for 1905. a copy of which may be obtained from Reading post free by Agriculturists on application.
Advertising
Biggiipjlj] TO MRS. WINSLOWS Soothing Syrusp FOR CHILDREN TEETHING Has been nseil over 50 years by millioriF of mothers tor their children while teething with perfect I1CCeR8, It SOOTHES the child, Roftenfi the (rums, allays nil I'Ars. cures WIND COLIC, and IN the best remedy for DIARRHOEA- 8old by all Chemists at 111 per bottle. SCALE OF CHARGES FOR PREPAID ADVERTISEMENTS. No. of One Three Six Words. Insertion. Insertions. Insertions. 1' s. d. s. d. s. d. 21 1 0 t 2 0 3 6 28 1 6 0 4 6 35 ] 2 0 4 0 5 6 42 12 6 5 0 6 6 42 2 6 5 0 6 6 j This Scale only applies to Advertisements of the Wanted and To Let class and thosejeferrin to Sales by private treaty. Orders MUST be accompanied by a remittance, otherwise the ordinary rates will be charged. Welsh Gazette Office, Bridge-street. Aberystwyth. CAMBRIAN RAILWAYS COMPANY TO BE SOLD BY PRIVATE TREATY the several stacks of well-harvested HAY, of the,growth of 1904 (except were otherwise stated) standing kat the undermentioued Stations on the Cambrian Railways, and estimated to contain the respective quantities, more or less, also uader- mentioned. viz:— Estimate) Estimated STATIONS. Weight. STATIONS. Weight. Tons. Tons. Whitchurch 6f |St. Harmons 4 Whitchurch 6t 1St. H:1.rmnns 4 Fenn's Bank 3± jGlanclyfi No. i 6i Bettisfield (1903) 6 Glandyfi No. 2 Bettisfield .Penniaenpoc! 7 Bangor Harlech 9 Marchwiel (1903) 8 iTalsaniuu 74 Marchwiel 7 Portmailoc 5 I or further particulars and to treat, apply C. S. DENNISS, Secretary and GcneralManager. Oswestry, January, 1905. Cambrian Railways. 1T1NTIL FURTHER NOTICE a number of SHORT TRAINS will run in addition to the Ordinary Service. For full particulars see Time Tables to be obtained at the Stations, or from W, H. Cough, Traffic Superintendent. Oswestry. C. S. DENNISS, Secretary and General Manager. Oswestry, January, 1905.
BIL DIOD Y DEYRNAS.
BIL DIOD Y DEYRNAS. Tra mae effeithiau'r Diwygiad Cymreig yn I amlwg iawn ar y fasnaoh feddwol drwy sir-, oedd Cymru y dyddiau hyn, mae'n hyfryd .sylwi fod gwelliant sylwedol i'w ganfod drwy r yr holl deyrnas hefyd. Pan gofir fod yr ym- ryddhad graddol oddiwrth grafangau'r ddiod yn myned yn mlaen tuallan i Gymru heb gynorthwy Adfywiad crefyddol, mae'n rhaid cydna.bod fod yr optimists i'w cyfiawnhau dros gredu fod y byd yn dyfod i'w le'n araf deg. Yn y Times' mae'r Dr. Dawson Burns yn dangos fod cynydd yn y cyfeiiiad Iiix-ii bob blwyddyn. Mae'r swm a wenr am ddiod feddwol yn Mhrydain Fawr yn lleihau bob blwyddyn yr oedd y bil am 1904 agos yn ddau fillwn ar bymtli. o bunau yn llai nag ydoedd yn 1899. Ond rliag ymlawenhau o honom ormod, sylweddoler faint y swm a werir yn ofer ar ddiodydd meddwol yn y wlad hon bob blwyddyn. Y llynedd fe war- iwyd am win 12 miliwn o bunau; 54 miliwn am wirodydd; a thros gan' nlililvn am gwrw. —1G9 o filivnau o bunau i gyd. Dywedir fod nngen haner y swm enfawr hwn i ddiwallu'r rhai sychedig; mae'n aros wedi hyny 84 mil- iwn a allasent fod wedi cael eu rhoddi at godi'r tai i weithwyr, yr ysgolion, a'r colegau eydd arnom eu heisieu.
Y SEXEDT).
Y SEXEDT). Caed dadl frwd yn y Ty ddydd Mercher ar gadgyrch Somaliland, ac ar gynygiad Mr. Winston Churchill. Cynygiodd Mr. Charles Hobhouse, ar y bleidlais o 550,000p. at was- anaoth y fyddin, i dynu y swm o 10,000p. allan o honi.—Ceisiodd Iarll Percy amddiffyn y cwrs a gymerodd y Llywodraeth gyda golwg ar geisio dal y Mad Mullah.—Mr. Lloyd- G-eorge a feirniadodd yn llym anghysonderau y Llywodraeth. Ar un pryd, dywedent fod y cadgyrch yn angenrheidiol; ac ar y foment arall, datgapant eu barn eu bod yn rhy gost- us. Yna sylwodd Mr. Lloyd-George fod y gadgyrch yn Somaliland yr un mor ddiffrwyth a'r gadgyrch i Thibet. Yn Somaliland yr oeddynt yn ymlid y Mullah (chwerthin). Nis gwyddai efe beth oedd y Mullah (chwer- thin adiieiN-yddol).-larll Percy: Diwygiwr ydyw.—Mr. Lloyd George: Diwygiwr ydyw? Ond ni fyddwch yn anfon milwyr i letlm di- wygwyr yn y wlad yma (clywch, clywch). Paham y dylid gwneyd hyn mewn gwledydd eraill ? Un diwrnod r oedd y Mullah yn It- aliad; y dydd nesaf, un o wyr Abyssinia yd- oedd, a'r dydd drachefn yr oedd yn Frython cywir (chwerthin). Wrth derfynu, sylwodd Mr. Lloyd George nas gwyddai y Llywodraeth ei meddwl ei hun. Yr unig beth a wyddai y dd iddi wario canoedd o filoedd o bunau ■ 4igfa>lisj ag oedd a'i duedd i fagu yn meddyl- llwythau ddiffyg ymddiriedaeth yn y <iS/ m-r,K (cymei"adwyaetli y Rhyddfrydwyr). gtt?th siarad pellach, pleidleisiwyd, ac yv y mwyafrif o blaid y Llywodraeth. OY/zgiodd Mr. Winston Churchill, Yn ol y Ty yma nis gellir sicrhau unoliaeth pri haol yr Ymherodraeth Brydeinig drwy gy- fnndrefn o dollau dial yn seiliedig ar ddiffyn- dollaeth."—Eiliwyd gan Mr. Austin Taylor, un o'r Aelodau Toriaidd dros Lerpwl.- Dy- wedodd Mr. Chamberlain nad oedd y cynyg- iad yn ddim ond trie plaid i geisio troi y Llywodra eth o'i swydd. Synai efe os buasai un Undebwr yn cael ei ddal yn y rhwyd.— Sylwodd Mr. Balfour ei fod yn ddigyfnewid yn ei ymlyniad wrth egwyddorion Masnach Rydd, ac ni byddai efe yn gyfrifol am bolisi diffyndolhwL Hoftaj gael cynhadledd hollol rydd ar ein perthynas a'r Trefedigaethau.— Pan bleidleisiwyd, cafodd y Llywodraeth fwy- afrif o 42.
. Damwain yn y De.
Damwain yn y De. GAEL HYD I DDEG 0 GYRPH. OFNI FOD 20 WEDI EU LLADD. Taflwyd ardal Clydach Vale i fraw a dychryn nos Wener diweddaf drwy i ffrwydriad mawr ddigwydd yn Mhwll Rhif 1, perthynol i Lo- feydd y Cambrian, lie y gweithiai dros 4,000 o bobl. Digwyddodd y danchwa oddeutu 6.15 yn yr hwyr. Yn ffodus, yr oedd mwyafrif gweithwyr y dydd wedi dod i fyny, ond yr oedd rhai wedi aros ar ol i weithio dros am- ser, yn nghyda'r arolygwyr a'r tanwyr nos. Yn ddiymdroi ffurfiwyd cwmni i geisio dod o hyd i'r trueiniaid oedd i lawr yn y pwll, ac arweinid hwy gan Mri. L. W. Llewelyn, D. Davies, a T. Price, arolygwyr y gwaith, ac eraill. Tybir fod i lawr y pwll adeg y danchwa o 50 i 60 o bersonau, ac ofnid y buasai y rhai hyn oil wedi cyfarfod a'u diwedd. Yn ffodus, modd bynag. deuwyd o hyd i 13 o ddynion ar waelod y pwll cyntaf. Caed cynorthwy meddygol yn ddiymdroi, a gwnaed pobpeth oedd yn bosibl i liniaru di- oddefiadau y trueiniaid. Hyd nos Wener, nid oedd ond pump o gyrph wedi eu dwyn i fyny o'r lofa, sef D. Wild, 52, Morton-terrace, Clydach Vale; John Ridge, 133, Primrose-street, Tonypan- dy; David Lewis, 47, Clydach-road, Clydach Vale; Edward Jones, 137, Cemetry-road, Trealaw; William Gronow, 40, Howard-terr, eto. Yn mysg y tri ar ddeg sydd wedi eu dwyn i fyny o'r anafusion, mae brawd i Mr. W. Brace (yr ymgeisydd Rhyddfrydol a Llafurol dros ranbarth Deheu Morganwg.) Teimlwyd anesmwythyd mawr mewn gwa- hanol ardaloedd yn Ngogledd Cymru, pan dderbyniwyd y newydd am y danchwa, gan fod nifer liosog iawn o'r Gogledd i lawr yn yr ardaloedd hyn yn gweithio, yn enwedig felly yn Nghlydach Vale. Mewn atebiad i ohebydd, dywedodd Mr. L.. W. Llewelyn, y prif oruchv.yliwr, fod y wyth- ien chwe' troedfedd ar dan, ac nas gellid myned yn mlaen a'r gwaith o gael y cyrph allan. Rhaid diffodd y tan yn gyntaf. Ceisiodd Mr. Llewelyn fyn'd i lawr i'r pwll dair gawith, ond methodd. Modd bynag, gallodd fyn'd i lawr drwy yr ail bwll. Wrth edrych o'u cylck, canfuasant fod swm mawr o goed wedi syrthio i lawr y siafft, a chawsant hyd i bedwar o gyrph ar ben y cwymp ar waelod y pwll cyntaf. Daethant i fyny, a disgynasant at y wythien chwe troedfedd, a phan gyrhaeddasant yno, clywsant ddyn yn gwaeddi, a dau eraill yn mhellach yn mlaen, yn ymyl y tan, ond yn fyw. Cariwyd hwy i ddiogelwch. Ofnai Mr. Llewelyn fod 20 wedi colli eu bywydau yn y danchwa. Pan glyAvodd Mr. D. A. Thomas, A.S., am y ddamwain ddifrifol, gadawodd Gaerdydd yn ddiymdroi, ac aeth i Clydach Vale, er trefnu unrhyw beth a allai ar gyfer lleddfu ychydig ar y cyni yn mysg y dioddefwyr. Yn mhlith y lladdedigion, mae y rhai can- -lynol: David Lewis, a aeth i'r Deheudir ychydig flynyddau yn ol o Gorris, Meirion- ydd. Gedy weddw a phump o blant, ac y mae un o'i feibion yn ysgolfeistr yn Nghapel Curig, ac un arall mewn busnes yn Mhenparc- iau, Aberystwyth. 1 Owen Williams, dyn dibriod, o Fon', a ddeohreuodd wethio yn y pwll ychydig atnser yn ol. William Griffiths, hen wr triugain oed. Erbyn pedwar o'r gloch prydnawn 'dydd Llun, yr oeddis wedi dyfod o hyd i ddeg corph, rhai o honynt. wedi llosgi yn enbydus.J Nid oes bellach amheuaeth nad oes o leiaf un ar ddeg ar hugain wedi eu 11 odd.
! .Y R II 1T 1 T 1 RHWNG RWSIA…
Y R II 1T 1 T 1 RHWNG RWSIA A JAPAN. BRWYDR FAWR MUKDEN. Y FWYAF MEWN HANES. Diau yr edrycliir ar y frwydr o gylch Muk- den fel y fwyaf yn hanes rhyfeloedd. De- chreuwyd hi ddyddiau yn oi, a beunydd ilff yn fwy gwaedlyd. Dengys y gwahanol ad- roddiadau fod byddin fawr y Cadfridog Ku- ropatkin o dri chan' mil o wyr wedi cael ei llwyr orchfygu, ac mae yn awr yn cael ei erlid yn ddidrugaredd gan y Japaniaid. Mae'r trueni a'r dioddef yn mhlith y Kwssiaid yn aimesgrifiadwy. Y mae yr holl adroddiadau a dderbyniwyd o darddel Japaniaid, a rhai o darddel Rws- iaidd hefyd, yn dangos nas gall y Cadfridog Kuropatkin a'i fyddin aros yn hwy yn ddiogel ger Mukden, a lied anodd fydd iddo ddianc. Eddyf hyd yn nod y R wsiaid eu liunain fod eu byddin ganol yn encilio, a'r Japaniaid o'r diwedd mewn meddiant o Fryn Putiloff. Ar yr ochr orllewinol cawn fod y Japaniaid yri agoshau at Mukden. Dydd Mercher, llwydd- odd dwy adran o'r Japaniaid i wthio yn mlaen i'r gogledd o Mukden. Tanbelenasant yr orsaf, a rhwystrwyd gwaith ar y rheil- ffordd. Yn yr adroddiad cyntaf a anfon odd ddydd Iau, dywedai y Marshal Oyama i'r jRwsiaid gael eu euro yn mhob cyfeiriad. Yn gynar foreu dydd Mercher dechieuasent encilio, ac ymlidiwya hwy gydag egni gan y fyddin Ja- panaidd. Cenadwri ddiweddarach a fynega fod y Japaniaid yn gwasgu yn mlaen yn raddol ar Mukden. Dinystriwyd y lheilffordd yn y gogledd iddi, a cliymerivy, meddLant o. am- ryw fanau ger y ddinas. Ar lan dde yr Afon Hunho, pery y Rwsiaid i ddal eu tir yn gyn- dyn. Daw newyddion o Niuchwang yn mynegi i'r Cadfridog Nogi, yr hwn a gydweithredai ag aden chwith y Cadfridog Oku. deithio yn mlaen yn ol pum' milldir ar hugain yn y dydd. Gwaith caled ydoedd hyn. Aeth Nogi heibio i adran o'r Rwsiaid heb i neb eu lles- teirio, hyd nes wedi iddo gyrhaedd rhyw amcan oedd ganddo mewn golwg, efe a'u cylchynodd yn nghyfeiriad Tieling. Bu gal- anas mawr, a thorwyd pob moddion oedd gan y Rwsiaid i anfon cyflenwadau i'w prif fyddin. BRWYDR FWYAF GWAEDLYD Y RHYFEL. Y mae y cenadwriaethau a dderbyniwyd o Tokio yn cydnabod fod y frwydr hir yma yr un fwyaf gwaedlyd yn ystod y rhyfel rhwng y ddwy wInd. Cyfrifa y Jnpaniaid fod eu coll- edion yn haner can' mil. Credir i'r ddwy genedl rhyngddynt golli hyd yn hyn llawer mwy na chan' mil o wyr. Cyhoeddodd y Marshal Ayama orchymyn yn gwahardd y milwyr Japaniaidd, wrth ddi- lyn y Rwsiaid i fyned yn lluoedd i Mukden. Yr amcan mewn golwg ydyw amddiffyn budd- ianau y bobl, a pharchu beddrodau a Ileoedd cysegredig y teutu Ymherodrol. I I YR YMHERAWDWR I ARWAIN. Yn ol y pellebrau a dderbyniwyd o St. Petersburg, ebai Gohebydd o Berlin, nid ydyw plaid rhyfel o gwbl yn ddigalon. Nid yn unig y mae y blaid yma yn ceisio codi
Advertising
FRAGRANT FLORILINE. I For tlip TKKTH and BREATH. A delicious Vquirl Dentifrice. Prevents l^ecfiy of Teeth. Render.^ the Teeth Pearly White. Is the hest D. friee known. Every person likes it. Recommended hy Prof. Attfield. Sold everywhere". «2s, 6d per bottle.
=---Y DIWYGIAD --
=- Y DIWYGIAD EVAN ROBERTS. YN CASTELLNEWYDD EMLYN. Nos Wener aeth Evan Roberts, y Diwygiwr a'i chwaer, i Gastellnewydd Emlyn, ar ym- weliad a'r Parch. Evan Phillips. Daeth y pump efengylesau yno hefyd. Y mae y Di- wygiwr wedi gwrthod gweled dieithriaid a gohebyddion. Galwodd gyda'i letywraig yn Tyllwyd, a bu llawenydd mawr o'r ddeutu. Ni wyddis ddim am symudiadau nesaf y Di- wygiwr, ond credir y bydd iddo aroe yn Cas- tellnewydd Emlyn i orphwyso am ychydig. Pan yr oedd yn ymadael o Gasllwchwr i Gastellnewydd Emlyn, arhosodd am ychydig yn Nghaerfyrddin, a thalodd ymweliad ag amryw gyfeillion. Dywedodd wrthynfc ei fod mewn angen gorplnvysdra, ac fod ei dyfodol yn 11aw yr Ysbryd Glan. Cafodd eich gohebydd y fraint o glywed Mr Evan Roberts, y Diwygiwr, yn nghapel Bethel, Gastellnewydd Emlyn, nos Sabbath diweddaf. Yr oedd efe wedi cyrhaedd i'r dref yn nghwmni ei chwaer er nos Wener. Yr oedd yr efengylesau Misses Annie a Maggie Davies, Maesteg, S. A. Jones, Nant- ymoel, a Mary Davies, Gorseinon, yn yr ardal (sef tua Rhydlewis) oddiar dechreu yr wyth- nos. Yn yr hwyr daeth Mr. Roberts allan i Bethel, y waith gyntaf yn y lie, yn nghwmni y Parch. Evan Phillips. Rhoed yr emyn allan i ganu-" Gofyniad nefoedd faith ei hun," etc., ac ar ol canu cymerodd y Diwygiwr at y ddwy linell: A dim ond gwaed fy Iesu mawr, A droisai'r glorian hyd y llawr," fel testyn, a siaradodd am amser yn hynod o effeithiol. Yr oedd pob dust yn y lie fel wedi ei hoelio wrth y siaradwr. Yna aros- odd yn sydyn, a dywedodd nad oedd use myned yn mlaen am fod rhai yn y cyfarfod yn anufuddhau i'r Ysbryd. Ar ol ysbaid o ddistawrwydd cododd i ddweyd fbd y gwaith yn myned yn mlaen yn rhagorol yn ymodd hyny. Bu yn ddistaw wedi hyn hyd tua'r diwedd, pryd y siaradodd ac y gosododd bwys arbenig ar i'r bobl roddi ufudd-dod i'r Ysbryd, neu y cawsent wasgfa ofnadwy ar ol myned adref, ac y byddent yn colli eu cysgu o'r herwydd. Gormod o ysbryd cywrein- rwydd, ag ysbryd beirniadu o bosibl, fel yr awgrymwyd gan y diwygiwr, oedd yn y cyf- arfod. Gadawodd Evan Roberts argraph dda ar y cyfarfod, ei fod yn ddyn Duw mewn gwirionedd, er fe ddichon nad oedd pawb, os oedd rhywrai, yn cydfyned a'i ddull o ddwyn yn mlaen y cyfarfod. Bu dan wasgfa am ychwaneg nag unwaith, yr hyn y methai y bobl a'i esbonio, ond yr oedd y wen oedd ar ei wyneb ar ol codi yn rhoddi bodd- had i'r dorf, a phan y profwyd y cyfarfod,, ac y caed fod un yno am ddyfod at Grist, camvyd gyda hwyl "Dioleh Iddo," etc. Can- wyd hefyd unawdau, sef Dyma gariad fel y moroedd," ac un arall gan Miss Annie Dav- ies; "A welsoch chwi ef," gan Miss H. Phillips, ac A glywaist ti son am Iachawd- wr y byd," gan Mr. Tom Luke, heblaw eraill. Bu yr efengylesau, dair o honynt, yn cymer- yd rhan, yn nghyd a gweinidogion Seisnig oedd yn breselloI-ull o honynt o Glasgow. Un adeg ar y cyfarfod clywid tua dwsin( os nad ychwaneg, yn anerch Gorsedd Gras yr un pryd, bron yr oil yn foneddigesau. Gwoddiwyd yn ddwys neillduol gan un o. fecligyn Morganwg ar y lloft, a chan ddau neu dri eraill ar y llawr. Parhaodd y cyfar- fod hyd tua deg o'r gloch, pryd y torwyd ef i fyny. Ni wnaeth yr oedfa hon yn dejbyg yr argraph ar y gwrandawyr a'r son oedd am oedfaon Morganwg, ond tebyg y rhoddir Castellnewydd Emlyn a'r fcyffiniau ar dan eto. PENCADER. Oynhelir cyrddau undebol perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, Bedyddwyr, Aiuil- bynwyr ac Eglwys Loegr yn y He hwn. Yr wythnos ddiweddaf, caed gwasanaeth y Parcnn. Evan Phillips, Castell Newydd; Tal- fan Davies, Closygraig; Keri Evans, Caer- fyrddin; E. Davies, Llanpumsaint; R. Tho- mas, Conwil; a T. C. Evans, Caerfyrddin. YMWELIAD ESGOB DORKING. Bu Esgob Dorking ar ymweliad a Deheudir Cymru er gweled drosto ei hun effeithiau y diwygiad. Bu mewn cyrddau yn Nhrecynon a Threalaw, a arweinid gan Mr. Dan Roberts. Gwnaeth y gwasanaeth argraff ffafriol arno. yn neillduol y diwygiwr o gario y cyrarfodydd yn mlaen. DYDD GWEDDI CENEDLAETHOL. Mae Archesgob Caergrawnt, sydd yn cym- eryd dyddordeb neillduol yn y diwygiad yn Lloegr a Chymru, yn ystyried y priodoldeb o benodi" dydd i gael ei ystyried gan ddeil- iaid yr Eglwys Sefydledig fel dydd i ymofyn am dywalltiad o'r Ysbryd Glan." Mae'r anghydwelediad rhwng y gweinidog a'r aelodau yn Nghapel Moriah, Casllwchwr, yn parhau. Modd bynag, coleddir y gall Mr Evan Roberts wella'r rhwyg. Dywedodd y diwygiwr wrth gyfeillion fod yr anghydweled- iad yn pwyso yn drwm ar ei feddwl. Nosweithiau Mawrth, Mercher, ac lau bu Miss Rosina Davies, yr Efengyles boblogaidd, yn pregethu ac yn canu i gynulleidfaoedd lliosog yn Nghaernarfon. Fel gyda'r cyfar- fodydd gynhelid yr wythnos flaenorol yn y Guild Hall, rhoddid tocynau irai nad arfer- ent fynychu math yn y byd o leoedd o add- oliad, ac yria caffaipani-b arall fyned i'r capel, yn ol fel y byddai lie. Pregethodd Miss Dav- ies yn rymus y nosweithiau dan sylw. Yr wythnos hon cynhelir cyfarfodydd mawrion yn Aberystwyth, ac mae tyrfaoedd lliosog yn cyrchu bob nos i wrandaw y Parch. John McNeill. Disgwylir Gipsy Smith i'r dref heddyw.
Advertising
JUMBOISM RAMPANT. Cardiff, in its frantic effort to get the Welsh National Library and Museum, is never tired of boasting of its size and wealth. 9L tAAMM;gs STATUE — CARDIFF SPEAKS: Finally, brethren, whatsoever things are big, whatsoever things succeed, whatsoever things bring in cash if there be any go in you, think on these things.-M, ail,-d Version. In bigness most I take delight, Of all the animals, I prize And what creates sensation; An elephant the best, Whate'er grows great I hold is right, Not for the beauty, but the size, And worthy admiration. For worth by bulk I test. 71 ■ V* "Oor t BRIGHT METALS. BRIGHTNESS REIGNS SUPREME BRIGHT FIRE-IROl^, "'WV:EI::ÐJR.JEI BRIGHT MARBLE. DD A IIH BRIGHT STAIR-RODS. BRIGHT GLASSWARE. IvIUlllVL I DllnllU BRIGHT MACHINERY. BRIGHT CUTLERY. WON'T WASH CLOTHES. BRIGHT HARNESS* For KITCHEN TABLES and FLOORS, LINOLEUM and OILCLOTHS, PAINTWORK and CROCKERY. FOR A THOUSAND USES IN HOUSEHOLD, SHOP, OR FACTORY. LEVER BROTHERS, LIMITED, PORT SUNLIGHT CHESHIRE. The name LEVER on Soap is a guarantee of purity and excellence.
GLYNARTHEN.
Dechreuwyd gan Mr. Tlios. Morris, Deinol, drwy ddarllen a gweddio. Yn union wedi iddo orphen, pan oedd teimlad o addoli wedi cymeryd gafael gref yn yr oedfa, clywyd un o'r efengylesau yn tori allan i anerch Gorsedd Gras mewn modd dwys neillduol. Diau ei bod yn teimlo fod Ysbryd y peth byw yn y cyfarfod, ac yn y fan torodd y cantorion allan i ganu, Diolch iddo," ac Ar Ei ben bo'r goron," a Iesu pia'r goron, byth am gofio llwch y llawr," a chanu fuont am gryn amser. Yna cymerodd Mr. Lewis at arwain y cyfarfod. Yn nes yn mlaen ceisiwyd gan Miss Annie Davies, Maesteg, i roi datganiad o unawd, yr hyn a wnaeth yn nes yn mlaen, ond nid ar y pryd, sef Calon Ian yn llawn daioni," a hyny nes gwefreiddio y dorf fawr yn yr addoldy, a chredwn fod hyny wedi rhoddi ysbrydiaeth yn y cantorion i ganu yn fwy hwylus. 0 ran canu, teimlem fed hon yn un o'r cymanfaoedd mwyaf llwyddianus a gawsom, ac yn un a gofir yn hir gan y rhai oedd yn bresenol. Gallesid fod wedi parotoi ychwaneg, a dysgu mwy o'r emynau ar gyfer yr wyl. Gobeithiwn y gwneir hyny fel yr awgrymwyd gan rai o'r siaradwyr yn y dy- fodol. Siaradwyd yn bwrpasol iawn yn ystod y dydd gan Mri. Richard Davies, Brithdir; Phylip Davies (Ap Myrnach), D. E. Thomas, Penmorfa; a'r Parchn. D. D. Davies, J. Dav- ies, a. S. Davies, Maesyfelin. Cafwyd syl- wadau hynod o amserol a buddiol gan yr ar- weinydd yn ogystal a'r siaradwyr. Cyfeil- iwyd yn ystod y dydd gan Miss H. J. Tho- mas, Pantrodyn, a Miss P. Thomas, Plas, Aberporth, a gwnaethant eu rhan yn rhagor- ol. Hyderwn y codir ychwaneg o chwareu- wyr yn y cylch. Rhoddwyd benthyg yr off- eryn yn garedig gan eglwys Beulah. Ai ni ddylasai yr eglwysi yn y lie bwrcasu offeryn ei hun yw'r cwestiwn a ofynir bob blwyddyn. Credwn y dylasai. a theimlir yn mhlith y cantorion y dylid symud yn y mater. Wel, paham na wneir ynte? Disgynodd rhan hel- aeth o'r gwaith o drefnu ar gyfer yr wyl ar ysgwyddau yr ysgrifenydd llafurue. Mr. Thos. Elias, Rhydlewis. Y mae ef wedi bod yn hynod o ffyddlon, a hyny er dechreu yr Un- deb. Cadeirydd y pwyllgor oedd Mr. J. Thomas, Plas, Aberporth, a'r trysorydd, Mr. D. Davies, Boryn. Darparwyd yn helaeth i roddi croesaw i ddieithriaid ac eraill, gan bobl garedig y He, yr hvn yw hen arfer yr archl.-Goh.
! .Y R II 1T 1 T 1 RHWNG RWSIA…
byddin ai-all yn rhifo pedwar can' mil o wyr, ond ceisir gan yr Ymherawdwr ei hun i ar- wain y fyddin. Dywedwyd wrtho y byddai yn ddiogelach ymysg ei filwyr ffyddlon nag yn ei gastell. Os gwrthyd yr Ymherawdwr a blaenori y fyddin, gofynir i ryw Uchel Dduc i ymgymeryd a'r gwaith. Ond y gwir ar- weinydd, mae'n debyg, fydd y Cadfridog Sukhomlimoff, cadfridog ieuanc tra chym- hwys, a'r hwn a gymer le y Cadfridog Kuro- patkin. Dywedir fod plaid arall ddylanwadol yn LIys Ymherodrol Rwsia yn gryf o ochr ceisio cael heddwch. Yn ol pob hanes mae Rwsia wedi cael curfa arall—gwaeth na'r un yn Liao YaIfg, cyn waethed a cholli Port Arthur. 0 gwmpas Mukden, hen brifddinas teulu brenhinol China—y bu'r ymladdfa. Pan gyfrifir nifer milwyr Rwssia dan Kuropatkin a milwyr Japan dan Oyama—agos i filiwn o wyr arfog, —a phan gofir fod y rhai hyn wedi bod yn ymladd am agos i bythefnos efo'r magnelau trymaf a'r offer mwyaf dinystriol a ddyfeis- iwyd eto gan gelf dyn, gellir dweyd yn ddi- betrus na ymladdwyd y fath frwydr erioed o'r blaen yn hanes y byd. Cvfrifir fod Rwssia wedi colli, mewn lladd- edigion a chlwyfedigion, 116,000 o wyr; a bod Japan wedi colli tua 41,000. Y mae Rws- sia, hefyd, wedi colli tua 40,000 o garcharor- ion. Os gwir yw'r hanes na chafodd gwyr Japan afael ar fwy na 60 o fagnelau Rwssia. —dywedir fod gan Kuropatkin fil o honynt.— rhaid eu bod braidd yn siomedig. Heblaw y magnelau, cymerasant 60,000 o ynau, 200,000 0 belenau, a 25,000,000 o fwledi, gyda chrug- iau mawrion o yd a bwyd o wahanol fathau.
Cyfivvvniad Tysteb i'r Parch…
iai at rai o nodweddion Mr. Oliver nad oedd-, ynt wedi cael sylw, eef ei ddawn fel casglwr," ac fel holwr pwnc, Yn y peth olaf yr oedd ar ben ei hun,—y goreu-yn marn Mr. Lewis, yn Ne Aberteifi o ddigon, yn gallu dwyn gol- euni ar faterion anhawdd, fel y gallai y. Iliaws eu deall. Yr oedd Mr. Oliver wedi ei eni yn bregethwr. Yr oedd ganddo hyawdledd ym- adrodd naturiol. Hefyd yr oedd yn wr o gyngor, yn ddyn yn medchi ar farn. Ni fu- asai Mr. Lewis yn y rhan hon o'r wlad oni buasai am Mr. Oliver. Dymunai Mr. Lewis am wasanaeth hir Mr. Oliver yn y cylch eto. Mr. Oliver a ddiolchai drachefn am y geiriau caredig oedd wedi eu dweyd, a chyfeiriai yn gellweirus nad oedd wiw i neb ei fychanu ol hyn allan, gan y gallasai eu cyfeirio at dyst-1 iolaeth y cwrdd hwn—barn gwlad—am dano. Gobedthiai y cadeirydd y buasai olynydd Mr. Oliver yn deilwng o'r olyniaeth urddasol ag oedd wedi bod yn Nhwrgwyn oddiar yr amser y cychwynwyd yr achos yno hyd yn awr. Wedi canu penill ymadawyd, a phawb wedi mwynhau y cyfarfod.