Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

WYTHNOS. II

News
Cite
Share

WYTHNOS. Mae Iarll Cawdor wedi ei benodi yn Brif I Arglwydd y Llynges. Aeth Hong Emily," o Padstow, yn ddryll- iau yn agos i Gaergybi dydd Llun. Rhoddir treth mewn tref o'r enw Cassel, I ar y Cyfandir, ar bob perchen piano. Aeth y llong Louis yn ddrylliau ar lan- au Cernyw, ger Cricab^Uo Point; foreu Sul. ¡ C-ollwyd dau o fywydau. Mynegodd Mr. Wyndham yn Nhy'r Cyff- redin, ddoe, ei fod wedi rhoi ei swydd fel Ys- grifenydd yr Iwerddon i fyny. Efliilodd y Rhyddfrydwyr fuddugoliaeth ardderchog yn Sir Bute ddydd Sadwrn. Dyma'r tro cyntaf er 1880 i feir Bute ddewis Rhyddfrydwr. Bernir y ceir etholiad eyffi-edinol yii dra buail os bydd i fwyafrif y Llywodraeth bar- hau i ddarostwng am tua pythefnos i'r un graddau ag y mae wedi syrthio yn ystod y pythefnos aeth heibio. Nos Wener, rhoddodd dyn ei hunan j fyny I i heddgeidwaid Sunderland gan ddweyd ei fod wedi llofraddio ei wraig yn Trallwm, sir Drefaldwyn, yn Hydref, 1903, gyda chleddyf. Y mae yr achos wedi ei anfon i heddgeidwaid Trail wm. Nid ydyw yn ymddangos ar hyn o bryd y ceir nemawr, os dim, anhawsder i gael gan Lywodraeth Rwssia i dalu iawn am ddifrod ei llynges ar bysgotwyr Hull. Nid yw yn wybyddus etto pa beth fydd swm yr ad-daliad y gofynir am dano. Bernir y bydd yn rhyw- le rhwng 75,000p. a 100,000p. Y mae yn debyg fod Ardalydd Bute yn un o wyr mwyaf goludog yr Ymherodraeth Bry- deinig. Mab tair blwydd ar hugain ydyw ef. Pabydd o ran ei grefydd ydyw, a Phabyddes y mae am gymeryd yn wraig. Y foneddiges hon ydyw Augusta, merch ieuangaf Syr Henry Bellingham, Castell Bellingham, Swydd Lough. Gellir cael dirnadaeth am ei olud Gellir cael rhyw ddirnadaeth am ei olud, pan ddywedir ei fod yn perchen cant a dau ar bymtheg o filoedd o aceri o dir. Y moo ganddo amryw balasau gorwych, ac yn eu inyag Castell Caerdydd, yn Sir Forganwg. Yn Brooklyn, New York, bu trychineb ar- swydlawn nos Fawrth. Ymollyngodd llawr goruchystafell capel y bobl duon yn sydyn; ac yn y dymchweliad lladdwyd un ar ddeg ac anafwyd triugain o bersonau. Cynal gwas- anaeth angladdol i un o'r frawdoliaeth yr oeddis. Gadawyd yr arch gan y rhai gwared- igol er mwyn helpu yr anafusion. Oafwyd corph dyn ieuanc ar lan y mor yn y Bermo ddydd Mercher. Yr oedd dillad da am dano, menyg am ei ddwylo, cap tweed, a, chanddo brydwedd goleu a, gwallt melyn. Bernir ei fod oddeutu dwy flwydd a deugain oed, ac mai teithydd masnachol oedd wrth ei alwedigaeth, ond ni wyddis pwy ydyw. Yn ei boced yr oedd saith geiniog. Ddydd Sadwrn, dechreuodd yr Arlywydd Roosevelt ar yr ail gyfnod yn ei swydd, a thraddododd ei anerchiad i bobl yr Unol Dal- ithau, yn Washington. Ynddi dywedodd y dylai yr Unol Dalaethau fod ar delerau cy- fefllgar a phob gwlad, yn fawr a bechan. Ni ddylent ymddwyn yn wael at yr un wlad, ae ni ddylent oddef i un wlad ymddwyn yn wael atynt hwythau. Mae Mr. Leif Jones, yr aelod Seneddol ne- wydd dros Appleby, yn frawd i Mr. Brynmor Jones, A.S., ac yn fab i'r diweddar Barch. Thomas Jones, Abertawe, y preget-hwr enwog a ganmolid gymaint gan y Bardd Browning. Mae yn ddyn ieuanc galluog, ac yn siaradwr cyhoeddus rhagorol. Nid oes amheuaeth na fydd yn gaffaeliad mawr i'r blaid Ryddfrydol Gymreig. Bu yn ymgeisydd dros Feirion, a chaled iawn fu yr ymdrech rhyngddo ef a Mr Osmond Wlliiams. Mewn darlithiau ar Ariandai, yn Ngholeg S Gogledd, dywedai Proffeswr Dustable ei bod yn eglur iawn fod deddfau tir Prydain yn rhwystrau ar ffordd cynydd y wlad. Y mae cael gweithredoedd cyfreithiol yn sicr- hau hawl i dir yn bethau dyrys a chostfawr iawn yn Mhrydain ac am y rheswm hjvlw, y mae yn anhawdd cael benthyg arian at well a tiroedd ac adeiladau amaethyddol. Yn hyn o beth, yr ydym fwy na, chan' mlynedd ar ol Prwssia. Ddydd Sadwrn aeth dau dren i wrthdaraw- iad au gilydd ger Pittsburg, America. Yr oeddent yn myned o Cleveland i Washington i ddathlu gcsodiad yr Arlywydd Roosevelt yn ei swydd fel Arlywydd America. Arhosodd y tren cyntaf mewn gorsaf. Barnai gyried- ydd yr ail dren fod yr un cyntaf yn parhau i fyned. Y canlyniad fu ir tren olaf fyned i wrthdarawiad ar hwn oedd wedi aroo. Dryll- iwyd rhai o'r cerbydau yn llwyr. Aeth y tanciau olew oedd o dan y cerbydresi ar dan, a llosgwyd llawer drwy hyny. Dywed rhai fod 27 o bersonau wedi eu lladd.

Y Ddeddt Addysg.

Advertising

---------------Y SENEDP.

-CHWYLDROAD YN RWSSIA.

Advertising

IY RIIYFEL MNTNG 11W SI A…

-----_u_-----Y DIWYGiAD

Advertising

Y PULPUD.

MARKETS.—Saturday

Advertising

Advertising

Advertising

-----_u_-----Y DIWYGiAD

MARKETS.—Saturday