Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

.;WYTHNOS.

News
Cite
Share

WYTHNOS. Pasiodd Cynghor Dinesig y Rhondda benderfyn- ad, dydd Gwener, yn ffafr trethu eiddo tirol. Prydnawn ddydd Sul, yn ei breswylfod yn Llun. dain, bu farw y Llynghesydd Syr Henry Kepdel, yn 95 mlwydd oed. Boreu ddydd Mawrth bu farw Arglwydd Bray- breoke, penaetb Coleg Magdalen, Caergrawnt, gynt is-ganghellydd y BritYsgol. Dywedir fod Mcbur i gael ei gyflwyno i'r Senedd yn ystod y tymhor nesaf i wahardd gwerthu tybaco i blant o dan un mlwydd ar bymtbeg. Gosodwyd careg sylfaen capel newydd i'r Anni- "bynwyr yn iliskui, Mountain Asb, fel cangen eg- lwys c Beihania. Y mae yr adeilad i gostio 2,000p Yn ol yr adroddiad diweddaraf lladdwyd 1200 o'r Dervishiaid yn Somaliland yr wyLbnos flaenorol, ac Bid mil fel y cyhoeddwyd ar y cyntaf. Dydd llercber, collodd tref Caerfyrddin, un o'i tbrigolion bynaf, yn marwolaetb Mr John Williams, oriadurwr, Lammas-street, yn ei 84ain mlwydd o'i oedran. Hysbysir fod Mr James Jones, o Goleg y Bed- yddwyr yn Nghaerdydd, wedi cynsynio a galwad a dderbyniodd o eglwys y Bedyddwyr yn Ffynonau Llandrindod. =Allan o 143 o ymgciswyr penodwyd Mr Ernest S. Davies,mab y diweddar Barch. Dr T. Davies, Ilywydd Coleg y Bedyddwyr, Hwlffordd, yn arolyg- wr ysgolion ail-raddol o dan Gynghor Sirol Kent. Yn ei adrcddiad blynyddol am y Symndiad Ymosodol," dyx'edy Parch Dr John Pugb, Caer- dydd, allan o'r tri chwarter miliwn o boblogaeth yn' Morganwg, fod 500,000 y tu allan i gylch yr eglwysi. Boreu Sadwrn, tra ar en mordaith o Newcastle i Lundain, suddodd yr agerlong Commercial." Bu deuddeg o'r morwyr foddi. Achubwyd yr ail mate, yr hwn a fu yn dal ei afael mewn cwch am bum' awr. Y mae Iarll Crew wedi penderfynu cynyg dros 7,000 o erwau o'i diroedd yn sir Gaerefrog a rhanau eraill o Loegr ar wertb. Derbynir rhent blynyddol oddiwrth y rhai byny o 6,582p. Rhoddir cyfleustra i'r tenantiaid i'w prynu. Tybir mewn rhai cylchoedd mai un o effeithian y fuddugoliaeth fawr Ryddfrydig yn Norwich fydd cyflymu ymddattodiad y Weinyddiaeth. Bernir y ceir etboliad cyffredinol rhwng y Pasg a'r Sul- gwyn. Mae hyd yn od Balfour yn credu ac yn crynu yn awr. Mewn wyth o'i gyfarfodydd cyhoeddus, dywedir fod Mr Chamberlain wedi ei gefnogi gan wyth o dduciaid, tri ardalydd, a 45 o iarllod ac is-iarllod. Y mae deg ar hugain ohonynt, cyd-rhyngddynt, yn perchenogi 3,146,284 (yn agos i dair miliwn a haner) o aceri o dir. Sylwed y gweithwyr ar hyn. Gwrandewir achos pwysig yn yr Uchel Lys yn Llundain y dyddiau hyn. Hawlia ewmni o wneuthurwyr siwgr at ddarllaw yn Lerpwl iawn o 360,000p oddiwrth gwmni arall o wneutburwyr nwyddau fferyllyddol yn Leeds. Fe gofir fod cryn son ycbydig flynyddau yn ol am wenwyn mewn cwrw tua Birmingham a Manceinion. Cyfyd yr achos hwn o byny. Dechreuodd prawf y gwr anrhydeddus, Whitaker Wright yr wythnos ddiweddaf yn Uchel Lys y Brenin. Cyhuddir ef @ dwyll yn nglyn a ffurfiad gwahanol gwmniau masnachol. Wrth agor yr achos yn ei erbyn, dywedodd Mr Rufus Isaacs, K.C., fod cyfalaf tri o'r cwmniau yn 5,000,000, a bod pob ceiniog o'r swm anferthol yma wedi ei cholli yn Ilwyr ac am byth. Bydd yn ebwith tan lawer yn y Sir glywed am farwolaetb y Parch D, R. Williams, gweinidog Eglwysy Metbodistiaid a gyferfydd yn Salem, Aber- ystwyth. Brodor o Aberayron ydoedd Mr Wil- liams, a bu am flynyddau lawer yn bugeilio Eglwys y Methodistiaid yu Llanbedr-Pont-Stephan. Wedi byr gystudd ac ymgais goreu ei feddygon, darfyddodd foreu dydd Mawrth. Y mae Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Caernarfon a Gwrecsam wedi pasio penderfyniadau cryfion yn erbyn bwriad y Llywodraeth i ymyryd ag awdurdod yrynadon i leihau nifer y trwyddedau yn eu har- daloedd ac i roddi iawn i dafarnwyr. Pe cynygid codi Uais o blaid y fath ddiwygiad cymdeithasol yn Mwrdd Gwarcheidwaid Aberystwyth, hwyrach y rhoddid cyfle arall i rywun ddatgan ei gydymdeimlad a'r Fasnach. Mewn cyfarfod a gynlialiwyd yn Neuadd Tref Llanymddyfri, ar y 6ed cyfisol, Mr J C Vaughan Pryse-Rice yn y gadair, penderfynwyd apelio at y wlad yn gyffredinol am gynortbwy i godi rhyw fatb o goffadwriaeth i'r Hen Ficer," ag i gysylltu hyny o betb ag adgyweirio yr eglwys, lie traddod- odd efe gryn lawer o ";Canwyll y Cymry." Gres- ynus meddwl nad oes yn agos un math o goffadvvr- iaeth i'r Ficer oddigerth a geir yn ei ganeuon a'r cofiantau a ysgrifenwyd yn ystod y ganrif ddi- weddaf. Fel ca-nlyniad yr anghydwelediad diweddar rhwng yr aelod drus Fwrdeisdrefi Caerfyrddin a rhai o aelodau y Gymdeithas Byddfrydol yn Llan- elli, tynwyd ei dclarlun oddiar fur y clwb, a bwr- iwyd ef i'r ystafell ysbwriad, yn nghanol crechwen y gwyddfodolion. I fyny yn ei le dodwyd darlun o'r Major Jones, yr hwn, fel yr ymddengys, fydd yn etboledig ymgeisydd nesaf gan y gymdeiihas. Fe gofir i'r Major foci yn aelod dros y rbanbarth o'r blaen, ond iddo wedi hyny gael ei hun yn minor" ac nid yn major." Cymerodd gorlofiad, tebyg i un Johnstown flyn- yddau yn ol ond o'r radd yn llai. le yn Bloemfont- ein, Dehen Atfrica, y Sul diweddaf. Dywedai'r newyddion cyntaf mai mewn canlyniad i doriad cwmmwl, ond rhai diweddarach ddywedant mai'r cronfa dwfr gyflenwa'r dref ddarfu rwygo ei cheul- anau a dymchwelid ar y dref. Dinistriwyd yn agos i ddau gant. o bunedd-dra, a boddwyd rhwng ugain a deg a'r hugaia o bersonau. Dywedir fod tua dau gant o bcr.onau wedi cael eu gwneyd yn ddigartref o'i achos. Bloemfontein ydoedd prif- ddinas talaeth y Free State dan y Boeriaid, ac y mae yno nifer luosog o Gymry, yn enwedig o Aber- ystwyth.

---Chamberlain a Chyinru.

LIais y Wlad.I

¡Prif GNA-iistabl Ceredigion.

----------Helynt Rwsia a Japan.…

------Taith yn Sir Aberteifi…

Advertising

LLOFFION.

MARKETS.—Saturday j

Advertising

Family Notices

Advertising

------Taith yn Sir Aberteifi…

MARKETS.—Saturday j