Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

24 articles on this Page

CNWCH COCH.

News
Cite
Share

CNWCH COCH. CYFARFOD CYST ADLEUOL.-Cynhali wyd cyfar- fod cystadleuol yn y lie uchod Nos Calan. Dechreuwyd y cyfarfod am 5 o'r gloch, dan lywyddiaeth y Parch A C Pearce, (Ystumtuen). Gwasanaethwyd fel beirniad y canu gan Mr J J Hughes (Afaon Alaw), Talybont; barddoniaeth y Parch John Humphreys, Aberystwyth rhyddiaeth, y Parch A C Pearce a J H Williams, Pontrhydygroes; a'r celfyddydwaith gan Mr Morgan Evans, Cnwch Coch, a Mrs Pearce, Ystumtuen. Awd drwy y rhaglen ganlynol :-Anerchiad byr a pwrpasol gan y Cadeirydd (Parch A C Peane) Unawd i ferched dan 12 oed, Fy Nuw i mi." 1, Lily Evans, Shop Cnwch 2, Jane Evans, Cnwch Pin Cushion goreu, Miss Alice Evans, Shop, Cnwch Englyn," Hun- anaeth,"Mr Morgan James Evans, Tynclawdd, Myn- yddbach; Parhosanau ribs, Elizabeth Jones,Cnwch Unawd i ferched dan 15 oed, "Can mewn gofid, Maria Ann Evans, Cnwch Ffon oreu, W Gray, Glanfedw Pedwarawd, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," Mr John Davies, Ysbytty-Ystwyth a'i barti. Adroddiad i rai dan 15 oed, Y Brithyll a'r bach," Lizzie Ann Pai ry, Cnweb; Deuawd (dewisiad) Mr John Morgans ajjosiah Mason, Ystumtuen; Pedwar pennill i'r diweddar Mrs Sarah Pugh,Castell, Mr David Davies (Ap Gwilym), Trisant. Unawd tenor, Bugeiles y Glyn," Mr John Morgans, Ystumtuen, Llythyr caru, Mr John Davies, Llan- afan. Araeth," Achos, effaith, ac achlysur," Miss Elizabeth Jomes, Factory, Crognant. Unawd baritone, Breuddwyd y Morwr bach," Mr Evan Edward Jones, Blaenpentre, Trisant. Y Wyddor Gymraeg ar Sampler," Miss Elizabeth Jane Jones, Ystumtuen Wythawd, Rwy'n caru clywed 'r hanes, Parti Trisant, o dan arweiniad Mr Matthew Evans, Nant- gwyn, Trisant. Lledwed goreu, Mr John Davies, Pantyffynon. Unawd soprano, Llythyr fy Mam," Miss Elizabeth Edwards, Horeb, New Cross. Dadl, Pru'n oreu fod yn Hen Lane a'i yntau yn nriod," Mr Lewis Edwards a Edward Williams, Cnwch Coch. Parti, 12 mewnnifer, Anwyl Flora," Parti Trisant, o dan arweiniad W Bonner Ddwy lwy bren, Mr Evan Davies, Rose Cottage, Hafod Unawd i ferched dan 12 oed (dewisiad), Miss Jennie Evans, Cnwch Cravat oreu, Miss Lizzie Jones, Cwmnewidion. Ton (pedwar llais), ar yr olwg gyntaf, Mr John Morgans, Ystumtuen, a'i barti. Pedwar penill i'r diweddar MrJohn Jones, Caecwtta, Mr John H Jones, Ocbr Fawr, Ystumtuen. Unawd o ddewisiad yr ymgeiswyr, Mr Evan Edward Jones, Blaenpentre,Trisant, aMrJosiah Mason, Ystumtuen, yn gyd-fuddugol. Adroddiad, Caru Duw," Mr Lewis Edwards, Cnwch, Parti Meibion, "Awn i ben y Wyddfa Fawr," parti Trisant, (W Bonner). Dadl, (dewisiad), Mr Lewis Edwards, a'i gyfeillion. Datganu, Cymhorth ni 0 Dduw," (Mr De Lloyd, G.T.S.C.), C6r frisant, o dan arweiniad Mr W Bonner, Trisant. Ffraetheb (wit) oreu, Mr Lewis Edwards, Cnwch. Cafwyd cyfarfod rhagorol a hynod o lwyddianus. Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch gan y Parch A C Pearce i'r beirniaid y rhai a aetbant drwy eu gwaitb i foddlonrwydd pawb, hefyd i'r boneddigesau a fuont yn darparu ymborth (tS) gogyfer a bobl fdiethir. Eiliwyd y cynygiad gan Mr William Evans, Shop, Cnwch. Y mae llwyddiant y cyfarfod cystadleuol hwn i'w briodoli i weithgarweh yr ysgrifenydd diwyd, Mr David Davies, Cenant, a'r trysorydd, Mr Edward Williams Cnwcb Coch.

DOVER LIGHTSHIP IN COLLISION.

A PAUPER LEAVES £ 20,000.

THE BETTTVG INQUIRY

NEWMARKET ELECTION.

A MISERABLE ENDING.

AN EXTRAORDINARY DISASTER.

IRISH LAND CONFERENCE.

JOY CAUSES DEATH.

CHASE OF A HOSTILE CHIEF.

SCIENCE NOT1SS AND GLEANINGS.…

A Ma xIU SUICIDE.

Advertising

Agricultural Co-operation…

PENCADER.

Meirion Chair Eisteddfod.

NEWCASTLE EMLYN.

Advertising

LLANAFAN.

DEVIL'S BRIDGE

THE LEYTOlf MYSTERY.i

NEW AMBASSADOR TO ROME.

ELECTRIC TKAINS TO BRIGHTON.

--..::. CHIPS OF NEWS.