Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Mae Tolstoi yn marw—efe ydyw y lienor gallu- ocaf a gyfododd erioed yn Rwssia. Mae tips Landwr ar dan; ac mae cryn anes- mwythdra yn yr ardal yn herwydd hyny. Adroddir yn awr fod Miss Stone, y genhades wedi ei rbyddhau o ddwylaw y carnladron Tyrcaidd. Lladdwyd y flwyddyn oedd yn terfynu Medi di- weddaf 800, ac anafwyd 13,000 o bobl ar ffyrdd kaiarn y deyrnas. Ofnir y bydd i'r siwgr gael ei drethu; ac roae rhai masnachwyr yn Birmingham yn ystorio ey- llenwad o hono er y dydd drwg. Darogenir y ceir plaid newydd-plaid ganolog- yn y Senedd mewn canlyniad i'r rhwysg rhwng Rosebery a Campbell Bannerman. Oyfarfu pwyllgor, dan lywyddiaeth Arglwydd Keoyon, yn Mangor, dydd Sadwrn, i drefnu ar. gyfer ymweliad y Tywysogyn mis Mai nesaf. Y mae Sultan Twrci wedi galwar Dr Herzl, IIy- wydd mudiad y Sioniaid, i ymweled ag ef. Ar fater gwladychu Gwlad Canaan y gwahoddwyd el. Cafodd dyn yn Winconsin ysgariad oddiwrth ei wraig oblegyd esgeuluso o honi ddyledswydd yr selwyd. Treuliai lawer o amser, meddir, i cbwareu ping-pong. Mae y Parch Edwin Jones, Caerwys, ysgrifenydd Undeb Bedyddwyr sir Fflint, wedi derbyn galwad anfryd i fageilio eglwys Fedyddiol Llanfyllin, yn nghyda'r ganghen eglwysyn Methel. Teyrnasai dychryn yn Newcastle yn ystod yr wythnos ddiweddaf; ac ni feiddiai gwragedd fyned allan i'r heolydd wedi nos rhag ofn cael eu trywanu gan rhyw ddrwgweithredwyr. Dydd Sadwrn dedfrydwyd Goudie a Burge i ddeng mlynedd o benyd wasanaeth am ladrata y 8wm enfawr o Fane Lerpwl; a Styles a Kelly i ddwy flynedd o garchar gyda llafur caled am eu cynorthwyo. Dywedir y ca Bane Lerpwl Z90,000 i P.100,000 o'r arian a ladratwyd oddiarno gan Goudie yn ol. Mae Kelly, un oedd gyfranog yn y lladrad ac sydd yn awr yn garcbaror wedi trosglwyddo ei holl eiddo i'r Banc—tua £ 20,000. Awgrymir fod rhywbeth a wnelo'r Brenin a Uythyr ysgar Rosebery. Bernir y bydd i Salisbury ymneillduo tua adeg y Coroniad; ac y bydd i'r Brenin ofyn i Rosebery ffurfio Gweinyddiaeth o bigion o bob plaid, gan adael Chamberlain allan. Ar ei daith drwy gyffiniau anial Persia ac Aff- ghanistan daeth Mr Savage Landor ar draws gweddillion ben ddinasoedd I mawrion. Y mae un o honynt oran maintioli yn gyfartal i Llundain. Nid oes dim yn aros ond merddynod lie bu mawr- edd. Wrth anerch cyfarfod yn Llundain ddydd lau, dy wed odd Syr Edward Clarke nad oeddyn credu yn Rhyddfrydwyr Ymherodrol. Efelychiad o'r nwydd gwirioneddol oeddynt, ebe fe, a dim ond golchiad arian arnynt, ac nid oeddynt o nemawr bwys mewn gwleidyddiaeth. Dywedasom yn ein rhifyn diweddaf fod tua 300 o bersonau wedi eu lladd mewn He o'r enw Shemakha yn Rwssia ar ororau Asia trwy ddaeargrynfeydd. Sicrheir yn awr gan newyddion diweddarach fod dros 2000 wedi eu lladd, ac fod llawer wedi eu gyru yn wallgof. Yn Senedd America dydd Sadwrn baerodd un aelod fod aelod arall yn dweyd celwydd. Rhuth- rodd y naill at y llall, a bu ysgarmes frwnt rhyng- ddynt. Bwriwyd y ddau i garchar y Ty; ac wedi iddynt ddyfod atynt eu hunain amlygasant eu hedifeirweh. Rai wytbnosau yn ol cyhoeddasom y newydd fod llengcyn 13 oed wedi gwthio ei gydymaitb 12 oed i afon nes ei foddi. Yn Mrawdlys Lerpwl yr wytb- nos ddiweddaf profwyd y llanc yn euog o'r weithred; ac, er nad yw ond 13eg oed, dedfrydwyd ef i benyd wasanaetb am ddeng mlynedd. Dylai amaethwyr a pherchenogion anifeiliaid gymeryd gofal wrth brynu lluniaeth i'w banifeiliaid. Y dydd o'r blaen elfenodd Dr Voelcker y dorth a elwir yn linseed cake," a chafodd ei bod wedi ei gwneud o 35 y cant o dywod, swm mawr o gwman, a phedwar math o chwyn. Bu cyflafan erchyll mewn pentref o'r enw North. enden, tua chwe' milldir o Manchester, foreu dydd Gwener. Saethwyd cyfreithiwr, 30 oed, tra yn cysgu yn ei wely gan wr tua thrigain oed, yr hwn a fuasai yn ei wasanaeth. Saetbodd y llofrudd ei hun ger y ty pan welodd yr heddweis yn ymosod arno. Dywed rhifyddwr yn Hamburg o'r enw Professor Schubert y bydd am ddeugain mynud wedi deg bore y 29ain o Ebrill nesaf (amser canolbarth Ewrop) yn gywir fil o filiynau o fynudau wedi myned heibio er genedigaetb Crist. Mil o filiynau o fynudau! Pwy sydd gallach o'r wybodaeth anamgyffredadwy hon. Am ladrata P,800 oddiwrth Gwmni Llongau yn Lerpwl anfonwyd un George Clover Gibson, deunaw mlwydd oed, clerc yn eu gwasanaeth, i bum mlynedd o benyd wasanaeth. Betio a gam blo fu achos cwymp hwn eto. Y dydd o'r blaen dygodd yr un achos un o dir-feddiannwyr mawr Swydd Hwlffordd i Lys y Methdaliad. Mae y gwifrau trydanol sydd yn cynyddu mor gyflym ar hyd a lied y wlad yn dwyn elfen newydd o berygl i fodolaeth. Pan deflir y gwifrau hyn i'r llawr gan ystormydd o wynt, maent mor beryglns a dinystriol a mellt. Yn ystod ystorm yn New York a Philadelphia dydd Sadwrn, lladdwyd lluaws o bersonau a cheffylau yn y modd hwn. Yn Chicago y mae hen wraig o'r enw Mrs Mack. Yr oedd yn dra awyddus er's tro am gael gwel'd y Coroniad. Cymerodd yn ei phen i ysgrifenu at y Brenin Edward i wneud cais am le i wel'd yr olygfa. Anfonodd ato gan ddweyd ddarfod iddi weled tri choroniad, ac yr hoffai yn fawr gael lle cyfaddas i weled y pedwerydd. Atebodd y Brenin ei llythyr gan ddywedyd y gofalai efe am le iddi. Y mae yr ben wraig am ddyfod yr holl ffordd i'r wyl. Talodd y Brenin ymweliad a Burton dydd Sad- wrn—lie y cyfranogodd o lettygarweh Arglwydd Burton. Tref y Ddiod yw Burton, a phrif weled- igaeth y lle ydyw y mynyddaa o farilau a welir yno yn cael eu llwytho yn ddidor i'r trenau. Yn vr amser gynt yr oedd Burton yn enwog am ei Abbattai, ac attynodd y rheiny un o Frenhinoedd Lloegr i ymweled a'r lie tua'r ddeuddegfed gaiarif- ond erbyn hyn y fath gyfnewidiad. Yn y City Temple, Llundain, dydd Iau, cyfeir- iodd Dr Parker, at helynt y Penrhyn, a dy vedodd os oedd Arglwydd Penrhyn yn gwrtbod rboddi yr yr achos i gyfryngwr, ymddangosai i'w feddwl ef mai efe oedd yn camgymeryd. Yr oedd deg a thriugain o Gor Bethesda yn bresenol, a cbymeras- ant ran yn y gwasanaeth cerddorol. Sylwodd y pregethwr enwog mai piin y gallasai gredu fod y lath gerddorion gwych yn ddynion gwael. Ofna Bangor y bydd yn rhaid iddi golli Coleg y Brifysgol oherwydd fod Arglwydd Penrbyn wedi gwrthod tir ar delerau rhesymol i godi adeilad fel cartref i'r coleg. Ystyria yr awdurdodau fod Arg- lwydd Penrhyn yn gofyn crog-bris, ac mae Cyngor y Ddinas a'r trethdalwyr yn teimlo yn siomedig iawn wrth feddwl fod perygl iddynt golli y coleg oherwydd cyndynrwydd y gwr a fanteisia eisoes fwy na neb arall trwy fod y coleg yn Mangor. Beth sydd ar y dyn tybed ? Yn nghyngbaws Arglwydd Penrhyn yn erbyn Mr W J Parry, hcnir fod yr olaf wedi athrodi'r blaenaf. Ni roddid manylion. Gofynodd Mr Parry am fan- ylion, ond oedwyd hyn hyd oni cheid ei atebion i nifer o ofyniadau. Gwrtbwynebai Mr Parry ateb nes cael y manylion y dibynai Arglwydd Penrhyn arnynt. Gwnaeth y Barnwr Jelf archeb yn caniatau i Arglwydd Penrhyn anfon rbes o holiadau ysgrif- enedig i Mr Parry. Dydd Sadwrn. ceisiodd cyf- reithiwr Mr Parry (Mr Llewelyn Williams, B.C.L.), gan Lys yr Apel am ganiatad i apelio yn erbyn archeb y Barnwr Jelf, ond gwrthodwyd y cais. Bn trychineb galarus yn Rhuddlan dydd Iau. Boreu y dydd hwnw aethai Syr William Glenville Williams (brawd Esgob Bangor). Pengwern Hall, i'r orsaf, er myned gyda'r tren. Hebryngid ef gan ei ddwy ferch fecban,-Megan Louisa, lleg oed, ac Olwen Harriet, 8 oed, a'u governess (Miss Garrett), 41ain oed. Wedi i'r tren ymadaw rhedasant ar eu bunion i litbro ar bwU dwfn ger orsaf y rheilffordd. Torodd yr ia yn y man a syrthiasant i'r dyfnder. Rhutbrodd Miss Garrett i'r dwr ar eu hoi er ceisio eu hachub, ond yn ofer. Bu y tair foddi mewn byr amser, a llnsgwyd. y cyrph i'r lan yn mhen tua tri chwarter awr wedi iddynt ffarwelio yn iach a'u tad. Beirniadodd Mr Gibson Bowles, yr aelod Toriaidd dros Lynn, rolu newyddion y Senedd yn llym. Am hyny, beirniadodd papyrau newyddion y dref yntau llym. IVeitbian, y mae yntau wedi ysgrifenu i ddweyd na fyn ef mo'i" ddychryn gan greaduriaid unrhyw gymdeithas yn Llundain sy'n cymeryd arni ei hun ddweyd wrth aelodau Seneddol beth y dyl- ent ei wneud." Dywed Mr Bowles mai Tori pur, dilwgr ydyw, ac er i'w etholaeth ei alw i gyfrif am ei ymddygiad yn y Senedd, pasiodd bleidlais o ym- ddiriedaeth ynddo ar ol cael y fath eglurbad. Ni chosbir am werthu margarine," ond fe gosbir am werthu margarine fel ymenyn. Beth yw profiad Ceredigion ? Bu y Parch W 0 Jones yn pregethu yn y Guild Hall, Caernarfon, ddydd Sul. Wythnos yn flaenorol achosodd ei ymweliad gryn lawer o ymddyddan. Cynulliad cymharol fycban ddaeth yn nghyd i'r oedfa ddeg o'r gloch, ond erbyn y prydnawn yr oedd y neuadd yn llenwi yn dda. Ar ol oedfa y prydnawn, cafwyd cynnadledd, pryd yr arhosodd nifer dda ar ol. Yn oedfa yr hwyr, yr oedd yr ad- eilad yn orlawn, a llawer yn gorfod dycbwelyd adref, wedi methu cael lie. Cyhoeddwyd cyfarfod eglwysig ar ol, pryd yr arhosodd yn nghyd rhwng dau a thri chant. Ni sefydlwyd cangen o'r Eglwys Rydd yn ffurfiol, ond deallir fod hyny yn awr yn debyg o gael ei wneud. Yn niwedd ei bregeth yn Nghapel Annibynol Deganwy-st,reet, Llandudno.nos Sul, gsvrthdystiodd y Parch A Penrv Evans, y gweinidog, yn erbyn gwaith y Brenin Iorwerth a'r Frenhines Alexandra, yn myned i gyngherdd yn Llundain, y Sul o'r blaen, ac wedi hyny i weled "art gallery." Ystyriai eu gwaith yn waradwydd i Gristtionogaetli y wlad, a i goffadwriaeth y Frenhines Victoria, llwybrau yr hon yr addawodd y Breuin eu dilyn. Yr oedd eu gwaitb yn cefnogi dygiad i mewn i'r wlad hon y Continental Sunday" yn hollol ddiraddiol. Ddoe (dydd Sadwrn), bu ei Fawrhydi yn ymweled a dar- llawdai Burton, a phe gallai wneud hyny yn fan- teisiol, gwnelai hyny, fe dybiai, ar y Sul. Galwai ar holl grefyddwyr y wlad i wrtbdystio yn erbyn y fath ymddygiad o eiddo y Brenhin a'r Frenhines. Mae glanau Mor y Canoldir yn Ewrop yn cael eu cythryblu yn ofnadwy y dyddiau hyn gan gynhyrf- iadau mawrion yn mlilith y dosparth gweithiol. Trieste yn Awstria, a Barcelona yn yr Yspaen ydynt y ddwy ffwrn sydd yn berwi dros en hymylon. Mae wedi bod yn amser difrifol yn y ddau le yma ond mae arwyddion y bydd i dawelwch deyrnasu eto cyn bo hir. Dechreuodd streic fawr yn Barcel- ona, yn Spaen, ddechreu yr wythnos ddiweddaf. Ymledodd yn gyflym, ac mae masnach wedi sefyll a bywyd y dref wedi ei barlysu'n lan. Hysbysid fod y streicwyr wedi gwneud amryw weitbredoedd anfad. Galwyd y milwyr allan a lladdwyd llawer. Yn Barcelona mae bwydydd yn dechreu myned yn brin. Mae y gyfraith filwrol wedi ei chyboeddi. Ddydd Sadwrn, yr oedd petbau yn ddistawach, ond y mae'r streiewyr yn dal i gynhyrfu, ac y mae can- lyniadau difrifol i'r hyn y maent yn ei wneud. Ymddengys fod sail i'r mynegiad mai Anarchiaid yw y rbai sydd yn creu y twrw. Cymerwyd medd- iant o bapyrau yn dangos cymundeb rhwng An- archiaid yn Spaen ac yn Llundain. Y mae yn amlwg (medd yr Herald Gymraeg") fod symudiad pwysig ar gymeryd lie yn nglyn a'r fasnach lechi yn Ngogledd Cymru. Y mae prisiau yn barod wedi codi, a chredir yr ant yn uwcb yn fuan, oherwydd yr anbawsder a deimlir mewn cyf- lenwi y fasnach. Y mae rhai gweithwyr yn stocio yn barod, am eu bod yn ofni y bydd yn anbawdd cael llechi yn fuan. Fel mater o ffaith, y mae llai o lechi wedi eu gwneud eleni nag a wnaed o fewny cyfnod cyferbyniol y llynedd, a dylid cofio fod Chwarel y Penrbyn yn gweithio eleni. Teimla gweithwyr Ffestiniog, a rifant tua 6000, yn bur an- foddog ar hyn o bryd, ac y mae yn amlwg fod sym- udiad cryf yn eu plith am well cyflogau. Daliant fod y prisiau a geir yn awr am lechau yn ddigon uchel i'w cyfiawnhau i ofyn am ragor o gyflog, a chwynant nad ydyw'r cyflogau presenol yn ddigon i'w galluogi i fyw yn gyfforddus. Ofnir y gall rhwyg dori allan ar y mater yma ac mae arwein- wyr Undeb y Chwarelwyr yn gwneud eu goreu i ddarbwyllo y chwarelwyr yn Ffestiniog i beidio gwneud unrhyw beth y bydd yn edifar ganddynt am dano yn ol llaw. Tu allan i fater y cyflogau, y mae cysylltiad y gweithwyr a'r meistri yn sir Feirionydd yn gyfeillgar. Rheswm arall a roddir am yr ychydlg lechau geir yn y farchnad ydyw y ffaith fod y dadforiad o'r America bron wedi ei atal. Y mis nesaf, bydd lluaws o chwarelwyr o Ddyffryn Nantlle ac o Ffestiniog yn ymadael o'r wlad yma am Newfoundland a'r Unol Dalaethau, lie y mae gaJwad mawr am weithwyr, a lie y telir i cbwarelwyrprofiadolo ddwyddolera haner (tua 10s) y dydd i fyny. MARW Bu y Parch Dr John Hughes, GLANYSTWYTH gweinid°S enw°g Y Wesleyaid LRLAN YSTWYTH.^ FFLRW YQ ,JYNOD G/DYN o'r gloch nos Lun yn Bangor. Yr oedd newydd ddychwelyd o fod yn gwrandaw pregeth, a bu farw yn ei gadair heb yngan gair. Genedigol ydoedd o Cnwch Coch. ger Aberystwyth, lie ei ganed tua 56ain mlynedd yn ol. Bu yn y weinidogaeth am dros 35 mlynedd, a chyrhaeddodd safle yn ail i neb yn ei enwad. Yr oedd yn llenor gwych, ac mae llawer na'i gwelodd nas clywodd erioed yn gynefin ag enw a gwaith Glanystwyth." Yr oedd yn bre- gethwr cymeradwy, yn ysgrifenwr llithrig, ac yn ysgolhaig clasurol; a cholled i genedl i'w ei golli ef. ERGYD Nid pawb fedr ddifynu gwirion- EFFEITHIOL. £ DDAU YR Ysgrythyr bob amser i bwrpas a chyda dylanwad; ond llwyddodd aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid Aber- ystwyth wneud hyn yn dra rhagorol dydd Llun di- weddaf. Aeth yn ddadleu cyndyn rhwng Mr Tom: Salmon, Terminus Hotel, a'i gydaelodau. Ymres-1 yment, ymgecrent; ond er yr boll ddadleu ni ildiai, ac ni chydsyniai Mr Salmon ac ni wnai dim a ddywedai ei wrthwynebwyr ei gymodi. Ar hyn, cyfododd "gwr bach o'r mynydd yn mherson Mr Thomas James, y Llwyn, ar ei draed, ac wrth weled mor ofer fu Hafur ei frodyr ar Mr Salmon, trodd arno gan ddywedyd Er i ti bwyo ffol mewn morter it phestl yn mhlith gwenith; eto nid ymedy ei ffolineb fig ef." Syrtbiodd y geiriau fel gordd o enau y "dyn bach o ganol y mynydd," a bu eu dyfyniad parablus a phwrpasol yn ddiweddglo teg i ddadl Ile y bu ymresymu yn ofer. GWRTHGILIAD GW R thgi li adA ^wjd d Ros ebery ROSEBERY. OD.D/R'1IYB1^LDSY<^F7JDLOG^DYW pnf destyn y dydd. Dydd Sadwrn ymddangosodd llythyr ysgar oddiwrth Rosebery yn y "Times," yn mha un y dywedir yn bendant a therfynol ei fod yn anghytuno a Syr Henry Camp- bell Bannerman ar rai o brif bvnciau v dvdiL Ofnid er's tro nad oedd Roaebery yn iach yn y ffydd Ryddfrydol; ac nid oedd ei waith yn myned ar hyd a lied y wlad i draethu ei len yn rhoddi unrhyw gynorthwy i'w Blaid; ond yn hytrach difyrwch a cbalondid nid bychan i'r Jingoes. Gofidiai pob gwir Ryddfrydwr weled Rosebery megys yn ceisio disodli Bannerman mewn araeth ar ol araeth. O'r diwedd credai llawer mai teg fuasai cael gwybod b'le yr oedd ei Arglwyddiaeth yn sefyU, a gofynodd Bannerman iddo, yn y Gynnadledd Ryddfrydig, yn Leicester, ai siarad tu fewn ynteu tu allan i'r tabernacl Rhyddfrydol ydoedd. Caed atebiad buan a byrbwyll. Anfonwyd yr ateb, nid i Camp- bell Bannerman, arweinydd etholedig y Blaid; nac i Herbert Gladstone, y Chwip; nac i gefnogwyr Seneddol Rosebery; nac i newyddiadur Rhydd- frydol-eithr i'r Times," archregwr Rhyddfryd- iaeth. Y mae yn eglur fod Arglwydd Rosebery yn fwy o Undebwr ar fater y Rhyfel, cwestiynau Ym- herodrol ac Ymreolaeth Wyddelig nag ydyw o Ryddfrydwr. Myn rhai ei fod wedi bwrw dadgys- ylltiad Cymru hefyd dros y bwrdd. Ond canys beth am hyny y mae yn eglur fod chwibanu Rose- bery ar lawer pwnc sydd yn agos at galon Rhydd- frydwr wedi peri i'r Toriaid ddawnsio. Blin yw meddwl fod gwr o atbrylith Rosebery wedi cefnu nid ar ei Blaid ond ar egwyddorion ei Blaid.— Ephraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo." KRIT- ^ae cryf achynyddol yn ffynu ZINGER. ynnyPf%rna8T|)art'h^ Kritzinger, y Cadfndog Boeraidd a syrthiodd l law y Prydeiniaid o dan amgylchiad tra hynod. Ymddengys i Kritzinger ddyfod yn gar- charor trwy geisio cynorthwyo Boer clwyfedig oedd wedi syrthio ger un o'r gwyldai (blockhouses). Pan welodd y Cadfridog y milwr yn gorwedd dan ei glwyfau ac yn anallnog i symud, yn lie dianc ei hun anturiodd Kritzinger i'w gyn- orthwyo, a thra yr oedd yn helpu ei gydwladwr saethwyd arno o un o'r gwyldai cyfagos. Anafwyd ef fel nas gallasai ddianc ei hun, a cbymerwyd ef yn garcharor. Rhoddir ef i sefyll ei brawf ger bron y Llys Milwrol (Court Martial), ac mae y drychfeddwl y bydd iddo gael ei ddedfrydu i far- wolaeth—ar ol ei ddal o dan y fath amgylchiadau —wedi gyru las o arswyd trwy bawb sydd yn caru tegwch a chyfiawnder yn holl wledydd cred. Mae llawer sydd yn bleidiol i'rrhyfel yn cymeryd ei'ran; mae apel wedi ei gwneud erddo yn y Senedd; a nawn Sadwrn pellebrwyd deiseb o gyfarfod cy- hoeddus yn Exeter Hall, Llundain, at y Brenin-yr hwn oedd ar y pryd yn Burton—yn taer eiriol ar ei ran, ac yn erfyn arno wneud defnydd o'i freiniol fraint trwy ymyryd yn yr achos er mwyn dynol- iaeth a dyfodol Deheu Affrig. Barn llawer o wyr cyhoeddus blaenaf y Deyrnas yw os rhoddir Krit- zinger i farwolaeth y bydd i lid gelynion ein gwlad trwy'r byd gwareiddiedig gael ei enyn yn fil gwaeth ac y bydd yr anghydfod rhwng Boer a Britwn mor anfarwol a'r coffa am dynged warad- wyddns y gwron—oherwydd mae pawb yn eyd- nabod fod Kritzinger wedi cyflawni gwrhydri mawr un a eniHasai iddo y Victoria Cross pe buasai yn filwr Prydeinig.

Y Senedd. j

Y RHYFEL YN AFFRICA.

LLANDDEWI BREFI.

MACHYNLLETH.

ITEMS OF INTEREST.

- THE MARKETS. .

Family Notices

Advertising