Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CAN HANESYDDOL.

News
Cite
Share

CAN HANESYDDOL. SEF ADGOFION HYNAFGWR AM HEN YSGOLDY LLANFIHANGEL- GENEU'R-GLYN. (A ddarllennyydgan yr awdier ar achlymtr darlith Philip Sidney" yn yr hen adoilad, Imurnr 10fed, 1992). Rwy'n teimlo chwant i ganu'n uchel I 11 I hen ysgoldy Llanfihangel; j Fe godwyd llu o feibion ynddi j Sydd yn addurn mawr i Gymru. Bu y gweithgar Ficer Evans Yn Ilafurio ym* i hwrpu, Trwy godi ysgoldy i'r plwyfolion, Am hyn diolchwn oil o galon. Mae naw deg a phump o flwyddi Er pan godwyd yr ysgoldy, Ond yn awr mae'n dra gwahanol Fe gynhwysa fwy o bobol.* Bu'n parchus Ficer a'r ddau Churchwarden 1 Wrth y gwaith heb fawr o hamdden, Yn cynllunio lie cvsurus I'r plwyfolion yn ddiorphwys. A'r holl aelodau heb eu henwi J Fu'n ddiwyd iawn yn ceisio helpu I Cael y defnyddiau tuag atti, i Er cael cysurus lie i ddysgu. j Fe wnaeth John Davies, Lerry View, Y gwaith rwy'n credu'n eithaf true; Ca'dd gerrig campus lawr o'r Hafan, Hwy heriant 'stormydd mawr o bob-man. Bu yma lawer o athrawon, Rhai yn llym, a rhai yn dirion, Yn addysgu'r bechgyn yma, I'w cymhwyso i'r Athrofa. David Morgan oedd y cynta' Fu yn athraw'r ysgol yma, Hanai ef o deulu cadarn, Sef yr enwog Osborn Morgan. Bum yn y fynwent hon yn chwilio Am fedd John Jones oedd o Langeitho, Bu'n athraw ffyddlon iawn a mwvnaidd, Yn Llanfihangel am bum' mlynedd. John Jones eto o Lanlerry, A fu'n athraw yma ynddi, Ond aeth ymaith yn lied sydvn I Langeitho mewn rhyw flwyddyn. Hugh Hughes eto fu yn athraw, Yn yr ysgol am rhyw amser Cyn ei wnoyd yn gymwys ficer Ac yn Ganon Eglwys Loegr. John Jones etc ar ol hyny, A fu yma yn addysgu, Ond rhyw flwyddyn fu ei arhosfa Ac ymaith 'raoth ef i'r Athrofa. Ar ol hyny bu yn uchel Fel Ficer parchus Llanfihangel, A'i fuchedd oedd yn ddiargyhoedd Am saith-ar-hugain o flynyddoedd. Thomas Davies, gynt o Elgar, A fu yma'n athraw dengar Am chwe' mlynedd yn llwyidianus Fel y dywed rhai oedranus. Codwyd llawer o offeiriaid Ganddo ef tra buodd yma, • Bu'r Prysiaid yma o Brynbwl, Yn dysgu'n ddiwyd yn ei School. A'r Samueliaid o Llwyngronw Oedd yn cerdded yma'n hoew, A bechgyn Evans, Cwrigcaranau A ddysgent yma hwyr a boreu. Bu John Lewis o Llwyngwernog, Yma'n athraw tra galluog, Ond aeth yn gurad i Fachynlleth Gan ein gadael mewn mawr liir'eth. Bu yma hefyd wr diragfarn, Sef Isaac Jones o Lanychaiarn, 'R oedd yn ysgolhaig tra uehel, Ond nid hir bu yn Llanfihangel. David Morgan o Benrhyncoch, Fu yma'n athraw diwyd ynddi, Am dano d'wedwyd wrthwv'n dd'weddar, "He struck tremendous with the ruler." Edward Evan Jones yw'r nesa' Ei gartref ydoedd yn Brynbala] Nid hir y buodd yntau yma Cyn myn'd ymaith i'r Athrofa. James Evans ddaeth o Gerrigcaranau, Ac Evan Hughes ar ei ol yntau, In dysgu'r plant i ysgrifenu, Darllen hefyd a rhifyddu. Ac William Jones ddaeth o Bryngoleu, Fu yma'n athraw 'n gwneyd ei oreu, Yr oedd yn addfwyn ac yn dyner, A dysgai'r ie'nctyd gyda phleser. William Herbert oedd y nesa' Fu yn athraw'r ysgol yma, A bu'n llafurio a dichlynaidd, Am oddeutu deuddeg mlynedd. Bu yma'n glochydd am flynyddoedd, A gwnaeth ei swydd yn ddiargyhoedd, Ac er ei fod ef wedi tewi, Y mae ei enw'n perarogli. Bu David Jones o Llancynfelyn, Yma'n dysgu Groeg a Lladin, A rhoddodd engraifft hynod i'ni, Fel y gwelwch yn y "Cymru." A Lewis Edwards o Bwllcenawon, Fu'n cerdded yma yn bur gyson, Er ei gymhwyso ef fan yma, 'N Ddoctor Edwards mawr o'r Bala. A Robert Roberts o Langeitho, A fu yma yn astudio, Ac fe ddywed yr hen bobol, Mai ef oedd dysgwr pena'r ysgol. A William James oedd o Tynrhos, Fu'n dysgu yma o fore hyd nos, Ac enillodd deitl uchel Trwy hen ysgol Llapfihangel. Adams, Felix, a Cheulanydd, t Fu'n dod yma gyda'u gilydd, Ac esgyn wnaethant yn bur uchel Trwy hen ysgol LlanfihangeL Bu Llanfihangel ac Ystradmeurig, Yn cystadlu'n bu'r ddeheuig, Fe dd'wedir wrthym gan 'rhen bobol Mai Llanfihangel drodd y fantol. Boed hon mewn henaint yn myned rhagddi Mewh addysg dda, ac yn ffrwythloni, A llawer iawn yn dweyd yn uchel Am hen ysgol Llanfihangel. *Cyfeiriad at helaethiad a wnaed yn ddiweddar yn r hen adeilad. tTri o fechgyn Talybont.

The Richest Coalfield in England.

Advertising

---Railway men's Dinner. --

I* IPrevention of Cruelty…

.-.. ....... North Cardigan…

PONTERWYD.

Cross Inn, ger Ceinewydd.

[No title]