Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

U * _LJ JI.JI..E ■» '— " YR…

News
Cite
Share

U _LJ JI.JI..E ■» — YR WYTHNOS. Bu farw hen foneddiges arianog yn Paris y dydd o'r blaen, yr hon a adawodd 12p yn y llwyddyn, yn ei hewyllys, at gynhaliaeth ei chath, a 4p yn y flwyddyn i feddyg anifeiliaid am weini arni. Swyddog yn myddin yr Alrsaen a wnaeth wystl (bet) y dydd o'r blaen, i yfed llonaid costrel o frandi. Gwnaeth hyny, ond, bu raid i'w gymdeith- ion ei gario adref, a'i ddodi yn ei wely. Ond, angofiasant agor coler dyn ei got, a'r canlyniad fa iddo gael ei fygu i farwolaeth. Yn v dyddiau presenol anfonir amryw longau gorlwythog o bytatw o Belgium i Unol Dalaetbua yr America. Ni bu cymaint o fasnach yn y nwydd- au byn yn cael ei gwneud erioed nag a wneir yn awr. Amcana Seth Low a'i gytf-swyddogion arbed <3eng miliwn o ddoleri i ddinas New York yn mlwyddyn gyntaf y faeroliaeth newydd, trwy ddi- a rddel gweithwyr afreidiol, gostwng cyflogau, gosod cytundebau allan mewn cyd-ymgais, a di- rymu cytundebau anonest. Dywed Mr Asquith mai y wladweiniaeth a am- linellwyd gan Arglwydd Rosebery yn Chesterfield ydyw yr unig sylfaen ar ba un y gellir uno y blaid Ryddfrydig yn effeithiol, ac mai y cwestiwn mawr vn awr vdoedd-a oeddvnt yn myned i ymuno ar y wladly wiaeth hono 2 Y mae achos gweithwyr Chwarel y Penrbyn i gael ei ddwyn o flaen Ty y Cyffredin. Yn y cyfar- fod o Gymdeitbas Ryddfrydig Arfon. a gynaliwyd yn ddiweddar penderfynwyd gwneud hyn. Bydd yr acbos yn eithaf diogel yn Haw Mr William Jones, A.S. Yn mrawdlys Bangor yr wythnos ddiweddaf tra- ddodwyd un David Roberts i frawdlys nesaf Caer- narfon ar y cyhuddiad o fod yn terfysgu yn Beth- <esda. Cyhuddid un o'r heddgeidwaid o ymosod, hefyd ond, metbodd yr ynadon a cbytuno ar ddim ynglyn ag ef ac felly, cafodd y cyhuddiad ei daflu allan. Cynbaliwyd cyfarfodydd blynyddol Capel Jewin, Llundain, y Sabboth diweddaf, pryd y gwasanaeth- pwyd gan yr Hybarch Evan Phillips, Castel'- newydd Emlyn, a Griffith Ellis, M.A., Bootle. Y mae Mr T H W Idris (o Gorris gynt), wedi myned am fordaith o amgylcb Aifrica. Ar ol ym- weled y Deheudir Affrica, daw yn ol drwy yr Aifft a thros gyfandir Ewrop. Mae y frech wen yn lledaenu yn gyflym yn Llun- dain, a rhifai y dioddefwyr oddiwrth yr haint tua mil ar y Sabbath diweddaf. Mac tua haner cant hefyd yn dioddef oddiwrtbo yn yr ysbyttai yn Glasgow, a daw adroddiadau fod y clefyd wedi cyrhaedd amryw barthau o'r wlad, ac fod yr Awdurdodau iecbydol ar eu gwyliadwraeth. Bu tan mawr yn Nottingham nos Sadwrn a gwoaed colled o tua iE25 trwy i felinau gwlan gael eu dinystrio. Adroddir fod daeargryn wedi cymeryd lie yn ddiweddar yn Mexico, ac fod 300 o bersonau wedi eu lladd. Nid oes diwedd ar y marwolaethau achosir trwy larapau paraffin, Syrthiodd lamp a grogai mewn cegin yn Plaiston dydd Sadwrn a bu yn achos mar- wolaeth tri yn y man a'r lie ac mae dau arall yn beryglus o wael. Yr un dydd mewn bwthyn yn Kirkmichael caed gwr a gwraig-66 a 64 mlwydd oed-yn farw ar y llawr o effeithiau lamp a syrth- iasau. Yr oedd y gwr wedi bod yn analluog am saith mlynedd. Lladdwyd 60 ac anafwyd 100 o bersonau trwy ffrwydriad boiler mewn ffactri yn Barcelona, Ys- paen. Dinystriwyd haner y pentref. Boddodd plentyn deuddeg oed dan amgylchiad- au hynod ger Haslingden dydd badwrn, ac mae llanc 14 oed yn y ddalfa ar ddrwgdybiaeth o fod yn achos o'i farwolaeth. Priodwyd yr Anrhydeddus Ina Douglas Pennant, merch Arglwydd Penrhyn, a'r Milwriad Arthur Sandbach, mab y diweddar Mr H P jSandbaoh, Hafod Unot-, Llangerniw, yn Llundain, yr wythnos ddiweddaf. Am saith mlynedd a thrigain y bu hen wr a fu farw yn Bradford a dydd o'r b'aen yn dilyn creff t gwebydd. Yn ddeng mlwydd oed dysgodd waith llaw, a gwaitbllaw y bu yn ei wneud ar hyd ei oes. Ni ddysgodd weithio gyda gwehyddiony peiriant erioed. Bu yn gweithio i'r diweddar frenhines Victoria. Coronir Brenin Spaen yn Mai. Un ar bymthcg oed fydd efe y pryd hwnw Ar ei ddychweliad adref o'r America cafodd Mabon groesaw mawr iawn gan lowyr Cwm Rhondda. Am aros un mlynedd ar bymtheg yn ei eglwys. anrhydeddwyd y Parch Silyn Evans, Aberd ir, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a rhoddion lawer. Dywed Canghellydd y Trysorlys na bydd iddo godi ycbwaneg o doll ar y glo eleni. Yr ydys wedi cytuno i godi cofadail y diweddar Mr T E Ellis, A.S., yn y brif beol ar lawnt Plasyn- dre, y Bala. Y mae angen 250p eto at y gwaitb. Cwympodd dynes i waelod y pydew yn ei gardd yn Lupton yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd y cwymp yn 100 tioedfedd, eto diangodd rbag mar- wolaeth. Agorwyd Brawdlysoedd Siroedd Aberteifi a Meirion yr wythnos ddiweddaf. Nid oedd yr un carcharor i'w brofi yn y naill na'r llall. Yn Mrawdlys Aberteifi yn Llanbedr dydd Sadwrn gal- wyd allan enw amaethwr o ardal Langranog i fod ar y" jury" ac yntau wedi marw er's tua dwy flyneddl Esgeulustra pwy y w hyn 1 Archesgob York sydd i goroni y Frenhines a pre- lad o Canterbury a rydd y goron ar ben y Brenin. Ar ol bod yn ddistaw am haner can' mlynedd bwriedir canu clychau Eglwys Gadeiriol Peter- borough ar Wyl y Coroni. Y mae trefnu prysur yn Llundain at Wyl y Cor- oniad. Gesyd aelodau o'r bendefigaeth.offeiriaid, ac hyd yn nod tai cychod eu hanedd au yn dai llety i ymwelwyr tramor. Bu farw un Miss Mary Stewart, o Ysgotland, yn 109. Gwelodd bump o bcnal- uriaid lar Orsedd Lloegr. Nis gallai air o Saesneg-dim ond hen iaith frodorol yr Ysgottir. Y Parch W Williams, boneddwr a fagwyd gyda'r Metbodistiaid yn Ngbymru yw Llywydd Und,b Bedyddwyr Llundain eleni. "John Ploughman Talk fu offeryn ei dro at y Bedyddwyr. Talwyd 600p i Charles Lillywhite am y cam a wnaed ag ef drwy ei ddwyn i Lundain o New Zealand ar y dybiaeth ei fod yn euog o ladd mas- nachydd yn Colchester. Profodd y dyn ei ddieu- Ogrwydd o flaen yr ynadon, ac ni fu prawf arno. Tra yr oedd boneddiges gyda gwddfdorch blewog hir am ei gwddf yn cerdded trwy un o heolydd Paris yr wythnos ddiweddaf, chwytbodd y gwynt ddarn hir o'r dorch (boa) ac aeth rhwng ysgyll ol- wyn cerbyd a redai heibio. Tynwyd hithau ar ei ol, a chwympodd ar ei gwyneb. Torodd asgwrn ei gen a'i braich. Y mae pobl Blackpool wedi cydio o ddifrif yn mhwnc y morwynion sydd yn eu blino gymaint. Sefydlir Llys Cofrestriad Canolog gydag enwau holl wasanaethyddion y dref. Os gedy morwyn ei lie o dan amgylchiadau anffafriol, dodir ei henw ar y rhestr ddu" a gwrthodir lie iddi yn y dref. Credir y bydd i'r mudiad wneud lies i feistresi a morwynion. Amser a ddengys. Y mae y Cadfridog Booth yn hynod anffodns yn ei blant. Dro yn ol torodd ei ail fab-Mr Balling- ton Booth-ei gysylltiad a'r fyddin yn America, a sefydlodd fyddin o'r eiddo ei bun. Yn awr cy- hoeddir fod Mrs Booth Clibborn, ei ferch hynaf, a'i gwr, wedi troi cefn ar yr hynafgwr a Byddin yr lachawdwriaeth, ac ymuno a Dr Dowie (" Elias yr Ail,") o'r America, am yr hwn yr ydym wedi son yn barod. Y mae y Cadfridog yn 72, ac yn teimlo yn erwin oddiwrth yr ymadawiad. Aeth pob ym- gais i aduno barn y pleidiau yn ofer; eto ymwahan- asant yn gyfeillgar. Bu digwyddiad hynod yn Belfast foreu Llun. Syrthiodd melin fawr gwaith llin i'r llawr gan ladd tua deuddeg ac anafu tua haner cant o bobl. Yr oedd yr adeilad bedair ystafell o uchder, a'r hyn sy'n hynod yw i'w holl furiau syrthio i mewn yr un pryd gan gladdu a dinystrio yr boll beirianau. Tua deuddeg o'r gloch nos Lun torodd tan allan mewnsiop yn Heol y Felin,Aberystwyth (perthvnoli Llewelyn T Jones, teiliwr, mab i Jones, o New Cross). Yr oedd y tAn wedi cymeryd gafael tra llwyr cyn ei gwelwyd gyntaf, ac ni fu ond ys- Daid bvr cvn taenu dros yr boll adeilad a'r un nesaf itto. Llosgwyd y ddau yn llwyr, a gwnaed un arall yn dra diwerth. Diangfa gyfyng gadd Ffoulkes (y barber) a'i wraig a'u tri plentyn. Oni bai am ymddangosiad buan ac yni y Fire Brigade buasai y tAn wedi taenii dros yr holl g-ymydogaeth a gwneyd dinystr mawr. Eiddo Mr T W Powell grocer, oedd y tai a losgwyd. Ni faidd y "Milwriad"Lynch, yr A.S. dros Gal- way, roddi ei droed ar heolydd Llundain, oblegyd y mae gwarant allan i'w ddal am deyrnfradwriaeth. Bu yn ymladd o blaid y Boeriaid. Dywed gobeb- ydd y mynegid yn mhorth (Lobby) y Senedd nos Wener, gan yr Aelodau Gwyddelig fod Mr Arthur Lynch yn benderfynol o roddi ei bresenoldeb yn Westminster i gymeryd ei sedd yn y Ty. Ei brif ddymuniad ydyw ysgoi cael ei gymeryd i'r ddalfa cyn cyrhaedd Ty y Cyffredin, gan y byddai i hyny lwyr ddifetha yr arddangosiad a fwriedir ei wneud ar yr achlysur o'i gyrhaeddiad i Sant Stephan. Deallir fod Mr Lynch yn barod i brofi ei fod wedi gweithredu tra yn y Transvaal yn unig fel goheb- ydd Mewyddiadur, ac na f u o gwbl yn aelod o Fydd- in y Boeriaid. Trwy fwyafrif o un y mae eglwys y Bedyddwyr, Birkenhead, wedi penderfynu dadpys/lltu ei hunan 4oddiwrth Undeb yr Eglwys Rbyddion. j I Nos Sadwrn diweddaf brawychwyd tref Am- lwch gan y newydd fod mab wedi lladd ei dad yno drwy ei bwyo a phrocer. Boreu Llun, dygwyd Evan Williams, labrwr, o Amlwch, i fyny yn nglyn a llofruddiad bonedig George Williams, ei dad, rhwng 60 a 70 mlwydd oed. Ymddengys y trigai y carcharor, yr hen wr a gollodd ei fywyd, ei wraig, dau fab, heblaw y carcharor, a. merch yn nghyt- raith yn yr un ty. Galwyd ar Elizabeth Williams, y ferch ynnghyfraith, a thystiodd hi fod y carcb- ai-or wedi dyfod i mewn i'r ty, y noson hono, a1 ef a'i dad wedi dechreu cweryla. Dywedodd 1 U Owen Roberts fod y carcharor wedi d weyd wrt)»). tra yr oedd yn ei wylio, Waeth i mi ddweyd y gwir. Tarawodd fy nhad i yn fy mhen, ac yna tarewais inau vntau yn ei ben. Acth allan gyda'r i gwaed yn llifo. Nid oeddwn yn bwriadn ei ladd." Tvstiodrl v Rhinfvll Williams iddo gael hyd i gorff ytrancedig yn gorwedd arganol yr beol, heb fod, yn mheJl o'i dy. Gadawodd y corfi, ac aeth i'r ty. Cafodd ei wraig yn y gwely. Gofynodd iddi a wyddai fod ei gwr yn gorwedd yn farw yn yr beol. Dywedodd hithau y gwyddai, a'i fod wedi bod yn wr creulon, ac fod ei enaid yn uffern." Daeth y rhingjll a'r corph i'r ty,yn erbyn ewyllys y wraig, Pan gymerwyd y carcharor i'r ddalfa. dywedodd nad oedd wedi cyffwrdd a'i dad. Cynierodd y tystjy carcharor i'r ddalfa ar yr ambeuaeth o fod wedi achosi marwolaeth ei dad. Gofynodd y rhingyil am ohiriad hyd ddydd Mawrth nesaf, a ,y chaniatawyd hyn gan yr ynadon. Yn y cyfarfod mawr nos Sadwrn yn Betbesda, bysbyswyd fod wyth o ddynion wedi gadael y nknTni.^1 .¡ rl/lnn fifl r!iWPr!r!Af A fod riiai ^liVYaiCI JU J51UU J UUCIU — ereill wedi datgan eu bwriad i ddod allan yr wyth-, nos nesaf. Yn gynar fore Llun diweddaf aeth y son av e(] trwy ardal Pontypridd fod ffrwydriarl arall wedi cymeryd lie yn nglofa'r "Universal Co," Senghen" ydd. Nid aeth glowyr Coed cae at eu gwaith onf* gwylltiasant dros y mynydd tua'r lie. Caed allall yn h wyrach nad oedd un sail i'r banes, a'r canlyr ill Ii fu i 1800 o ddynion wastraffu diwrnod gan beri colled fawr i'r Cwmni. Dywedir fod v Parch W 0 Jones, Lerpwl, yn dwyncynghaws am enllib yn erbyn y Parch T Gwynedd Roberts, Conwy. Anfonwyd y wys iddo, meddir, yr wythnos ddiweddaf, acy mae un o fargyfreithwyr galluocaf y Gylchdaith Ogleddol wedi ei gyflogi i erfyn. Gweinyddai Mr Roberts ar Bwyllgor y Gymdeitbasfa fu'n chwilio i'r acbos cyifrous yr haf diweddaf a phan ddelo dydd y prawf, diau y ceir datguddiad clir ar lawer o r helynt. Dadleua nifer o Ryddfrj'dwyr(Manceinion o blaid sefydlu Gwyl Goffa Gladstone. Ceireu llith mewn colofn arall. Drylliwydyllong Brydeinig Lagos ar dwr o greigiau ger Madeira foreu Sul. Achubwyd y dwylaw a'r teithwyr. Mae eglwys Wilton Square, Llundain, wedi! gwahodd Mr Gwilym H Hafard, Coleg Bala, i'w J bugeilio. Lladdwyd dau ddyn o'r enwau Lloyd a Batter- ton, yn Nglofa Onllwyn, Castellnedd, yr wythnos ddiweddaf, drwy i nifer o wageni llwythog redeg drostynt. Hysbysodd Cadeirydd Bwrdd Ysgol Aberdaron nos Lun, fod y trethdalwyr yn derbyn colled o. dros ugain punt yn flynyddol o achos anghysondeb plant yn yr ysgolion. Mae He i gwyno o herwydd hyn ruewn llu o leoedd ereill. Bu Syr Ellis Ashmead Bartlett, A.S., farw ddydd Sadwrn. Bu'n aelod dres ranbarth Eyeo 1810 hyd 1885, ac o hyny hyd yn awr bu'n aelod dros ran- barth Eccleshall o Sheffield. Yr oedd yn gyfaill mawr i Sultan Twrci, ac am ei gefnogoeth iddo rhoddodd y teyrn bwnwiddo y teitl Silomo." Gorphenwyd prawf Dr Krause, swyddoj > ler- aidd yn Johannesburg gynt, dydd Sadwrn. vaed ef yn euog o geisio annog Broeksma, dyn a ddien- yddwyd dro yn ol, i ladd gwr o'r enw Forster, a dedfrydwyd ef i ddwy flynedd o garchariad. Mae gan Dr Krause le i ymfalchio mai yn y wlad bon ac nid yn Neheu Affrig y cymerodd ei brawf le. Bu Lady Puleston, priod Syr John Puleston, farw yn ei chartref, yn Whitehall Court, Llundain, nos Lun. Cyrhaeddodd dyn, tua 40 mlwydd oed, i South- I ompton y dydd o'r blaen, yr hwn a bona iddo enill cynghwystl (wager) o 10,000p trwy gerdded o aoi- gylch y byd. Ei enw ydyw Mr Beresford Great- head, a dywed ef ei fod yn byw yn Winnipeg, Canada, pan yr awgrymwyd y meddylddrych am y daith wrtho ef. Yr oedd dau o glybiau yn Van- couver ynamheu pa un a allai dyn gerdded o am- gy leb y byd mewn pum' mlynedd, gan gycbwyn heb arian na chludgelfi, a dewisiwyd Mr Grf at- head i wneud yr ymgais. Cychwynodd yn Awst, 1895, a rhoddwyd iddo gludiad rhad i fyned i Lerpwl, cerddodd i Lundain, a rhoddwyd tocyn iddo i fyned i Ostend. Cychwynodd o Ostend ar daith fawr, yr hon a ddiweddodd yn Machuria, yn Asia. Hawliai ei fod wedi enill y swm oedd yn cael ei gynyg, oblegyd efe a roddai gyfrif am yr amser y bu dros y pum mlynedd trwy iddo gael ei garcharu amryw weithiau fel un oedd yn cael ei ddrwgdybio o fod yn ysbiwr.

YRHYFEL YN AFFRICA. --

Agoriad y Senedd.

MARWOLAETH MR. R. WILLIAMS,I…

LLANGEITHO. --

LLANDDEWI BREFI.

NEW QUAY.

—♦ RECEIVING ORDER.

.' THE MARKETS.I •.0

Family Notices

Advertising