Skip to main content
Hide Articles List

16 articles on this Page

- YR WYTHNOS. --

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Dydd Ian cyfarfu haulier o'r enw David Johr Price a'i ddiwedd yn Fern dale trwy i dram redt.-y drosto. Lladdwyd Jim Croft mewn glofa yn "{ny!"y1.wl nos Ferclier tra yr oedd yn coedio y top. Syrtbiodd craig arno. Yn mhwll e-lo Ton bore Ian syrtbiodd (Iae-,tr o'r to ar David Morris (17) fel y bu farw o i archollion Yr oedd tua 14,000 o bobl yn edrych ar gysiad- leuaeth ciciu y bei droed rhwng bechgyn Lfugl a bechgyn Cymru yn Blackbeatli ger Llundain dydd Sadwrn. Y Cymru aeth a'r dydd a Chardi n X>ambed enwogodd ei hun fwyaf o'r oil. Yn Llanelli y rhoddwyd y ddeddf newydd sydd yn gwahardd gwerthu died i blant dan 14eg ond mewn costrelau seiliedig mewn gweilhrediad gyn- taf. Bu acbos yno ar Ddydd Calan—ydydd cyntaf y daeth y gyfraith i rym. Erbyn hyn y mae tafai n- wyr a rhieni wedi eu cospi o dani mewn amryw leoedd. Heddwch sydd yn ffynu unwaith yr. rhagor yn ardal Betbesda. Mae'r heddgeidwaid dieitbr oil wedi ymadael; a gwell fyth, mae'r milwyr hefyd wedi ymadael. Mewn gwirionedd, nid oedd angen am y naill na'r llall o gwbl. Yn ei ymgeisiaeth Ryddfrydig bresenol yn Dewsbury cymer Mr Walter Runciman y cwestiwu Gwyddelig i fyny gyda arbenigrwydd. Creda efe fod gan y Gwyddelod, er pob peth sydd wedi dig- wydd, bawl i fwy o ystyriaeth gan y Blaid Byddfrydig. Y dydd o'r blaen aeth un o'r tlodion yn nhlotty Salford yn ddigon hyf i gusanu merch dlawd yn yr un sefydliad. Yn y prydnawn ysgrifenodd lytbyr ati i ofyn ei maddeuant. Ond, yn y cyfamser, acli- wynasai arno wrth yr awdurdodau. Ofnodd yntau eu gwg. Tua phump o'r gloch cafwyd ef yn nghrog, z, ac yn hollol farw. Yr wythnos ddiweddaf cyrhaeddodd newydd i St Petersburg fod y pla du yn ffynu mewn fifyrnig- i xydd mawr mewn rbanau o Siberia. Y mae eis- oes amryw wedi meirw o hono. Gofynir am gym- mhorth meddygol dioed i'w wrthweithio. Yn yr adroddiadau swyddol, pla Siberia' y gelwir ef er mwyn celu ei wir nodwedd, y mae lie i ofni. Mae y frecb wen yn lledaenu yn beryglus yn Llundain, ac adroddir ei bod wedi cyrhaedd i For- ganwg. Bu brodor o Sir Aberteifi, sef Mr J Lloyd .Lewis, chemist, Aberayron, farw o'i heffeithiau yn Llundain dydd lau. Bn y coler bapur mewn bri mawr ar un adeg— ond mae wedi myned allan o'r ffashiwn bellach. Ond yn awr sonir am wneud hosanau o bapur. Eu prisydyw ceiniog a dimai y par. Gwneir y papur yn edau-gref meddir-a gweir yr bosanau megys ag y gweir yr edafedd. Yr wythnos ddiweddaf bu Miss Rosina Davies yr efengyles yn cynal cyfres o gyfarfodydd cenhadol 3D Pwllheli. Bu gwehilion Lerpwl yn hwtio Dr Aked nos Sul drachefn am ei fod yn pregethu Efengyl y Tang- nefedd. Mclocb a Mammon pia hi y dyddiau hyn. Dydd Sadwrn, yr oedd y Canghellydd Sil- van Evans, D.Litt., yn 84 mlwydd. Boed llawer pen blwydd eto i'r hen Gymro gwych. Y mae glowyr yn nosparth Rhiwabon a Gwrec- sam yn ystyried y pwnc o gael ymgeisydd Llafur am sedd yn y Senedd. Maent eisoes wedi talu 50p at gronfa Cynghrair Glowyr Prydain at gael ael- odau llafur. Dywed Mr Haldane, K.C., A.S., fod y pwyUgor a benodwyd gan y Llywodraeth ddeunaw mlynedd yn ol wedi condemnio defnyddio y cordite. Bu y Bwydd ffrwydrol yma yn cael ei arfer gan y Llynges a'r Fyddin er y flwyddyn 1889. Yn Leicester, ddydd Iau, deuwyd o hyd i fon- eddiges a'i henw Mrs James wedi llosgi i farwol- aeth yn ei hystafell wely. Bernir i golsyn ddisgyn o'r tan, a thanio y dillad gwely. Ceisiodd hedd- geidwad fyned i mewn i'r ystafell drwy y ffenestr, ond gorchfygwyd ef gan y fflamau. Wrth siarad yn Aberdeen, nos Iau, dywelodd Mr James Bryce, A.S., ei fod yn gobeithio y dychwela Arglwydd Rosebery i fywyd cyhoeddus, Credai mai dyna oedd teimlad cyffredinol y Blaid Rydd- 1-ydol, ac y rhoddid i'w Arglwyddiaeth y derbyn- iad mwyaf croesawgar. Gyda golwg ar y •• clean slate," tybiai Mr Bryce fod hyny yn golygu i'r Rhyddfrydwyr daflu ymaith oddiar eu rhaglen bob peth trwm. Bu farw Joseph Turner, o Yarmouth, yn 105, dydd Mawrth. Bwriada Syr Watcyn Wynn godi Catrawd Cym- Xeig o'r Yeomanry i fyned i Dde Affrig. Adeiladir y llong fwyaf yn y byd y dyddiau hyn yn Belfast. :J.i henw fydd Cedric. Bydd ynddi le i 3000. Gall gludo 22,000 o dunelli. Trefnir i anfon Tywysog Cymru, a'r Dywysoges IDae'n debyg, am daith drwy India, yn gymaint a'u bod wedi ymweled yn ddiweddar a'r trefedig- aetbar. Anfonodd Ymerawdwr Japan bedwar march ys- plenydd yn anrheg i'r Brenin Edward ar ei esgyniad i'r Orsedd, ac anfonodd Brenin Corea o eithaf y Dwyrain ddwy fuwch yn anrheg iddo. Proffwyda Syr Robert Giffen, yr ystadegydd, y bydd y Gyllideb Brydeinig eleni yn dangos deng miliwn o golled. A y treuliau yn fwy-fwy a'r der- byniadau tollfaol yn llai-lai. Y mae rhieni Seisnig ?isoes yn dechreu bedyddio eu plant ar enwau yn dal cysylltiad a gwyl y Cor- oni. Coronatia oedd un o'r enwau. Claddwyd dafad o dan yr eira yn Westmoreland. Bu yn y carchar am cldau ddiwrnod ar hugain. Wedi dadmar cerddodd Jadref filldir a haner o ffordd. Y mae miloedd yn India yn edrych yn mlaen at yl y Coroniad yn y gobaith y gostyngir treth yr halen. Bu treth ar halen y tlawd yn symbyliad cryf i'r chwyldroad mwyaf ofnadwy welodd y byd ■—yr un Ffrengig. Ymfudodd 172,140 o Brydeinwyr y flwyddyn ddi- weddaf am America a gwledydd ereill. Yr oedd Biferyr boll ymfudwyr a aeth o bo-thladdoedd Lloegr ac Ysgotland yn 302,848. Am gymeryd rhan yn y cynllwyn i lofruddio cen- hadon Belgiaidd yn Kan-su, y mae Ymherodres China wedi rboddi gorchymyn i dori pen Tung Fu Sang, llywodraethwr y dalaeth. 0 Dywed ir ar awdurdod dda mai ymyriad swydd- I ogion Rwsia sydd yn atal ryddhad Miss Stone, y genhades Americanaidd o grafangau y Tyrciaid. Cael ymwared o'r holl genbadon o Dwrci ac Ar- menia, fel yr ymddengys, yw y nod mewn golwg. Nid oes meddyg yn y deyrnas enwocach na Syr Henry Thompson. Cyrhaeddodd 82, Dywed nad ydyw yn ditotal, eto ni byddaf byth yn profi dim ond d"; fr glan," ebe fe. Ni buaswn yma pe cymeraswn gwrw neu wirod." Y mae fel hogyn o heinyf, ac ni buasai neb yn dweyd ei fod dros y 60. Y mae gwysiau i droi allan 200 o Wyddelod allan o'u tai a'u tyddenod yn Roscommon, IwerdÚ n. Gwrthod talu y rhenti y ma.ent. Mae mndiad ar droed yn lied gyffredin trwy Sir Aberte;fi i ffurfio Cymdeithasau Amaethyddol er cael cydweiibrediad rhwng yr Amaethwyr. Deall- wn fod cymdeithas wedi ei sefydlu eisoes yn Lled- rod, Abertdfi, Tregaron, a trefoir cael rhai ar fyr- tler yn Llanfarian, Llanbedr, a Llanybyther. Ym- drinir ag amcanion y symudiad mewn erthygl ar- weiniol yn y rbifyn hwn Awydda Bristol am fod yn un o brif borthladd- oedd y bvd. Gwerir 1,000,000p er dyfnhau, eangu. ao adlunio'r porthladd. Adeilenir haid o longau gydag awyr rewllyd er cludo cig, pysg, llefrith. ymenyn. ednod, llysiau, a phob rhyw ddefnyddiau bwydydd darfodedig o Canada i'r wlad hon. Bris- tol fydd prif farchnad y fasnach newydd. Nos Sadwrn bu farw cyfanswddwr anthem Gen- edlaethol y Cymry, sef James James (Iago ab Ieuan) o Aberdare. Brodor o Argoed, Mynwy, yd- oeddy cerddor, a mab i Evan James (leuan ab lago), bardd o gryn nod yn nechreu y ganrif ddi- weddaf. Gwehyddion oeddynt ill dau, a phan oedd y mab eto ond yn ei febyd symudodd ei dad ei felin i Bontypridd, a tbra yn dilyn ei oruchwyl- iaeth yno y cyfansoddodd Iago y gerddoriaeth sydd yn swyno clust ac yn gwresogi calon pob Cymro l'a le bynag ei ceir. Cyfansoddwyd geiriau yr anthem gan ei dad. Wedi marwolaeth ei dad bu Ia:o yn cadw tafarn yn Caerdydd, Pontypridd, a Mountain Ash, ond yr oedd wedi ymneillduo o'r fasnach er's blynyddau bellach. Yr oedd yn 69 mlwydd oed. Mae Dr Sauerwein, Banteln, Hanover, a dys- gawdwr Germanaidd enwog, wedi cySwyno i Lyfr- gell Caerdydd, lyfr Cymraeg o'i waith ei bun er cof am AigUvyddes Llanover. Dyma ei deitl: "Dail gwyw, a blodau gwyllt ar fedd Gwenwynen Gwent, gan Gerddawr Tramor." Argrapbwyd ef yn Leipzic. Fe gofir i Dr Sauerwein gyhoeddi amryw lithiau yn y Welsh Gazette" yn ystod yr håf di- weddaf, a "dywedai wrtbym mai hoff oedd ganddo ddarllen Cymraeg yn ei golofnau. Bu ar daith trwy Gymru yn moreu ei oes er dysgu ein hiaitb. Agorir y Senedd heddyw. Er yr ymgyferfydd agos i fis yn gynt nag arfer, camgymeriad fyddai meddwl fod y Llywodraeth yn arfaethu trenlio mwy o amser mewn deddfu eleni na'r llynedd. Torir y tymor i fyny gan dri ysbaid maith o wyl- iau; ae at hyn gallem chwanegu ei bod yn mron yn sicr y bydd iddo gael ei gwtogi trwy ymohirio yn gynt nag arfer.^ Arfera Mr Balfour roddi gwyl wirionffol o faith i'w ganlynwyr tuar Pasc ac er y bydd efe erbyn y Sulgwyn wedi gweled ei gam- syniad, eto gwyl hirfaitha rydd efe iddynt y pryd hwnw, drachefn. Eleni gwneir trydedd gwyl yn orfodol gan ddathliad y Coroniad ac nid yw yn <4ebyg y gwneir llawer o waith ar ol byny. COLor I T. E. ELLIS. Cynaliwyd cyfarfod o bwyllgor cofgolotn :,(r T. E EUi.syn yr Amwythig, ddydd Gwener, ac yr nfdd Dr Roger Hughes (cadeirydd), Mr Du>ma.- El!).-•• (C'yrilas), Mr \William Evans, Birmingbam), Mr T! (Prvn Melyn), Mr Owen M JC-'lwjirds. 2i;- Evans, a'r Parch Gwynoro Davie5, yno. -t-'eii(lei-fvn%vy(i y gc,loj'n i'%v chodi yn mhrir heol y Bala, ar le ae'wir Plas-yn-dre.—Peuderiyn- vvyd yu uniryd nad oedd y gwaith i'w roddi allan i'w gy.-uauiu am dano, ac fod dirprwyaci Ii y;. cyn- \¡'il¡iam Evan, 1\[1' Owen J\1 E,lw:lrd;a Jir I i YI1J\'i(iH! a .JIr Goscomb, <Tul,¡" i (',Jnii) seiylii-'i y pwvilgor, ac iddo gyflwyno cynllun co:- colvfn, Byddai yn fantais i Ma Goacoinbe John, gan ei fod yn gyfaill personol a'r diweddar Sir Mr Ellis.—Hvsbyswyd fod arianyn parhau i ddyfod i law o W;Llli.,iiol i-,iiitu o'r w,'a(l: y bydd eisiau o leiaf 250p os bwriedir i;odi colofn dcilwng' o Sir Ellis, Bwriada Mr William .lwal1 (Birmingham), gyflwyno bathoden pros i bawb g-ini "e ndwd. Ar tin oehr i'r bai horlyn bvdd Hun M r Ellis, a'r ochr arall llun C lle.'i gauwy-i a'i gari.rc-f. Tybir y bydd y g--i(-i'n yn barod erbyn mis Awsfc.

Y RHYFEL YN AFFkICA. --

Llith o Llandssil. ----

Cross Inn, ger Ceinewydd.

LLANRHYSTYlJ.

ICORRESPONDENCE.

THE LLAXGEITHO EISTEDDFOD.—"…

Llanfihangel-y-Creuadyn.

CWMRHEIDOL.

LLANDDEWI BREFI.

LLEDROD.

-----,--------------THIS ANT.

EPITOME OF NEWS. .

- THE MAliKETS.

Family Notices

Advertising