Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

I YR WYTHNOS. j

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. j Mae Mr Balfour wedi bod ynwael dan yr anwyd- xrst; ond y mae yn gwella. Bwriedir gwario 10,000p ar y tramffyrdd trydan- 01 yn Merthyr fisoedd cyntaf y flwyddyn newydd. Hysbysir fod Mr Hugh David Jones, mab Dr Hugh Jones, Lerpwl, wedi marw yn Melbourne, Awstralia. Nid oedd ond 30 mlwydd oed. Mae pedair mil ar ddeg o weithwyr glofeydd Gorllewin sir Fynwy yn segur oherwydd dadl rbwng y peirianwyr a'r meistriaid. Mae is-bwyllgor y Cymmrodorion weithian wedi trefnu i argraphu'r burned ran o Eiriadur Cymraeg a Saesneg y Canon Silvan Evans. Bydd y geiriau dan y llythyren E yndy gyfrol hono. Mae Iuddew cyfoethog ac hael o'r enw Syr Ern- est Cassell wedi rhoi tua dau gan' mil o bunau i'r Brenhin at amcanion dyngarol ac elusenol. Nid yw'r gwr am i'w enw ddod allan ar hyn o bryd. Mae'r Brenhin am roi'r arian at godi ysbytty i rai .1 yn dioddef oddiwrth y darlodeaigaetn yn j-auegi.. Saethodd Dr Holzinger, is-lywydd Llysoedd y Gyfraith yn Vienna, ei hun. Dywedir mai ofn myn'd yn ddall oedd arno. Mae stori debyg yn dod o Grosswarden, Hungari, lie torodd dynes 71 mlwydd oed ei phen am yr un rheswm. Y mae ystadegau yr Eglwysi Rhyddion fel hyn:— Methodistiaid. 158,114; Annibynwyr, 147.758; Bed- yddwyr, 109,149 Wesleyaid, 21,004. Nid yw y Bedyddwyr yn cyfrif eglwysi Cymreig Lloegr, na'r Wesleyaid yn cyfrit yr eglwysi Seisnig yn Ngbymru. Adroddir fod yr ymgais i godi cofgolofn i Llyw- elyn y Llyw Olaf yn Llandrindod wedi myned yn fethiant hollol. Defnyddiwyd yr ychydig arian a gyfranwyd at gofgolofn Llewelyn at wneud bathod- yn (medal) o hono. Rhoddir hwynt yn wobrwyon i efrydwyr Hanes Llewelyn a'i Amserau. Pan ar fin arwain ei gor i gystadlu yn Eisteddfod Colwyn Bay cwympodd Mr Henry Hughes, arwein- ydd cor Llysfaen, a bu farw yn mhen ychydig amser. Yr olaf i droi ei wyneb i'r Eglwys WIadol yw y Parch John Bennett Williams, gweinidog ieuanc gyda'r Metbodistiaid yn Prion a'r Glyn, ger Dinbychi Am anfon allan lon'd cerbyd o fara i'w gwerthu heb glorian a phwys, dirwywyd Mr Enoch Davies, pobydd, Llangollen, i 5s a'r costau. Mae y gyfraith yn gofyn pwyso wrth werthu. Nid oes ar Mr John Burns ofn dweyd y gwir croew wrth werinos Llundain. Mewn araeth ddydd Sadwrn, dywedodd wrth dorf enfawr o weithwyr fod cryn swm o'i hangenoctyd yn ddyled- us i'w gwastraff a'u hafradlonedd eu hunain. Bu farw dau frawd ar y ffordd adref o farchnad Treclawdd, Maesyfed yn yr ystorm eira a'i daliodd. Claddwyd y ddau o dan y trwch tew bron yn ymyl eu cartref. Yr oedd y ddau a'i breichiau am yddfau eu gilydd. Mae yr Annibynwyr wedi cael ail hwyl ar gasglu. Tyf en Cronfa wrth yr ugeiniau bob wythnos. Y mae 16,000p yn y golwg. Yr eglwysi lleiaf ar gy- fartaledd sydd yn gwneud oreu.—Y mae y Parch Towyn Jones, Cwmaman, wedi sicrhau addewid am lOOOp at y drysorfa gan Mr Tbos Williams, Gwael- odygarth, Merthyr Tydfil, ar yr ammod y bydd 19,000p wedi eu sicrhau erbyn cyfarfodydd yr Undeb yn Nghaernarfon yn nechreu Mehefin. Nid ydynt yn credu mewn oedi yn America. Fel hyn y dyweclir am eneth Americanaidd, 17 oed. Ffodd ar y Sul, daliwyd hi gan ei rhieni ar y Llun, priododd ddydd Mawrtb, cafodd faddeuant ei rhieni ddydd Mercher, gadawodd ei gwr ddydd law, llanwodd ddeiseb am ysgariad dydd Sadwrn. Torodd cwmwl uwcbben Staffi yn Tangier a dis- gynai y dwfr am 12 awr. Ysgubwyd tai y prif heolydd ac eiddo lawer i'r mor. Boddwyd 200 o bersonau. Bu farw hen wraig o'r enw Maria Luisa yn Brazil yr wythnos ddiweddaf, yn 160 mlwydd oed. Hen gaethes oedd hi, ac yr oedd yn 100 oed pan ryddhawyd hi o gaethiwed. Achwyna Mr W H Grenfell. A.S., fod ei etholwyr yn cardota ei holl arian. Gofynir iddo danysgrifio at bob achos yn y lie. Ad-drefnir byddinoedd Arglwydd Kitchener. Y mae llu mawr o filwyr yn apelio am gael eu derbyn o dan y drefn newydd. Bydd peirianau pellebr di-wifr Marconi rhwrfg Lloegr ac America yn barod yn mhen chwe' mis. Bwriada Marconi ddychwelyd i Loegr yn ddiced, a chais anfon neg-sau o Loegr i Canada a De Affrig, Y mae Ardalydd Ito, cyn-Brif Weinidog Japan,ar ymweliad a Llundain. Dywedir fod gwaith y y Brenin Edward ac Arglwydd Salisbury yn ei wahodd i ymweled a hwy yn tybied fod Japan a Phrydain am ymgyngreirio yn y Dwyrain bell. Mae dadblygiad cyflym Japan yn syndod i'r cenedloedd. Haner can' mlynedd yn ol cyfrifid hi yn mhlith yr ^uwariaid. ond heddyw cymer ei lie yn anrhydedd- us yn mhlith goreuon y ddaear. Mae streic yn Barcelona, Yspaen, ynachositer- fysg lawer. Mae y mliwyr a'r werm wedi dyfod i wrthdarawiad. Carcharwyd haner cant o bobl yno y Sul diweddaf. Ofnir y cyfyd anghydfod ar ororau Afghanistan. Ceisia rhai penaethiaid ddwyn y goron oddiar y teyrn newydd—tad yr hwn a fu farw yn ddiweddar. Parhau mewn cyflwr cyffrous iawn mae Vene- zuela ac nid yw y gwrthryfel drosodd eto. Mae trysorfa y Llywodraeth yn wag, ac mae llongau y llynges heb lo ac mae pob peth felly yn ddiymad- ferth ond yn mhell o fod yn heddycblon. Nid yw y cweryl rhwng Argentina a Chili wedi ei ddwyn i derfyn boddhaol eto ac ofnir y bydd i ffrwgwd gymeryd lie rhwng y ddwy wlad. Paratoir i ryfel yn Argentina. Ugain miliwn oedd holl elw Llywodraeth America wedi talu boll dreuliau y flwyddyn ddi- weddaf. Dydd Gwener, caed hyd i gorph John Roberts, Trefnanny, yn afon Fyrnwy, ger Llansantffraed. Boddodd Roberts wrth geisio croesi'r afon gyda gwedd o geffylau ar y 21ain o Dachwedd di- weddaf. Plenir nifer anferth o lili y dyffrynoedd (Lily of the Valley), ar gyfer Gwyl y Coroniad. Hwn, meddir, ydyw ffafr iiodyn y Frenhines. Y mae un garddwr yn unig wedi planu 14,000,000. Y mae Syr Lewis Morris, y bardd, i gyfansoddi awdl ar goroniad y Brenhin a'r Frenhines. Cyf- ansoddir cerddoriaeth ar y geiriau gan Syr Fred- erick Bridge. 0 Tra yr oedd nifer o Wyddclod yn tori mawn yn Iwerddon. daethant o hyd i hen goracl hynod, rnewn cyflwr da, amryw droedfeddidan y ddaear. Y mae yn 52 troedfedd o hyd. Mae'r frechwen yn ymledu yn ofnadwy yn LInn- dain er gwaethaf y buc-hfrechu. Yr ydys yn mynd i adeiladu ysbytty arbenig ar gost o gan' mil o bunnau. Mis mel helbylus gadd Cadben Andrews a'i wraig. Cytunasant i dreulio eu mis mel ar y Werydd. Ceis- iasant groesi mewn cwch tair troedfedd ar ddeg o America i Spaen dri mis yn ol. Disgwylient gyr- raedd pen y siwrne tua diwedd y flwyddyn. Ond ni welodd neb hwynt, ac ofnir eu bod yn y dyfnder er's tro, gan fod ystormydd erchyll wedi bod yn aredig y weilgi er's deufis bellach. Gyrwycl adref yr hoelen olaf o ffordd newydd Canada, yr hon sydd yn cys- ylttu llynoedd Superior a Winnipeg. Y mae trafnidiaeth eisoes yn cael ei ddwyn yn mlaen am 500 o filldiroedd. A drwy Manitoba a pbarheir hi i lan y Mor Tawelog. Yn ddiweddar, galwodd Ficer Llanwddin, sir Drefaldwyn, sylw y Brenin at achos Mrs Ellis, a esgorodd ar dri phlentyn. Archodd ei Fawrhydi roi 2p i Mi-s Ellis. Wrth gydnabod y rhodd. rhoes ficer hanes y caledi y bu Mr Ellis, y sydd fugail. y. ddo yn vstod y storm ddiweddar, ac anfones y Br'-nhin 2p iddo yntau. ,%L (J^r ar lawer mae'n debyg fu y wers yn yr Efengylau am y gwr a ddechreuodd godi twr cyn bwrw y (Irani. Yrun modd cododd Gwarcbeidwaid Greenwich dlotty gorwych gwerth tua 250,000p ar gyfer tlodion y lie, ond erbyn edrych nid oes gan- ddynt dlodion i'w roddi ynddo. Methir a dyfalu pa beth i'w wneud ag ef. Gwnaed ymdrech i godi Tlotty newydd yn Aberystwyth, ond tagwyd y cyn- Uun brysiog gan Mr Bruce Morgan ac ereill. Ar haner nos noson olaf yr hen flwyddyn canwyd clychau New York fel arwydd fod Llywodraeth Tammaniaid (y Blaid lygredig) y ddinas wedi dod P i ben. Bwriwyd allan 500 o swyddogion uchel gyflogail. Daliwyd tywysog enwocaf lladron Ewrop yn Zurich. Yr oedd ar heddweis Lliindain, Paris, Vienna, Berlin, St Petersbur,-b, a 32 o drefydd ereill ei eisieu. Yr oedd ganddo 26 o wahanol enwau gallai siarad naw o ieithoedd y Cyfandir. Gwisgai fel tywysog, Arhosai bob amser yn y prif westtai. Lladrataodd 34,000p yn ystod y pedair blynedd diweddaf. Wedi saith wythnos o frwydr rhwng meddygon y dref a Miss Clark, meddyges Clafdy Macclesfield, gorchfygodd y blaenaf. Rhoddodd Dr Clark ei swydd i fyny, a rhoddodd rheolwyr y Clafdy gan' punt o anrheg iddi hithau. Dymuna corff pobl y dref iddi ymsefydlu yno fel meddyges. Cenfigen ddall y meddygon oedd wrth wraidd hyn oil. Wrth anerch ei gynulleidfa ddydd Calau, cyfeir- iodd Dr Clifford, Llundain, at y rbyfel, a dywedodd fod y genedl wedicwbl newid yn ei theimlad, ond yr oedd yn ddrwg ganddo ef fod y dosparfch mil- wrol wedi dod i rym, ac yr oedd gwersylloedd y gwragedd a'r plant yn ystaen nad ellid byth mo'i godi oddiar anrhydedd Lloegr. Condemniodd y Doctor hawl y Llywodraeth am ymostyngiad diam- mod hefyd, a chefnogodd y golygiadaw a fyneg- odd Arglwydd Rosebery yn Chesterfield. Rosebery, meddai'r Doctor, pe gweithredai gystal a siarad fyddai'r dyn tebycaf i roi terfyn ar y rhyfel. Awgryanir y term etbergram fel enw priodol ar ddull Marconi o anfon negeseuon pellebrol trwy yr awyr heb gyfrwng gwifrau. Awyrlith' fyddai y gair Cymraeg cyfystyr. Os nad oes gan neb ddigon o ffydd y dyddiau rhain i symud mynyddoedd y mae gan ynyswyr Ysgotaidd ddigon o leiaf i symud-cerrig. Y mae Presbyteraidd Ness, Ynys Lewis, ar gyffiniai Ysgot- land-yn anghytuno ar gwestiwn uniad y ddau enwad-yr Eglwys Rydd a'r Presbyteraidd Un- edig. Cadwodd gelynion yr undeb agoriad yr addoldy. Trosglwyddwyd y mater i law y sirydd. Anfonodd hwnw swyddog i dori y clo. Yr oedd haid o heddweisionyn ei amddiffyn a thorf wallgof yn gwlawio ceryg am eu penau. Arhosodd yr heddweision i gadw'r adeilad. Hyd yma y mae yr addoldy yn meddiant yr ynyswyr, a bygythiant ei fombardio o ei cymerir oddiarnynt. Nos Lun bu trengholiad arall ar gorph dyn a weithiai ar y rheilffordd newydd o Aberystwyth i Bont ar Fynach. Syrthiodd y dyn i lawr dros ddibyn tua 300 troedfedd yn Pont ar Fynach a bu farw y dydd canlynol. Fe welir oddiwrth yr ad- roddiad fod y truan mewn diod. Dyma y trydydd sydd wedi cael ei ddiwedd. Beth am gyfrifoldeb y sawl sydd yn eyflenwi y rhai hyn a dioQ I Dydd Sadwrn suddodd agerlong fawr Brydeinig o'r enw "Alphonso trwy wrthdaraw yn erbyn un arall ar ororau Yspaen. Y Cadben yn unig a ach- ubwyd. Collodd deunaw eu bywydau. Trafnidiai rhwng Lerpwl ac Yspaen. Yr oedd dau o'r enw Williams a Jenkins yn mhlith y trueiniaid.

YMOSOD AR WEINIDOG. ----

Y RHYFEL YN AFFRICA.

» "Y Miliwn Ginis,"

LLITH HEN GARDI.

[No title]

Amaethyddiaeth.

EPITOME OF NEWS. ..

THE MARKETS.

Family Notices

Advertising