Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

YR WYTHNOS. ---

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Mae'r gwres angherddol yn parhau yn yr Amer- ica, Achosa lawer o farwolaethau ac mae'r am- aethwyr yn gorfod tcynhauafu eu llafur yn y EOS. Bu farw Mrs Kruger, gwraig y cyn-Arlywydd, yn Pretoria, dydd Sadwrn. Gorchfygwyrl y Llywodraeth ddwy waith yr wythnos ddiweddaf yn Nhy'r Arglwyddi. Cawdel lieb ei fatb yw cynllun addysg y Llyw- odraeth, medd Syr W. Hart Dyke, cyn-weinidog Addysgy Toriaid. cl Unwaith eto y mae y Parch Hugh Price Hughes wedi tori i lawr gan lafur meddwl. Rhaid iddo roddi pobpeth heibio am fisoedd. Darperir yn brysur ar gyfer coroniad y Brenin Edward yn Mehefin nesaf. Bwriada America anfon nifer o'r cad-longaa newyddaf a fedd dan reolaeth y Morlywydd Dewey y clywid cymaint o son am dano yn ystod y rhyfel fu rhwng Spaen a'r Amerig. Oberwydd afiecbyd y mae dau o swyddogion Undeb yr Annibynwyr wedi ymddiswyddo, sef Mr Thomas Williams, Gwaelod-y-Garth (trysorydd), a Mr T. E. Jenkins, ysgrifenydd ystadegol. Aeth Mr a Mrs W. S. Wedge ar yr afon yn Strat- ford-on-Avon am bedwar boreu Sul. Wrth sefvll yn y cwch cwympodd hi i'r afon a boddodd. Yr oeddynt ar eu mis mel." Y mae Ysgrifenydd Rbyfel yn ffurfio pwyllgor o foneddigesau i fyned i'r Transvaal i wneud adrodd- iad ar gyflwr gwersylloedd merched a phlant y Boeriaid. Enwir Mrs Henry Fawcett fel un sydd wedi evdymffurfio a'r cais. I Miss Hobhouse yr ydys i ddiolch am hyn. Cafodd Mrs Cora Thomas 400p o iawn am doriad amod priodas yn Manchester gan Alexander Young Yr oedd Young yn barod i briodi y dydd hwnw, ond prof odd ei hun yn garwr creulon, twyllodrus; gwell gan Mrs Thomas oedd ei arian nag efe ei ban. Yn Nhy'r Arglwyddi yr wythnos ddiweddaf caf- wyd larll Russel yn euog o aml-wreiciaetfo. Anfon- wyd ef i garchar am dri mis. Addefodd ei euog- rwydd apeliodd am dosturi; dadleuodd ddarfod iddo dori'r gyfraith yn ei anwybod. Tybiwyd y y parbasai y prawf am ddeuddydd aeth drosodd inewndwyawr. Yr oedd 2000 yn g'.vranda. Bydd y draul dros £ 2000. Rhaid i'r cyhoedd .dalu yr oil. Mae yn eglur fod cryn gyfnewidiad wedi dyfod dros yr eglwysi yn ddiweddar gyda golwg ar y rhyfel. Tua blwyddyn yn ol yr oedd yr holl eglwysi—gydag ond ychydig iawn eithriadau- jiaill ai yn eefnogi y rhyfel yn ddigywilydd yntan igy yn rhy Iwfraidd i'w chondemnio yn agored a di-ofn. Ond erbyn hyn y mae'r eglwysi o'r bron yn con- clemnio y rhyfel yn y modd mwyaf pendant. Pe buasai yr eglwysi wedi bod yn effro mewn prycl bwyrach y buasid wedi osgoi y gwarth annileadwy iiwn sydd wedi disgyn ar ein gwlad. Torodd tan allan mewn gweithfa esgidiau yn Northampton nos Ian a gwnaed colled o werth Z100,000, a theflir 500 o bersonau allan o waith. Bu 12,000 o fwnwyr yn cadw ucbelwyl yn Aber- tawe dydd Sadwrn. Mae Hawer o bobl wedi marw oherwydd y gwres mawr yn y wlad hon yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Y mae Mr Andrew Carnegie wedi talu y deng miliwn doleri drosodd i Ysgotland yir wytbnos: ddiweddaf. Telir taliadan yr efryd wyr ar un waith. Decbreuir yn Hydref nesaf. Mae nifer fawr o aelodau yn cynrycbioli y ddwy fclaid yn Nhy'r Cyffredin, wedi penderfynu gwrfcb- wynebu mesnr Rheilffordd Beddgelert a'r Wyddfa, ■ a ddaeth o Dy'r Arglwyddi i ystyriaeth 'l'y'r Cyffredin ar adroddiad pwyllgor arbenig. Gwrtb- wynebid am y byddai i'r mesur ddinystrio pryd- ferthwch un o'r lleoedd mwyaf rhamantus yn yrr ynysoedd Prydeinig. Digwyddorld ystormydd o fellt a tharananmewn amryw ranau o'r wlad ddydd Sul, a gwnaeth mellten yn Huddersfield alanastra echrydus. Yr oedd cwrnni o ysprydegwyr (spiritualists) a ddaethai drosodd o Bradford, yn teithio ar hyd yr heol i'w; man cyfarfod, pan y syrthiodd y daranfolt i'w canol. Lladdwyd dan ar unwaith, a thaflwvd pedwar ereill i'r llsiwr wedi eu hanafu yn dost. Yr oedd dwy ddynes yn dal gwlawleni, taflwyd y rhai byn allan o'u dwylaw, ond yn ffodus, diangasant hwy yn ddianaf. Bu cryn ddadleu yn Nghyngor Sirol Ceredigion dydd lau parthe(I y priodoldeb o gefnogi y mudiad er cael rheilffordd o Aberayron i Aberystwyth. Oir adroddiad cyflawn mewn rhan arall o'r papur hwn. DWR GLAN GLOYW. Mae vn anbawdd sylweddoli pa mor haafodoi i iecbyd ydyw dwfr pur. dihalog. Clywir yn ami mad oedd yr hen bobl yn yr amser gynt yn pryderi dim yn nghylch yr angenrhaid hwn ac etc eu bod mor "hir-heedlog a'r rhai sydd yn or-ofalus yn y- dyddiaii rhain. Ond cyfeilvornad dybryd ydyw meddwl fel hyn. Yr oedd yr hen bobl yn yr amser gynt yn hynod ofalus o'u ffynonellau dwfr-ac nid oedd dim prydferthach mewn ami i bentref na'r fiynon loyw risialaidd a gedwid mor lanwedd a di- esgeulus gan bawb o'r trigolion fel pe baent yn llwyr ymwybodol mai allan o honi y deiiai eu bywyd. Ac heblaw hyn y mae y cyfnewidiadau mawr sydd wedi cymeryd lie yn nghyflwr cym- deithas yn ei gwneyd vn fwy gofynol na chynt i eicrbau cyflenwad cyfaddas o ddwfr pur a glan. Yr oedd yr hen bobl yn bywyn llawer nes at natnr nac yr ydym ni yn yr oes or-oleuedig hon ac nid oeddent yn dibvnu cymaint ag yr ydym ni ar drefniadau celfyddvdol; ac y mae diffyg }Tn y trefmadau hyn yn golygu drygau lawer. Mae diffyg cyflenwad priodol o ddwfr yn anhwylusdod ynddo ei hun, ond y mae y diffyg yn dyfod yn ami yn berygl angeaol pan yr achosa afiechycl ac heintiau marwol. ACHOS NEWYDD W. O. JONES. Cynaliwyd cyfarfodvdd yn yr Hope Hall, Lerpwl, ddydd Sull yn y boreu a'r hwyr, pan y pregethwyd can Mr W. O. Jones, B.A. Yr oedd tua 450 yn yn bresenol yn y boieu, a chymerodd Mr Jones ei destyn o'r Actau xxvi., 24 a 28. Yn ei bregeth, dywedodd fod Cristionogaeth wedi ei meithrin yn fwy gan y tlawd a'r add fwvn na chan y cyfoethog- ion a'r rhai mewn awdnrdod. t Nos Sul, yn mhell cyn amser dechreu, daethai torfeydd lluosog yn nghyd, a bernir fod o 1500 i 2000 yn bresenol. Ar ol gwasanaeth defosiynol, cymerodd Mr Jones ei destyn yn Ltic xii. 32: "Nac ofna, braidd bychan, eanys rhyngodd bodd i'r Tad roddi i chwi y deyrnas." Tri phen y bregeth oeddynt-(l) Nac ofua, braidd bychan, oblegid er mai bychan ydwyt y mae Duw yn gofalu am bethau bychain (2) Nac ofna, braidd bychan, ob- legid er mor fyeban wyt y mae Duw yn Dad i ti; .ac yn (3) Nac ofna, braidd bychan, oblegid os bychan wyt ni fyddi felly byth oherwydd bwriada Duw i ti edifedctu gorsedd a theyrnas." Yn y seiat ar ol yr oedfa nos Sul, gwnaeth Mr W. O. Jones y mynegiad pwysig canlynol "Anwyl frodyr a chwiorydd,—Fel y gwyddocn bwn ydyw yr ail Sabboth i ni ymgasglu at ein gil- ydd i'r fan yma. Oherwydd. amgylchiadau nad oes angen i ni yn awr fyned drostynt, yr ydym wedi dewis ymgynull yn y lie hwn i geisio addoli Duw a ohynbort'hwyo ein gilydd. Yr ydym, gan hyny. yn awr mewn amgylchiadau dyrus, lieb gyd-ddeall- twriaeth fel y dymunem. ac lieb wybod yn sicr pa fodd i weithredu, a pha both bynag a wneir hyder- wn y gwneir hyny yn ofn yr Arglwydd, a chan ifidymuno ei arweiniad ef. "Fel y gwyddoch y mae yma bwyllgor lluosog- wedi bod yn eistedd ac yn ystyried yr achos er's wythnosau bellaeh, ac ar gais y pwyllgor hwnw yr wyf yn gwnend y datganiad hwn. Barn a tbeirn- lad unfrydol y pwyllgor a nodwyd ydyw fod yr amser wedi dyforl i ffurfio eglwys newydd ond yn hytrach na gvvneuthur hyny ar ein cyfrifoldeb ein hunain, ac heb vragynghori a'r lleoedd eraill sydd yn teimlo dyddordeb yn yr achos paaderfynwyd yr byn a ganlyn "(1 Gofynir i chwi, os ydych yra cymerad wyo yr a mean, benodi ya ffurfiol, ac awdurdodi, y pwyllgor a grybwyllwyd, i wneud pob trefniadau a welir yn angenrbeidiol tuagat gychwyn yr eglwys wedi ei ffurfio yn rheoiatdd, ni chymheiir unrhyw gam pellacb heb ymgynhori a gwrandawar lais yr aelodau oisoni. (2) Yr ydym wedi darparu taflen, yr h-on dym- unir arnoch ei llenwi heno. Amcan bynyma yw .cael rhyw syniad pa nifer sydd yn debyg o ymuno a'r symudiad. Eglurir y daflen eto pan ci dos- berthir. Gofvnir i t'ili lawer o gwestiynau nas gallwc eto roi atebion pendant iddynt. Gofynir gan luaws o wabanol gvrau y dref a ydym yn bwriadu cychwyn mwy nag n acivos. Ein hateb ydyw fod hyny yn dibyiiu i fesur ar nifer yr enwau a dderbynir hene. Os y gwelir fod y nifer yn ddigonol, neu yn debyg o fod yn ddigonol. i aychwyn cangcn yn Birkenheacl neu vn Bootle (dvweder) gwneir hyny mor ddiym- droi ag v sellir. "Gofynir pwy a geir i bregethu yn y lleoedd hyn, os bydd angen. Nis gwyddom eto, ond nid ydym vn ddiohaith y gwna Duw agoryd y y ffordd fel yr elem rhagom. Nid ydym etc wedi ilewis enw ar y symudiad, nac wedi tynu allan un- Thyw reol, credo, na chyfansoddiad. Rhoddir y gwaith o wneud hyny yn gwbl yn Haw yr eglwys neu yr eglwysi. neu os y dewfea yr eglwys yn Haw y pwvllsrorau a etholir ganddi. Bwriedir fod yr oil o'r aelodau yn cael llais clir a phendant. yn y trefniadau a wneir Wedi hyny rhanwyd toevnau i'w harwyddo gan v rhai sydti yn bwriadu ymuno a'r symudiad newydd yn Hope Hall, neu mewn manau eraill pan sefydhr achosion. Eglurwyd y tocyn gan Mr Jones, ac yna casglwyd bwy. Gwneir y canlvniad yn hysbys no 6ul nesaf. Ar ol canu emyn terfynwvd. ROSEBERY. Mae Arglwydd Rosebery wedi ysgrifenu llythyr at aelodau Clwb lthyddfrydol y Ddinas (Llundain), y rhai oedd wedi ei wahodd i roddi ei bresenoldeb yn eu cyfarfod ddydd Gwener, a thraddodi anerch- iad iddynt. Y mae y llythyr yn un maith, aC yn niysg pethan eraill dywed ei Arglwyddiaeth ddar- fod iddo ymddiswyddo yn y flwyddyn 1896, er mwyn hyrwyddo unoliaeth yn y blaid Ryddfrydol, ac y mae wedi aros mewn dinodedd bytb er hyny ?yda'r un amcan. ond nid yw yn canfod fod yr un cynydd gwirioneddol tuag undeb wedi cymeryd lie. Dywed na bydd iddo ef bvth ail-fyned i fewn yn wirfoddol i'r chwarenle boliticaidd eto. Y mae yn cyfeirio at y "gwabaniaethau" sy'n bodoli yn y blaid RyddfrydoI ac yn dangos allan y pwysigrwydd mawr o sicrhau unoliaeth, ond y mae yn dybio fod yn anmhosibl cymodi y pleidiau a gynrycbiolir, dyweder gan Syr W. Lawson a Syr Edward Grey. Y rhyfel ydyw cwestiwn mawr y dydd, ac y mae '• anmhleidiaeth a meddwl agored," yr hyn ydyw polisi llawer o Ryddfrydwyr, yn golygu "anallu Rbyddfrydol." Y mae Arglwydd Rosebery o'r farn fod gan y blaid Ryddfrydol ddyfodol pwysig a disglaer o'i blaen yn nglyn a chwestiynau cartrefol, ond rhaid cael unoliaeth. # Nos Wener tu Rosebery wrthi eto yn rhoddi mynegiad i'w farn mewn cyfarfod yn y Ddinas, ac y mae y was, Ryddfrydig Seisnig o'r bron yn con- demnio ei araeth fel y mwyaf annoetb ac anamsero a draddododd erioed. Nid oedd byd yn nod ei arddull mor urddasol a boneddigaidd ac arferol. Edliwiai i ereill ei diffygion yn yr argyfwng presenol tra y mae efe ei hun yn aros o r neilldu yn hamddenol a'i ddwylaw yn ei bocedi. Er iddo ddweyd dros bum mlynedd yn ol ei fod yn ymneillduo o'r byd politicaidd, mae wedi ymyryd ar yr adeg pwy profedigaethus yn hanes y wlad ac yn banes ei blaid ei hun. MR ASQUITH A'I BLAID. Mae'r cinio roddwyd i Mr Asquith gan ei edmyg- wyr er anrhydedd iddo wedi myned heibio, a hyny yn llawer mwy heddychlawn nac y dymunai llawer -yn enwedig y Toriaid. Cymerodd y cinio le dydd Gwener, ac yr oedd yno gynulliad lied fawr, a Syr Edward Grey oedd y cadeirydd. Y peth pwysicaf yno, wrth gwrs, oedd araeth Mr Asquith. Dywedai'n bendant nad ei amcan ef oedd rhanu'r blaid, ond nid gwiw rboi ar ddeall fod y blaid oil yn un farn ag adran neillduol ohoni, a gwnaeth apel gref at 11 bob dyn i chwalu'r "camsymad dinystriol oedd yn eadw eu gelynion o hyd ar y maes. Wrth gyfeirio at gyflwr y blaid, dywedai nas gallai efe dderbyn y syniad eu bod mewn cyflwr o wrthwynebiad anobeithiol i'w gilydd drwodd a thro. Bu yn y blaid, a byddai bob amser, wahanol farnau parthed eu perthynas a'r Yinhprod- raeth. 'Doedd dim llawer er pan oedd y blaid Doriaidd yr un fath. Creclai rhai fod ymlediad Ymherodrol yn magu ysbryd bostfawr, trahaus, a pheryglus. Deallai efe'r syniadau hyn a pharchai hwy, ond ni chredai fod rhan fawr o'r blaid yn meddwl felly. Ystyr Ymherodraetb i'r Rhyddfryd- wyr oedd m- ai dyna, gyda'i holl waHau a'i ffaeleddau, oedd yr arbrawf mwyaf a mwya' ffrwyt-hlon a welodd y byd etc ar uno gwledydd .rhydd yn llyw- odraethu en hunain. Dywedai Mr Courtney fod "y Rbyddfrydwr Ymherodrol yn rhodio yn hen ddillad Bismarc." Ni alwodd efe (Mr Asquith) erioed mono ei bun yn Rbyddfrydwr Ymherodrol. Boddlonai ef ar yr hen enw syml Rhyddfrydwr. Ni welodd efe erioed Ryddfrydwr fel a ddesgrifiai ? Mr Courtney yn awyddus i dra-arglwyddiaethu ar hoTl genedloedd y byd a'u dodi mewn gefynau. i Gytir fod twf yr Ymlierodraeth yn gofyn gwabanol ddulliau weithiau, ond os gweithredid yn Affrica yn yr un yspryd er nad yn yr un dullagyn Canada,, fe fyddai Affrica yn y dyfodol yn Ganada arall ac nid yn Werddon arall. Y blaid Ryddfrvdig wnaeth yr Ymherodraetb, a gafodd undeb Ymherodrol drwy lywodraetb leol, ac os oedd y blaid i lwyddo,, rhaid ideli gydnabod yr Ymherodraetb, ac apelio at' t'y bawb o ferldwl cadarn a phen clir yn mhob dos- bartb o gymdeithas, fel plaid fedrai edrych ar olyr Ymherodraeth, nad ofnai neb, ac a geisiai yn gyson wella cymeriad a deall ac amgylobiadau'r bobl. Yn y goleuni hwnw y gofymai ef iddynt adnewyddu eu ftyddlondeb i'r blaid.

Y RHYFEL YN AFFRICA. --

Llith o Landyssil.

Welsh Pony and Cob Society.…

TRESAITH.

HAWEN.

Advertising

THE MARKETS. ^

Advertising

London University. ---

LLANGWYRYFON.