Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Llith o Landyssil.

Football.

Advertising

THE MARKETS. ♦-

Advertising

----YR WYTHNOS. --

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Dywedir fod Cecil Rhodes yn beryglus o wael ei lechyd. Nos Sadwrn, bu farw y Parch W. Hyle Davies, gweinidog Eglwys Gymreig y Methodistiaid Callin- aidd yn Holloway Road, Llundain. Yr oedd yn 13regethwr galluog a phoblogaLld, ac yn weinidog hynaws a chymeradwy. Nid oedd ond 57 mlwydd oedd, ond yfr oedd wedi bod yn wael ei iechyd er's r, tro, a bernir fod marwolaeth ei briod ychydig amser yn ol wedi effeithio yn niweidiol arno. Dechreuodd ei yrfa fel chwarelwr yn Llanberis. Mae pwyllgor Seneddol wedi penderfynu rhoddi £ 67,000 yn ychwaneg tuag at dreuliau y teulu Brenhinol nag a roddid i'r ddiweddar Frenhines Victoria. Mae y cyfanswm a delir yn awr yn cyr- haedd y swm o £ 615,000. Dydd Ian, yn Belfast, yn ngwyddfod deng mil a bobl, moriwyd yr agerlong fwyaf yn y byd, sef y Celtic," eiddo cwmni y White Star. Mae Ymberawdwr Germani wedi anfon telegram at y Sultan yn ei longyfarch ar ei ddiangfa rhag fciwed oddi wrth y ddaergryn fu yn Twrci yn ddiweddar. Dywed yr Ymherawdwr ei bod yn eglur fad Dnw wedi amddiffyn bywyd gwerthfawr Y Sultan, ac ei fod ef yn ei gofio bob amser yn ei ^eddiau ac yn erfyn nawdd yr Hollalluog. Mae y Sultan wedi rhoddi pum' cant o bunau i d(lau o'i swyddogion am ddarganfod peiriant firwydrol oedd wedi ei osod ar ei Iwybr ger y Palas e cymeryd ei fywyd. Dywedir mai y swyddogion -eu hunain a'i 'gosododd yno er twyllo gwobrwy oddi wrth yr hen Deyrn. Mae Rhyddfrydwyr Mynwy wedi. dewis Mr Albert Spicer eto i ail-ymladd am y sedd y bu rbaid Dr Rutherford Harris ymddiswyddo o honi o her- Wydd gwario arian mewn modd anghyfreithlon yn Jstod yr etholiad ddiweddar. Y mae yn eglur fod oes yr ager yn cyflym ddir- WYn i ben. Y mae y trydan yn ei yru o'r neilldu yn mhobman. Y trydan ac nid ager sydd yn troi olwynion rhai o brif weithfaeedd y byd erbyn hyn, y mae yn cyflym oresgyn y rheilffyrdd. Dydd Sadwrn diweddaf agorwyd llinell drydanol (elec- tric) er cludo teithwyr yn Merthyr. Gyrid deg perbyd gan y gallu cyfrin, a chefnogid yr antur- laeth gan lawer o deithwyr. Mae trigolion Yspaen yn codi yn erbyn y 'clerig- Wyr ac yn galw ar y Llywodraeth i ddileu y «refy<ld-dai pabyddol sydd yn dryfrith yn y wlad laono. Mae Jack y Ripper wedi gwneud ei ymddan- gosiad yn Germani, ac mae wedi ymosod ar luaws ° ferched yn y pentrefi. Mae lluaws o brif bendefigion y wlad hon yn ymweled a theyrnasoedd Ewrop fel Llysgenhadon 4rbenig oddiwrth y Brenin i hysbysu am ei esgyniad i'r orsedd. Ily Mewn cyfarfod mawr o'r chwarelwyr yn Bethesda ^Jdd Llun, penderiynwyd gwrthod telerau Ar- Rlwydd Penrhyn i ail weithio, ac nid oes obaith y gwelir terfyn buan i'r streic bellach. Mae plentyn deuddeg oed yn y carchar yn Edin- thorpe, Swydrt Norfolk, am ladd geneth fechan llaw oed trwy ei saethu tra yr oedd hi a phlant efeill yn casglu briallu. Ceisiodd yr hogyn ganddi toddi ei basged i lawr er iddo ef saethu ati (sef y fasged). Gwrthododd y ferch; yna dywedodd y Hanc, •' Mi a'ch saethaf chwi ynte," Cododd y dryll i'w ys,wvdd a saetho,(Id hi'n farw. Rhedodd ymaith a dywedodd wrth weithwyr beth a ddig- Vfyd,lai. ac ychwanegai Pe bai genyf ergyd arall -Saethwn fy hun," Cymerodd y gwn o ffermcly He y S^eithiau yn achlysurol. Rhoddir ef ar ei **awf. Gwneir cynyg eto i gyrhaedd y Pegwn Gogleddol (North Pole). Y tro hwn gan un Mr Wellman 0, chwmni o Norwegiaid. Cychwynant yn Mehefin Syda digon o angenrheidiau am ddeunaw mis. Er ceisio darbwyllo y gwragedd i beidio gwisgo Synau afresymol o bir, y mae cynllun tra effeithiol V'ecii ei ddyfeisio yn Germani. Dywedir yno fod nau hir yn golygu traed mawr, ac mai cyfiawn Jyiiu y casgliad fod tracd mawr gan bob bonedd- 1ges sydd yn gwisgo gynau hirion. Bu terfvsg cvnddeiriog yn erbyn yr Iddewon yn Jj^yrna, yn Asia Leiaf. yr wythnos ddiwediaf- ■^aenodu "rhieni Groegaidd y son ar led fod eu Plentyn, llengcvn un-ar-bymtheg oed, yr hwn oedd goll,' wedi ei ladd gan yr Iddewon i ddybenion eremonio1. Mewn canlyniad rhuthrodd deng mil ti Roegwvr nwydwyllt i'r rhan bono o'r ddinas lie y trigui vr lddewon, a gwnaethant ddifrod ofnadwy Ar ell tai a'u heiddo, a chamdriniwyd llawer o h°nynt. Bu rhaid i'r milwyr Tyrcaidd ymyryd, a lladflwycl rhai ac anafwyd llawer o'r terfysgwyr. edi tawelu o'r ystorm. caed fod yr hogyn yn holl- kch, ac ei fod wedi bod ar spree am ddeuddydd. t)ywed Flammarion. v servddwr Ffrengig, y bydd v ddaoiir lion yn alluog i ddal cymundeb j* thrigolion y blaned Mars tua diwedd y ganrif bon, o llwyddir gwneud hyn, a beidia y ddeufyd l'yfela a'u gilydd. Mae dro- g'ant o bobl wedi marw o'r pla yn Cape t-, Town. Mae llawer,o edliw eu bryntni i'r Boeriaid Wedi bod yn ystod'y rliyfel; ond dywed awdur- Qodau ucbel yn awr mai Cape Town ydyw y dref fryntaf bron dan haul. Mae crvn gyffro ymblith y tyddynwyr bychain tlawd di-dir sveld vii byw ar ynys bellemg Barra ar 'orora ti anfhvsbell gorllewin Ysgotland, Mae Uawtr cvnvsr wedi ei wnevd yno i geisio setlo pwnc y tir, ond nid oes dim rydl: foddhad wedi ei wneyd to. Yn ddiweddar prynwyd tir gan Bwyugoi rbenig or crcn amryw ddaliadau bychain; ond ni Qdaeth hyn a gwellhad effeithiol; ac mae r setyllia ^or ddrwgac erioed. Dydd Gwener aeth c-annoeda ^■Wer o'r tyddynwyr bychain mewn gorymdaith a flaenorid gan bibydd yn cbwareu alawon i fferm ^■wr a chvmerasant feddiant ffurfiol o honi; ac, "uewn cyfarfod a gynhaliwyd yn yr awyr agored, rfynwy(I-gan na wyddid pa dir oedd wedi ei brynu gan y Pwyllgor, a chan y byddai i oediad Pellach i osod y cnydau olygu newyn i'r dynion a'u teuluoedd v gauaf nesaf—dechreu aredig a gweitbio Y tir y diwrnod canlynol. Mae y tyddynwyr a'r Pysgotwvr wedi cymeryd meddiant o dir arall hefyd, a "dywedir eu bod ar byn o bryd wrthi yn ddiwyd yn ei drin. Dywedir fod yr argyfwng hwn ddyledus i esgeulusdod y Llywodraeth yn Peidio cadw addewid. i anfon gwr cyfrifol a c'nyfar- "^ydd yno mewn pryd i wneyd trefnindau i gadw y ^erin rhag trengu o eisiau. Ar ol bod ar goll, trwy ladrad, am ddeng mlyn- ar hugain.y mae darlun byd-enwog yr arlun- ydd Gainsborough o Dduces Dyfneint wedi ei ad- feru i'w berchenoglon yn Llundain, sef y Mri ^■gne^v. Mae rhamant ryfeddol yn nglyn a choll- lad ac adferiad y darlun ac mae ei hanes wedi tynu cryn sylw y dyddiau hyn. Prynwyd y darlnn gan Mr Agnew mewn arwerthfa yn Llundain, yn 1876, am E10,605, un o'r symiau mwyaf a dalwyd am ddarlun ar liain. Arddangoswyd y darlun wedi hyn yn oriel Mri Agnew, yn Bond-street, ond un ttoson, tra yr arddangoswyd ef felly, fe'i lladrata- Wyd. Yr oedd y lliain wedi ei dori yn ddeheuig allan o'r ffram, ac yr oedd yn amlwg fod lleidr cyfarwydd wedi bod wrth y gwaith. Mwy na hyn, rtis gellid dyfod o hyd i ddima daflai oleuni ar y dirgelwch, gyda'r eithriad fod un o'r ffenestri ar y Ilufft-Ile yr oedd yr oriel- yn gul agored ac fod fcodau esgid ar y gareg. Dyfalwyd llawer yn lighylch yr amgylchiad, a chynygiwyd gwobr o fil o Taunau i'r neb a ddeuai o hyd i'r darlun, ond yr oil yn ofer. Nis gellia airnad ble oedd y lnain^gwertn- fawr, na phwy oedd y lladron. Ac ond ychydig 'Wvthnosau yn ol datguddiwyd y dirgelwch-ac nis gallir eto wneud yr oil yn hysbys am resymau bodd- haol i'r Awdurdodau Cyfreithiol. Daeth newydd i glustiau heddgeidwaid Llundain fod y darlun yn gorwedd mewn tref yn Ngorllewin America, ac wedi cryn ymohebu a detective goreu'r America, bodd- hawyd vr awdurdodau fod y ston vn wir, ac fod y darlun "yno. Aeth un o'r Meistn Agnew ar frys i'r America, a dangoswyd y darlun iddo yn ei luesty yn Chicago ac wedi arsyllu arno yn ofalus, bodd- hawyd ef ei fod yn edrych ar y darlun lawn, a mawr oedd ei orfoledd ac heddyw y mae pawb sydd yn ffoff o athrylith a phrydferthwch mewn celf yn cyd-orfoleddu ag ef. Dyma hanes difrif-ddigrif o bentref yn I fraingc. Cyhuddodd gwr o'r enw Duport, yr hwn a gadwai fucbod yn y pentref, ei gymydog, yr hwn oedd dipyn o gerddor, o wneyd swn aflafar ar ei otteryn- au yn y nos a rhwystrai ei wartheg gysgu, ac ei fod wedi ceisio eu gwenwyno. Ni wnaeth y cymydog sylw o'r cyhuddiad ragor na gwenu. Gwnaeth hyn Duport yn ffyrnig ac awgrymodd i ychydig 0'1 gyfeillion mynwesol y rhoddai bum punt am waed y cerddor. Y dydd nesaf aeth gwr ieuanc o'r enw Julot at Duport a chynygiodd gyflawniy dymuniad, yr hyn a daflodd Duport i ortcledd tra mawr— Rno i mi botelaid o waed y Cantwr," meddai, ac mi roddaf inau i ti bum punt." Yna aeth Julot ymaith, a chynllwynodd a cbyfaill, yr hwn a gedwai gwningod. Cytunasant i ladd cwningen a llanw potel a'i gwaed. Aeth Julot a hwn i Duport, yr hwn a roddodd iddo yn llawen y pum punt addaw- edi-, ac a dreuliodd y noson gan edrych yn foddhaus ar y botelaid gwaed a llongyfarch ei hun ei fod wedi cael ymwared bythol 01 gymydog, llais yr hwn ni flinai na dYll nac ani fail mwyach. Ond wedi troi y pum punt yn win a glodclesta yn ormodol, cod odd y drliod gadarn i ben Julot a thybiodd ei fod wedi llofruddio y Ccrddor yn winoneddol, ac aeth at Duport a chyhucldodd ef yn uchel oi hudo a«- arian i wneyd gwaith ysgeler ond gan i Duport fvgwth galw yr heddgeidwaid, diangodd Julot- Ac ar yr eiliad bono psvy welai Duport yn dyfod I W gyfarfod ond y Cerddor! Wrth weled hyn aeth llid Duport yn drech na'i reswm. Ruedoda l swyddfa'r heddgeidwaid; a'r canlyniad fu, cymeryd Julot i'r carchar am dwyllo arian. Ond erbyn hyn y mae Duport hefyd, druan, yn y ddalfa; ac y mae'n methu dyfalu beth a ddywed pan eicyhuddir o geisio acbosi llofruddiaeth. Yn y cyfamser y mae y Cerddor yn chwareu ei offeryn yn y nos heb na dim na neb i'w flino. Torodd tan allan mewn maelfa yn St. Louis, America, nos Sul, a dinistriwyd 700,000 bushel o wenith a 100,000 bushel o yd. Cynelir cyngrhair rhwngwladwriaethol yn Llun- dain yn ystod yr haf, er cymeryd i ystyriaeth y moddion goreu i ddiwreiddio, neu, o leiaf, attal lledaeniad y darfodedigaeth. Pan gofir fod 60,000 yn marw yn flynyddol yn Mhrydain Fawr a'r Iwer- ddon o'r clefyd ofnadwy hwn, ni raid dyweyd y bydd y gynhadledd yn un bwysig iawn. Mae llifogydd mawrion yn Canada yr wythnos hon, oherwydd toddi o'r ia. Mae rhai o'r prif afonydd wedi gorlifo eu glcnydd, ac mae dwy dref o dan y dwr. Mae y terfysg yn mhlith y myfyrwyr yn Rwssia yn ymledu. Er rhoddi cannoedd yn ngharchar ni cheir llonyddwch. Erbyn hyn mae y Tzar wedi gorfod cymeryd sylw o'r belynt, ac mae wedi penodi amryw swyddogion newydd, rhai a'u golygiadau yn fwy cydnaws, meddir, a gofynion y myfyrwyr. 1 GOHIRIO'R SENEDD. Dydd Mawrth wythnos i'r diweddaf, yn Nby'r Cyffredin, cynygiodd Mr Balfour ohirio'r Ty hyd Ebrill 18fed. Cynygiodd Syr C. Dilke welliant i ohirio hyd Ebrill ]5fed, gan y buasai parhad y gwyliau yn cau allan ystyriaeth Mesur Oriau Gweithio Person- au leuainc yn y Mwnau a'r cwestiwn o Ddadsefyd- liad i Gymru. Galwodd Mr Herbert Lewis hefyd sylw at y ffaith y byddai i'r gohiriad rwystro galw at Ddad- sefydliad yn Nghymru, yr hyn oedd mwyafrif yr etholwyr, dro ar ol tro, wedi gofyn yn bendant am dano. Ar ol petli dadl, gwrthodwyd y gwelliant trwy 156 o bleidleisiau yn erbyn 88.

Rwsia a China.

Y RHYFEL YN AFFRICA.