Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Aeth y Brenhin tua'r Almaen, dydd Sadwrn, i edrych am ei chwair, yr Ymherodres, yr hon sydd yn wael ei hiecbyd. Dydd Sul Uosgwyd chwech o bersonau i farwol- aetb yn Birmingham, trwy i dan dori allah mewn heolgul. Llosgwyd chwech o dai, hefyd, yn South Brent. Mae'r arglwyddi Cymreig oil yn cefnogi'r cais am gydnabod Cymru ar y paisarfau breiniol, a chredir y llwydda'r mudiad. If Dengys cyfrifon Cwmni Rheilffordd y Cambrian am yr haner blwyddyn diweddaf leihacl oP,864 yn y derbyniadau, a chynydd o Z7985 yn y treulian. Gwneir darpariadau cisoes i ddecbren ar y gwaith o wneud y rheilffordd trwy Ddyffryn Rheidiol i Bont ar Fynach. Mae cynllun ar droed hefyd i agor gwaith hollol newydd o man ei natur yn y Cwm ( TRYCHINEB AR Y MOR. Dydd Gwener daeth newydd am drychineb ofnadwy ar y inor, trwy suddiad llong fawr ger San Francisco mewn niwl tew. Collodd tua 120 o bersonau eu bywydau. Safodd y cadben yn wrol wrth ei waith ac aeth i'r dyfncler gyda'r llestr anffortunus Y SENEDD; LLW Y CORONIAD. Dydd Llun, yn Nhy'r Cyffredin, gofynodd Mr W. Redmond a oedd y Llywodraeth yn bwriadn cymeryd unrhyw gam er gadael allan o Lw y Coroniad y rhanau hyny y teimlai y Pabyddion wrthwynebiad iddynt. Dywedodd Mr Balfour na byddai yn rhaid i'r dadganiad a wnaed gan y Brenhin ar argoriad y Senedd gael ei adrodd ar y coroniad. Nid oedd yn rhyw edmygwr mawr ar y geiriau a arferid ond yr oedd y cwestiwn ymaferol yn awr, efe a obeitbiai drosedd am lawer o flynyddoedd. MR. LLOYD-GEORGE A'R RHYFEL. Dydd Llun, yn Nhy'r Cyffredin, ail-agorwyd y ddadl ar yr anerchiad gan ArglwyddlCranborne, ac atebodd y beirniadaethau oedd wedi eu traethn ar bolisi y Llywodraeth yn China. Dywedodd fod y swm o ad-daliad i China yn cael ei ystyried gan y Llywodraeth yn gymfearol ddibwvs wrth ei evm- haru a'n manteision masnachol. Wrth ymdrin a chwestiwn ffordd haiarn Shan Hai Kwan, dywedodd fod y Llywodraeth wedi cael sicrwydd gan Lywodr- aeth Rwsia, nad oedd y percbenogiad ond am dymhor yn unig. Dywedodd Mr Lloyd-George fod un nodwedd y 11 foddhaol mewn perthynas i'r dadleuon ar y rhyfel, sef, nad oedd yn ymddangos fod gan neb air da i'w ddyweyd am y Llywodraeth (clywch, clywch). Yr oeddynt wedi gwneyd pob camgymeriad oedd yn ly bosibl ei wneyd. Cariasant yr ymrafael yn mlaen yn y fath fodd fel yr oedd pob cyfaill i ryddid o'r tuallan i Brydain Fawr wedi myned yn eu herbyn dygasart yr ymgyrchoedd yn mlaen yn y fath fodd fel yr oedd eu milwyr eu bunain wedi banner newynu, ac wedi eu taraw gymaint gan afiechyd fel yr oeddynt. wedi marw wrtb y miloedd o ddim ond dilfyg y darpariaethau symlaf. Ond beth bynag a wnai y rhai a gymerai yr olwg oedd efe yn ei chymeryd mewn perthynas i'r rhyfel, cam- esbonid eugweitbrediadan.:Dywedid wrthyntjeubod yn cefnogi y Boeriaid (cymeradwyaeth y gweini- dogion). Derbynid y mynegiad hwnw gan aelodan ar yr ochr arall. Nid oedd dim wedi ei ddyweyd gan unrhyw aelod ar ochr yr Wrthblaid oedd yn tueddu i gefnogi y Boeriaid hanner gymaint a rhai o'r pethau oedd efe wedi ei glywed gan weini- dogion Undebol ac aelodau Toriaidd. Tybier bod y Boeriaid yn esbonio rhai o areithiau y Prif- Weinidog a'r Ysgrifenydd Rhyfel, fel yr oedd y gweinidogion ac ereill yn esbonio areithiau aelodau yr Wrtbblaid a thybier eu bod yn cymeryd araeth y Prif-Weinidog, oedd yn edrych mor eithafol ar bethau. beth oedd hi yn ei olygu i'r Boeriaid. Dywedid wrtbynt fod y Boeriaid yn darllen llithiau aelodau Seneddol a'u bod yn cario eu cadgyrch yn mlaen yn ol y rhai hyny. Os darllenant araeth y Prif-Weinidog gallent ddweyd, Dywed y Prif-Weinidog wrthyin am beidio bod yn ddigalon. Nid ydym wedi bod wrthi ond am un mis ar bymtheg. Daliodd y Cynghreirwyr yn America am bedair blynedd; ac felly gadawer i ni gymeryd calon a myned yn mlaen. Nid ydym ond yn mron wedi dechreu" (cymeradwyaeth yr wrthblaid a chwerthin), Wedi hyny, dywedai^Ysgrifenydd Rhyfel:—" Gallaffyned yn mlaen yn well na hynyna. Y mae genyf gefn- ogaeth fwy ger fy mron. Nid oedd gan y Cubiaid dim tebyg i'ch taclau chwi. Yr 3rdycb cbwi yn 9 meddu y taclau goreu i amcan rhyfel. Ni ddarfu iddynt hwy gario eu cadych yn mlaen haner mor llwyddianus a chwi ac eto, gyda 30,000 yn erbyn 200,000 daliasant allan am ddeng mlynedd felly, peidiwch bod yn "ddigalon." (cymeradwyaeth yr Wrthblaid). Wedi hyny, bu y wasg Undebol yn dyweyd, ynystod yr ychydig wythnosau diweddaf, fod ein milwyr wedi en gwisgo allan trwy y rhyfel, ac nad oedd dim bywyd ynddynt. Mewn gwirion- edd, yr oedd yn Hawn bryd i wladgarwyr o feddwl uchel ddeffro, a gwrthdystw yn erbyn y traethiadau ffyrnig hyn o eiddo y Prif-Weinidog ac Ysgrifenydd Rhyfel (chwerthin). Nid oedd efe yn gwybod a oedd yr Ysgrifenydd Tretedigaethol (Chamber- lain) yn hollol uwchlaxv drwgdybiaethau (chwerthin). Yr oeddym mewn rhyfel, ac yr oedd efe newydd ymuno a phwyllgor Atal y Rhyfel. Yr oedd efe wedi siarad am heddwch, a thelerau teg a haelfrydig, ond nid oedd hyn ond shiboleth y rhai a gefnogent y Boeri-ud. Ni feiddiai y blaid gefnogol i'r Boeriaid gyfeirio atynt, neu yr oeddynt vn cael eu nodi fel cefnogwyr i'r Boeriaid. Paham y caniateid i'r Ysgrifenydd Trefedigaethol wneud hyny ? (clywch, clywch). Yr oedd wedi ymnno a phob plaid a allasai. A ydoedd yn bosibl ei fod yn myned i goroni ei yrfa trwy ddychwelyd unwaith eto i fynwes y blaid oedd yn cefnogi y Boeriaid, i'r hon y byddai ef yn addurn hynod adisglaer (chwerthin a chymeradwyaeth, yn nghanol yr hwn y daeth Mr. Chamberlain i'r Ty, ac y cymerodd ei sedd). Mewn gwirionedd, -yr oedd yr arddanghosiad hwn o gefnogaeth i'r Boeriaid yn beth i ofidio o'i herwydd, ac yr oedd yn amser iddynt ymwrthod ag ef. Ond, wedi'r cwbl, pa un oedd y tebycaf i gefnogi y Boeriaid, ac i weithredu fel cymhellydd i gario y frwydr yn mlaen-y wybodaeth am yr hyn a ddy wedai dynion yn. y wlad hon, yn cynghori triniaeth deg a haelfrydig, neu y wybodaeth am areithiau a wnaed gan y Prif- Weinidog, ac eraill, vn dweyd wrthynt beth oedd i ddisgwyl. os yruostyngent ? (clywch, clywch). Nid oeddynt i gael unrhithyn o annibyniaeth. Mwy na hyny, y ni oedd i fod yn feistriaid, a hwy oeckl i fod yn weision (gwaeddiadauv gweinidogion, "Na," a chymeradwyaeth yr wrthblaid, a clywch, clywch). Wedi hyny yr oedd arian wedi eu rhoi gan y Senedd, er gosod 15,000 o wvr meirch Ymherodrol fel ymsefydlwyr ar ffermydd Boeraidd. Dywerlai aelod anrhydeddus, y dydd o'r blaen, fod y rhyfel yn anifeileiddio ein dynion. Dywedodd Syr R. T. Reid nad oedd gan y Llywodraeth un bawl i alw am abertbau pellach, oddieithr eu bod yn barod i wneyd berldweh mor fuan ag yr oedd yn bosibl, a dwyn v rhyfel i der- fyniad anrhydeddus,trwy gynyg ammodau esmwyth, anrhydeddus, a theo, i'r gelyn. Dywedodd Mr. Chamberlain nad oedd polisi y Llywodraeth wedi cyfnewid dim er pan y taniwyd yr ergyd gyntaf. Datganai y Llywodraeth na byddai i un rbithyn o'r annibyniaeth yr oedd y Boeriaid wedi gwneyd camddcfnydd o hono gael ei estvn byth icld ynt wed'yn. Dyna oedd ac a fyddai polisi y Llywodraeth. O'r braidd yr oedd y foment bresenol yn un gyfaddas i ddweyd dim pellach, gyda'r amcan o gael heddwch. Dydd Mawrth, yn Nhy'r Cyffredin, beirniadodd Mr Asquith yr araeth gythruddol a draddodwyd gan yr Ysgrifenydd Trefedigaethol ynoson fiaenor- ol. Dywedai fod yr Wrthblaid, beth bynag oedd eu hangbydwelediad ar gwestiynau ereiil yn nglyn a Deheudir Affrica, yn unol yn eu bawydd am heddwch anrhydeddus, ac na phrysurid y canlyniad hwnw trwy iaith ffyrning. Cydnabn Mr Broderick yr yspryd cymedrol oedd Mr Asquith wedi ei ddangos yn ei araeth, a dywed- odd na chynygiwyd erioed y fath amodau i elyn gorchfygeclig ag a gvnygiwyd i'r Boeriaid. Yr oedd efe, modd bynag, yn ystyried, nid yn yiriig y byddai yn garagymeriad, ond yn drychineb, iddynt gynyg dim fel ymostyngiad amodol i ddyiiion fel De Wet, oedd yn gwneyd y fath ■wrthsanad ftyrnig, ac oedd yn fflangellu ac yn saethu ei ddymon ei bun. Y peth doetbaf i'r Llywodraeth ei wneyd yclde(](] cryfhau dwylaw Arghvydd Kitchener, anprenion vr hwn, bvcl yma, oedd wedi eu cyflenwi. Dywedodd Mr Bryn Roberts nad oedd Mr Asquith wedi camgymeryd wrtl^feddwl mai cwyn oedd cwyn Mr Lloyd-George yn erbyn y dull y llosgid fferraydd yn Alfrica. Yr oedd ei gwyn yn erbyn y gwaith barbaraidd ac anynol y gorfodid y milwyr i'w wneyd—gwaith yr oedd 'efe ei bun yn gofidio o'i herwydd, Yr oedd y milwyr vn cashau y gwaith hwn, ac yr oedd yn. dda ganddo glvwed mai aelod Cymreig, a fu ar y maes ei hun, ydoedd y cvntaf i godi eilaisyn erbyn y dyledswvddau byn y gorfodid y milwyr i'w gwneyd, Dywe'dwyd fod Arglwvdd Roberts yn cashau y gwaith. Digon tebyg ei fod, ond os oedd, yr oedd wedi dangos ei hun yn ddyn gwan dros ben. Cymhellwyd y polisi hwn ar yr awdurdod milwrol gan y blaid Seisnig yn Neheudir Affrica, y blaid a geryddai Arglwydd Roberts am ei dynerwch, ac yr oedd Arglwydd Roberts ddigon gwan i ymostwng iddynt. Yr oedd braidd bob camgymeriad wnaethom yn Neheudir Alfrica, a'r I Lis digwyddiadau adfydus fu yno, yn ddyledus i wrandaw ar gynghorion y fintai daleithol Seisnig. Ei farn ef ydoedd, os na chynygid mesur o anni- byniaeth rnewnol i'r Boeriaid, y byddai i Loegr golli Deheudir Affrica. Yr oeddynt hwy, a wrth- wynebeot ryfel, wedi eu cyhuddo hyd yn nod gan eu cyfeillion a'u lietholwyr. Galwyd ef yn "pro-Boer" yn ei wlad ei hun (cymeradwyaeth) Gwynebodd yntar. ei etholwvr, ac amlygodd ei syniadau iddynt, a'r canlyniad fu iddogael ei ethol yn ddiwrthwynebiad (cymeradwyaeth). MESURAU PRFIFAT. Dydd Mawirtb, yn Nhy'r Cyffredin, yn mysg yr amrywiol fesurau preifat a gyflwynwyd, a ddarllen- wyd y waith gyntaf, ac y penodwyd ar y dyddiau i'w hail ddarl ien, yr oedd y rhai canlynol gan aelodau o Gymtu ;— Mr. Osmond Williams Mesur i ddiwygio y gyf- raith mewn perthynas i ddaliad tiroedd amaeth- yddol yn Nghymru a sir Fynwy, Mai 21ain. Mr. Lloyd: Mesur i ddarparufod costau rbeithwyr brawdlvsoedd a brawdlysoedd chwarterol i'w talu, Ebrill 17eg. Y Cadfridog Laurie: Mesur i alluogi prydleswyr i ddyfod yn rbydd-dalwyr, Ebrill 24ain.

----------r-""----Y RHYFEL…

RHYFEL YN CHINA. --

Llith o Landyssil.

INEWCASTLE-EMLYN.

I THE MARKETS. I -'*

i OLD FALSE TEETH BOUGHT

Advertising