Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

- I. Cyhoeddi y Brenin.

News
Cite
Share

I Cyhoeddi y Brenin. Gan ei bod wedi rhyngu bodd yr Hollalluog Dduw ialw i'w Drugaredd ein diweddar Arglwyddes Benaduredig y Frenhines Victoria, o Fendigedig a Gogoneddus Goffadwriaeth trwy farwolaeth yr hon y mae Coron Ymherodrol Teyrnas Unol Prydain Fawr a'r Iwerddon, wedi dyfod yn hollolac uniawn i'r Tywysog Uchel a Galluog Albert Iorwerth Yr ydym ni gan hyny, Arglwyddi Ysbrydol a Thymhor- ol y Deyrnas hon, yn cael ein cynorthwyo yn hyn gan y rhai byn o Gyfrin Gyngor ei Diweddar Mawrhydi a Niferoedd o Brif Foneddigion ereill o nrddas, ynghyd a'r Arglwydd Faer, Henaduriaid a Dinasyddion Llundain yn awr trwy hyn, gydag un Llais a Chydsyniad Tafod a Chalon, yn cyhoeddi ac yn datgan, Fod y Tywysog Ucbel a Galluog Albert lorwerth ynjawr trwy j farwolaeth|ein diweddar Benadur o Ddedwydd Goffadwriaeth wedi dyfod ein unig gyfreithlon ac iawn Arglwydd Iorwerth y Seithfed, trwy Ras Duw, Brenin Teyrnas Unol Prydain Fawr a'r Iwerddon, AmddiffynyddyFfydd Ymherawdwr yr India: I'r bwn yr ydym yn cydnabod pob Ffydd ac Ufudd-dod cyson, gydag holl Serch calonog "a gostyngedig gan erfyn Duw trwy yr Hwn y teyrnasa Brenhinoedd a Brenhinesau i fenditbio y Tywysog Brenbinol Iorwerth y Seithfed, a blynyddau maith a dedwydd i deyrnasu drosom Ni. Rhoddwyd yn Llys Sant Iago, y dydd hwn y 23ain o Ionawr yn Mlwyddyn ein Harglwydd 1901. Darllenwyd y Cyboeddiad hwn drwy'r holl Deyrnas yn ystod yr wythnos, CYFARFOD Y BRENIN NEWYDD. Am naw n'r gloch foreu Mercber yr 22ain o Ion- awr, cychwynodd y Brenhin, Due York, a Due Oonnaught, o Cowes, ar daith i Lundain. Llywyddai y Brenhin gyfarfod abenig o'r Cyfrin- Gynghor, yn Mhalas St. James, prydnawn dydd Mercher. Yn y cyfarfod hwn gweinyddwyd y llw i'r Pena- dur newydd. yn ercbi iddo lywodraethu y Deyrnas yn unol a I chvfreithiau a'i barferion. Wedi hyny derbyniodd ei Fawrhydi warogaeth y gweinidogion oedd yno, y rhai a gymerasant Lw Teyrngarwch ac Uwchafiaeth, gan blygu ger yr Orsedd. Darfu iddynt wedi hyny roddi seliau eu swydd iddo, ond nid oedd hyn, mewn gwirionedd, ond mater o ffurf, trwy fod y Brenhin yn eu hcstyn yn ol i r Gweinidgion y rhai a gusanasant ei ddwy- law. Gwnaeth y Brenbin araeth fer, gyfaddas i'r amgylchiad, a hysbysodd y cymerai ef y teitl o Edward y Seithfed. Yr oedd yr holl weithrediadau hyn, wrth gwrs, yn breifat. Aeth y Brenin i Marlborough House ar ol y Oynghor, a dychwelodd i Osborne dydd Ian.

Iorwerth y Seithfedd.

Iorweirth Coronog.

Victoria. ---

- i ■ ■ ■ i ■ YR ANGLADD.

—————<,————— YN Y SENEDD.

[No title]

Y Beddrod Breninol.