Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Y RHYFEL YN AFFRICA.

News
Cite
Share

Y RHYFEL YN AFFRICA. YMLID DE WET, Edrydd Arglwydd Kitchener fod De Wet, wedi methn croesu Pont Commassau, wedi myn'd i'r gogledd-ddwyrain, gen adael 500 o geffylan ac amryw droliau ar ei ol. Ystyrir fod ei ymgais i dori drwodd i Cape Colony yn fethiant. Y mae y Prydeiniaid yn ei ymlid o bob cwr. Y mae pedair o adranau dan arweiniad y Oadfridog Knox, ar ei 01 er's rhai dyddiau, a chawsant anhawsder mawr i groesi afon Caledon, a hithau wedi llifo dros ei glanau. Mewn telegram dderbyniwyd oddiwrth Arglwydd Kitchener, dywedir fod yr holl garcharorion a ddaliwyd gan y Boers yn Dewetsdorp, ag eithrio'r swyddogion, wedi cyrhaedd Bethulie. DE WET YN DIANC. Croesodd De Wet Afon Caledon dydd Mercher. a chyfeiriodd at Odenddaal Drift, ar Afon Orange. Dilynid ef gan y Cadfridog C. Knox gyda rhan o'i fyddin gan ei fod wedi anfon y gweddill dros Bont Bethulie i Cape Colony, gyda gorchymyn, mae'n debyg i fyned ar hyd glanau deheuol Afon Orange i gyfeiriad Odendaalstroom. Delir Odendaal Drift gan y Guards, ac y mae'r afon wedi ei gorlifo. Mae milwyr De Wet wedi symud o yn agos i Odendaal i'r dwyrain a'r gogledd ddwyrain, ym- lidid ef gan y Cadfridog Knox, yr hwn a feddian- odd wn Krupp a gwagenaid o bylor. Daeth parti o Aliwal North i wrthdarawiad a gwylwyr De Wet nos Fercher. Daliasant un Boer- iad, yr hwn a ddywedai fod DeWetvn dioddef oddiwrth y symud ami rbag y Prydeinwyr. TRYCHINEB ARALL. Edrydd Arglwydd Kitchener fod commando o 500 o dan Delarey, wedi gwneud ymosodiad dydd LInn er gwmni Prydeinig oedd yn myned gyda chludfen o Pretoria i Rustenburg. Dygwyd haner y gwageni ymaith gan y Boeriaid, a liosgasant hwy. Ymladd- odd y milwyr yn ddewr, ond lladdwyd 15 a chlwvf- wyd 23 o honynt. Daeth adgyfnerthiad a gyrwyd y Boeriaid ar ffo. Dywedai Arglwydd Roberts, wrth ganu yn iach i Ddebeuyr Affrig, a rboi ffarwel i'r corphluoedd, ras gallai ymadael a'i gydfilwyr y bu yn cymdeithaeu a hwy am agos i flwyddyn, heb roddi datganiad i'w werthfawrogiad dwfn o'r gwaith ardderch- og oeddynt wedi ei wneud dros en Brenhines a'u gwlad," ac iddo ef yn bersonol. Yr oedd efe yn mentro dweyd fod y gwasanaeth oedd y corphlu- oedd yn Neheudir Affrica wedi ei gyflawni yn un di-ail yn hanesion rhyfeloedd, yn gymaint al bod wedi ei gario yn mlaen yn ddidor yn mron am flwyddyn gyfan. Ychwanegai ei fod efwedi dysgu llawer yn ystod y rbyfel, a byddai i'r profiad oedd efe wedi ei gael ei gynortbwyo yn fawr i gario y gwaith oedd yn gorwedd o'i flaen, sef, yn ol fel y tybiai ef, gwneud byddin y Deymas Gyfnnol mor berffaith ag yroedd yn bosibl i fyddin fod. YMLADD AM BEDWAR DIWRNOD. Dywed brysneges o Cradock, yn Cape Colony y bu ymladd caled gerllaw Vryburg y Sul. Dywedir i'r Boeriaid gael colledion trwm, tra nad oedd eiddo'r Saeson ond ysgafn." Dengys yr adroddiadan [diweddar o'r ymgyrch- oedd rhwng y corphluoedd o dan y Cadfridog Paget a'r catrodau unol o dan Erasmus a Viljoen, y bu ymladd didor yn mron am bcdwar diwrnod. Ar derfyn y trydydd dydd, syrthiodd y Boeriaid yn ol i'w prif safle yh Rhenoster Kop, tua 40 o filldiroedd i'r dwyrain o Pretoria, a 16 miildir i'r gogledd o linell Ban Delagoa. Bemir fod eu nerth yn 2500 o wyr, gyda phump o gyflegrau, dau pom-poms a maxin. Ar y pedwerydd dydd, gwnaeth y Cadfridog Pagetymosodiad ar y safle hwn: 'ond cyfarfa a'r fath wrthwynebiad cyndyn fel y bu amser heb wneyd dim bron. Ar un adeg, darfo i'r Boeriaid wneyd ymosodiad cryf ar ochr aswy y Prydeinwyr. oedd yn gael ei dal gan New Zealanders. Attal- iwyd hwy i symud yn mlaen, a chawsant en gyru yn ol gyda cholled. Yna gwnaeth y New Zealanders ruthr ar sefyllfa y Boeriaid, ac ymneillduodd y gelyn o dan leni y tywyllwcb. Cyrhaeddodd y Cadfridog Bruce Hamilton i Frykfort, ar y gogledd-ddwyrain i Drefedigaeth Afon Orange, ar ol clirio y wlad i'r deheu a'r dwyrain o Heidelberg, yn y Transvaal. Adroddir fod catrodau Boeriaid, 500 o nifer, o dan Liebenberg, yn mysg y bryniau i'r gogledd o Klerksdrop. Dengys y tabl misol o golledion yn Neheudir Affrica a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ryfel, hyd ddiwedd Tachwedd, fod lleihad o 14.178 yn y gallu- oedd milwrol, sef 575 o swyddogion, a o filwyr cyffredin, sydd wedi marw yn Neheudir Affrica, 14 o swyddogion, a 1236 o flilwyr cyffredin, a nodir fel ar goll neu garcharorion, pedwar o swyddogion. a 231 o filwyr cyffredin wedi marw, ar 01 eu hanfon adref ar ol eu banalluogi, a 1314 o rai a analluogwyd, sydd wedi gadael y gwasanaeth fel thai anghymhwys.

Llith o Landyssil. --

PENYGARN.

LLWYNGWRIL.

I THE MARKETS.

OLD FALSE TEETH BOUGHT

Advertising

YR WYTHNOS. --

'——*—"'*'-Football.

PENEGOES.