Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Y SENEDD.

TRANSVAAL WAR FROM .DAY to…

-----------------Briton v.…

WORLD IN A WEEK.

CAROL BLODAU'R GWANWYN.

Advertising

jY RHYFEL.

LLITH HEN GARDI.

News
Cite
Share

LLITH HEN GARDI. Wrth wel'd y clip ar yr hoil dydd Llun, mi gofies am stori go lew am dro go ddigrif gymerodd le yn Sowth Affrica flynydde yn ol. 'Roedd llawer o wyr dysgedig y pryd hwnw, fel y pryd hwn, wedi myn'd i'r Cyfandir Tywyll er gweled y clip ar ei oreu. Wedi iddi nhw lanio, a tra yr o'n nhw yn rhai yr offerynau yn eu lie, dyma haid o'r barbaried duon yn rhuthro ar eu traws a'u bwgwth. Os cwrddwch chi a ni," meddai un o'r seryddwyr-" fe ddigia yr haul, ac fe a o'r golwg am byth," a gyda J hyn dyma'r clip yn dechre; ac mewn eiliad dyma barbaried yn carlamu ymaith gan gredu eu bod wedi d'od ar draws bodau goruwchnaturiol. f Y ma'r wlad wedi dwli yn lan ar y peth y ma' nhw yn alw yn khaki—ni fuodd ffashwn ariod yn ffolach nac y mae hi yn awr. Do's dim yn iawn os na fydd e' o liw y khaki—D'yw y crys a'r coler, na'r hosan, na'r esgid yn iawn os na fyddan nhw o'r lliw bwn. Ma'n debyg fod hyd yn od y Beibil yn gwerthu yn well pan wedi ei gaso yn y lliw yma. Y ma'r wlad fel pe wedi gwirioni am y lliw—ac nid os dim prydferthwch o gwbl vn perthyn iddo; ond yn hollol i'r gwrthwyneb. Ond y mae rheswm digonol gan ein milwyr dros ddefnyddioy lliw yma. Y ma math o ddynwarediad yn rhedeg fel greddf trwy holl natur; ac fe' geir fod creaduriaid a llys- iau yn gwneud defnydd o hono er mwyn diogelu eu hunain rhag eu gelynion. Y mae y wiwer yn cymeryd lliw ei hamgylchedd yn rhyfeddol—y mae croen ei bron yn wyn a'i chefn yn rhuddgoch. Wrth edrych o'r llawr y mae'n anhawdd gweled y wiwer am fod eu bron yn oleu fel yr awyr, ac wrth fod ei chefn o'r un Iliw a'r rbisgl y mae'n gorwedd I arno, nid yw yn hawdd ei gweled o'r brigau uwch- law. Y mae croen arth y Gogledd yn wyn fel yr eira sydd o'i chylch, ac y mae plu adar yn amal o'r un lliw a'r coed lie y nythant. Y maent yn cymer- yd y lliwiau hyn er diogelu ei hunain. ac am yr un rheswm y ma'n milwyr yn gwisgo eu hunain mewn brethyn o liw y tir yn Sowth Affrica. Y ma y deryn bach yna a elwir jack llwyd y baw wedi gorfod dysgu y wers yma ers oesoedd-khaki yw ei liw ffasiynol ef bob amser. Buodd tipyn o ferw yn pent re Llan- y dydd o'r blaen. Taenodd rhywun y stcri fod Miss Evans, Tymawr, wedi myn'd sha'r Ffynone gyda gwr y Dole, ond erbyn holi i chi, y ma'n ddigon gwir fod Miss Evans wedi myn'd sha'r Ffynone, end o'dd gyda hi yr un cwmni end llyfr Mr Llewelyn Williams, a Gwr y Dolau," welwch chi, yw enw hwnw. RhyTfedd fel ma'r bobol yn sharad, welwch chi 1 Whare teg i Miss Evans, allse hi byth ddewis gwell cwmni na Gwr y Dolau." Un o ddarganfyddiadau meddygol rhyfeddaf yr oes yw y ffaith fod rhanau neillduol or ymenydd yn llywodraetliu rhanau arbenigol o'r corff. Erbyn hyn y mae'r meddygon wedi gwneyd map go gywir o'r ymenydd, a gwyddant bron ar unwaith pan fo aelod neillduol wedi ei daro, pa ran o'r ymenydd sydd yn ei reoleiddio. Pan fo drwg yn yr ymen- ydd ei hun, a phan fo'r rhan o'r corff y mae'n rheoli yn dioddef mewn canlyniad, y maent yn medru symud y rhan ddrwg o'r ymenydd, a thrwy byny adfer y rhan afiach o'r corff. Y mae ein meddygon wedi cael profiad helaeth, ac wedi dysgu llawer yn y cyfeiriad hwn trwy sylwadaeth yn y rhyfel presenol. Y mae engreifft hynod wedi d'od i'n sylw o dro i dro. Y mae milwr o'r enw Jeremiah O'Leary yn Lloegr ar hyn o bryd, ond y mae dros ddwy owns o'i ymenydd ar faes y gad yn South Affrica. Tarawyd ef yn ei ben gan fwled yn mrwydr Colenso. Sudd- odd yr ergyd i'w ymenydd. Wedi bod yn gorwedd am bum' awr ar y maes cludwyd ef i'r ysbytty a gwnaeth y meddyg enwog, Syr William MacCormac weithred ryfeddol arno. ac achubodd ei fywyd trwy symud rhan o'r ymenydd. Y mae Jeremiah hedd- yw yn holliacb, ond y mae ei gof hytrach yn ddrwg, ac y mae wedi llwyrr golli ei arebwaeth at gwrw. Ai tybed fod rhan o'r ymenydd yn rheoli yr archwaeth at ddiod gref ? Os profir hyn. dyma yn ddiameu ddarganfyddiad mwyaf bendithiol vr oes—a'r ffrwyth goreu all fyth ddeilliaw o'r rhyfel waedlyd hon.

CHURCH NEWS.

Advertising