Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Letter from the War.

Y RHYFEL.

News
Cite
Share

Y RHYFEL. ENCILIAD Y BOERIAD. Dywedir fod Steyn wedi bod yn anerch y Rhydd Daleithwyr wythnos yn ol, ac yn eu hysbysu fod Prydain a Rwsia mewn rhyfel a'u gilydd, a bod Rwsia yn barod wedi cymeryd meddiant o un ran o dair o'r India. Pe byddai i'r Rhydd Daleithwyr ond yn unig barhau i wrthsefyll, meddai, rhoddai y Prydeiniaid eu harfau i lawr yn mhen tair wythnos. Mae y Boeriaid wedi chwythu i fyny bont y gledrffordd dros yr afon Vet, ger Winburg, a'r bont dros yr afon Valsch, ger Kroonstadt. Gwnaed hyn oil gan y Transvaalwyr ffoedig, ac mae yn lied arwydd o'r rhwygiad cyflawn rhwng y ddwy Weriniaeth, a lied grybwylla derfyniad ar yr ymladd yn y Dalaeth hon. Rhydd hyn derfyn ar y cynllun a fynwesid gan y Boeriaid o gadw y gledrffordd yn ddiniwed mewn trefn i symud trwy Cape Colony i Cape Town. CYHUDDIADAU ARGLWYDD ROBERTS YN ERBYN Y BOERIAID. ATEBIAD YR ARLYWYDD STEYN. Hysbysa Arglwydd Roberts ei fod of wedi derbyn a ganlyn oddiwrth yr Arlywydd Steyn mewn ateb- iad i'w wefreb ef at Arlywyddion y ddwy Werin- iaeth, dyddiedig yr lleg o NIawrth Cyrhaeddodd gwefreb eich hanrbydedd fi ddoe. Yr wyf yn eich sicrhau na pharai dim fwy o ofid i mi na pbe byddai i'm dinaswyr wneud eu hunain yn euog o'r weithred a osodwch chwi yn eu herbyn. Mae yn dda genyf ddweyd, fodd bynag, fod yn rhaid eich bod yn gwneud camgym- eriad. Gwnaethum ymholiad personol gyda'r Cad- fridog Delarey, yr hwn oedd yn llywyddu y dinas- wyr yn y lie a grybwyllir genycb chwi. Gwada ef yn hollol fod y dinaswyr wedi gweithredu fel y dywedir genych chwi, ond dywed i'r catrodau Prydeinig, dydd Sadwrn, pan yr oeddynt oddeutu haner can' llath o'n safle ni, godi eu dwylaw i fyny, yn ogystal a'r faner wen, tra ar yr un pryd yr oedd eich magnelau yn tanbelenu ein milwyr ni, gyda'r canlyniad i'r Commandant de Beer gael ei glwyfo. Boreu ddoe, am wyth o'r gloch, ysgrifenodd y prif gommandant yn ei gofnodion o r frwydr fel y canlyn:—" Cyfododd y milwyr y faner wen, ond ar y pryd tanid arnynt gan y magnelau Prydeinig, a gorfodwyd hwynt i wnend ymosodiad. Fe allai ei bod yn anhysbys i'ch hanrbydedd i'r un peth ddigwydd yn Spion Kop, yn yr hwn le, pan chwifiiodd rhai o'ch milwyr y faner wen, ac y cod- asant eu dwylaw i fyny, a thra yr oedd ein dinas- wyr ni yn brysur yn eu diarfogi, taniodd adran arall o'ch milwyr ar ein dinaswyr ni, ac ar y milwyr oeddynt wedi ytnoetwng. Mewn canlyniad i'r hyn y lladdwyd, nid yn unig amryw o'r dinas- wyr, ond hefyd amryw o'r milwyr Prydeinig. Yr ydys wedi cael hysbysiad hefyd fod y Pryd- einiaid, yn y frwydr ddiweddaf ar y Tugela, wedi tanio eu magnelau ar y milwyr oeddynt wedi ymostwng. Gyda golwg ar y bwledau ffrwydrol a gafwyd yn ngwersyll y Cadfridog Cronje a manau ereill, gallaf roddi sicrwydd i'ch hanrbydedd na phrynwyd y cyfryw fwledau gan y Llywodraeth, ac na chaniateid eu defnyddio. Nid oes genyf, fodd bynag, un rheswm dros ambeu yr hyn a ddywed- wch, gan fy mod yn gwybod i lawer o ddinaswyr y Dalaeth hon a'r Weriniaeth Affricanaidd Ddeheuol gymeryd nifer mawr o rychddrylliau Lee-Metford a bwledau Dum-Dum, a bwledau ereill hefyd oddiar y milwyr Prydeinig. Gaf fi ofyn i'ch hanrhydedd, gan fod y pellebyr yn nghauad i mi, i wneyd fy atebiad yn hysbys i'ch Llywodraeth chwi ac i'r galluoedd eraill drwy bellebyr. Dyry Arglwydd Roberts a ganlyn fel atodiad i'r genadwri ucbod :-Gan fod ymchwiliad i'r mater yn profi haeriadau ei hanrhydedd yr ddisail, a chan i mi yn bersonol weled y dwylaw yn cael eu codi, yr hyn a wada efe, nid wyf yn ystyried ei bod yn ddymunol i barbau yr ohebiaetb, YMWELIAD A'R ARLYWYDD KRUGER. GOFYNION Y BOERIAID. BYGWTH Y CARCHARORION PRYDEINIG. RHYBUDD ODDIWRTH ARGLWYDD SALISBURY.. Cyhoedda yr Herald, New York, wefreb o Pre- toria yn desgrifio ymweliad a'r Arlywydd Kruger ar y lOfed cynfisol. Hysbysir i'r Arlywydd ddweyd, "Gan i'r Boeriaid gael eu gwthio i ryfel, bydd iddynt fuddugoliaethu neu farw. Nid wyf yn dis- gwyl cymorth oddiwrth genhedloedd eraill, ond yr wyf yn falcb o'u cydymdeimlad a'u cyfeillgarwch. Mae y Transvaal yn ewyllysgar i wneuther heddweh unrhyw bryd, ond nid oes arni eisiau dim chwaneg o gytundebau (" conventions "), annibyniaeth hollol yn unig sydd yn bosibl. Nid oes arnom eisiau ychwaneg o diriogaethau, ac yr ydym yn foddlon i fyw yn heddychlawn. Yn y telerau heddwcb myn y Transvaal ymrwymiad y bydd i'r Dutch yn Natal a Cape Colony, sydd yn ymladd gyda'r Boeriaid, gael eu hystyried fel rhyfelwyr cyfreithlon, ac na bydd iddynt oddef unrhyw golled mewn meddianau. Pan ddeuwyd i wybod fod am- rai o'r rhai hyn ar brawf yn Cape Town ar y cy- huddiad o fradwriaeth, gwefrebodd Llywodraeth y Transvaal at Arglwydd Salisbury yn dweyd os nad oeddynt yn cael eu trin fel carcharorion rhyfel, y byddai i ni fynu iawn-dal gan y carcharorion Prydeinig yma. Atebodd Arglwydd Salisbury os byddai i ni niweidio un carcharor Prydeinig y byddai iddo fy nal i yn bersonol gyfrifol. Yr wyf yn tybio ei fod yn meddwl y byddai i'r Prydeiniaid fy nghrogi. Mae y fath fygythion yn ddirmygus, ac ni bydd iddynt fy lluddio i gyflawni fy nyled- swydd. Atebodd y Transvaal heddyw ei bod yn gwawdio ei fygythion. Mae y stori o gydfradwr- iaeth y Dutch Affricanaidd Deheuol yn anwireddus. Yr oedd yr Orange Free State yn rhwym drwy gytundeb i'n cynorthwyo. Mae y Boeriaid yn Haw Duw, ac ni adawa Efe i ni farw, Nid yw ein holl allu milwrol yn rhifo ond 40,000 yn unig; ond drwy gymorth Duw fe lwyddwn. Rhyddid neu farwolaeth ydyw. Yr wyf wedi amddiffyn medd- ianau Prydeinig yn y Transvaal, a bydd i mi barhau i wneyd. Yr ydym yn teimlo y dylai America fod gyda ni yn yr ymdrechfa hon." RHYDD DALEITHWYR YN YMOSTWNG WRTH Y CANOEDD. BANERAU GWYNION YN BRITHO'R WLAD. Gwefreba gohebydd y Central News o Spring- fontein" Wedi cyrhaedd yma gyda galluoedd y Cadfridog Gatacre, cymerais gyfle i dalu ymweliad brysiog a Bloemfontein. Yr wyf yn awr wedi dycbwelyd i Springfontein, ond yn ystod fy nhaith cefais dystiolaeth ddigonol fod y gwrthwynebiad Boeraidd wedi syrthio i lawr yn drwyadl yn v parthau deheuol i Bloemfontein. ¥ Mewn amryw fanau ar hyd y llinell yr oedd y Rhydd Dalcithwyr yn trosglwyddo eu harfau i fyny mewn cydsyniad a chyhoeddiad Arglwydd Roberts. Yr oedd y Boeriaid yn dyfod yn dorfeydd, hyd yn nod i'r gorsafoedd lleiaf, a datganent yn unol eu boddhad yn y cyhoeddiad a ledaenwyd gan Ar- glwydd Roberts. Yn ngorsaf Kaffir River yn unig gwelais 260 o'r Rhydd Daleithwyr yn dyfod i mewn ac yn ym- ostwng. Un arwydd darawiadol iawn ar y gweith- rediadau ydoedd, nad oedd yno ond deg o'r milwyr Prydeinig yn unig yn derbyn ymostyngiad y nifer mawr hwn o'r Rliydd Daleithwyr. Drwy ymddiddan a gefais gydag amrai o'r Boeriaid, gwelwn fod teimladau nodedig o chwerw yn erbyn Steyn a'r Transvaalwyr yn bodoli yn eu mysg. Gwnaeth Majer Bukher, gyda chyficgrau a nifer o'r Awstraliaid, ymgyrch tua I'hilippolis dydd Sadwrn. Cawsant yr holl ffermdai yn chwifiaia banerau gwynion—rhai o honynt o'r cyrn-simneuau. Taerai y gwragedd nad oedd en gwyr yn ymladd. Mae y Landrosts yn ymostwng i Arglwydd Roberts." CENADWRI ODDIWRTH ARGLWYDD ROBERTS. MEDDIANU SMITHFIELD A ROUXVILLE. Gwefreba Arglwydd Roberts a ganlyn Bloem- fontein, Mawrth 21. Mae cynnifer o'r Rhydd Dal- eithwyr wedi datgan eu dymuniad i ymostwng o dan delerau y cyhoeddiad diweddaf, fel yr ydwyf wedi anfon cwmnioedd bychain o filwyr i amrywiol gyfeiriadau i gymeryd rhestr o'u henwau, ac i gym- eryd eu harfau drosodd. Mae brigM o feircbfilwyr wedi myned tuar dwyrain i Thabanchu. Mae ewmni o Springfontein wedi cymeryd meddiant o Smithfield, lie y daliwyd rhai Trans- vaalwyr, a phedrolfen gydag arfau a swm o ddefn- yddiau rhyfel. Cymerwyd meddiant o Rouxville dydd Llun yn ddiwrthwynebiad. Cafwyd swm mawr o ddrylliau defnyddiau rhyfel, ac yst6r yn y lie hwn. Mae Landrost Hoffman wedi cydsynio i weith- redu fel Ynad Heddweh, ac mae y faner Brydeinig wedi ei chwifio yn y lie. Mae rhybudd wedi cael ei roddi i'r trigolion i drosglwyddo eu harfau dros- odd yn uniongyrchol, ac mae cenhadon wedi cael eu hanfon drwy y cylchoedd cyfagos i'r un perwyl. NATAL. Y BOERIAID YN DINYSTRIO POMEROY. Y DREF YN ADFEILION. Mae tref Pomeroy, yn agos i'r Biggarsberg, wedi cael ei llosgi bron yn llwyr gan y Boeriaid. Yr unig adeilad sydd yn aros heb ei niweidio yw swyddfa yr Heddynad, ac mae yr boll bapurau swyddogol wedi eu dinystrio, wedi ei tori yn ddarnau, neu wedi eu llosgi yn rhanol. Gosodwyd yr holl adeiladau eraill ar dan gan y gelyn, ac maent yn awr yn un pentwr o adfeilion. Yr oedd meirchfilwyr Bethune yn cyrhaedd y lie pryd yr oedd y Boeriaid yn encilio, ond yr oeddynt yn rhy ddiweddar i achub y dref. Buwyd yn tan- belenu yn drwm ar y gelyn, yn hyn fu yn foddion i brysuro eu henciliad. Cyfrifir fod y Boeriaid yn rhifo 5,000, ac maent wedi cymeryd safle cadarn ar un o'r bryniau uwchlaw Pomeroy. Y BOERIAID YN KROONSTADT. 1 CYFARFOD PWYSIG. ANERCHIADAU GAN KRUGER A STEYN. Mae Commandos cyngrheiriol Pretoria yn Kroon- stadt mewn ysbryd ardderchog yn barod, ac hyd yn nod yn herfeiddiol, yn disgwyl am sym- udiad y Prydeiniaid yn mlaen. Anerchodd y ddau Arlywydd gyfarfod gwersyllaidd mawr iawn. Gwnaeth Kruger apeliad taer am i'r dinaswyr i gadw i fyny yr ymladdfa dros ryddid, a dwedai ei fod yn sicr mai y canlyniad fyddai i annibyniaeth y Gweriniaethau gael ei gadw, er i'r Prydeiniaid gymeryd meddiant o Bloemfontein am dymhor. Dywedodd Steyn nad oedd y Rhydd Dalaeth ddim wedi ei gorchfygu o herwydd bod y brif ddinas wedi ei meddianu. Mae Prydain wedi gwrthod yn benderfynol ganiatau eu hannibyniaeth i'r ddwy Weriniaeth, ac nid oedd dim wedieiadael iddynt ond ymladd hyd y diwedd. Yn ystod y chwe' mis o barhad y rhyfel yr oedd y cyngrheir- wyr wedi colli llai na 1000 mewn lladdedigion. Yn awr, mewn gwirionedd, yr oedd y rhyfel yh dechreu, ac fel eu Harlywydd rhybuddiai ef y dinaswyr i beidio credu yn nghyhoeddiad Arglwydd Roberts gyda golwg ar daflu eu harfau i lawr, gan fod y Prydeiniaid bob amser wedi methu cadw y eytundebau a wnaethpwyd gyda hwynt. Yr oedd Sir Alfred Milner wedi cyhoeddi ar led fod yn rhaid diwreiddio yr Afrikanders, yn gwybod yr ymladdai y ddwy Weriniaeth hyd y diwedd, gan roddi eu hymddiriedaeth yn Nuw. Cynyrchodd apeliad yr Arlywydd Steyn frwdfrydedd nodedig el yn mysg y dinaswyr. Y CYNGHOR RHYFEL YN KROONSTADT. HAERIADAU ANNGHYFFREDIN. COLLEDION BOERAIDD 8,000; PRYDEINIG 64,000. (Gwefreb neillduol Cwmni yr Exchange Tele- graph). Cape Town, Mawrth 22ain. Cyfarfyddodd yr Arglwyddion Kruger a Steyn y Commandants Delarey a De Wet yn Kroonstadt mewn Cynghor Rhyfel dydd Sadwrn. Cyhoeddai yr Arlwyddion y byddai iddynt barhau y rhyfel hyd y diwedd. Cyhoeddai Steyn fod colledion y Boeriaid yn 8000, a'r eiddo y Prydeiniad yn 64,000. Dwedodd Kruger y gallai y Boeriaid ymladd am chwe' mis yn mhellach. YSTORIAU BOERAIDD ANGHYFFREDIN. HYSBYSIAD 0 FRWYDR GER BETHULIE. Y BOERIAID YN HAWLIO BUDDUGOLIAETH. Boer Camp, Kroonstad, Mawrth 20ed. Mae y newyddion ar droed yma fod y Boeriaid dan y Commandant Olivier wedi bod mewn brwvdr gyda'r Prydeiniaid o dan y Cadfridog Gatacre yn ngkymydogaeth Berhulie, ac wedi gyru y Prydein- iaid yn eu holau gyda cholled drom, ac wedi cymeryd llawer o honynt yn garcharorion. Mae y newyddion hyn yn awr yn cael eu cadarnhau y swyddogol. Mae y dinaswyr yn cydgrynhoi yma yn niferoedd mawrion. NEWYDDION ERAILL DIWEDDARACH. Kroonstadt, Mawrth 23ain. Mae newydd ychwanegol wedi cerdded drwy y gwersyll fod y Commandant Olivier wedi bod yn fuddugoliaethus mewn brwydr fawr, yn mha un y cymerwyd 12 o fagnelau Prydeinig. Nid oes dim cadarnhad swyddogol. GWRTHRYFEL Y DUTCH TREFEDIGAETHOL. DYRYSU Y GWRTHRYFELWYR GAN KITCHENER. METHIANT YR YMGAIS. Gadawodd Landdrost Boeraidd Griquatown y nt hwnw dydd Llun, wedi trosglwyddo yr agoriadau a'r llyfrau drosodd i Fwrdd Rheolaethol y pentref. Hysbysir fod nifer mawr o'r gwrthryfelwyr yn roddi i fyny eu harfau a defnyddiau rhyfel. Griquatown oedd un o ganol bwyntiau mawr gwrthryfelgar rhanbarth Herbert. Mae Arglwydd Methuen wedi penodi nifer o Heddgeidwaid i osod pethau mewn trefn yn y lie. Mae meddianiad o Prieska gan y galluoedd Prydeinig wedi taflu y gwrthryfelwyr yn Kenhardt a Gordonia i ddyryswch mawr. FFOEDIGAETH OLIVIER. CANFOD Y SYMUDIADAU 0 BASUTOLAND. Mae Boeriaid yn rhifo rhai miloedd, gyda nifer aruthol o bedrolfeni wedi bod yn myned heibio o Smithfield tua Ladybrand yn ystod y dyddiau diweddaf. Tybir eu bod yn cynwys y galluoedd Boeraidd a enciliasant o Norval's Pont, Bethulie, a Stormberg, pa rai ydynt yn awr ar eu ffordd tua'r gogladd. Yr oeddid yn eu canfod oddiar fryniau Basutoland. Mae y prif benaeth Lethorodi, gyda nifer luosog o'i ganlynwyr wedi cyrhaedd on Maseru, ar ymweliad a Sir Godfrey Langden. Mae y Cadfridog French gyda nifer mawr o feirchfilwyr wedi cyrhaedd yn Thabancu, lie yn sefyll rhwng Bloemfontein a Ladybrand, ac wedi agor gohebiaeth heliographaidd gyda Maseru. Dywed fod yr oil yn dda. MAFEKING WARCHAEDIG. COLOFN PLUMER YN SYRTHIO'N OL. DYCHWELYD I CROCODILE POOLS. CENADWRI ODDIWRTH PLUMER. Lobatsi, Mawrth 14eg.-Symudodd y Boeriaid, yn allu cryf, yn mlaen boreu heddyw o'r deheu. Symudasant yn mlaen yn gyntaf o Goode Siding. Wedi brwydr fechan fywiog, gorfu i flaen fyddin Lieut.-Colonel Boyle gilio yn ol. Cariwyd yr enciliad i'n prif safie mewn trefn ragorol. Cwymp- odd ceffyl Lieutenant Chapman yn ymyl y gelyn, ac amgylchwyd yntau ganddynt ar unwaith. Ni wyddis beth fu colledion y Boeriaid, ond saethwyd amryw o honynt pan oeddynt yn lied agos. Yn y prydnawn symudodd y Boeriaid yn mlaen yn mhellach i'r gogledd, a thanbelenasant ein safie oddiar fryn bychan ar ein haswy. Atebodd un o'u cyfiegrau, a pharhaodd gornest y magnelau hyd fachludiad haul. Lladdwyd Lieutenant A. J. Tyler, a chlwyfwyd tri eraill, a chymerwyd Chapman a dau neu :dri yn garcharorion. SS-S Ar yr 16eg cymerodd gormest led drom le rbwng y magnelau, pryd y distawyd eiddo y gelyn. Dan gysgodion y nos symudodd Colonel Plumer yn ol tua'r gogledd, ac y mae yn awr yn Crocodile Pools. ARGLWYDD METHUEN YN SYMUD YN MLAEN O'R DEHEU. Y GELYN YN EI WYNEBU. ADGYFNERTHION YN BRYSIO YN MLAEN. Mae y Boeriaid yn dal cadwen o fryniau ar du gogleddol yr afon Vaal, ryw filldir a haner oddiwrthi. Mae y wyneb linell yn barod gan Arglwydd Methuen pau fydd yn bryd gwneyd symudiad yn mlaen, a lie i groesi yr afon wedi ei sicrhau. Yr oedd adgyfnerthion yn brvsio i fyny, a bygythid safle y gelyn yn fawr. Ym- ddengys fod y dirwasgiad ar Mafckingwedi lleihau cryn lawer, ac yr oedd Methuen yn hyderus y gallai wthio gwrthwynebiad o'r neilldu yn yr amser priodol. Dywed gohebydd eu bod wedi sefydlu llaw- weithfa arfau a defnyddiau rhyfel yn Mafeking. Maent yn barod yn gwneyd tanbelenaua phylor, ac y mae magnel wedi ei chastio yn barod, a phan y bydd yr orchest-gamp hon wedi ei gorphen, yna byddant yn alluog i amddiffyn eu "hunain drwy daflu pelenau o waith cartref, o fagnel o waith cartref, gyda phylor o waith cartref. .(. CAPE TOWN A GWAREDIGAETH MAFEKING. GWASANAETH DIOLCHGARWCH I GAEL EI GYNAL. Mewn cyfarfod o weinidogion y gwahanol en- wadau, a alwyd ynghyd gan y Maer yn Cape Town, penderfynwyd cynal gwasanaeth diolchgarwch yn yr holl eglwysi y boreu canlynol i waredigaeth Mafeking. Mae darpariadau yn cael en gwncyd drwy yr oil o Cape Colony er dathlu rhyddhad Mafeking. Mae Maer Pert Elizabeth wedi cychwyn symud- iad gyda'r bwriad o anrhegu y Milwriad Baden Powel gyda chleddyf anrhydedd ar yr un am- gylchiad.

IN'% marro Goffa

TRANSVAAL WAR FROM DAY to…

■j WORLD IN A WEEK.

.''.Ut...tH LLANON.

FRONGOCH MINE.

Advertising