Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

■'I1mi......mmiMaJ-— TRANSVAAL…

■» From the Front.

Y RHYFEL.

LLITH HEN GARDI.

News
Cite
Share

LLITH HEN GARDI. Mi glywes i y dydd o'r bla'n fod rbyw ddyn yn Llanybytber wedi breuddwydo fod Kruger a'r Boers yn dwad dros bont Teifi liw nos i'r pentref, ac i bod nhw yn gwneyd mwstwr irfeddu, ond man y gwelso'n nhw wlaneni y ffatri yn hofran yn y gwynt iddi nhw ffoi yn bendramwnwg gan gredu eu bod nhw wedi do'd yn rhy agos i'r British Camp ag iddi nhw feddwl, os dim dwywaith (medde'r breuddwydwr, cofiwch) mai tomeni o bowdwr o'dd y glo yn yard y steshon. Mi leicwn i ofyn i'r breuddwydwr ma ble o'dd maer y pentre' y pryd yma ? Dyma i chi 'stori o'r wlad, ac ma'r sawl sy'n 'i hela hi yn dyweyd i bod hi yn wir bob gair:—" Y dydd o'r bla'n, tra yr oedd rhai o bentrefwyr Llan- yn ymgomio a'u gilydd mewn siop yn y pentref ynghylch y rhyfel, daeth un o'r ardalwyr i mewn i gael gwybod y newydd diweddaraf. Pwy gyfer mae'r Boers yn awr V mynte fe, a'i geg a'i gluste yn ben agored. 4 O, mae nhw tua Natal erbyn hyn,' mynte'r gwr oedd yn darllen y papur newydd a chyn pen eiliad i chi, dyma'r gwladwr diniwed yn rhoi ei draed yn y tir, ac yn 'i charlamu hi tuag adre' nerth ei faglau. Ac yn ol pob hanes, fe fyddai y truan wedi rhedeg nes colli ei wynt oni bai i ryw un gymeryd trugaredd arno, a rhedeg ar ei ol i'w ddarbwyllo. Wedi ei oddiweddid, caf- wyd et fod wedi camgymeryd Natal am 'Ratal—lie tua taft milldir o'r pentref." Mi weles yn y Gazette yr wthnos ddiwetha fod dynion y gweithe mwyn yn dwad a bagad o Italians i weitho tua Cwmystwyth. Syndod i chi fod rhaid ca'l dynion o duhwnt i fynydde mawr yr Alps i weitho rhwng brynie Cymru. Beth sy' o le, gwedwch ? Pa un ai pris ai prinder sy'n gorfodi y meistri i gael y gwyr hyn o wlad yr Eidal t Nid dyma y tro cynta y ma'r meistri wedi gorffod ca'l dwylo o gered, neu o ffwrdd fel ma nhw yn gweyd I'JQa'r North. Mi weles banes yn y Gazette os tro'n ol yn dyweyd fod perch'nogion y gweithe mwyn wedi hela at y Brenin ers tua dau cant o flynyddau yn ol i ofyn am ddynion ac iddo ynte hela canodd o'r carcharorion o'dd wedi eu condemnio i farwol- aeth yn y jiMs sha LIunden i lawr i Shir Abarteifl i weitho yn y gweithe mwyn. Os gen' i ddim byd yn erbyn yr Italians druen. Y ma' hi yn ddigon caled arni nhw yn ngwlad eu hunen, a Duw a'u helpo, nhw i ga'l twll gwell yn rhywle, ac os dim dowt nag yw twlle gweithe mwyn Cwmystwyth yn fil gwell na gorthrwm annioddefol yr Eidal, er fod haul y Nef yn gwenu ar ei meusydd hafaidd lion yn lla.wer siriolach nag y gwna ar fryniau Gwalia. Y mae daiar yr Eidal yn tra rhagori ar ddaiar ein gwlad ni; ond wa'th i chi pa mor hael yw Natur, a pha mor siriol yw Anian, os bydd deddfe yn gormesi a dyn yn cael ei lethu. Wel, Gymry anwl mawrhewch eich breinte, ac na foed i chi byth adel y wlad gael ei llywodraethu gan yr yspryd milwrol sy'n ei bwgwth y dyddie hyn. Dyma'r ysbryd sydd yn gorlethi yr Eiddol trwy ei dirwasgi a threthi milwrol direswm; a dyma yr yspryd a ddinystria ddiwydiane Prydain, ac a nycha ei gweithwyr nes eu gorfodi i adel eu genedigol fro, fel y mae'r Italiaid hyn druen, yn ol pob tebyg, yn gorfod wneyd yn awr. Y ma'Town Cownsil Abarystwyth, y mae'n debyg wedi pallu rhoi cenad i ddynion y War Offis i rei rhagor o genins ar dir yr hen gastell. Wrth alw sylw at hyn o beth ma' un o bapure Llunden yn rhybuddio yr Henadur Peter Jones, ac yn dweyd wrtho fe am edrych ati mewn pryd rhag ofan y ca' ef 'i hun yn garcharor i Kruger yn Pretoria rhyw ddiwrnod. Wel i chi, hen Gardi i'r earn yw Mr. Peter Jones, fel 'rych i yn gwbod i gyd; a dwy i ddim yn credu fod arno fe fwy o ofan dynion y War Offis sy'n ben-ben ar Boers nag o'dd arno fe o ofan dynion yr Home Offis pan o nhw yn wmladd ar Cardis am y degwm. Wel, pe buse Mr. Peter Jones yn ca'l myn'd i'r carchar, welwch chi, nid fe fuse'r Peter cynta' fuodd yno, ac os nar ddoise angel i'w waredu e', mi na'n llw y bydde'r Cardis yn shwr o'i dynu e'n rhydd buse nhw yn gorfod bracso'r mor i dd'od o hyd iddo fe. Rhai tyn yw'r Cardis, welwch chi, ag wy' i yn meddwl fod dynion y War Offis yn dwp ofnadw na fuse nhw yn gwbod hyny. Sownd i chi dy nhw yn cofio dim am ryfel y degwm yn Shir Abarteifi, ne fe fuse'n yn shwr o hela hol regiment o foys Penbryn, a flying column o fech- gyn Cellan. Mi ddala i chi y doithe rhein a'r Boers i gownt yn llawer cynt na'r Saeson 'na, a hyny heb golli bywyde hefyd. Wye clwc yw amiwnishon y Cardis fel rych chi'n gwbod, a mha nhw yn llawer mwy effeithol na bwmshellsi. Cwpwl o whelts a'r rhain ac fe geisech chi glywed yr hen Kruger druan yn gweiddi: Hold on Wel mewn difri i chi fe fues i yn meddwl wedi darllen yn y papur yna, beth wedi'r cwbwl os buse shwt beth yn bod a Mr. Peter Jones yn y carchar yn Pretoria. Mi ddala i cbi y bydde fe a Kruger yn shwr o ga'l ambell i scwrs irfeddu wrth dyny'r cetyn cwta. Wy i ddim yn gweyd y bydde nhw yn gwel'd llygad-yn-llygad ar bobpeth, ond w'i yn shwr y ceithe yr hen Kruger dipyn o spri wrth glywed Mr. Jones yn adrodd fel o nhw'n twmblo Mr. Willis Bund yn y Cownti Cownsil, ac yn mynd dros ben diplomasi yr Home Offis. Os dim dowt gen i na fuse Kruger yn shwr o leico cwmni y Cardi a gwneid i ore o hono, ac fe fydde i scwrs nhw yn werth i chlywed. Synwn i na wede yr hen Kruger fod yn ddrwg 'da ge na ddoth e' o hyd i Mr. Jones yn gynt, fel galle fe fynd dros ben Chamberlain drwy diplomasi fel a'th boys Shir Abarteifi dros ben Willis Bund. Doniol, os dim dwywaith, fydde clywed Mr. Jones yn trin Kruger am hela'r ultimatum mor wyllt; a'r hen Kruger wrth weld i fai yn hyn yn gweyd Wel, wel, os dim i neid-its wedi went, Mr. Jones, bach."

Y SENEDD. ---

Advertising