Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

( DOLGELLEY.

Dolgelley County Court.

RHYDFAGWYR.

TROEDYRAUR.

BATHING FATALITIES.

PENLLWYN.

DYLIFE.

TREGARON.

DERWENLAS.

GWELEDIGAE THAU MIRZA.

News
Cite
Share

GWELEDIGAE THAU MIRZA. (GAN JOSEPH ADDISON.) Pan yr oeddwn yn Cairo daethum o hyd i lawer o lawysgrifau dwyreiniol, pa rai sydd genyf hyd yn hyn. Yn mhlith rhai ereill daethum ar draws un o'r enw Gweledigaethau Mirza," pa un yr wyf wedi ddarllen gyda phleser mawr. Yr wyf yn bwr- iadu ei rhoddi i'r cyhoedd pan na fyddo genyf un- rhyw ddifyrwch arall iddynt, a dechreuaf gyda'r weledigaeth gyntaf, yr hon wyf wedi ei chyfieithu air am air fel y canlyn:— Ar burned dydd y lloer, pa un, yn ol arfer fy nhadau, yr wyf bob amser yn cadw yn sanctaidd, wedi i mi ymolchi fy hun, ac offrymu fy ngwasan- aeth foreuol, aethum i ben bryniau uchel Bagdad, er mwyn treulio y gweddill o'r dydd mewn myfyr- dod a gweddi. Fel yr oeddwn yma yn awyru fy hun ar ben y mynyddoedd, mi a syrthiais i ddwys a dwfn ystyriaeth ar wagedd bywyd dynol, a gwibio o un meddwl i un arall. Yn sicr," meddwn i, nid yw dyn ond cysgod, ac einioes ond breudd- wya." Tra yr oeddwn fel hyn yn awenu, troais fy llygaid tu copa craig heb fod yn neppell oddi- wrthyf, lie y darganfyddais un mewn gwisg bugail ag offeryn cerdd yn ei law. Fel yr oeddwn yn edrych arno rhoddodd ef wrth ei wefusau a dech- reuodd chwareu arno. Yr oedd ei sain yn felus rhyfeddol a threiglai i amrywiol alawon ag oedd- ynt yn annhraethol felodaidd ac yn wahanol hollol i ddim ar a glywais i erioed. Dygent i'm meddwl yr alawon nefolaidd hyny a genir i eneidiau ym- adawedig dynion da ar eu dyfodiad cyntaf i Baradwys er dileu argraffiadau eu hingoedd olaf, a'u cymwyso i blescrau y lie dedwydd hwnw. Toddodd fy nghalon mewn cyfrin orfoledd. Clywais ddywedyd lawer gwaith fod y graigoedd o'm blaen yn gartrefle i ysbryd, ac fod llawer oedd wedi myned heibio iddo wedi eu difyru gan ei fiwsig; ond ni cblywais erioed fod y cerddor wedi gwneud ei hun yn weladwy o'r blaen. Wedi i'r alawon swynol a chwareuai godi fy meddyliau i brofi ei ymddiddanion, ac fel yr edrychwn arno fel un a syndod, fe'm cyfarchodd, a chan droi ei law, a'm cyfeiriodd i agoshau at y man lie yr eisteddai. Mi a nesais yn nes gyda'r parch sydd ddyladwy i fod goruweh, a chan fod fy nghalon wedi llwyr ym- doddi gan y seiniau cyfareddol oeddwn wedi glywed, mi a syrthiais wrth ei draed ac a wylais. Gwenodd y bod dieithr arnaf gyda golwg dosturiol a hynaws ac a'i gwnaeth yn gynefin i'm dychymyg, a gwasgarodd ar unwaith bob ofn ac amheuaeth a ddaeth arnaf wrth agoshau ato. Fe am cododd o'r llawr, gan fy nghymeryd wrth fy llaw, "Mirza," meddai, yr wyf wedi dy glywed yn dy fyfyrdodau; canlyn 1i. Efe gan hyny a'm harweiniodd i binacl uchaf y graig, a chan fy rhoddi ar ei chopa, Bwrw dy olygon tua'r dwyrain," meddai, a dywed wrthyf pa beth a weli." Mi a welaf," meddwn innau, ddyffryn eang, a llanw aruthrol o ddwfr yn treiglo drwyddo." "Y dyffryn a weli," meddai, "ydyw Glyn Trueni, a'r llanw o ddwfr a weli rhan ydyw o lanw mawr Tragwyddoldeb." "Beth yw y rheswm," meddwn i, fod y llanw a welaf yn codi o niwl tew o'r naill 'ben ac yn ymgolli mewn niwl tew yn y pen arall drachefn ?" Yr hyn a weli," meddai ef, ydyw y rhan hwnw o Dragwyddoldeb a elwir Amser, wedi ei fesur allan gan yr haul, ac yn cyr- haedd o ddechreuad y byd hyd ei ddiwedd." Craffa yn awr," meddai, ar y mor hwn sydd wedi ei doi o bob tu a thywyllwch, a dywed wrthyf pa beth a weli ynddo." Mi welaf bont," meddwn, yn sefyll ynghanol y llanw dwr." Y bont a weli," meddai, ydyw Bywyd Dynol; sylwa ami yn fanwl." Wrth sylwi arni yn fwy hamddenol, mi a gefais ei bod yn cynwys triugain a deg o fwiiu cyfain, ynghyd ag amryw o fwau dryll- iedig, pa rai ynghyd a'r bwau cyfain a wnaent y nifor tua chant. Fel yr oeddwn yn cyfrif y bwau dywedodd y bod dieithr wrthyf fod y bout hon yn cynwys ar y dechreu tua mil o fwau; ond fed diluw mawr wedi ysgubo ymaith y lleill, gan adael y bont yn y cyflwr adfeiliedig y gwelwn hi yn awr. "Ond dywed wrthyf ymhellach," meddai, pa beth a weli arni." Mi a welaf dyrfaoedd o bobloedd," meddwn, yn croesi drosti, a chwmwl du yn crogi wrth bob pen iddi." Wrth i mi edrych yn fwy craffus mi a welwn lawer iawn o'r teithwyr yn syrthio drwy y bont i'r llanw mawr a lifai oddi- tani; ac wrth sylwi ymhellach, mi ganfyddais fod nifer aneirif o ddorau-dirgel yn gudd yn y bont, ac nid cynt y sangau y teithwyr arnynt nac y syrth- ient drwyddynt i'r llanw ac aent o'r golwg yn y man. Yr oedd y rhwydau dirgel hyn wedi eu gosod yn dew iawn wrth y mynediad i'r bont, fel mai nid cynt y torai lluoedd o bobl drwy y cwmwl nac y syrthiai llawer o honynt iddynt. Yr oeddent yn dyfod yn fwy teneu tua'r canol, ond amlhaent, ac yr oeddynt wedi eu gosod yn nes at eu gilydd tua diwedd y bwiiu cyfain. Yr oedd yno yn wir rai pobl, ond yr oedd eu nifer yn fychan iawn, a barhaent i ymgripian ymlaen ar y W-ivu drylliedig, ond syrthient trwodd y naill ar ol y Hall, yr oeddent wedi llwyr flino a threulio i ben gan yr hirfaith daith. Treuliais beth amser mewn myfyrdod ar yr adeilad rhyfeddol hwn, a'r nifer mawr o wahanol wrthrychau a welid arno. Llanwyd fy nghalon gan bryder dwfn wrth weled cynifer yn syrthio yn anisgwyliadwy yn nghanol llawenydd a difyrwch, ac yn cydio wrth bob peth oedd gerllaw iddynt er achub eu hunain. Yr oedd rhai yn edrych i fyny tua'r nefoedd mewn gwedd fyfyrgar, ac yn nghanol rhyw fwriad cwympent a syrthient o'r golwg. Yr oedd tyrfaoedd yn brysur yn rhedeg ar ol teganau ddisgleiriant yn eu llygaid, ac a ddawnsient o'u blaen; ondyn ami pan y meddylienteu bod o fewn ychydig i'w cyrhaedd, collent eu traed ac i lawr y suddent. Yn y cymysgedd hwn o wrthrychau, mi a welais rai a chleddyfau yn eu dwylaw yn rhedeg yn ol ac yn mlaen o'r bont, yn gwthio amryw ber- sonau ar y dirgel-ddorau, pa rai nad oeddent ar eu ffordd, a gallasent fod wedi eu hysgoi pe na faent wedi cael eu gwthio yn y modd hwn arnynt. Wrth fy ngweled yn ymroddi fy hun i'r olygfa bruddaidd hon, y bod a ddywedodd wrthyf fy mod wedi aros yn hir ddigon wrth ei phen. Tro dy lyg- aidoddiwrthy bont," medrlai, "adywed wrthyf os y gweli eto unrhyw beth nad wyt yn amgyffred." Wrth edrych i fyny, Beth," meddwn i, ydyw yr heidiau mawr o adar yna sydd yn hofran oddeutu y bont, ac yn disgyn arni o bryd i bryd ? Yr wyf yn gweled fwlturiaid, ellyllon, cigfrain, eryrod, ac ymhlith llawer o greaduriaid asgellog ereill, amryw lanciau bychain asgellog yn disgyn yn lliosog iawn ar ganllawiau canol y bont." Y rhain," meddai y bod dieithr, ydynt Eiddigedd, Trachwant, Ofer- goeledd, Anobaith, Cariad, a chyffelyb ofalon a nwydau sydd yn ymosod ar y bywyd dynol." Parodd hyn i mi roddi ochenaid ddofn. "Och," meddwn, yn ofer y gwnaed dyn; pa fodd y rhoddir ef ymaith i drueni a marwoldeb; yn ei fywyd fe'i poenir, ac yn angau fe'i llyncir i fyny." Y bod, yn cael ei symbylu gan dosturi tuag attaf, a archodd i'm adael golygfa mor anghysurus. "Nac edrych mwyach," meddai, "ar ddyn yn nghyfnod cyntaf ei fodolaeth, ar ei fynediad allan i Dragwyddoldeb; ond bwrw dy olygon ar y niwl tew yna i'r hwn y mae y llanw yn cludo yr amrywiol genedlaethau o farwolion sydd yn syrthio iddo." Mi a gyfeiriais fy ngwelediad fel y gorchmynwyd i'm, a, pa un a wnaeth y bod caredig ei gryfhau a rhyw allu goruwch naturiol, ynteu wasgar rhan o'r niwl oedd o'r blaen yn rhy dew i'r llygad dreiddio trwyddo, mi a welais y dyffryn yn agor yn y pen pella, ac yn ymestyn allan i for anferth, ac iddo graig enfawr o adamant yn rhedeg drwy ei ganol, ac yn ei wneyd yn ddwy ran gyfartal. Crogai y cymylau o hyd uwchben un haner iddo, fel nas gallwn ddarganfod dim ynddo ond ymddangosai y llall i mi yn gyfanfor maith, ag ynysoedd aneirif wedi eu gosod ynddo, pa rai oeddent wedi eugorch- uddio gan flodau affrwythau,ac yroeddynt wedieu hymweu wrth eu gilydd gan fyrdd o foroedd bych- ain disglaerwyn. Gallaswn wel'd y trigolion wedi eu gwisgo mewn dillad gogoneddus, nghyda choronbletbau ar eu penau, yn rhodio rhwng y coed, yn eistedd wrth ffynonau, ac yn ymorphwys ar welyau o flodau; a gall'swn glywed peraidd gydgor telori yr adar, murmur y dwr, lleisiau dynol, ae offer cerdd. Fe'm llanwyd a llonder wrth ddarganfod lie mor hyfryd. Ymawyddwn am adenydd eryr, fel y gallaswn hedeg ymaith i'r trigfanau dedwydd hyny; ond dywedodd y bod dieithr wrthyf nad oedd yr un ffordd iddynt, ond trwy byrth marwolaeth a welswn yn agor bob eiliad ar y bont. Y mae yr ynysoedd, meddai ef, a orweddant mor wyrdd a braf ger dy fron a chan ba rai y brithir arwyneb y cyfanfor mor belled ag y medri wel'd, yn fwy eu rhif na'r tywod man ar lan y mor: y mae yna fyrdd o ynysoed tudraw i'r rhai a weli yma, yn cyrhaedd ymhellach nas gall dy lygad neu hyd yn od dy ddychymyg ymestyn ei hun. Y rhai hyn ydynt drigfanau dynion da ar ol marwolaeth, pa rai yn ol y graddau a'r bathau y rhagorent ynddynt, a renir ymhlith yr amrywiol ynysoedd yna sydd yn llawn o bleserau o bob math a gradd i gyfatteb chwaeth a pherffeithrwydd y rhai a leolir ynddynt. Y mae pob ynys yn baradwys wedi ei chymhwyso i'w thrigolion arbenig ei hun. Onid yw y rhain, 0, Mirza, yn drigfanau gwerth ymdrechu ym danynt? A ydyw bywyd yn ymddangos yn druenus sydd yn rhoddi i ti gyfleusterau i enill y fath wobrwy. A raid ofni angau yr hwn sydd yn dy ddwyn i fodolaeth mor ddedwydd 1 Paid meddwl mai'n ofer y gwnaed dyn i'r hwn y mae y fath Dragwyddoldeb nghadw. Mi a syllais gyda mwyniant annrhaethol ar yr ynysoedd dedwydd hyn. O'r diwedd, mi ddywedais, dangos i mi yn awr, yn wyf yn erfyn arnat, y dirgelion sydd yn gorwedd odditan y cymylau duon yna sydd yn gordoi y mor o'r tu arall i'r graig adamant. Gan na wnaeth y bod dieithr fy ateb, mi a droais drach fy nghefn i'w gyfarch eilwaith, ond canfyddais ei fod wedi fy jigadael: yna mi a clroais drachefn aty weledigaeth ar yr hon yr oeddwn wedi bod yn arsyllu mor hir ond yn lie trai a llanw y dyfroedd, y bont gylchog, a'r ynysoedd dedwydd ni welwn ddim ond dyffryn hir, oenog Bagdad, ag ychain, defaid a chamelod yn pari av bob tu iddo.

AROS A MYNED.

Advertising