Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
38 articles on this Page
Y OYNNWYSIAD
Y OYNNWYSIAD HTebvsm1311 I. h Cyfalaf a L'afnr 2 Newyddion Tramor 2 Marcimadoedd -• 2 Digwyddiadau «. ••• W 4 Pdf Erthyglan n. N' 4 Newyddion Oymretg. n. 5 Cyfyn,, ••• 5 Aberystwyth n. n. n. 5 Penmaenmawr 5 Treffynnon 5 Bangor ✓ — Õ Telegrams 5 Gohebiaethau 6 Barddoniaeih 6 Trejjaron 6 Nodion o'r Drych 6 Eisteddfod Genedlaelhol Llundain 6 Y Qyfraith 6 Renedigaethau 6 Y Senedd 7 Nodiono Sir Benfro 8 Ooleg AnnibynwyrGogleddCymra 8 Badsefydliad yr Egl vys yn Ngbymru .n 8
[No title]
0 Vienna ceil gwefreb yn hysbysu fod rhai cannoedd o bersonau mewn gwahanol fanau yn Hungari wedi eu gwenwyno trwy rfed brandi a lygrwyd a rhyw sylweddau fferyllol. Eisoes y mae pymtheg a deu- gain wedi meirw; ac mi ar ddeg a thrigain eraill heb obaith am eu hadferiad, Y distyllydd a lwyddodd i ddiangc: ond, y mao gwys i'w ddal wedi ei rhoddi allan. 'Ii
[No title]
Y Sul diwcddaf gwelwyd rhyw bym- theg cant o'r Riffiaid ar y bryniau yn Lixa, yn Morocco. Credir fod yr adgyf- nerthion a gawsant yn cael eu gwneyd i fyny o lwythau pwysig y Benin a'r Burri Aguel. Tanbelcnwyd arnynt, a gorfodwyd hwynt i fyned ymaith. Yn mhen ennyd daethant i'r golwg drachefn; ond, eilwaith bu raid iddynt ffoi.
[No title]
Tuedda Swyddfa Dramor Ffraingc i gymmeryd golwg dra difrifol ar yr am- gylchiadau presennol yn Morrocco. Yr achos o hyn ydyw fod Llywodraeth Yspaen yn bwriadu cymmeryd meddiant parhaol o ryw gymmaint o diriogaetbau y Sultan. Ofnir y bydd yn rhaid i Ffraingc anfon ei milwyr i Morocco. Oni ddylai y Galluoedd ddywoyd wrth Yspaen am ymbwyllo.
[No title]
Ymddengys fod Arglwydd Rosebery "Y wedi cael digon ar areithio yn erbyn y Gyllideb. Yr oedd un araeth yn llawn ddigon, debygem. Ni fu dylanwad hono y peth a ddisgwyliodd efe a fuasai y mae yn debyg. I ba beth, gan hyny, y trafferthai efe i aredig cbwaneg ar y tywod. Wedi penderfynu nad areitbia chwaneg, gwrthod odd waboddiad trafnidwyr a masnachwyr Birmingham i ddyfod yno i ddyweyd gair.
[No title]
Bu Mr. Joynson Hicks, A.S., yn Wigan, nos Lun, yn ymfflamychu yn erwin yn erbyn y Gyllideb. Yr ydys yn ddiweddar wedi cael ilawer o areithiau gan y g\h par- ablus hwn; ond, am ei fod yn arfer traethu mor eithafol ar y pwngc hwn, fel ar bob pwngc arall, nid oes neb yn rhoddi nemawr bwys ar ddim a ddywedir ganddo. Nid yw yn bysbys ddarfod iddo argyhoeddi neb trwy ddim a ddywedodd. Modd bynag, rhoddwyd hwre' galonog i Mr. Lloyd George, er gwaethaf g&g Mr. Hicks.
[No title]
Nid oes ammheuaefch nad ydyw y doll chwanegol ar chwisgi eisoea wedi gwneyd daioni mawr. Gellir cymmeryd Glasgow yn enghraiSt deg o drefydd mawiion y deyrn- as. Yno, o Fai hyd Medi, yr oedd nifer yr achosion o feddwdod a ddygwyd o flaen yr ynadon dros ddwy fil yn 11 ai nag yn y cyf- nod cyferbyniol y llynedd. Da y gwnaeth Canghellydd y Trysorlys, gan hyny, yn codi y doll ar y trwyth melldigedig hwn.
[No title]
Nid oe? neb yn gwybod pa ham y mae Arglwydd Bosebery wedi cyfnewid cym- maint ar ei feddwl nes penderfynu peidio ar- eithio chwaneg yn gyhoeddus yn erbyn y Gyllideb. Dytolir gan rai mai yr ysgwry a gafodd efe yn ddiweddar gyda'r Brenin sydd wedi peri y cyfnewidiad hwn. Pwy a gaiff sicrwydd ar y fath bwngcl Nid ydyw yn debygol y dadguddia yr un o'r. ddau eu cyfrinach.
[No title]
Yn un o'r newyddiaduron Cefdwadol ddechreu yr wythnos hon ceid ymfflamych- iad tost ynghylch rhyw wahaniaethau mewn barn sydd yn mysg aelodau y Wd> yddiaeth ar bwngc y Gyllideb, a'r drafferth y maent hwy ynddi i benderfynu pa beth i'w wneyd yn y dyfodol agos, yn enwedig os bydd i'r Arglwyddi daflu y mesur allan. Blasus fwyd o'r fath a garant ydyw peth fel hyn gan Doriaid. Ond bwyd anhawdd i'w fwyta ydyw, canys mewn dychymyg yn unig y mae yn bod.
[No title]
Myn rhai mai ymddiswyddo a wna y Weinyddiaetb, os mai taflu y Gyllideb allan a wna Ty yr Arglwyddi, ac nid appelio at y wlad. Nid ydyw hyny yn debygol o gwbl, er nad ydyw hi wedi penderfynu etto ar ddim o gwrs ei gweithrediid. Hyd yn oed pe y gwnai hi hyny, nis gellid osgoi etholiad cyffredinol. Mr. Balfour a fydd- ai yn cymmeryd yr awenau mewn Haw yn y cyfwng hwnw; ond, byddai raid iddo gy- hoeddi etholiad yn ebrwydd. III
[No title]
Pa fodd y gallai efe wynebu Ty y Cy- ffredin fel y mae wedi ei gyfansoddi yn bresennol. Ni safai ei Weinyddiaeth am wytbnos, os yn wir am ddiwrnod, heb gael ei gorchfygu. Rhaid cael etholiad gan nad beth a ddigwydd, mown gobaith y rhoddai y wlad rhyw fath o fwyafrif iddo. Ond, os teflir y Gyllideb allan, yr ydys yn gol- ygu mai Mr. Asquith fydd yn appelio at y wlad; ac yn gwneyd hyny yn bendant yn erbyn yr Arglwyddi.
[No title]
Y dydd o'r blaen yr oedd Rhyddfrydwr a Thori yn dadleu a'u gilydd pa beth a ddigwyddai pe teflai yr Arglwyddi y Gyllideb allan; etholiad cyffredinol yn cymmeryd lie; a'r Rhyddfrydwyr yn cael eu dychwelyd gyda mwyafrif mawr. Cym- merai y Ceidwadwr arno edrych yn mlaen i'r dyfodol gyda Ilawer o dawelwch, 03 nad difrawder. Dywedai os pesid mesur i ddi- rymu awdurdod yr Arglwyddi, mai am dymmor un senedd y parhaai mewn grym.
[No title]
Deuai yr Undebwyr i swydd, ac adferent yr arglwyddi yn ol i'w hen sefyllfa. Ar wahan i'r anhawsder ynglyn a gwrthdroi cyfnewidiad mor fawr yn y Cyfansoddiad ynglyn ag awdurdod y Ty Uchaf, gellir dangos i bob Undebwr sydd yn edrych ar gyfyngu ar awdurdod yr arglwyddi fel peth cymmharol ddibwys y gellid, os parhaai am un senedd-dymmor, gwneyd cyfnewid- iadau mawrion yn y cyfansoddiad, a pbob un o honynt yn anfanteisiol i'r Tori- aid. I
[No title]
Dydd Llun yr oedd y trengholydd a'r rheithwyr yn Portruth, yn yr Iwerddon, yn ymchwilio i farwolaeth dynes ieuangc o'r enw Thompson, gensdigol o Belfast, yr hon ar ddydd ei phriodas a Ilafurwr a'i enw Hackett, a gaed ar fin trengu. Tystiwyd fod Hackett, yr hwn sydd yn y ddalfa, wedi priodi y ddynes dydd Sadwrn yn swyddfa y cofrestrydd yn Ballymoney. Wedi hyny aethant i Colerine, ac yno cawsant rhyw gymmaint o ddiod. Wedi hyny cwerylodd y ddau.
[No title]
Cerddodd Hackett adref i Portruth heb ei wraig. Yn ddiweddarach. caed hi ar lawr mown cyflwr anymwybodol, ac yn fuan wedi hyny hi a fu farw. Tystiol- aeth y meddyg ydoedd ei bod hi wedi marw o anhwyldeb y galon. Gallai un- rhyw gyffroad brysuro ei marwolaeth. Ond, ar yr un pryd, heb unrhyw gyffroad, galksai farw yn sydyn unrhyw adeg. Barnodd y rheithwyr fod yr hyn a wnaeth- ai Hackett wedi prysuro ei marwol- aeth. 0 herwydd hyny, cedwir ef mewn dalfa i'w ddwy 11 i brawf.
[No title]
Cynnyddu y mae y cyffrawd yn Den- marc yn erbyn Gweioidog yr Amddiffyn- iad, M. Christensen. Dydd Llun yr oedd deiseb yn cael ei chyflwyno i'r Brenin a'r Senedd, wedi el Uawnodi gan gan mil 0 ddynion a merched, ac yn gofyn am ei ddiswyddiad. Rhoes y Brenin dderbyniad yn y prydnawn i'r ddirprwyaeth a gyflwyn- ai y ddeiseb. Mewn attebiad efe y ddy- wedai nas gallai dderbyn dim o'r fath yma, ond yn unig trwy gynnrycbiolwyr etholed- ig y bobl.
[No title]
Chwanegodd yr un pryd mai drwg gan- ddo ef ydoedd fod neb o honynt yn coleddu drwgdybiaeth a diffyg ymddiried mewn swyddwr ag yr oedd efe yn ei ystyried yn dra chymmhwys i'w waith, ac i wasanaethu fel aelod o'r Weinyddiaeth. Ni roddodd attebiad y Brenin foddlonrwydd 0 gwbl i'r ddirprwyaeth. Er hyny, hwyrach y gellir dyweyd fod yr attebiad wedi rhoddi bodd- lonrwydd cyffredinol. Aros yn ei swydd a wna Mr. Christen sen, yn ol pob tebyg. H.. ..———————
[No title]
Hwliganiaid Paris ydynt yn parhau yn eu haerllugrwydd. Nos Sul diweddaf darfn i 0 ddeutu pymtheg 0 honynt ddal i fyny' dramgerbyd yn St. Dennis, y tu allan i amddiffynfeydd Paris, trwy luchio ceryg at y cerbyd, a bygwth y gyriedydd a bar 0 haiarn. Y gyriedydd a dynold ei lawddryll allan, ac a'u cadwodd draw. Aeth y teithwyr oil i lawr mewn dychryn ond, pan ddasth yr heddgeidwaid i'r lie, ffodd y gweilch, ac ni lwyddwyd i ddal ond un yn unig 0 honynt. Pa beth a wnaethent hwy oni bae am lawddryll y gyriedydd, nid oes genym ond dyfalu.
[No title]
Teyrnas dlawd ydyw Groeg, ac nid ydyw uwch law derbyn tanysgrifiadau gan y rhai hyny o'i deiliaid sydd yn digwydd bod yn oludog tuag at ei chynnorthwyo. Wythnos yn ol yr oedd gweddw y diweddar Igniatus Papanicoly, 1 brenin copr a haiarn' Smyrna, yn anfon i r Brenin George y swm 0 6,500,c. tuag at dreuliau y wladwriaeth. Y fonedd- iges hon sydd enwog am ei haelioni mewn gwahanol gyfeiriadau. Yn flaenorol i hyn yr oedd un arall o'i ddeiliaid wedi anfon ugain mil 0 bunnau iddo at wasanaeth y wladwriaeth. Helpir y Weinyddiaeth yn fawr gan gyfraniadau o'r fath yma. ■ c
[No title]
Mr. Albert Pulitzer, miliwnydd Ameri- canaidd, a brawd i bercheuog adnabyddus y 'New York World,' a gyflawnodd hunan- laddiad mewn gwe^fty yn Vienna, y Sul diweddaf, ar ol gyru ei ysgrifenydd a'i weision ar negeseuon. Fel arfer, galwodd ei feddyg yn y gwestty yn yr hwyr, ond cafodd ddrws ei ystafell wedi ei gloi. Agor- wyd ef trwy ei ddryllio, pryd y cafwyd y miliwnydd yn farw ar lawr, a bwled trwy ei ben. Dyn dan drigain mlwydd oed oedd efe, a Hungariad 0 genedl.
[No title]
Nid cynt y daethai dinas Marseilles, yn Ffraingc, dros ei dychryn ynglyn a helfa y teigr nag y brawychwyd hi drachefn gan helfa bwystfil peryglus arall. Tarw hwyl- iog ydoedd hwn. Newydd orphen ymladd yn y maes cyhoeddus oedd efe, a dodid ef mewn cawell, neu 'cage,' i'w gymmeryd ymaith. Diangodd ac ar y garlam wylltaf rhuthrodd trwy yr beolydd, gan greu dy- chryn annisgrifiadwy. Cyrhaeddodd i'r maes yr arfera y milwyr fyned trwy eu hymarferiadau ynddo, pryd y rhoddodd dau heddwas derfyn arno a'u gynau.
[No title]
Yn Simferopol, de Rwssia, un noson yr wythnos ddiweddaf, daeth dau ddyn arfog i mewn i'r lladd-dy perthynol i'r gorphor- aeth, a thorasant gist yr arian, gan gymmer. yd y deg punt ar hugain oedd ynddi. Er- lidiwyd ar ol y lladron, ac un o honynt a Ï; daflddd losgbelen at ei erlidwyr, gan yr hon rl yr anafwyd un eneth fach. Y lleidr arall a saethwyd yn farw. Pan oeddis dranoeth yn gwneyd ymchwil ar y lladd-dy ffrwydr- odd llosgbelen arall a adawsid ar ol, gan ladd dau o'r heddgeidwaid, ac anafu wyth 0 bersonau eraiil. Diangodd un o'r ysbeil- wyr, a'r arian a ladratawyd yn ei feddiant.
[No title]
Rbamant garu yw yr hyn a ddaeth i'r goleu yn Birmingham ddydd Llun. Nos | Sul gwelai gyriedydd tren hwyrol, pan wedi myned ychydig filldiroedd allan o'r ddinas, gyrph dyn a dynes ieuaingc yn gorwedd ar ymylon y rheiliau. Attaliodd ei dren yn yr orsaf nesaf, a hysbysodd v swyddogion yno am yr hyn a welsai. Aeth y rhai hyn ar hyd y llinell, a chawsant y cyrph fel y dywedasai efe. Eglur arnynt ydoed l fod y ddau wedi meirw er's rhai oriau. Yn mhen y dyn yr oedd archoll dwy fwled. Y ferch ydoedd wedi ei harcholli yn ei mynwes. .A
[No title]
Yn ymyl y dyn yr oedd Ilawddryll, gyda thair ergyd heb eu tanio, a thair wedi eu tanio. Ar go'er y dyn, wedi eu hysgrifenu & phensil, yr oedd y geiriau Marie Hick- man.' Y ferch, yn amlwg, oedd wedi eu hysgrifenu. Yr oedd y cyfeiriad, hefyd, wedi ei ysgrifenu ar y goler, ond mor an- eglur fel nas gellid ei ddarllen. Dranoeth adnabyddwyd y dyn fel William Boon, 0 Stafford a'r ferch yn ol yr enw ar y goler, ugain mlwydd oed, yn byw gyda'i rhieniyn Birmingham. Eilliwr oedd Boon wrth ei alwedigaetb, ac yn llettya yn yr un dref.
[No title]
GWl' priod oedd efe. Mae ei wraig a'i blant yn Stafford. Yr ymchwiliadau di- lynol i'r hanes a brofent mai ffrwyth rhamant garu ydoedd y gyflafan ofnadwy. Tua deunaw mis yn ol cyfarfyddodd y ferch ieuangc a Boon, a bu am dymmor yn cadw cwmpeini iddo hyd nes, ychydig fisoedd yn ol, y darganfyddodd hi ei fod ef yn tfr priod. Yn y fan, wrth gwrs, hi a dorodd ei charwriaeth i fyny ag ef. Ei thad a'i mam oeddynt dan yr argraph fod y dvnyn twyll- odrus wedi pasio yn llwyr allan o'i bywyd hi.
[No title]
Ond, yr wythnos ddiweddaf, cyfarfyddas- ant iu gilydd drachefn. Aeth hi o'i char- tref foreu Sadwrn, i brynu gwisg ne vydd; a chan nad oedd hi yn dyfod yn ei hoi aeLh ei rhieni yn bryderus iawn yn ei chylch. Arosasant yn hwyr ar eu traed i ddisgwyl am dani. Holasant y cymmydogion a'u cyfeillion yn ei chylch. Ond nid oedd air o'i banes i'w gael. Y wraig y llettyai Boon yn ei thy a ddywedai iddo yntau fyned oddi yno foreu Sadwrn, ac na ddychwelasai. Y darganfyddiad arswydlawn ar y llinell a esboniodd y cyfan.
[No title]
Yr ydym yn cael ar ddeall fod tri ustus heddwch newydd wedi Oil gwneyd yn Aber- gele. Llongyfarchwn un 0 honynt yn ar- benig, canys y mae efe yn Gymro, yn Rhyddfrydwr, ac yn Ymneilldiiwr i'r earn— nid amgen Mr. J. T. Millward. Credwn y gwna heddynad gwir deilwng. Eglwyswr a Thori ydyw Dr. Hughes, a Mr. W. Humbley, Llanddulas. Ai tybed mal dau Dori ac Eglwyswr, ac un Rhyddfrvdwr ac Ymneilldiiwr, ydyw y cyfartaledd teg mewn lie fel Abergele. Sicr ydym y gallasem ni gynghori yr Arglwydd Ganghellydd yn v peth hwn yn well na Mr. Cornwallis West.
[No title]
Mewn eyfarfod arbenig 0 Gymdeithas Ryddfrydig dosbarth Northwich, yn Win- nington, dydd LInn, gwnaeth Syr John Brunner, yr hwn sydd wedi cynnrychioli y rhanbarth er y flwyddyn 1885, yn hysbys nad yw ef yn bwriadu bod yn ymgeisydd yn yr etholiad eyffredinol nesaf. Llawer 0 sibryda sydd wedi bod mai cael ei ddyrchafa' i Dy yr Arglwyddi ydoedd ei dynged i fod. Ond dywed Syr John nad oedd rhithyn 0 wirionedd yn y chwedl. Fel ninnau, ni fyn yr hen Radical enwog gredu mai dyrchaf- iad ydyw aelodaeth yn y Ty Uchaf.
[No title]
Ammhossibl a fuasai i berthynas cyn- nrychiolydd ag etbo!aeth fod yn hapusach nag eiddo y boneddwr gwir anrhydeddus ag etholaeth Northwich. Ni fu cweryl nac oerfelgarwch rhyngddynt ar hyd chwarter canrif, a bydd yr hen gyssylltiad rhyng- ddynt yn cael ei dori gyda theimladau dol- urus o bob tn. Pasiodd y gymdeithas ben- derfyniad unfrydol 0 werthfawrogiad o'i 1 wasanaeth a'i ffyddlondeb fel seneddwr. Gan nad pwy y byddai ei Ryddfrydiaeth yn pallu ar adegau pwysig gwyddid hyd sicrwydd yn mha le i gael Syr John Brun- ner bob amser.
[No title]
Ysgelerder beiddgar ydoedd yr un a gyf lawnwyd ar lythvrgludydd, nos Wener, yr wythnos ddiweddaf. yn mheatref bychan Ash, yn gyfagos i Aldershot. Hen hedd- was, &'i enw Daley, ydyw y llytlyrgludydd a gamdiiniwyd, Ac efe yn nwylio ei gamrau trwy y tywyllwch, y nos hono, tua'r | llythyrdy, goddiweddodd ddau ddyn 0 faintioli mwy na'r cyffredin, a'r rhai y tyb-' iai efe oeddynt yn estroniaid i'r ardal. Meddyliodd hyn am danynt am na ddy- wedasant 'Nos dawch, postman.'
[No title]
Yn y llythyrdy efe a gafodd y llythyr* godau, a chychwynodd yn nghyfeiriad gor- saf y ffordd haiarn gyda hwynt. Ar ei ffordd goddiweddodd y ddau ddyn dyeithr drachefn, y rhai a ymwahanasant i wneyd He iddo ef basio. Tra yn gwneyd hyny taflodd y dyn ar ei aswy rywbeth i'w wyneb ef, ac yn union i'w lygaid, gan beri iddo y fath boen nes gollwng y llytliyr-god- 9 n au i lawr, a chodi ei ddwy law at ei wyneb. Y dyn arall a gipiodd y 11 ythyr godau i fyny, a'r ddau yn y fan a ddiflanasant yn y tywyllwch.
[No title]
Mor gynted ag y daeth efe ronyn ato ei hun cododd Daley waedd. Bu yr hodd- geidwaid yn chwilio y gymmydogaeth yn fanwl, ond yn ofer. Yn y cyfamser, llafur- wr, yr hwn sydd yn byw ger ilaw, a glyw- sai waeddiadau Daley, ac a ddilynodd ar ol y ddau ddyn. Ar ol hir erlid efe a ddaeth o hyd iddynt mewn Ion unig, a'r codau llythyrau wedi eu rhwygo ganddynt, a'u cynnwys wedi eu chwalu ar hyd lawr. Y rhai hyn oil a roddwyd i fyny i'r heddgeid- waid ar ol hyny.
[No title]
Pan glywsant S\\rn traed y llafurwr ffodd y lladron heb gymmeryd y codau gyda hwy. Nis gellir dyweyd gyda dim sicr- wydd a oes rhyw lythyran 0 werth wedi eu lladrata. Ond, hyd yma, nid ydyw yr awdurdodau wedi clywed am unrhyw ly- thyrau 0 werth wedi myned ar goll. Wrth gwrs, y mae yr heddgeidwaid yn gwneyd eu goreu i geisio cael gafael yn yr ysbeil- wyr beiddgar. Yr ydym yn teimlo yn ddi- olchgar fod mor ychydig 0 ymosodiadau yn cael eu gwneyd ar ein llythyrgludwyr, nifer pa rai sydd mor liosog, a'u beichian yn fynych mor werthfawr eu cynnwys.
CAERNARFON.
CAERNARFON. YMOSODIAD GAN FFERMWR. Yn ilys yoadon Caernarfon, dydd Mawrth, gwysiwyd Henry Parry, ffermwr, a phorthnon gwartheg, am ymosod ar William Thsmas, porthmon gwartheg. Yr oedd ystori yr achwynydd yn debyg fel y eaalya :—Ca,fodd ei gyflogi gan y dlffynydd a'i fab, ryw ychydig wythnos»u yn ol, i gymmer. yd gwartheg o Llanberis i Llanrug. Talwyd swllt iddo ar yr adeg; a chan ei fod yn credu ei fod yn medda hawl i swllt arall aeth at y diffynydd mewn ffair yn Nghaernarfon, pan y gwrthododd y diweddaf ei gals, a tharawodd ef 1 lawr ddwywaith &'i ffon. t Gwadai y diffynydd ei fod yn gwybod dim am y trefoiant wnaed rhwng el tab &'r achwyn. ydd. Tra yn y ffair daeth yr achwynydd ato yn haerllug, ac arferai iaith fygythiol, pan y darfu iddo ef (y diffynydd) ei wthio i ftwrdd, nes y eyrthiodd. Cadarnhawyd tystiolaeth y diffynydd gan lygad dyst. Daeth yr ynadon i'r penderfyniad fod Mr. Parry wedi ymosod ar gynnhyrfiad y fomeat, a gosodasant arao i dalu dirwy 0 2s. 6c. a'r cost- au. Mr. Hamlefc Roberts oedd yn ymddangoa ar ran yr achwynydd, a Mr. Richard Roberts dros y d ffynydd.
CYNGHOR GWLEDIG GWYRFAI.
CYNGHOR GWLEDIG GWYRFAI. Yn nghyfarfod Cynghor Gwledig Gwyrfal, yn Nghaernarfon, dydd Sadwrn, derbyniwyd llythyr oddi wrth Bwyllgor lechyd sir Gaer- narfon, yn galw sylw at ranau neillduol -o ad- roddiad diweddaf y swydd^g meddygol iechyd, yn fwyaf neillduol gyda golwg ar farwolaethau o'r darfodedigaeth, a marwoliethau yn mysg plant. Barn y pwyllgor ydoedd y dylid gwneyd darfodedigaeth yn afiechyd y dylid rhoddi hysbysrwydd am dano, ac y dylid cym- meradwyo i chwarelwyr ddefnyddio mwgwd dros y genau a'r ffroenau. Mr. Griffith, Nebo, a dybiai y gwnai yr awdnrdod addysg, neu rywun arall, yn dda i drefnu ar gyfer darlithiau mewn trefnidedd teuluaidd a choginio plaea yn y rhanbarthau gwledig, yn neillduol yn rhanbarth y chwareli. Mr. T. J. Lloyd. LIanrog, a gyfeiriodd at ra^len iechyd a ddygwyd yn mlaen gan y Bwrdd Addysg, yr hon, fel y credai ef, a wnai greu chwyldroad cyn pen ychydig flynyddoedd, Sylwodd aelod arall nad oedd 0 ddim gwahan. iaeth pa faint ° addysg gyfrenid mewn llawer o gymmydogaethau. Yr oedd meddygon, er enghraifft, wedi pregethu Jlawer yn erbyn yfed gormod o dê, oni yr oeddynt yn parhau i yfed te, te, te (chwerthin). Yn nghwrs trafodaeth ar iodo^eth ychyd ig: o afiechydon heiutus yn y 'hanbarth hysbysodd yr arolygydd (Mr. R. B. Parry), mewn atteb- iad i gwestiwn, ei bod y.1 ffaith ei fod wedi dyfod ° hyd i achosion 0 aQechydon heintus yn y ffurf waethaf mewn tai oeld yn cael eu cadw lanaf a goreu.
[No title]
Nid oes y sail leiaf dros ddyweyd fod nn. rhyw wahaniaeth barn rhwng aelodau y Weinyddiaeth a'u gilydd ar y pwngc o gwbl. Bu thai unwaith yn ceisio taeru y gallai nad oedd yr Arglwydd Ganghellydd yn cydweled a'i frodyr ar adranau tirol y mesur. Ond, dychymyg, fel y blasus fwyd ei hun, yd oedd hyny, hefyd. Mae efe yn unfryd-unfarn a hwy ar hyn, fel ar bob peth arall. Ni fu Gweinyddiaeth erioed yn fwy unol ar ei phwngc mawr na'r Weinydd- iaeth bresennol.
[No title]
Gwladwr ieuangc a'i enw Legave, ynbyw yn agos i Vannes, a gyflawnodd hunanladd- iad 0 dan amgylchiadau pur hynod, dde- chreu yr wythnos hon. Hysbyswyd ef v byddai yn angonrheidiol iddo ddyfod i'r lluest. filwraidd yn St. Mihiel i ddechreu ar dymmor 0 wasanaeth. Ond mor adgas ganddo ydoedd meddwl am droi yn filwr fel y dywedodd dair gwaith y byddai yn well ganddo farw. Pcrswadiodd ei fam of i fyned, ac aeth gydag ef i orsaf y ffordd haiarn. Ond yno taflodd ei hun 0 dan y gerbydres, a lladdwyd ef yn y fan.
[No title]
Yn llys cofrestriadol y Strand, Llundain, gweithredai boneddiges—Miss Helen Pococfe —fel goru ^hwyliwr dros y Rhyddfrydwyr.