Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y GOGLEDD.

News
Cite
Share

Y GOGLEDD. Dvwedir foci trefuiadau yn cael eu gwneyd i'r galktoedd tirol i wersyllu ar Fyriyikl Helygen yn ystod yr haf nesaf. Gwnaedi trefuiadau gan gyfarwyddwyr Cwmni Pier' Colwyn Bay i droi y rhan o'r pier o'r tu draw i'r pafiliwn yn cliatiiig link yn yr awyr agored. Cynnaliwyd cyfarfod lliosog a bnvdfrydig yn Nghorwen, nos Sadwrn, er cefnogi sym- mudiad y fyddin dirol yn y ,sir. Llywydd- id gan Mr. E. 0. V. Lloyd. Y mae Methodiistiaid Cyritefig Gwrecsam wedi prynu darn o dir yn Poyser Street, yn y fwrdeisdref hono, i'r amcan o adeiladu capel, &c., am gost o tua 3,000p. Y mae -app,el wedi cael ei gwneyd am dan- ysgrifiadau tuag at godi colofn goffadwr- iaethol ar fedd y diweddar Barch. Canon Griffith Jones, ficer Marchwiel, ger Gwrec- sam. Yr oedd Mr. H. Lloyd Garter, clerc ynadon sirol Caernarfon, yn bresennol dydd Sad- wrn, ar ol absennoldeb o bum' mis, mewn canlyniad i afiechyd. Llongyfarchwyd ef yn galonog gan y cadeirydd, ar ei adferiad. Hysbysir i'r Parch. H. Lloyd Roberts, rheithor Abermaw, dderbyn gair i'r perwyl fod! Mrs>. Williams, Cornwall Gardens, Llun- dain, a Plilas Mynach, Abermaw, wedi rhoddi y swm o 10,000p. at waddoli eglwys St. loan, Aberniaw. Dydd Sadwrn bit farw Cadben Thomas Wynn, rheolwr mwnglawdd rdwm Trelogan, ger Treffynnon, eiddo y Mri. Brunner, Mond, a'i Gyf. Brodor o Gwemymynydd ydoedd Mr. Wynne. Yr oedd yn ddiacon yn nghapel y Methodistiaid Calliiiaidd yn Tre- logan. Yn nathliad Dydd Gwyl Dewi, yn Piresta- tyn, yr wytllinos ddiweddaf. penderfynwyd frurfio cangen o Gymdeithas y Cymmrodor- ion. Rhoddodd tri a thrigain o bersonau eu henwau i lawr yn ddioed. Penderfynwyd, hefyd, symmud i sicrhau llyfrgell rydd' i'r dref. Pennodwyd pwyllgor i ymgymmeryd a'r gwaith hwnw. Profwyd ewyllys Mrs. Georgiaiia Maylor, 90 mlwydd oed, o Leighton Hall, Trefald- wyn, merch y d'iweddar Mr. John Edwards, Ness Strange, Amwytlhig, a gweddw Mr. John Naylor, bangciwr a pherchenog llong- au o Liverpool, yr hwli a adeiladodd ac a waddolodd eglwys Leighton. Yr oedd ei ihystad yn werth 30,856p. Mewn cyfarfod o Gynghor Dosbarth Gwl- edig Treffynnon, dydd Gwener, galwodd Mr. J. Petrie sylw at y cyflog isel oedd yn cael ei dalu i rai o'r gweithwyr. Wedi rhyw gymmaint o siarad, penderfynwyd fod yr arolygwyr yn darparii adroddiadau o'r dyn- ion oedd yn gweithio i'r cynghor, eu hoed- ran, a'r oyflogani delid iddynt. Cyrhaeddodd y ne'wydd i Wrecsam, dydd Llun, am fanvolaetli Mr. Thomas Piarry Jones-Parry, Llwyn Onn, Gwrecsam, yr hyn a gymmerodd le yn Ninbych-y-pysgod. Yr oedd Mr. Jones yn 80 mlwydd oed, yn ynad heddwch dros sir Ddinbycli ac yn ddir- prwy raglaw y sir. Bu yn aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid Gwrecsam am 40 o flynydd- oedd. Gwysiwyd John Boswell, 'gipsy,' o flaen yr ynadon yn Nghaernarfon, dydd Sadwrnt am ymosodiadau a ddywedid oedd efe wedi. eiUi cyflawni bedair blynedd yn ol, yn nghym- mydogaeth y dref hono, ar ffenmwr o'r enw H. 0. Hughes, a heddgeidwad oedd heb fod yn aelod o'r heddlu yn awr. Gwadai y cy- huddedig yn bendant y ddau ymosodiad, a galwodd dystion i gefnogi yr hyn a dd^y wed- ai. Caed ef yn euog, a dirwywyd ef i 10s. a'r costan yn mihob achos. Fel coffadwriaeth am y diweddar Mr. Henry Dennis, New Hall, Rhiwabon, yr liwn oedd yn dwyn cyssylltiad pwysig a'r rnwn- gloddiau glo, a cliangheiiau eraill, yn Ngogl- edd Cymru, tanysgrifiwyd swm o 1,000p. tuag at eu rhoddi allan ar log, er galluogi gweithwyr yn y glofeydd, a gweithiau eraill. yn Ngogledd C'ymru, y rhai. trwy afiechyd, fyddai yn inethii dilyn eu galwedigaetbau, i fyned i'r Colvalescent, yn Rhyl, a sefydliad- au cyffelyb eraill, i'r amoan o giael adfer- iad.

. Y D E Ii E U.

LLANGEFNI.

CERYG-Y-DRUIDION.

TREFOR, LLANGOLLEN,

----------RHUTHYN.

-.--------LLANFIHANGEL GLYN…

CYFFYI, LIOG.

..-WYDDGRUG.