Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
Hide Articles List
20 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
mmmmmaaammmmmmmmmnm t pi M ay I hive The < If c pleasure Of making your- Tin like Silver, § Copper like Gold, Paint like New. I do a Day's Work in an Won't wash Clothes. 0 MONKEY BRAND. M t BENJAMIN BROOKE & CO., Ltd.
-, M A R W 0 L A ET H Y PARCH.…
News
Cite
Share
M A R W 0 L A ET H Y PARCH. W. MORGAN (W.), ABERYSTWYTH. Nos Sadwrn, Cliwefror 29ain, bu farw y Parch. William Morgan, gweinidog gyda'r Wesleyaid, Aberystwyth, yn 84ain mlwydd oed. Derbyniwyd Mr. Morgan i'r weinid- ogaeth yn "1849; ac er yr amser hwnw yr oedd wedi llafurio yn nghylchdaith Gwrecsarn, Abergele, Conwy, Caergybi, Manchester, Llanbedr-pont-Stephan, Caernarfon, Aberdar, ac Aberystwyth. Ymneillduodd tua'r flwyddyn 1884 ac er yr adeg hono yr oedd j, ar restr yr uwchrifiaid, ac yr oedd wedi trig- iannu yn Aberystwyth.
--'-'='.'''-:--::! CYNGHOR…
News
Cite
Share
-=' CYNGHOR DOSBARTH GWLED3G LLAN- ELWY (DINBYCH). Dydd Gwener cynnaliwyd cyfarfod misol y cynghor hwn, o dan lywyddiaeth Mr. Ben- lle-tt Jones.
Ysbytty Abergele.
News
Cite
Share
Ysbytty Abergele. Y r oecld Y cynghor er's rhai blynydd- 9 oedd, mewn*cy ssy 11-t-iad a. Chynghor Dinesig Abergele, wedi cynnal ysbytty neillduedig yn Penrhyn, ger Abergele. Darllenwyd Ilythvr yn awr oddi wrth Mr. E. A. C.i-abbe, -,Ar ran cynghor Abergele. Mewn canlyniad i'r rhwystr anffodus oedd wedi codi rhwng y cynghorau gyda golwg ar ysbytty arall, a'r tebygolrwydd nas gall- ent gyttuno am ryw gymmaint o amser, yr oedd ei gynghor er wedi cael ei orfodi i bwrcasu darn o dir ar ystad Nanhoron am 210p. i godi ysbytty. Yr oedd y pwrcas hwin wedi cael ei wneyd er mwyn iddynt sicrhau y tir. Yr oedd y cynghor, modd bynag, yn barod i gario trafodaeth yn mlaen a'r Cy- nghor Dosbarth gyda golwg ar gael yr ys- bytty ar Iinellau teg. Ar gynnygiad Mr. Thomas Evans, yn cael ei gefnogi gan y Parch. Lodwick Ellis, caf- odd y mater ei drosglwyddo i bwyllgor unol o'r ddau gynghor.
Yr Ysbytty Newydd Cynnygiedig.
News
Cite
Share
Yr Ysbytty Newydd Cynnygiedig. Ymwelodd dirprwyaeth a gynnrychiolent Gynghor Dosbarth Gwledig Llanelwy (Fflint) a'r cynghor, mewn perthvnas i'r cynnygiad i g-odi ysbytty newydd neillduedig. Fel y mae'n wybyclclus, yr oedd Cynghor Ffiint. wedi peonderfynu eisoes godi y cyfryw ys- bytty; ac yr oedd y ddirprwyaeth wedi cael ei pi-ieniiodi er cael allan beth oedd golyg- iadau Cynghor Dinbych gyda golwg ar ddar- paru y-sbytty nnol i'r ddau ranbarth. Cymmerodd amryw ran yn y drafodaeth | ar y cwestiwn ac wedi i'r ddirprwyaeth ym- neillduo penderfynodd y cynghor yii un- frydol ymuno i ddarparu ysbytty; a phen- nodwyd" y cadeirydd, yr is-gadeirydd, y Parch. Lodwick Ellis, a'r Mri. W. Jones, John Roberts, a Morris Jones, yn ddirprwy- aeth i ymweled a Chynghor Fflint. Caed trafodaeth, wedi hyny, gyda golwg ar natur yr attebiad a roddid i Abergele. Awgrynwcld y clerc, fel y cwrs goreu, fed Cynghor Llanehvy (Dinbych), a Chynghor Llanelwy (Fflint), yn gyntaf oil, yn dar- paru ysbytty ac yn ystyried pa un a gawsai Abergele a Phrestatyn eu derbyn i mewn. Pasiwyd, wedi hyny, benderfyniad i'r per- wyl fod y ddau gynghor yn cario ymdrafod- aeth yn mlaen1, gyda'r amcan o ddarparu ysbytty unol, a bod y mater yn parhau o dan vstyriaeth, ac i fabwysiadu polisi agor- ed gyda golwg ar Abergele yn y dyfodol.
Y cyflenwad o Ddwfr i Llanfair.
News
Cite
Share
Y cyflenwad o Ddwfr i Llanfair. .Derbyniwyd chwech o geisiadau am y swydd o arolygwr (' clerk of the works ') gweithiau y cynenwad newydd o ddwfr i Llanfair Talhaiarn, am gyflog o 2p. yn yr wythnos. Mr. Richard Morris, Roger's Cottages, The Roe, Llanelwy, bennodwyd i'r swycLl.
AM benncfilad y ion. I
News
Cite
Share
AM benncfilad y ion. Wedi hyny cymmerwyd o dan ystyriaeth ail bennodiad y swyddog meddygol, a'r ar- olygydd iechyd am ddeuddeng mis. Gofynai Dr. Lloyd Roberts, am godiad yn ei gyflog. Y swm a dderbyniai yn awr yd- oedd 38p., ac yr oedd ei gostau teithiol yn tynu ei gyflog i lawr i 19p., yr hyn oedd yn swm bychan iawn i ranbarth o 63,000 o erwfii-i. Yr oedd ei gyflog, rai. blynydd- oedd yn 01, yn 90p. dros yr holl ranbarth; a thynwyd ef i lawr wedi hyny ipP-Pan gymmerodd y Cynghorau Dosbarth Dmes- io- le yr hen awdurdodau lechydol. ° Wedi i'r Dr. ymneillduo siaradodd Mr. John Roberts yn gryf yn erbyn codi y cyflog a chynnygiodd i'r jjennodiad gaei er wnevd ar yr hen delerau. Cefinogodd Mr. Thomas Salusbury, a chat- odd y penderfyniad ei gario. Wedi hyny galwyd y Dr. i mewn, ac hysbvswvd" ef o benderfyniad y cynghor. Penderfynodd y Dr., modd bynag, wneyd cais am y swydd ar yr hen delerau. Yna cafodd y ddau swyddog eu hail ethol.
DOLGELLAU.
News
Cite
Share
DOLGELLAU. Dydd Mawrth cynnaliwyd y Uys Irwydded- ol gohiriedig yn y lie uchod, o dan lywydd- iaeth Mr. Edward Griffith. Gwnaeth Mr. J. E. Fox gais am i drwydd- ed y Castle Inn gael ei throsglwyddo i'w enw ei hun, fel perchenog y ty. 1.1 Mr. R. Guthrie Jones, ar ran yr heddgeid- waid, a wrthwynebodd y cais, am y rheswm nad oedd wedi cael ei gario yn mlaen yn dda. -yr oedd y person a ddaliai y drwydded wedi cael ei ddirwyo i 5p., a'r costau, am ganiatau meddwdod ddwy waith o fewn y ddwy flynedd ddiweddaf, ac, hefyd, fod cyflwr iechydol y ty yn ddiffygiol. Mewn attebiad i'r faingc, dadganodd Mr. Fox ei barodrwydd a'i fwriad i bob adgyweir- iadau rhesymol a ofynid gan y Prifgwnstabl gael eu gwneyd, a dywedodd na chawsai y ty mo'i agor hyd nes y sicrheid tenant cyf- addas, er boddlonrwydd i'r faiiigc. Ni osod- id rheolwr i mewn o dan Mr. Fox. Mr. Jones a ddywedodd fod gan yr ynadon allu i orchymyn i'r cyfryw adgyweiriadau gael eu gwneyd cyn adnewyddu y drwydded. Nid oedd dim yn rhwymol yn yr ammodau fel yr oeddynt wedi cael eu derbyn gan Mr. Fox. Mr. Fox a ddywedodd fod y Prifgwnstabl yn credu y cawsai pob peth ei wneyd fel yr oedd ef wedi addaw. Y cadeirydd a ddywedodd fod y drwydded yn cael ei chaniatau, ar yr ammod fod pob peth oedd wedi ei addaw yn cael ei gario allan. Os na wneir, gallwn ymwneyd etto a'r drwydded. Mr. Jones.—' Nid am ddeuddeng mis. Y mae genyf eisieu i'r faingc ddeall yn glir beth y maent hwy yn ei wneyd. Y mae y drwydd- ed hon, mewn gwirionedd, yn cael ei had- newydu heb ddim ammodau o gwbl. Nid ydyw yr ammodau hyn yn rhai effeithiol mewn un ystyr. Sicrhaodd Mr. Fox y faingc na chawsent eu siomi yn eu disgwyliadau. Adnewydwyd trwydded y Red Lion Inn, Dinas Mawddwy, hefyd.
YDYCH CHWI WEDI CAEL EICH…
News
Cite
Share
YDYCH CHWI WEDI CAEL EICH VENO AT Y PESWCH YNA? Hwn ydyw y cwestiwn ofynir heddyw mewn ugeiniau o gartrefi mewn canlyniad i dy- wydd cyfnewidiol, llaitli, ac oer, yr ynysoedd hyn, yn mha hinsawdd y mae yn cynnyrchu anwyd a pheswch, ac anhwylderau y pibellau anadlu a'r ysgyfaint. Y mae yr atteb i'r gofyniad yn mhob teulu sydd dan reol briodol yn gadarnhaol, a thystiolaetha yr archebion enfawr dderbynir am y feddyginiaeth deulu- aidd effeithiol hon ei fod mewn defnyddiad cyffredinol. Y mae Lightning Cough Cure Veno yn ad- nabyddus drwy yr holl fyd, ac y mae wedi sefyll prawf amser, a saif heddyw yn uwch yn marn y cyhoedd na'r, un parotoad cyffelyb, gwarentir yn rhydd oddi wrth gwsgbeiriau a phob fferylliaeth fwnawl; y mae yn hynod bwrpasol i blant, attalia beswch mewn un noson, ceidw draw yr anwydwst, a gwellha yn hollol yr achos gwaethaf o bronchitis, caeth- dra anadl, catarrh, y pas, dolur gwddf, cryg- ni y llais, a pheswch, henaint-. Gellir cael y feddyginiaeth hon gan fferyll- w.yr yn mhob man am 9 £ c., a 2/1-Jd., a 2s. 9c. _r
[No title]
News
Cite
Share
Cyflwynwyd anrheg o ddesg ac anerchiad oreuredig i'r Parch. Tad Jones, gan ei gyn- nulleidfa, ar ei symmudiad o Gaernarfon i gymmeryd y swydd o Broffeswr Cymraeg yn Ngholeg St. Mair, Treffynnon. Yr oedd y Tad. Jones wedi llafurio yn Nghaernarfon am 35ain o flynyddoedd.
TAN MAWR MEWN YSGOL YN AMERICA.…
News
Cite
Share
TAN MAWR MEWN YSGOL YN AMERICA. 0 DDEUTU 150 0 BLANT WEDI LLOSGI I FARWOLAETH. Gweithredoedd Gwrolfrydig. Dyma fel yr ysgrifena gohebydd o Cleve- land, Ohio, dydd Mercher, Mawrth 4ydd:— Cafodd ysgol elfenol gyhoeddus a adna- byddir wrth yr enw Ysgol Lake View, yn Ngogledd Collingwood, yn agos i Cleveland, ei llosgi i'r llawr' heddyw boreu, ac yta- ddiengys yn sicr nad oes dim llai na thua 150 o blant ac athrawon wedi llosgi yn y fflam- au, neu yn eu hymgais am fyned allan. Yr achos o'r tan oedd i ystof gael ei gordwymno, Sylwyd fod yna berygl ar y llawr isaf, a rhoddwyd anvydd i attal y gwaith yn yr ysgol ar y tri llawr, ac i gasglu y plant i'r c-hv/ar- eule. Tra yr oedd hyn yn cael ei gario yn mlaen yn llwyddiannus o dan arolygiad yr athrawon, a'r person oedd yn gofalu am yr adeiladau, torodd y fflamau yn sydyn ar hyd byrddau y pared, a thaflwyd y plant i ddy- chryn dioed. Gyda gwaedd dychrynllyd o 'Dan!' rhuthrasant am y drws. Galwodd yr athr- awon am i'r plant fyned allan yn orymdaith, bodl yn ddau, ond aeth y eyffro mor fawr fel nad oedd eu lleisiau yn cael un dylanwad ar yr ysgolheigion dychrynedig, y rhai a orlenw- ent y lleoead o gylch y drysau, ac a ruthr- asant am y drws ar lawr uchaf yr ysgol. Rhedodd dwy o'r athrawesau, Miss Wiler, a Miss Fisk, i ben y grisiau, a cheisiasant dav/elu yr ysgolheigion, a'u cymmhell i fyned allan yn araf a gofalus, fel y gallai yr oil ddiangc, ond cafodd y merched gwrolfrydig hyn eu hysgubo ymaith, eu taflu ar lawr, a'u gwasgu o dan draed y plant. Yr oedd yn hawddach trin y plant yn y lloriau isaf, ond pan dorodd y swn allan, ym- ledodd dychryn yn mysg pawb oedd heb hvyddo i gael myned allan, ac er gwaethaf ymdrechion mawr yr athrawon, hunan-aberth pa rai oedd tu hwnt i ganmoliaeth, gorlenwid lleoedd o gylch y drysau ag ysgolheigion wedi syrthio o dan draed. Erbyn hyn yr oedd y tan wedi cymmeryd I gafael yn yr oil o'r gwaith coed, ac wedi cyr- haedd y grisiau. Anfonwyd am y tan-frigad yn ddioed ond yr oedd ganddynt rhyw gym- maint o bellder o Ifordd i ddyfod, ac ni chym- merodd y trychineb i'r plant ddim ond ychyd- ig funydau, o blegid ar ol y rhuthr gwyllt cyntaf o'r llawr uchaf, yr oedd y He wrth y II drws wedi cael ei gau i fyny gan ugeiniau fi gyrph wedi eu dirwasgu, ac yr oedd y sef- yllfa yn waeth trwy fod y drws yn agor i mewn, ac heb ei agor ond mewn rhan yn y rhuthr, fel yr oedd llai o le i fyned allan, ac yr oedd y cyrph yn un pentwr o flaen a thu 01 i'r drws, fel nas gellid symmud un ffordd. Cwympodd y grisiau, fel nad! oedd yn bos- sibl myned_ i'r ystafell, er pob ymdrech o eiddo rhieni a'r tanwyr. Rhuthrai mamau a thadau i'r lie yn eu dillad gwaith, a chodent waedd galonrwygol y tu mewn i'r ysgol a thu allan. I Gwnaeth yr hedelgeielwaidi eu goreu i gadw y dyrfa rhag myned i'r adeilad, ond yr oedd I y gwaith yn un caled, ac yr oedd y tanwyr yn cael eu lluddias gyda'u gwaith gan wrag- edd ddeuent yno, dan ddolefain am i'w plant gael eu hachub, yn lie yr adeilad. Gwnaeth un athraw yn adran y bechgyn, o'r enw Upton, weithredoedd gwrolfrydig iawn. Safodd yn nghanol y plant yn yr ys- tafell eiriaa-boeth, a thaflodd ddeunaw o blant trwy y ffenestri y rhai a dderbyniwyd gan bersonau o'r tu allan. Parhaodd'i gario y gwaith hwn yn mlaen nes y Ilesmeiriodd; ac er i'r tanwyr ei gyrhaedd ar ol hyny, yr oedd wedi cael ei losgi yn angeuol. Bernir fod tua 150 wedi Ilosgi i farwol- aeth. Yn 01 fel yr ysgrifenai gohebydd Reuter yn Cleveland, dydd Iau, credir fod 180 0 fywyd- au wedi cael eu colli yn y tan dychrynllyd hwn. Yr oedd y rhan fwyaf o'r plant a losgwyd yn amrywio o ran eu hoedran o 6 i 14 mlwydd oed. Yr oedd tri chant o ys- golheigion yn arfer rhoddi eu presennoldeb yn yr ysgol; ac o'r rhai hyn ni ddiangodd dim ond pedwar ugain heb eu niweidio. Y mae y trychineb mawr wedi achosi i'r awdurdodau trwy yr Unol Dalaethau i dde- chreu gwneyd archwiliad ar yr ysgolion, ac i sefydlu frreydrill i'r ysgolheigion. Y n Ohio y mae ymchwiliad trwyadl yn cael ei gario allan, a rhoddwyd gorchymyn niad oedd dim o'r drysau i gael eu cau yn ystod oriau yr. ysgol, ac nad oedd drysau yii- agor i mewn i gael eu caniatau mewn unrhyw ys- goldy. Y mae y newyddiaduron lleol wedi agor rhestrau o danysgrifwyr i gynnorthwyo y teuluoedd sydd yn eu trallod.
YSCOL LLANELLTYD.
News
Cite
Share
YSCOL LLANELLTYD. GWRTHDYSTIAD Y PWYLLGOR ADDYSG. Mown cvfarfod o Lywiawclwyr ysgolion dosbarth Dolgellau, a gynnaliwyd dydd Mawrth, dan lywyddiaeth Mr. Hugh Owen, derbyniwyd rhybudd oddi wrth Mrs. Ffoulkes St. Melangell, Rhyl o'i bwriad i gyflenwi ysgol elfenol yn Llanelltyd i tua 50 0 blant, a bod addysg grefyddol i gael ei chyfranu yn ystod oriau yr ysgol yn unol ag athrawiaeth- au Eglwys Loegr. Cynnygiodd Mr. W. Hughes a chefnog- odd Mr. Meyrick Jones fod y cyfarfod yn dy- muno dadgan ei anghymmeradwyaeth a'i wrthwynebiad cryf i gais Mrs. Ffoulkes i gael yr adeilad godwyd ganddi yn ddiwedd- ar i gael ei gydnabod fel ysgol elfenol gy- hoeddus am y rheswm canlynol:— (1) Fod y Pwyllgor Addysg eisoes wedi cael cydsyniad y Bwrdd Addysg yn Llun- dain i godi ysgol elfenol gyhoeddus i'r cylch. ac y maent yn awr yn myned yn mlaen 1 gyflenwi ysgol gyhoeddus yn y dosbarth. (2) Y byddai yn erbyn y dymuniadau am- lygwyd gan y plwyfolion i gydnabod ysgol yn y dosbarth heb i hono fod o dan reolaeth gyflawn y cyhoedd, ac yn rhydd oddi wrth bob addysg enwadol a phrawflwon crefyddol. (3) Yn gymmaint a bod y Pwyllgor Addysg yn myned yn mlaen gyda chael ysgol elfenol gyhoeddus fod ysgol arall yn ddiangenrhaid. C(?P^ 0'T Penderfyniad hwn i'w anfon 1 r Cynghor Sirol. i'r Cynghor Sirol.
Advertising
Advertising
Cite
Share
From 47- par Month JM Pro&ts. Cut prices for CASH, o? N< DIRECT PUBLIC SUFPI.T CO., Dept COVENTRY.
GWRECSAM. )
News
Cite
Share
GWRECSAM. ) Dydd Mawrth cynnaliwyd y llys sirol trwyddedig yn Neuadd Sirol Gwrecsam. Llywyddid gan Dr. E. D. Evans, dros faingc lawn o ynadon. Mr. Downes Powell a ddywedodd ei fod yn ¡ cynnrychioli yr heddgeidwaid. Yn y llys I blaenorol yr oedd yr ynadon wedi cyfarwyddo yr heddgeidwaid i roddi rhybuddion o wrth- wynebiad i adnewyddiad trwydded y Three Mile House, Adwy; y Green Man, Brymbo; a'r Nant House, Coedpoeth. Y rheswm dros eu gwrthwynebu ydoedd, nad oedd angen am danynt, fod y ddau dy cyntaf wedi cael eu cospi, ac i'r Nant House fod yn gauedig am ryw gymmaint o amser. Mewn attebiad i Mr. J. H. Bate, yr hwn a ymddangosai dros y personau oedd yn dal y trwyddedau, dywedodd y Prifgwnstabl fod deuddeg o drwyddedau wedi cael eu tros- glwydddo eisoes i'r sir am ad-daliad, ac mai y tebygolrwydd ydoedd y byddai tair arall. Mr. Bate. Beth ydyw y swm sydd yn nhrysorfa ad-daliad y sir? Mr. Jones.—' Tair mil o bunnau.' Mr. Bate.—' Felly, byddai i'r trwydded- au oedd wedi cael eu trosglwyddo lyngcu yr arian. Mr. Powell a ddywedodd ei fod yn deall mai y swm mewn llaw yn bresennol ydoedd 3,700p., ac y byddai i 3,000p., arali gael ei godi yn Mai. Gallai grybwyll mai yr ad-daliad uchaf roddwyd i dy yn sir Ddinbych ydoedd 750p., tra yr oedd y cyfar- taledd yn 400p. Felly nid oedd raid i'w gyf- aill ofni cael ad-daliad. Penderfynodd yr ynadon adnewyddu trwydded y Three Mile House,' ar yr am- mod nad oedd y tafarnwr yn cymmeryd ond trwydded chwe diwrnod, ond trosglwyddwyd eiddo y Green Man a'r Nant House 1 gael ad- daliad.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID.
News
Cite
Share
BWRDD Y GWARCHEIDWAID. Dydd Iau cynnaliwyd cyfarfod o'r bwrdd hwn, o dan lywyddiaeth Mr. Simon Jones. Darllenodd y clerc lythyr oddi wrth Mr. W. E. Weaver, yr ysgolfeistr, yn hysbysu ei fod yn dymuno, mewn modd parchus, hysbysu y bwrdd iddo wneyd appel at Fwrdd y Llyw- odraeth Leol, i wneyd. ymchwiliad i'r achos- ion oedd wedi arwain y bwrdd i ddymuno iddo ef a Mrs. Weaver, yr ysgolfeistres, anfon eu hymddiswyddiad i mewn. Mr. G. Cromer a ddywedodd y byddai iddo, er gosod y bwrdd yn iawn, gynnyg fod Mr. Weaver yn cael ei attal; a'u bod yn hysbysu y penderfyniad hwnw i Fwrdd y Llywodraeth Leol. Y Parch. E. K. Jones a gefnogodd. Yr oedd pwyllgor ymweliadol, a'r bwrdd, oil yn unfrydol ar y mater. Mr. Jones a deimlai fod y bwrdd yn cym- meryd cam eofn. Nid oedd yn meddwl fod y cwyn a ddygid yn erbyn Mr. Weaver yn ddigon i'w attal. Dylent drosglwyddo y llythyr i bwyllgor yr ysgol i ddechreu, a chyn- nygiodd fod hyny yn cael ei wneyd. Cefnogodd Mr. Birkett Evans. Y pender- fyniad, modd bynag, gariwyd, heb ddim ond dau yn erbyn. Dywedodd Mr. M. Kyffin, Rhos, iddo wneyd cais am eneth o'r tlotty yn forwyn; ond o blegid fod penderfyniad, fel y tybid, wedi cael ei basio 40 mlynedd yn ol yn gwrth- od caniatau i enethod fvned i wasanaethu mewn tafarndai, gwrthodwyd y cais. Yr oedd efe yn ei ystyried yn beth hynod, er ei fod yn cael ei ystyried yn alluog i reoli holl amgylch- iadau y tlotty, nas gallai gymmeryd gofal o un o'r sefydliad hwnw. Mr. Watkin Jones, Rhos, a gynnygiodd fod cais Mr. Kyffin yn cael ei drosglwyddo i'r pwyllgor ymweliadol. Y Pai-ch. E. K. Jones a ddywedodd y bydd- ai yn rhaid diddymu y penderfyniad cyn y gallent wneyd dim. Mr. Kyffin, Nid wyf yn meddwl y gall- ant ganfod y penderfyniad ar y llyfrau. Pasiwyd i Mr. Kyffin gael yr eneth; a rhoddwyd ar y clerc i edrych am y penderfyn- iad. Dewiswyd Miss Florence Wykes, Rhosddu, yn unfrydol yn nyrs yn Nghlafdy y Tlotty. Trengholiad.—Rheithfaen Agored. l' AFDD trengholiad ei gynnal yn Ngwrecsam, nos Sadwrn, ar gorph dyn ienaiigc, tuag 2Pam mlwydd oed, yr hwn a gaed wedi rnarw o dan bont Ftordd Haiarn y Great W estrn yn Bersham Road Fel yr oedd arwyddwr yn myned at ei waith yn oriau man y boreu blaenorol, syrthiodd, yn y tywyllwch, ar draws rywbeth, a chafodd allan wedi hynymii corph y trangcedig ydoedd Telephoniodd o'i foes am gynnorthwy, a sym- mi dwydy corph i dy y meirw. Dangosii tystiolaeth yr heddgeidwaid nad oedd dim ar y corph er gwybod pwy ydoedd, dim pellach na'r geiriau 'Pritchard, Gwrecsam' y rhai oedd tn tewn i'r cap, a'r tebygolrwydd ydoedd eu bod yn cyfeirio at y siop yn mha un yr oedd y cap wedi cae! ei brynu. Yr oedd cyflwr. ei ddillad yn awgrymu fod y trangcedig yn welthlwr parchus Yroedd archoDion ar ei wyneb, a'i henglog wedi hollti. Er gwneyd yr ymchwiliad mwyaf ma-nwl yr oeddynt wedi methu cael dim a roddai unrhyw olerni pwy ydoedd. Dychwelwyd rheithfarn agored. Ced allan ar ol hyny mai Joseph Vivian Davies, 19eg mlwydd oed, rhieni yr hwn oedd yn byw yn 50, Erddig Road, Gwrecsam, oedd y dyn ieuangc uchod. Yr oedd Davies wedi bod yn 'borter' gyda r Mri. W. a J. Pritchard. Gwrecsam, ond, yn ddiweddar, yr oedd wedi bod allan o waith. Gadawodd ei gartref dydd Iau, gan ddyweyd ei fod yn myned i chwilio am waith. Daethpwyd 0 hyd i'w gorph marw yn blygeiniol y boreu canlynol ar ochr y fiordd haiarn.
[No title]
News
Cite
Share
Cauwyd carchar milwrol Dover dyd,d I Sadwrn, a chymmerwyd y carcharorion i garchar Reading. Bwriedir troi adeiladau y carchar yn lluesttai ac ystorfeydd mil- wrol. Talodd Tyv/ysog Cymru ymweliad a Thy y Cyffredin, dydd Llun, ao yr oedd yn gwrandaw ar y dd-adl ar yr Arfau Milwrol. Bu mewn ymddiddan, wedi hyny, a. Mr. John Burns.
Advertising
Advertising
Cite
Share
1 "Seeing isbelieving." I 1 Use a little I "as j BORWICK S f 1 BAKING POWDER I 1 and see how beautifully I H your dough will rise. 1 :J YR ANWYDWST. YR ANWYDWST. Y FEDDYGINIAETH OREU. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Wrth sylwi ar ddifrod yr Anwydwst, a'i effeithiau drwg ar y cyfansoddiad, nid 8eS modd peidio ofni ei ymweliadau, gan fod llawer etto heb adennill eu hiechyd cynt- efig os byth y gwnant. DYWED Y MEDDYGON MAIA QUININE BITTERS GWILYM EVANS. YDYW Y FEDDYGINIAETH OREU. Ni ellwch gellwair a'r Anwydwst. Y mae yn cloddio dan y gyfundrefn nerfawl i raddau pellach na'r un afiechyd arall 9');' bron. Fel peth i'w gadw draw ni wydd- om am ddim cystal a QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Y mae cymmeryd ychydig o ddtognau mewn pryd Wedi profi yn effeithiol i gadw yr anwydwst draw yn ami, a phob amser yn lleddfu dioddefiadau y claf pan o dau ei ddylanwad. AR OL YR ANWYDWST. Prin y gellir ammheu nad ellir priodoli yr achosion ami o afiechyd yn y frest a'r ysgyfaint i ddylanwad yr anwydwst, ail- effeithiau pa un yn ami a gymmerant y ffurf hon. Pneumonia sydd yn lladd, ao y mae pneumonia yn ymosod ar y dyn sydd yn meddwl nad oes arno ond ymosodiad ysgafn o'r anwydwst. Cymmerwch, mewn pryd, gwrs o QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Y mae yn werthfawr mewn achosion o wendid diffyg treuliad, ofnau, colli ar- chwaeth ymborth, gwynt, ysbryd isel, a nietliu cysgu. GOCHELWCH EFELYCHIADAU. Nid oes un feddyginiaeth wedi cael ei hefelychu gymmaint a Quinine Bitters Gwilym Evans, ond' y mae gan y prynwr yr arfau priodol yn erbyn hyn yn ei ddwy- law ei hun. Sylwer yn neillduol ar yr enw Gwilym Evans' ar y llabed, ar y stamp, ac ar y botel (amddiffyniad triphlyg), heb ba rai nid gwir dim. QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Attaliad parhaol. Y mae attaliad par- haol wedi cael ei roddi yn erbyn M. W. James, ynghyd a'r costau, yn gwahardd iddo werthu ei nwyddau fel QUININE BITTERS GWILYM EVANS. Gwerthir yn mhob man. Gwerthir yn mhob man mewn potelau 2/9 a 4/6 yr un. Unig Berchenogion:— Quinine Bitters Manufacturing Company, Llanelli, Deheudir Cymru.
"---....._..._..-:'!' NODION…
News
Cite
Share
NODION 0 BETHESDA. Cynnaliwyd dau gyfarfod pur Iwyddian- nus gan blant Ysgol Genhadol Coetmor, nos- weithiau Mercher ac Iau diweddlaf. Amlwg ydoedd wrth wrandaw arnynt yn canu, ad- rodd, a dadleu, fod rhywun wedi bod yn bur ymdrechgar yn eu dysgu; y mae rhan hel- aeth o'r clod hwnw yn ddyledus i'r ychydig frodyr a chwiorydd o Jerusalem sydd yn myned i ofalu am yr ysgol genhadol, yn neillduol felly Mr. Hughes Owen, Williams' Terrace, gyda'r canu, a Dr. Gruffydd, y Mri. J. 0. Roberts, Penrhyn House; T. J. Owen, Coetmor Mount; lorwerth Williams, Green- wich House, &c. Llywydd cyfarfod nos Fercher ydoedd Mr. John Jones, Ogwen Ter- race; a'r arweinydd, Mr. T. J. Owen, Coet- mor Mount; a chymmerwyd y gadair nos Fercher gan y Parch. W. R. Owen, Jeru- salem; a'r arweiniad gan Mr. J. 0. Roberts, Penrhyn House. Dirwvnwyd tymmor Cymdeithas Lenyddol Jerusalem i fyny nos Fercher diweddaf drwy i'r aelodau gydwledda o'r danteithion ddar- parwyd ar eu cyfer. Pur amrywiol ydoedd y ddarpariaeth, ond hynod flasus a chwaethus yr hyn nas gellid ei ddyweyd am yr amryw- iaeth gafwyd yn y cyfarfod ar ol. Nid oedd y cyfarfod olaf hwn yn ogyfuwch a'i rag- flaenoriaid. Traddodwyd darlith ddysgedig ar y Ser yn yr Ysgol Sirol gan Mr. Adams, un o Athrawon cynnorthwyol yr ysgol. Mawr fwynhawyd yr addysg gaed drwyddi. Llywyddwyd gan Mr. E. Llew Williams, B.A. & Bu Mr. D. J. Williams, Ogwen Villa a Mr. D. G. Davies, Hengoed, yn Southport, yn nghyfarfodydd Cynghrair yr Eglwysi Rhydd- ion, fel cynnrychiolwyr Ymneillduwyr Beth- esda. Yr wythnos ddiweddaf gorphenwyd ad- gyweirio capel Bethesda (A.), a hyny er mawr foddlonrwydd yr aelodau. Aethpwyd i rai cannoedd o bunnau o draul y muriau. Yn chwanegol, hefyd, adgyweiriwyd yr organ nes ei gwneyd hi fel yn newydd. Yn sicr, y mae yr addoldy yn edrych yn hardd dros ben. Y cymmerwyr oeddynt y Mri. J. D. Prit- chard, a W. H. Lewis, Penybryn. Cynnaliwyd cyfarfod hynod o Iwyddiannus yn nghapel Rhiwlas gyda plant y Band of Hope, yr hyn a ddangosai ffrwyth y llafur fu gyda hwynt yn ystod y gauaf. Y llywydd ydoedd Mr. Hugh Roberts, Tyddyn Canol, ac arweiniwyd gan y Parch. W. G. Hughes, gweinidog. Cymmerwyd arweiniad y cor gan Asaph y Rhiw a chyfeiliwyd gan Mr. R. Jones (Ap Asaph).—Gohebydd.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae y Parch. D. Emrys James, Dowlais wedi cydsynio a galwad eglwys Annibynoi Saesnig Bwcle, i fod yn olynydd i'r Parch. T. Mardy Rees.
Advertising
Advertising
Cite
Share
F FACTORY TO RIDER Despatched direct to anyono on Ten Days' Free MtgS\ Trial and approval. Jnl 1. Coventry Cycles BsBJAjll Warranted six to flftern years; best tyres, coasters, variable-speed gears, and all latest 1m- BffifiSalyM 11provements 63 new models. W.lMwP Mfllf/vi ^fOJtl JS3. 10m Packed free and carriage ■fflST paid. Old machines taken in exchange. Hllop. WWT soiled and second-hand Cycles, all makes as fHjEwCJj good as new, from 3S3I- Great Clearance Sale. t 9 R 0/ S>ISCOlJXT for Cash. Easy Pay- Estab- W 13 O ments at 10% discount off catalogue lished prices. No deposit or references required 21 years, mly# Xhoupands of testimonials from delighted TRADE TFRMC to a ri<icl's in eao!l district who apply • nnwb I tnisjw immediately. Write or call at once for our large Free Art Catalogue and special ojfkr on sample machine. MCAn CYCLE CO. Dspt. 74a ■VI S«^ 91-95, ParariSse !VERP»OU London: 19, Charing Cross Rlt. Manchester: 162, Deamgaie. (JlMgow; 168, Buciumtn Utrcet. ai. New 8rictge a.