Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

GWYL YR KGLWYSI UH YD DION.

News
Cite
Share

GWYL YR KGLWYSI UH YD DION. Bu hon yn cael ei chynnal yn Southport, yr wythnos ddiweddaf. Y diweddar Barched- ig Ddr. John Watson (fan Maclaren) osdd wedi ei ddewis i lywyddu y gweithrediadau eleni. Ond, yn ddisymmwth, ac efe ar daith yn Unol Dalaethau yr America, 'lluddiwyd iddo gan angeu i barhau.' Cymmerwyd ei le gan y Parchedig Dr. Brock, y gweinidog Wpsleyaidd enwog. Hyfryd hwnt i fesur S genym ydyw mai y Parchedig Evan Jones, Caernarfon, y gweinidog Methodistaidd y mae ei enw mor dra adnabyddus mewn pulpud ac ar lwyfan, sydd wedi ei ddewis i fod yn llywydd y Cynghrair y flwyddyn nes- af. Efe a leinw ei gadair yn anrhydeddus, yr ydym yn sicr. Cystal Doctor' a'r un o honynt yw cyn-weinidog athrylithgar capel Moriah. Hir oes ac iechyd iddo Ychydig sylwadau cyffredinol ar yr wyl a fydd genym yn yr erthygl hon. Cyf arfydd- odd y Cynghrair yn Southport, ar adeg o gyffro a berw mewn byd ac eglwys. Adeg o anhawsder a chyfrifoldeb mawr yn ogystal. Byd meddwl a ddygyfora gan anesmwythyd aflonydd. Byd gwejthred a adseinia gan drwst cad a bloeddio iddo. Yn y byd olaf hwn y mae egwyddorion cynnydd yn cael y cyfleusdragoreu a gawsanterioed. Yr esboniad digonol ar hyn ydyw mai yn nwylaw Llyw- odraeth Ryddfrydig y mae awenau y Wlad- wriaeth, a chanddi fwyafrif ardderchog wrth ei chefn. Ac yn awr, a hi yn ei thrydydd senedd-dymmor, wele dygodd ddau fesur 9 o'r pwysigrwydd mwyaf i mewn, nid amgen y Mesur Addysg a'r Mesur Dirwestol. Dau fesur pell-gyrhaeddol yw y rhai hyn ac ly etto, nid yw yr un o honynt yn myned yn ddigon pell gan rai. Nid yw y Mesur Addypg yu myned yn ddigon pell gan bawb sydd yn aelodau ynNghynghrair yr Eglwysi Rhyddion. Nid yw y Mesur Trwyddedol yn myned yn ddigon pell, chwaith, gan bawb sydd yn garedigion dirwest. Ond a'u cymmeryd bob un ar ei ben ei hun, ac yn enwedig y ddau mewn undeb a'u gilydd, golygant gam brasach i dir uniondeb, moes, a rhinwedd cymdeithasol na dim a gafwyd gan unrhyw Lywodraeth erioed. O angen- rheidrwydd, cynnwys y d Jau a ennyna gyn- ddaredd fwyaf angerddol y gwrthwynebwyr. Ai tybed, mewn amser mor gyssegredig a hwn, mai galluy gelyn fydd yn gorfod 1 Yr eisteddiadau yn Southport oeddynt yn rhoddi dangoseg eglur i'r pethau, ar hyn o bryd, y cymmerir dyddordeb ynddynt. Peth i'w ddisgwyl oedd dawr yn Nghwestiwn Addysg, Pwngc Dirwest, a Dadsefydliad a Dadwaddoliad yr Estrones yn Nghymru. Diolch i Lywydd y Bwrdd Masnach, yn nghanol ei brysurdeb, am ddyfod i lawr, a I, gwneyd y fath ddadganiad ar yr achos dyfnaf yn nghalon Cymro. Ni fuasai y Cynghrair yn deilwng o'i enw oni theimlasai yn frwd dros faterion o fath a phwys y rhai ¡ hyn. Ond, cymmerai ddawr, hefyd, mewn pyngciau eraill, y rhai na chawsent le ar ei raglen ychydig flynyddoedd yn ol, Ar- wyddocaol iawn ydoedd y croesaw calonog a roed i Mr. Arthur Henderson, blaenor Plaid Llafur, pan y cododd ar ei draed l lefaru, gan ddadleu hawliau y gweithiwr. Sylwadau-j Mr. H. W. Massingham, hefyd, a dderbyn- iwyd gyda banllefau byddarol oymmerad wyaeth wrth gondemnio 'y Wasg Felen mor ddiarbad. Yr ysgelerderau ar lanau y Congo, a'r dynoethiad arnynt; yr ormes drom y dioddefa y Cristionogion dani yn ymherodraeth y Twrc a phethau cydryw, a ennynent ffieidd-dod, ac a ddangosent, yn y brwdfrydedd gyda pha un y gwrandewid y drafodaeth arnynt, fod pyngciau dyngarwch yn meddu eu lie ar raglen v Cynghrair. Ac oni allai y Cynghrair ymddyddori yn y pyngciau hyn, yn ogystal fig yn y rhai umongyrcbol grefyddol, anobeithiasem am dano, a bron na ddywedasem mai prin yr I ystyriem ef yn werth ei draul. Ond, hyfryd ydyw meddwl mai efe, ar hyn o bryd, ydyw y gallu cryfaf yn erbyn gormes ac an ghyf- iawnder crefyddol a pholiticaidd sydd olewn y Deyrnas Gyfunol yn yr Ugeinfed Ganrif. Nid oes gymmhariaeth rhyngddo yn yr ystyr hwn a'r Gynghres Eglwysier fod hono yn gwneyd llawer mwy o drwst nag ef. Mae divylaw, Cynghrair yr Eglwys. 1 Rhyddion yn hn i drafod pob pwngc a berthyn i grefydd a dynoliaeth. Ac yn y ffaith hon, yn ddfiii, y mae ei nerth. Wedi dyweyd hyn yr ydym yn rhydd i ddadgan ein barn mai cylch arbenig y Cynghrair ydyw y. cylch crefyddol. Yn Nheyrnas Crist' y mae ei waith penaf. Arwain meddwl Ymneillduwyr Lloegr a Chymru, heb adael Ysgotland a'r Iwerddon j allan, ydyw ei genhadaeth fawr; ac arwain y meddwl hwnw yn umawn ar hyd llwybrau 'y gwirioneddan tragwyddol.' Yr ydys yn deall fod y Parchedig R. J. Ca • pbell, o'r City T-mple, yn tueddu i gwyno ei fod ef, a'r rbai sydd yn dilyn ei 'lusern' yn cael eu boycotio' gan eu brodyr sydd yn glynu wrth y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint.' Nid ydym yn dyweyd dim am y boycot' hwn. Nis gwyddom ddim am dano. Ni chlywsom o'r blaen am unrhyw I' I erledigaeth' o'r fatb. Hyn a ddywedwn, od oes dim o hono yn bod, nad ydyw i'w gyffelybu am foment a'r hyn y bu raid i Ymneillduwyr gwell na hwy ei ddioddef yn y dvddiau gynt am lynu yn eu proffes.' Bydded y gwr a'i ganlynwyr dawel, y mae eu rhyddid yn llawn ganddynt; a boed i'r rhai na fynant mo'u hathrawiaethau gilio oddi wrthynt, a pbeidio yngan gair yn eu cylch, na drwg na da. I Mr. Campbell ei hun rhoem gynghor bychan fel hwn Na fydded ef mor Faticanaidd-anffaeledig, a liefared yn barchus am y rhai y bu unwaith yn wiw ganddo gael y fraint a'r anrhydedd o gydweithio a hwy. Modd by nag, yr ydym yn sicr mai trwy fod yn ffyddlawn i'r gwir- ioneddau trappvyddol,fel v gelwir hwy, yr ennilIa Cynghrair yr Eglwysi Rhyddion nerth i ddal ei dir a chwanegu cryfder. A ydyw dylanwad yr Undeb Anghydffurfioll hwn yn cael ei deimlo i'r graddau y dylai yn y Dywysogaeth sydd gwestiwn nad oes genym atteb pendant i'w roddi iddo. Byddwn yn ofni weithiau nad ydyw. 0 un peth yr ydys yn sicr sef, fod cryn lawer o anwybodaeth yn bodoli ynghylch ei natur a'i amcanion. Dylai y canghenau o'r Cynghrair mawr, yn y Gogledd a'r Deheudir, drefnu, trwy yr is-ganghenau lleol, i wasgar chwaneg o wybodaeth yn ei gylch. Mewn lliaws o'n trefydd ceir cynghreiriau wedi eu ffurfio; ond, hyd yn oed ynddynt hwy yr ydym ofni mai ychydig yw y dylanwad a gariant ar y corph mawr o'r aelodau cref- yddol. Yn y rhanbarthau gwledig, lie nad oes canghenau wedi eu ffurfio, prin y mae hyd yn oed enw Cynghrair yr Eglwysi Rhyddion Efengylaidd yn wybyddus. A ellir gwneyd rbywbeth effeithiol yny cyfeir- iad hwn 1 Derbyniasom y Nodiadau a ganlyn oddi wrth 'Un oedd yno' ar ol ysgrifenu yr erthygl uchod. Gailem ddyweyd fod awd- wr yr ysgrif yn un o weinidogion parchusaf cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Nyffryn Clwyd:- Y mae yr uchod, bellach, yn gyfarfod o ddylanwad anfesurol o ran nifer y cynnrych- iolwyr, a grymusder yr anerchiadau a dra- ddodir yaddo. Ceir prif ddoniau Lloegr, yn weinidogion a llëygwyr, yn cymmeryd rhan flaenllaw yn y gweithrediadau, ac ambell i Gymro yn dyfod i'r golwg yn awr ac yn y man. Nos Lun, Mawrth 211, rhoddwyd croesaw yn y ffurf o wledd i'r cynnryehiolwyr gan faer Southport, yr hwn, er yn Eglwyswr ac yn Geidwadwr, a roddodd ddeheulaw cym- deithas garedig i'r frawdoliaeth, yn cael ei gynnorthwyo gan ei ferch, Miss Willett. Boreu ddydd Mawrth cafwyd anerchiad cryf gan y llywydd, y Parch. J. Rendel Harrip, D.D., ar ei ymadawiad o'r gadair; a darfu i'w olynydd, y Parch Dr. Brook, M.A., Southport, draddodi anerchiad gwir werthfawr wrth ymgymmeryd 'r llywydd- iaeth. Bydd yn dda gan eich darllenwyr ddeall mai y cadeirydd appwyntiedig am y flwyddyn nesaf ydyw y Parch. Evan Jones, Caernarfon. Efe ydyw y Cymro cyntaf a gafodd yr anrhydedd hOI1, er fod y gyn- nadledd bellach yn bymtbeg mlwydd oed, a di'au y bydd iddo ei llanw gydag anrhyd- edd ac urddas teilwng o'i genedl. Nid oes hamdden i sylwi ar fanylion y cyfarfodydd ond pan y gwelir fod yr enwogion canlynol yn cymmeryd rhan flaenllaw yn y gweith. l'ediadau :-Gipsy Smith; Mr. D. Lloyd George, A.s.; Syr G. Compton Rickett, As.; Syr Thomas P. Whitaker, A.s.; Syr George White, A.S.; a'r Parchn. Dr. Clifford, Henry Yooll, J. H. Shakespeare, W. Broadfield, J. H. Jowett, Dr. Horton, C. Silvester Horne, J. Munro Gibson, &c., gwelir fod hufen y deyrnas yn cefnogi y symmudiad mewn modd sylweddol. Yr oedd y cynnullladau yn eithriadol o liosog, y neuadd, yr hon oedd yn cynnwys dros dair mil, yn orlawn yn ystod y gwahanol eisteddiadau. Yr oedd disgwyliad aiddgar am Mr. Lloyd George nos lau, a daeth i'w gyhoeddiad yn brydlawn, ac anerchodd y cyfarfod mawr yn Albert Hall, ac yna y cyfarfod Cymreig mewn adeilad arall. Yr ydym yn mawr e7 hyderu y bydd i'r cadeirydd etholedig—y Parch. Evan Jones gaol pob cryfder a nerth fel ag i'w alluogi i ddwyn hawliau Cymru ger bron y gynnadledd yn ystod tymmor ei lywyddiaetb.

H E L Y N T 'A It, A L L|

ARGLWYDD STANLEY 0 ALDERLEY…

BRAWDLYS CAER.

CAERNARFON.

EISTEDDFOD CORWEN.

TRAMOR.!