Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
25 articles on this Page
Hide Articles List
25 articles on this Page
Y Llosgdardd (Anthrax), etto.
News
Cite
Share
Y Llosgdardd (Anthrax), etto. Adroddir fod yr heintnod hwn wedi tori allan ar bedwar dyn yn chwaneg at y rhai yr adroddwyd am danynt o'r blaen. Enwau y personau hyn ydyw Mr. John Morgan, Fferm Cwmtawo Cadben Nicholas, Mr. John John, brawd perchen y gwartheg; sef, Mr. Evan John, Ynysmeudwy Uchaf; a Mr. Joseph Jones, Pen-y-garn. Nid yw y clefyd mor Uym ar y gwyr hyn ag ydoedd ar y rhai aeth i Ysbytty Abertawe. Y mae yn ddrwg genyf ddyweyd fod Mr. William .Williams, cigydd, y crybwyllwyd am dano o'r blaen, wedi terfynu ei yrfa gan effaith yr haint beryglus.
Dyrchafiad i Ysgrifenydd y…
News
Cite
Share
Dyrchafiad i Ysgrifenydd y Ddirprwyaeth Eglwysig. Bydd Caerfyrddin yn colli gwasanaeth da ei hysgrifenydd trefol ar fyrder. Y mae efe wedi rhoi ei ymddiswyddiad yn llaw y cy- nghor, ac yn disgwyl cael gollyngdod yn mis Mai, gan ei fod wedi derbyn swydd yn ben- goruchwyliwr ar etifeddiaeth Syr Watkin Williams Wynn, Barwnig, Wynnstay, Rhiw- abon. Mynegir fod y swydd hon yn werth 2,000p.. Y mae Mr. Richard Macaulay Thomas yn ysgrifenydd y Ddirprwyaeth Egl- wysig, hefyd. Y mae yn wr graddog—B.A. o Rydycliain, ac yn awdwr y nofel Trewern.' y
Adferyddfa (Sanatorium) Callt-y-mynydd.
News
Cite
Share
Adferyddfa (Sanatorium) Callt-y-mynydd. Y mae argoel dda i'w chanfod yn awr y gwelir y sefydliad adferyddol hwn yn cael ei agor yn mis Gorphenaf nesaf, i dderbyn i mewn gleifion i fod dan driniaethau meddyg- 01 priodol. Y mae rhyw dair blynedd wedi mvned heibio, erbyn hyn, er y pryd y cy- chwynwyd y mudiad i'w sefydlu. Cafodd pwyllgor y mudiad, trwy larll Cawdor, ,addewid gan y Dywysoges Frenhinol Christ- ian y deuai hi yno i Alltymynydd i agor yr .adeilad. Disgwylir iddi ddyfod, gan hyny, :ar yr 21ain o Orphenaf nesaf. Bydd ei Huchelder Brenhinol, am y pryd, yn westtai i'r larll a'r larlles. Sefydliad neillduedig ydyw hwn i fod i'r tair sir, Caerfyrddin, Pen- fro, ac Aberteifi, wedi ei amcanu i wella dy- oddefwyr oddi wrth y darfodedigaeth. Ym- ddengys fod y tair sir hon yn dyoddef yn •ddwys dan afael y nychdod ysgyfeiniol hwnw. Saif Galltymynydd ger Llanybydder.
Dathlu Dygwyl Ddewi Sant.
News
Cite
Share
Dathlu Dygwyl Ddewi Sant. Dyma'r wyl fawr genhedlaethol, weithian, drosodd. Yr oedd rhifedi'r cynnulliadau trwy Gymru a Lloegr yn llawn cymmaint •eleni a chynt. Cafwyd digon o brawf mewn llawer o honynt nad yw sel gwladgarwch ddim wedi iccdli ei danbeidrwydd mewn gronyn etto. Gwneir llawer o les trwy'r cyfarfod- ydd a'r gwleddoedd blynyddol hyn i feithrin a chadw yr ysbryd Cymreig yn fyw yn mysg y rhan oreu o'r genedl. Y mae difrawder Hawer ardal wedi peri dirywiad ar hunan- 'barch eu preswylwyr Cymreig. Aeth yr iaith bron yn llwyr allan o arfer ganddynt. Y mae perygl yn bygwth ardaloedd eraill. Dy- lai y Cymry ymgodi i sefyll drosti yn egniol. nid ar Ddydd Gwyl Mabsant Cymru yn unie, eithr ar bob dydd trwy y flwyddyn. Llawen ydyw canfod sefydlu Cymdeithas Gymraeg yn Nhredegar a Chaerfyrddin eleni, am y tro cyntaf er's llawer blwyddyn. -Flyiiyddoe.dd yn ol yr oedd capeli Cymraeg 'Tredegar yn lied ami a chyflawn o gynnulleid- faoedd, ond heddyw, dywedir nad oes yno ddim ond un eglwys Gymraeg. Y mae Caer- fyrddin, hefyd, yn brysur droi yn Saesnig mewn iaith. Dylid codi cymdeithasau llen- yddol yn mhob tref, pentref, a chapel, trwy holl Gymru. O! Gymru, ymddeffro!
Cwledd Cymmrodorion Caerdydd.
News
Cite
Share
Cwledd Cymmrodorion Caerdydd. Cadwodd Cvmdeithas Cymmrodorion- y sddinas hon wledd goffa flynyddol Dewi Sant, wythnos i nos Sadwrn diweddaf. Arlwywyd y wledd yn Neuadd y Pare. Ymgrynhodd rhwng tri a phedwar cant o foneddigion a boneddigesau y ddinas a'r amgylchoedd yno yn gyfundorf ysblefnydd, o brif fonedd a thalent, yn llawn awyddfryd am fwynhau y wledd o luniaeth ar o areithyddiaeth a ddar- perid iddynt. Y mae'r gymdeithas hon yn un o'r cymdeithasau Cymreig mwyaf blodeu- og yn Nghymru. A bu'r cynnulliad hwn eleni yn llawn gyfartal, mewn. llwydd, a dim cyfarfod fu dan nawdd y gymdeithas o'r <cyciiw.yn. Yr oedd golwg y lie yn ddengar trydferth, gan fod y neuadd yn gwisgo dullwedd addurnog oedd weddus i'r noswyl anrhydeddus. Llywyddid y wledd gan yr ffenadur Robert Hughes, llywydd y gym- -deithas; Cymro gwladgar a galluog sydd, lief yd, yn wr mewn ffafr gan y dinasyddion .a r bobl. Eisteddai Mr. Hughes gydag ef; a chynnorthwyid ef gan yr Arglwydd Faer "â't Arglwyddes, a chan urddasolion eraill. Derbyniwyd brysnege.sau o gynnulliadau >Cymreig—o Birmingham, Caer Mynachod ,(Newcastle-on-Tyne-Monkchester), Caer- loyw, ac hefyd o Lydaw, trwy y bardd Dyfed. 'Dyma'u llongyfarchiad gwych, fel y'i der- 'byniwyd ef' Hybarch Archdderwydd, yr ydym ni, beirdd Llydaw3 calon wrth galon genych, yn anfon atoch ein dymuniadau jgwresocaf am Gwyl Dewi Sant, a phob llwyddiant i anwyl hen wlad ein tadau. Dyg- weh ein cofion goreu at yr holl gyfeillion yn Caerdydd. Cymru am byth! Llydaw am byth! Yr eiddoch yn barchus, F. Valleee (Ab Harve), A. Mellag (Gwenedwr), To- •ciary Newian (Bard Llafurwr), Lion ar Ben (Abalor).' Danfonwyd atteb y Cym- mrodorion i'r holl gyfarchion gwladgar hyn. Cynnygiodd y cadeirydd res o yfeiriau'r rhag- len. Yna cynnygiodd y Prifathraw W. Ed- wards, Goffa Anfarwol Dewi Sant.' Aeth- ai 1,300 o flynyddoedd heibio, meddai, er pan oedd yr enwog Ddewi Sant yn ei flodau; ac er yr holl newid mawr fu yn Nghymru, yr oedd oCoffa r Sant etto mor wyrdd ag erioed. Sis- ialodd ysbryd Dewi Sant neges yn ei glust ef at y Cymry, pan oedd ar y ffordd tuag yno. Mynai'r ysbryd i'r Cymry fod mewn h'edd- wch a'u gilycld, o blegid ni orchfygodd gel- ynion Cymru erioed mo honi nes i'w gallu- oedd fyned ar wahan oddi wrth eu gilydd. Arwyddair Dewi Sant oedd Cymru Lan, a Chymru Gyfan.' Yr oedd ef, y Prifathraw Edw,ards,yn falch o weled fod y Cymmrodor- ion yn deml i heddweh, brawdgarweh, a chyd- ymdeimlad cenedlaethol deyraasu vn'oruchaf arnynt. Cenadwri arall Dewi Sant i'r Cym- Tnrodorion oedd, fod arnynt angen am fwy o liunan-hyder. Profodd meibion Cymru eis- oes y medrant ddal safleoedd penaf y wlad, ac ni ddylai eu cri hwy fod W;,Ies for the Welsh (Cymru i'r Cymry), eithr "Vales for the Empire (Cymru i'r Ymherodraeth). JBoed i'r CymrJ: roi pob petli i fyny er mwyn pawb,' meddai'r igwr parchedig—gobeithio nad oedd efe yn goIygu iddynt roi eu hiaith i fyny, beth bynag, er mwyn neb a sango ei thir). Cymmerer,' meddai wed'yn, Ich Dien '—yr wyf yn gwasanaethu—yn ar- -wyddair.' Cynnygiwyd yr yfair arbenig- iechyd da i Syr W. T. Lewis, gan Syr T. Marchant, Williams,. Boddhad iddo ef yn enwedig, ac yntau yn dyfod o Aberdar, oedd cael cynnyg iechyd da i un o Gymry enwocaf ei wlad a'i oes. Adwaenai ef Syr William trwy ei oes er hyny, nid peth hawdd oedd mesur ei rinweddau ef. Gwaith gweddus iawn iddynt hwy oedd anrhydeddu gwr o gymmaint egni anturiaethus a thrafodaethus ag ef yn Nghaerdydd brifddinasol, lie oedd yn dychlamu gan gyffro masnach a thrafnid, yr hyn yr oedd efe ei hun gymmaint yn at- tebol am dano. Cafodd gweled gallu anar- ferol Syr William Thomas Lewis i ddeall dyn- ion ac amgylchiadavt argraph fawr ar ei fedd- wl ef; ei fywyd mawr rhyfeddol o waith ac o fyw egnion ei dymmer gydoddefus, a'i du- eddfryd haelionus. Gwyddent hwy mor hawdd oedd i wyr ieuaingc ddyfod ato, i hen ? bobi mewn profedigaeth a thrallod, i bobl a geisient ei gynghor a'i gyfarwyddyd, ac mor I galonog y caent ganddo lawn wasgiad ei ddeheulaw. Gwyddent am ei barodrwydd a'i ewyllys da i gynnorthwyo pob aelios da j yn ei wlad-gwr cyhoeddus amlwg oedd efe a gyffyrddai a'i genedlaeth yn mhob cyfeiriad. Dvsgasid hwy gan y pethau hyn i'w edmygu a'i barchu ef. Nid aeth yn anghof ar amser roddi ol ei fysedd ar wedd ei wyneb efJ ond ofer i'u isai gofyn iddo, er hyny, am aros a g'orphwyso, o blegid gwr oedd ef a garai farw tra wrth ei waith. Dymunent iddo gael byw yn hir, gan barhau i fod yn glod i wlad ei enedigaeth. Eglurodd y llywydd fod brysneges wedi cael ei derbyn oddi wrth Syr William, o Paris, Ffraingc. Aethai yno ar neges .neill- duol ynglyn a Chwmni Ffyrdd Haiarn Caer- dydd, i gyfarfod Arglwydd ac Arglwyddes Bute, ar eu ffordd tuag Athen. Mynegai'r pellebriad fod yr Arglwydd a'i Arglwyddes yn cydymuno a Syr William i ddadgan gofid fod y neges sydyja a phwyig wedi attal iddo gael mwynhau y wledd gyda'r Cymmrodor- ion, a therfynai gyda'r dymuniad Cymraeg hwn Llwyddlant i Gymmrodorion Caer- dydd.' Oes y byd i'r iaith Gymraeg.' Si- aradai'r pellebriad mor hyawdl wrthynt, ebai y llywydd, am gariad Syr William at ei iaith, a'i wlad, a pbei buasai efe ei hun yno gyda hwynt. Yr oedd efe yn sicr y caffai eu caniatad i ddyweyd wrth Syr William, pan ddychwejlai1, eu bod wedi yfed iechyd da calonog iawn iddo, gan ddymuno yn gyffred- inol y caffai ei arbed yn hir i wasanaethu ei wlad. Darllenodd Mr. Evan' Owen res o englynion o waith Mr. T. Drew, (Y Dryw), gynt o Aberdar, yn awr o Dreharris, ac, hefyd, darllenodd Mr. Ifano Jones ddarn barddonol i'r wyl. Yna, cynnygiodd Argl- wydd Ninian Stuart, Ddau Dy'r Senedd.' Dywedodd fod Cymru yn cael ei chynnrych- ioli yn dda neillduol yn y ddau dy. Cymmer- ai Tywysog Cymru sedd ucliel yn Nhy yr Arglwyddi, o blegid cenfydd y Llywodraeth angen gosod anrhydedd felly ar Gymru; ac yr oedd gan Gymru yn Nhy y Cyffredin wr a anrhydeddodd Caerdydd y dydcT o'r blaen, Mr. Lloyd-George, gwr yr oedd yr Ymherodr- aeth yn f,alch o hono. Cyssylltiodd a'r yfair enw Syr Alfred Thomas, a'r Anrhydeddus If or Guest. Attebodd yr Anrhydeddus Ifor Guest. Lie y gwneid ynddo lawer o dda ac y lleiheid llawer o ddrwg oedd Ty y Cyffred- in, meddai ef. llliydd effaitii addysgjadol ar y s:1wl ddeuant yn aelodau o hono. Nid ad- waenai ef neb a fu yno nad aethai ymaith yn ddyn gwell a doethach. Rhyfeddai fod cyn Ileied o Gymry yno, o b'legid, yr oedd y Cymro yn anifail gwleidyddol naturiol, wedi ei ddonio a'r holl ansoddau sydd ofyoaol i ddadleuaeth. Dywediai rhai nad oedd gan y Blaid Gymreig ddigon o ddylanwad ar Dy I v Cyffredin. We], yr oedd ganddi amryw yn y Weinyddiaeth; a rhaid oedd i Loegr ddyfod i Gymru i gael heddychwr masnachol. Rhodd- ai ef ddarn o gynghor i'r aelodau Cymreig. Boed iddynt siarad eu hiaith eu hunain yn Nhy y Cyffredin. A medrai ef ddychymygu yr arswyd a'r cyffro gai'r Gweinidog Sacson- aidd anghyfiaith wrth geisio atteb gofyniad attodiadol a roid iddo yn Gymraeg gan aelod Cymraeg (chwerthin a chymmeraawyaetli mawr). Yr oedd Ty yr Arglwyddi wedi gor- oesi beirniadaeth a dichon y goroesai nagor etto, o herwydd nid oedd y Saeson yn bobl resymeg'ol. Edrychent ar bethau wrth eu can- lyniadau. Ac os caent hwy, gyda'r peirian- nwaith oedd ganddynt, rywbeth agos i'r peth a ddymunent gael, anhawdd fawn fyddai gan- ddynt fwrw'u hoffer ymaith a mynu dy- feisiau newyddffurfiog yn eu lie. Ar yr un pryd, ni thybiai efe y dylai'r Ty wrthwynebu ewyllys y bobl. Siaraclodd Sj7r Alfred ar ei ol ef. Cynnygiodd Mr. W. Rice Evans, Uchel Sirydd Morganwg, Y Ddinas a'i Mas- nach,' ac attebodd yr Arglwydd Faer. Cyn- nygiodd y Barnwr Bryn Roberts, Cymb deithas y Cymmrodorion.' Ei ha' mean meddai, oedd meithrin y rhinwedd o wlad- garwch yn mysg Cymry Caerdydd.' Atteb- odd yr Henadur Robert Hughes. Nid oedd y gymdeithas,' meddai, yn ymyryd dim ag un iaith arall, eithr ni ellid disgwyl iddynt 9 hwy oddef i ddim ammharchus gael ei ddy- weyd am eu hiaith hwy eu hunain. Fe barhai'r gymdeithas i weithio dros fuddioldeb goreu 'Cymru fach arwrol.' Cynnygiodd Mr. Austin Jenkins, Gynghrair y Cym- deithasau Cymmrodorol;' ac attebodd Mr. Martin Griffiths, Caerodor (Bristol). Ter- fynwyd trwy ganu Hen wlad fy Nhadau.'
Dathlu'r Wyl yn Merthyr Tydfil.
News
Cite
Share
Dathlu'r Wyl yn Merthyr Tydfil. Cadwodd pobl Merthyr a'r gymmydogaeth yr wyl eleni mewn dull tawel a digynnhwrf. Gwelid y genhinen a'r gylfinog ar focan ami un yn y cyfarfod, ac ar yr heolydd. Trefn- odd y Cymreigyddion gyfarfod o blant yr ys- golion dyddiol, fel y llynedd, yn Soar, addol- dy yr Annibynwyr Cymraeg, brydnawn dydd Llun, yr ail o Fawrth. Aed trwy adrodd a chanu gan blant a rhai mewn oed. Llyw- yddai y Milwriad Frank T. James, dirprwy faer. Caed arawd wladgar ganddo ef, a chan Mr. W. Walters, athraw blaenaf Ysgol y Cy- nghor, Twyn-yr-odyn. Cefnogid y llywydd ga.n swyddogion y Cymreigyddion, a'r athraw- r on ysgol. Da oedd gan y llywydd, meddai yn ei arawd, gael ymgymdeithasu a'r deffroad mawr cenedlaethol oedd yn myned rhagddo ar hyn o bryd yn yr hen wlad anwyl hon, deffroad oedd wedi cael ei fwriadu i waredu y Gymraeg a chodi'r genedl yn uwch nag erioed. Yr oedd ef yn falch o ymdrechion gwyr fel Mr. Gwenogfryn Evans, ac eraill, y ny cyfeiriad hwn. Dymunai bob llwydd i'r mudiad hwn. Annogai'r plant i lynu wrth draddodiadau goreu Cymru. Nid cymmerad- wy ganddo oedd yr arfer o osod pennodiadau goreu swyddau cyhoeddus i Saeson ac Ygot- iaid. Yr oedd yn diflasu wrth weled hyn; a chvmmhellai fod y pennodiadau i'w rhoi i Gymry pryd y byddo pob cymmhwysder arall yn gyfartal. Annogai Mr. Walters, mewn ymadroddion byw) y bechgyn a'r genethod i fynu meistroli'r Gyinraeg, y byddai o fwy defnydd iddynt na Ffrangcaeg, neu Almaen- aeg, neu rhyw iaith dramor arall. Tybiai ef y byddai mwy o siarad iaith y Cymry yn mhen deng mlynedd nag erioed. Canodd cor o blant y safonau uchaf, yn agos i 800 o rifedi, dan arweiniad Mr. J. R. Davies, 'Nos Galan,' 'Ysbryd y Dewrion,' Hotf iaith hen Walia Fad,' Gwyr Harlech/ a Chlychau Aberdyfi.' Canodd eraill, hefyd, yn ystod y cyfarfod, ar gerdd dafod a cherdd dant. Cadwodd y Cymreigyddion gyfarf -1 wed'yn yn yr un capel yn yr hwyr, dan ly" yddiad y Cynghorwr W. Lewis, i'enydarn i;, Ilywydd y gymdeithas. Beiid hwy, iieci.-ial, llywydd, am godi'r cri Wales for the Wois'i." Ond os na ddywed Cymru, -Vra;es for ti e Welsh,' pwy arall ellid ddisgwvi i ddyweyd hyny P Canwyd yn y cwrdd hwn, etto, ger (I. arwest a cherdd dant, megys, Cymro Dewr,' j 'Gwlad y Delyn,' a Chadben Morgan,' ac adroddwyd darnau priodol, megys, Deffro Gymru.' Anerchodd y Parch. D. Eurof Wal- ters, M.A., B.D., gweinidog yr Annibynwyr Saesnig, y cyfarfod, a'i destyn oedd, Rhwymedigaeth rhieni ynglyn a'r iaith.' Nid allai cenedlaetholdeb fod o gwbl, yn i ngwir ystyr y gair, heb fod ganddi iaith iddi hi ei hun. Nid i bulpud Saesneg Cymru yr oedd priodoli bai am ddadfeiliad y Gymraeg, meddai'r gwr parchedig, ond i ddiffyg meith- rin yr iaith yn nghartrefi'r bobl. Cyfeir- iodd at Thomas Stephens, yn mhlith enwog- ion Cymreig, gan ddyweyd mai un o 'smotiau duaf Merthyr, fel cartrefle Cymry, oedd fod y gwr dyeithr a ddelai yno yn gorfod chwilio yn ofer am ganfod o'i mewn un math o gof- arwydd i Gymro oedd mor enwog ag ef, ac un oedd mor deilwng o anrhydedd gan ei gyd- wladwyr. Caed arawd, hefyd, gan Mr. E. T. John (leuan Dyfed), ar Dim iaith, dim cenedl.' Gobeithio y glyn geiriau gwir bri- odol ac amserol y Parch. Eurof Walters, o berthynas i rieni a'r iaith Gymraeg, ac o berthynas i'r enwog Thomas Stephens, yn dyn wrth wyr Merthyr, nes iddynt ddeffro o ddifrif i gyflawni disgwyliadau cenedlaeth- ol. Ni fu Dowlais yn gwbl ddisylw o'r wyl chwaith. Cafodd plant yr Ysgolion eu dy- ddori gan eu hathrawon yn y boreu, a chawsant eu gollwBg yn rhydd am y pryd- nawn. Bu rhai cymdeithasau yn cadw cyf- arfoclydd gwladgar yn ystod y dydd.
Merthyr Vale a Chefn Coed.
News
Cite
Share
Merthyr Vale a Chefn Coed. Cadwyd yr wyl ddydd Gwener cyn y di- weddaf gan wladgarwyr Merthyr Vale; a chan bobl Cefn Coed Cymmer ar ddydd LIun, yr ail o Fawrth-ar brydnawn y dydd. Caed yn y Cefn gyfarfod llawn o blant yr ypgolion yn canu alawon Cymreig, dan arweiniad eu hathrawon. Daeth rhieni a chyfeillion yn llu yiio i'r Drill Hall, i'w gwrandaw. Llywydd- ai'r Cynghorwr J. Henry Davies, a rhoes i'r plant wersi rhagorol wedi eu tynu o fywyd Dewi Sant. Siaradodd y Parch. J. Hathran Davies, a'r Parch. E. J. Davies ar ei ol, gan annog y plant i gadw traddodiadau goreu eu gwlad.
Cadw'r Wyl yn Nhroed-y-rhiw.
News
Cite
Share
Cadw'r Wyl yn Nhroed-y-rhiw. Ar ddydd Llun y cadwodd pobl Troed-y- rhiw yr wyl hefyd. Trefnodd athrawon ys- gol blant eu liysgolion i ddysgu corawdau cyfaddas i'r wyl. Ymdyrodd y bobl yn llu yn y prydnawn i'w clywed yn canu yn Neu- add loan Sant; a'r periglor, y Parch. P. Wil- liams, oedd yn y gadair lyvvyddol. Gwr ar- abeddus a pharod yw efe, yn medru cadw cyn- nulliad yn ddifyr a da. Annogai bawb i si- arad Cymraeg, ac i gadw yn fyw draddodiad- au Cymru. Siaradodd y Cynghorwr Arthur Daniel, a'r Parchedigion J. Jones a B. T. Thomas, hefyd. Canodd y bechgyn Wyr Harlech,' Ar hyd y Nos,' a Lili Lon;' can- odd y genethod Ogoniant Cymru.' Canwn, Gymry,' a 'Chymru Fechan;' a chanodd y bechgyn a'r genethod gyda'u gilydd, St. David's Day.' Canwyd y cwbl oil gan y plant yn dda ragorol. Terfynwyd y cwrdd yn seiniau cyfarwydd Hen wlad fy Nhadau.'
Yr Wyl yn Abercynnon.
News
Cite
Share
Yr Wyl yn Abercynnon. Cadwyd hi yno gan Gymdeithas Gwyr leu- aingc y Tabernacl, T. C., trwy gynnal cyf- arfod te a chynghan. Y mae pawb, yn enw- edig pobl ieuaingc, a hen wragedd, yn medru bod wrth eu bodd yn ddidraferth wrth y bor- dydd te. A medrodd pawb yno anrhydeddu y gwpan de a'i chyfluniaeth yn nghanol y danteithion trwsiadus. AVedi llenwi o'u calonau a lluniaeth ac a llawenydd, trodd pawb at y gynghan. Caiiwyd 'Rbyfelgyreli Cadben Morgan,' Y Deryn Pur,' Teulu Die Shon Dafydd,' Yr eneth Ddall,' Bech- gyn CynBni," a'r Fwyalchen.' Ac ad- roddwyd D t rhowch i mi bregeth Gymraeg,' ac Yn iach i ti Gymru.' Ceisiwyd attal y bechgyn a'r genethod lledieithog i siarad Saesneg yno, trwy osod dirwy arnynt, eithr syrthiodd amryw o honynt dan y farn. Gwae ar wefusau cyfeiliorn ieuengctyd Cym- ru.
Y Beibl Cymraeg.
News
Cite
Share
Y Beibl Cymraeg. Darllenodd y Dr. W. Edwards, Caerdydd, bapur dyddorol iawn ar y pwngc hwn 1 Gymreigyddion Merthyr, nos Wener, cyn y diweddaf, yn ysgoldy'r Tabernacl. Cadwodd ei ymdrafod ar y Testament Newydd yn unig. Aeth yn ol dros hanes y cyfieithiadau i'r flwyddyn 1546. Credai fod rhanau o hono wedi cael eu cyfieithu o'r gwreiddiol cyn dyfod Awstin i'r wlad hon. Thomas Llewel- yn, Rhigos, ger Hirwaen, oedd un o'r cyf- ieithwyr cyntaf. Beirniadodd y darlithydd gyfieithiad Salusbury. Er mai Gogleddwr oedd Salusbury, yr oedd nodau amlwg o'r Ddeheubartheg ar ei gyfieithiad ef, ac yr oedd amryw eiriau Lladin wedi eu gosod ynddo. Man-feirniadodd gyfieithiad Richard Davies, hefyd, a barnai fod cyfieithiad yr Esgob Morgan y;n rhagorach cyfieithiad na hwnw. Ystyriai efe mai Dr. Morgan oedd Tyndal Cymru. Efe oedd y cyntaf i ranu'r cyfieithiad yn bennodau ae adnodau. Gwnaeth hwn y Gymraeg yn iaith sefydlog. Eithr, er mai'r cyfieithiad hwn oedd y goreu o'r cyfieithiadau cyntaf, yr oedd un y Dr. Parry yn rhagorach a chywirach nag yntau. A chyfieithiad Parry ydyw'r goreu oil sydd genym. Yr oedd y cyfieithiad Cymraeg yn gywirach na'r cyfieithiad Saesneg. Yr oedd y darlithydd, er hyny, yn pleidio cael gwell cyfieithiad etto o'r Beibl.
Darlith ar ' John Penri.'
News
Cite
Share
Darlith ar John Penri.' Darllenodd y Parch. J. Myddfai Jones, Calfaria (T.C.), Dowlais, bapur tra dyddorol ar John Penri i gyfarfod Cymreigyddion Dowlais, yn ystafell capel Bethania, nos Wen- er, wythnos i'r diweddaf. Llywyddid gan y Parch. Peter Price, M.A. Dadlenodd Mr. Jones hanes Penri yn ngoleu ffeithiau new- ydd, na chaed hwy, hyd yn hyn, mewn lian- esion cyhoeddedig am dano. Wrth ddiolch i'r darlithydd, siaradodd amryw yn drai brwd am y ddarlith newydd ragorol hon. Yr oedd yr hanes, fel yr agorid ef gan Mr. Jones, yn taraw y cyfarfod yn effeithiol fel cyfareddi a swyn. Bydclai cael hanes da a chyflawn am y merthyr Cymreig enwog yn gaffaeliad gwerthfawr i'r wlad. Gorchwyl dymunol, ond odid, gan Mr. Jones. fyddai helaethu ei bapur, ac ymgymmeryd a'i gy hoeddi yn llyfr. Ty blaf, ond ei hysbysu yn ddigonol, y caffai ei dderbyn yn awchus gan y to ieuangc o ddarllenwyr Cymraeg sclcr yn codi. Y mae'r wlad yn chwIlIO fac yn disgwyl am waith cymmeradwy ar y testyn godidog hwn.
LIVERPOOL.I
News
Cite
Share
LIVERPOOL. I Cymmanfa y Weslevaid.—Cafodd cymman- fa undebol gyntaf Wesleyaid Cymreig Liverpool a'r gYlllmydogaeth ei chynnai yn ystod dydd Gwener, dydd Sadwrn, a'r Sab- bath a thr6dd allan yn hynod o hvy 'dian- nus. Nos Sadwrn cynnaliwyd y seiat fawr yn nghapel Mynydd Seion, Prince's Avenue. Llywyddid gan y Parch. Edward Hum- phreys. Traddodwyd anerchiadau gan y Parclin. R. W. Jones, IJangefni; W. O. Evans, Ptliyl: Richard Morgan, Caernarfon; a Dr. Hugh Jones, Bangor. Caed anerchiad gan y Parch. Richard Morgan ar yr Angen am Gristionogion goleuedig, a sefydlog— dynion oedd yn cael eu harwaingan y M eistr -er cyfarfod ag anghenion yr oes. Yr oedd- ynt yn dystion heddyw o symmudiad cym- deithasol pwysig o'r tu allan i'r eglwys. Yr oedd yr eglwys yn rhwym, yn unol a'i phroffes, o gymmeryd rhan yn y symmud- iad hwnw Yn nghwrs araeth rymus ar 'Nerth Cymmeriad,' sylwodd y Parch. Dr. Hugh Jones fod aelodau gwan i'w cael mewn cyssylltiad a'r eglwysi, y rhai oedd yn dra- fferthus iawn i eraill. Yr oedd galw am eu nyrsio,' yn debyg fel y gwneid gyda, phlant, er galluogi y mamau i roddi eu presennoldeb yn y gwasanaeth. Nid oedd angen gofalu am y cymmeriadau cryfion—y galient hwy of llu am danynt eu hunain.
TREFFYNNON.
News
Cite
Share
TREFFYNNON. TORWYR Y SABBATH 0 BAGILLT. Gwysiwyd pedwar o ddynion ieuaingc o Bagillt, o'r enwau David Evans, Thomas Evans, Stephen Williams, a William Thomas Roberts, gan James Morley, ceid- wad helwriaetli, o flaen yr ynadon yn Nlue- ffynn-on, dydd Mawrth, ar y cyhuddiad o drespasu i chwilio am helwriaeth ar Fferm Coetia Lhvycl, y Sabbath, Chwefror 2il. Tystiorld Thomas Williams, dyn oedran- us,_ tenant y fferm, iddo weled y pedw; r dittynydd yn un o'r caeau gyda phedwar o gwn. Gofynodd iddynt beth oeddynt vn ti w,neyd. Attebodd Roberts, 'N],,l yd)-w o iiii pwys i chwi, y d Yna gwthi vdd. Roberts ef; a phan ddywedodd w/n; am beidio gwneyd hyny cymmer odd ef afael ynddo, ac ysgydwodd ef mor arw fel na theimlodd yn dda .am i-:ii i-Ir ol hyny. Yna cerddodd ymaith, a'r diffyu- yddion yn ei ddilyn ac yr oedd Roberts yn parhau i'w wthio yn ei gefn ar hyd y ffordd, rhvw bellder o 150 o latheni. Yr oedd y on, i raddau mwy neu lai, dan ddylanwad diodydd meddwol. Gwadai y diffynyddion en bod allan yn herwhela. Tyngasant, hefyd, na chawsant ddiodydd meddwol y diwrnod hwnw. Gwad- ai Roberts iddo ysgwvd Thomas Williams; a dywedodd i Williams godi ei ffon ato, ac iddo yntau gymmeryd gafael ynddi i am- ddiffyn ei hun. Peiulerfynodd yr ynadon ddirwyo poh un o'r diffynyddion i Ip. 2s. 6c., g in gynnwys y cost an.
YSBEILIO FFERMWR O'l ORIADUR.
News
Cite
Share
YSBEILIO FFERMWR O'l ORIADUR. Yn llys yr ynadon yn Nhreffynnon, dydd LInn, cyhuddwyd William Jones, hen filnliy, o gymmydogaeth Llanelwy, o ladrata oriad- ur aur a chadwen, a phwrs, yn cynnwys 12s. y mewn arian, eiddo William Taplin, ffermwr oedd wedi ymneillduo, yr hwn oedd yn trigiannu yn Penyfelin, Nannerch. Ymddengys, yn ol y dystiolaeth, i Taplin a r carcharor, y prydnawn dydd Llun blaen- oroi,' fyned gyda'u gilydd j dafarn y Swan, lie yr arosasanf hyd tua saith o'r gloch. Cyn iddynt fyned oddi yno, gwrth- oclodd gwr y ty roddi chwaneg o ddiod i Taplin, ac awgrymodd ei fod yn gadael dau bwrs oedd ganddo yn ei law gydag ef, er iddynt fod yn ddiogel. Yna aeth Taplin a'r carcharor ymaith. Yn ddiweddarach, cyfarfyddodd dyn o'r enw Parry a Taplin ei hun, yn agos i'r ffordd haiarn, a chymmer- odd ef yn ol i'r Swan, lIe y gwelwyd iddo golli ei oriadur, ei gadwen: a'i bwrs.. Y diwrnod canlynol rhoddodd Taplin hysbvs- rwydd i'r heddgeidwaid am yr hyn oedd wedi golli, a'r dydd Mercher dilynol olrheiniodd yr heddgeidwaid yr oriadur a'r gadwen, y rhai"oedd yn meddiant Mr. Robert Williams gwystl-fasnachwr. Yn ol tystiolaeth Mr. Albert Edwards. rheojwr Mr. Williams, gofynodd y carcharor am op. ar yr oriadur a'r gadwen, ond rhodd- wyd oOs. iddo. Dywedodd y tvst fod yr oriadur yn un dda, ac yn werth lOp. Dy- wedodd y carcharor wrtho mai eiddo ei wraio- oedd yr oriadur, ac iddi farw yr wythnos os flaenorol. < Pledioild y carcharor ei euogrwydd. a dy- wedodd fod hyn oil 'wedi cael'ei wnevd trwy feddwdod.' Dedfrydwyd ef i ddau fis o lafur c-alecl.
ABERGELE A'R CYLCH, CYFARFOD…
News
Cite
Share
ABERGELE A'R CYLCH, CYFARFOD DOSBARTH. Cynnaliodd Methodistiaid Calfinaidd y cylch eu cyfarfod yn nghapel Mynydd Seion, Abergele, prydnawn Llun, Mawrtii 2il. Y mater a gafodd ei drafod ydoedd, Brawdgarweh diragrith.' Agorwyd ef gydag anerchiad rhagorol gan y Parch. John Roberts, Warren Road, Rhyl, yn ei ddull medrus a deheiiig. Slaradwycl, hefycl, gan y Parchn. Francis Jones, Abergele; Jonathan Jones, Llanelwy; S. T. Jones. Rhyl; Owen Ffoulkes, Bettws, a Mr. J. T. Jones, Bodaled, Rhyl. Penderfynwyd i anfon at y Parch. Robert Williams* Tv- wyn, i gydymdeimlo ag ef yn ei wendid. Y mae Mr. Williams tan 4orfod i fyned i hin- sawdd dynerach yr Aipht, tan' obaith y rhyddheir ef o afaelion yr hyn sy'n ei flino. Fiiddunwn iddo hapusrwydd ar y daith, a llwyr wellhad i ail ymaflvd yn ei ddyled- swyddau.
CYFARFOD PREGETHU A SEFYDLU.
News
Cite
Share
CYFARFOD PREGETHU A SEFYDLU. Yn nghapel Caersalem (A.), Llanddulas, nos Fawrth a dydd Mercher, y cynnaliwyd hwn. Pregethid y noson gyntaf gan y Parchn. Peter Price, Dowlais, ac 0. Lloyd Owen, Penbedw. Boreu ddydd Mercher cynnaliwyd cyfarfod i sefydlu y Parch. J. A. Enoch (cyn-weinidog eglwys Peniel, Llanfairfechan) yn fugail ar eglwys Caer- salem, fel olynydd i'r Parch. J. R.. Jones (yn awr o Henryd, Dyffryn Conwy). De- chreuwyd gan y Parch. W. Phillips, Pen- a llywvddai gweinidog Colwyii-Y Parch. W. E. Jones (Penllyn). Cyflwynwyd Mr. Enoch i'r eglwys gan y Parch. Caleb Williams, Penmaenmawr yr* hwn a dystiol- 'I aethai, oddi ar adnabyddiaeth bersonol, am loywder cymmeriad y gwr ieuangc. Crces- awvd ef, ar ran yr eglwys, gan y Parch. Morgan Davies, Abergele, y.n *ei ddull gwreiddiol a ffraeth. Siaradwyd yn dda lac yn bwrj^asol i a v. n gan v Parch. J. R. Jones, Henryd a chan M einidogion enwadau eraill y gymnlyllogaeth-y Parchn. D. Dar- ley Davies (W,), a W. Wilson Roberts (M.C.)—wrth groesawu Mr. Enoch. :i'n plith. Terfynwyd cyfarfod gwir ragorol trwy weddi gan Mr. William Williams, Colwyn Bay. Gellir chwanegu am bregethau Mr. Price a Mr. Owen, na chlybuwyd erioed yn yr ardal eu grymusach na'u heffeithiolach. Caffed yr had da ddyfnder darar, a dV'2pJ ffrwyih i trw\y,ldf,1 yn "hanes llaweroedd.
TROS Y CORWEL.
News
Cite
Share
TROS Y CORWEL. Deil dywediad yr hen fardd mor wir heddyw a phan y'i llefarodd, One by one creep silently to rest — o un i un cilio i leobii yn y ddaear ddu y y ma e'r hen drigolion. y ddwy ddi- weddaf yr) cefnu arnom ni oeddynt Mrs. John Pownall, Ffordd LIanfair a Mrs. Lloyd, priod Mr. John Lloyd, y cyfrwywr. Claddwyd y naill dydd Mercher, a'1" Hall dydd Sadwrn.
' GWAITH DA YR YDYCH CHWI…
News
Cite
Share
GWAITH DA YR YDYCH CHWI YX EI WNEITTHUR.' Y chwi hyn yw'r cwmni o Abergele a aeth. nos lau diweddaf, i sirioli tipyn. ar deulu'r Tlotty yn Llanelwy, trwy ganu ac adrodd yn eu clyw. Cludid y cwmni yn ol a blaen mewn dau gerbyd modur, a roddid at eu gwasanaeth gan Mr. R. Isaac Jones a Mr. J. Pierce. Cawsant dderbyniad tvwys- ogaidd, a thalwyd iddynt ddiolch cyn nes am ç'1 mecldy 1 garwell.
CHWAREI" TEG IDDI!
News
Cite
Share
CHWAREI" TEG IDDI! Hen wreigan dlawd, diolwg, yw'r hon yr wyf yn awr yn son am dani. Tlawd, ddy- wedais i? le, canys 'peth o'r plwyf yw'r oil a ddaw iddi at- fyw.' fel y dywedir, er ei bod yn perthyn i'r teulu eyfoethocaf sv,,i-, bod. Bob Sul, ac ar noson waith, gwelid hi'n yrr.lwvbro tua'r addoldy nad yw neppell 0'1 bwthyn, yn mynydd-dir y cylch. Y dydd o'r blaen, pwy ddaeth at ei drws ond parson y plwyf—y parson newydd. Ar ei daith gyntaf hyd ei faes newydd yr I oedd, er ymgydnabyddu a defaid ei gor- lan. Pan welodd efe hi gofynodd iddi I Eglwys Loegr y bydd well chwi'n myn'd ar y Sul.. mae'n debyg?' 'Nag e.. syr: i'r capel Weslevaidd sydd yn ymyl.' ().' ebai yntau; iivdcloeli chi ddim mai yr Eglwys yw v boncyff, ac mai canghen.au o'r boncyff ydyw'r enwadau eraill ymaP' Ac meddai hit ha u :—'Gwn yn dda, syr; oni wyddoch chwithau mai yn y canghenau y nytha adar y Nefoedd.' Pan glybu y par- son hyn yna rhoes banner tro ar ei sawdl, a diflanodd yn chwap a welodd yr 11(111 wreigan mo hono hyth wed'yn!!
FFESTINIOG.
News
Cite
Share
FFESTINIOG. CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG. Nos lau diweddaf cynnaliwyd cyfarfod dy- ddorol yn y Neuadd Gynnull, dan nawdd y gymdeithas uchod. Arweiniwyd y cyfarfod gan y bardd Bryfdir, gyda'i ddonioldeb ar- ferol. Bwriadwyd cynnal y cyfarfod ar Wyl Dewi, ond gan fod eisteddfod yr adeg bono, gobiriwyd ef hyd nos Lau. Yr oedd pob peth yn y rhaglen yn Gymrei^aidd boll- ol. Agorwyd gaii. Seindorf Frenhinol Oake- ley, gyda detholion o hen alawon Cymreig. Yr oedd y chwareuad yn wir ragorol, a rhoddwyd iddynt gvmmeradwyaeth anarfer- 01. Yna daeth Cor Meibion y Moelwyn (dan yr hen veteran Cadwaladr Roberts). Cofir iddynt gael yr anrhydedd o ddatganu o flaen y Brenin, yn Nghaergybi, yr haf diweddaf. Ond prif atdyniad y cyfarfod yd- oedd perfformiad o'r ddrama Gymreig Enoc Huws.' Yr oedd y cwmni ar eu goreu, a chawsant hwyl eithriadol. Yr oedd y delyn mewn amlygrwydd yn ystod y cyfarfod. Gresyn na chedwid mwy o'r cyfanodydd holiol Gymraeg hyn.
CADAIR AR GADAIR.
News
Cite
Share
CADAIR AR GADAIR. Creclii, yma, bellach, nad oes terfyn i fod ar nifer y cadeiriau eisteddfoool yn nghar- tref Bryfdir. Ennillodd gadair Eisteddfod Gwynedd yr wythnos ddiweddaf. Y mae wedi ennill dros ddeg ar hugain o gadeir- iau.
GWOBRWYO.
News
Cite
Share
GWOBRWYO. Yn nghyfarfoxi blynyddol yr Ysgol Uwch- raddol, pryd y rhanwyd gwobr^'on am y flwyddyn y prif siaradwyr oeddynt lvr Hen- adur W. R. Evans, a Mr. Caradog Rhyd- wen (is-glerc y Cynglior Dinesig).
--.-"-------------"_."-SOSIALAETH.
News
Cite
Share
SOSIALAETH. Y mae mudiad ar droed i sefydlu Clwh Sosialaidd yn yr ardal. Nid oes dim o'r manylion etto i law, ond deallwn fod rhai o'r cynghorwyr yn cymmeryd dyddordeb ynddo. Mawr hvderwn, os y sefydlir y clwb, na bydd iddo yr un dynged a'r Clwb Rhyddfrydig, yr hwn, erbyn hyn, sydd wedi dyfod yn llythyrenol yn. Billiard Saloon.' Tebyg y clywir chwaneg am y peth etto.— Camrys. -«:¡-JIK n
CRAI, BRYCHEINIOC.
News
Cite
Share
CRAI, BRYCHEINIOC. DARLITH. Traddodwyd darlith yn nghapel y Method- istiaid yn y lie uchod, nos Wener gan y dar- lithydd enwog, y Parch. H. Barrow WiHiams, Llandudno ar Haii.es crefydd yn Nghymru yn y ganrif ddiweddaf.' Cymmerwyd y gadair am saith o'r gloch gan y Parch R. Williams, Brychgoed. GwlBclc1 0'1' fath oreu oedd clywed Mr. Barrow Williams yn adrodd hanes diwygiadau y ganrif, a sylwadau ardderchog yr hen bregethwr amvyi. Dang- osodd hefyd y gwaith mawr wnaeth yr ) sgol Sabbothol er addysgu v genedl, dnvy ei hathrawon Ilafurus a goleuedig; a thra bycld yr Y sgol Sul mewn bri, v mae gobaith y parha Cymru i lYllU wrth grefydd y tadau. ■R»A T»I ^biadau arferol gan y Parchn. D. Rhys, y gweinidog a D. Williams, Tre- castell, a Mr. Owen Price.-Gohebydd.
Y DDIRPRWYAETH AR YR EGLWYS…
News
Cite
Share
Y DDIRPRWYAETH AR YR EGLWYS YN NGHYMRU. ITYSBYSIE y bydd Dirprwywyr yr Eglwys yn Nghymru yn ail ddechreu eu heisteddiadan yn Llundain ddydd Mawrth (heddyw). Yn mysg y tystion sydd wedi eu gwysio am yr wythnos y mae Mr. T.W. Barker, cofrestrydd esgobol Caerfyrddin y Parch. J. Herbert, fleer Llanllawddog, a golygydd Directory esgobaethol Ddewi; Syr Lewis T. Dib- din, cadeirydd pwyllgor ystadau y Dirprwy- wyr EglwysigSyr A. De Bock Porter, ys- grifenydd y Dirprwywyr Eglwysig; Mr. W. R. Le Fann, trysorydd ac ysgrifenvdd Rhodd y Frenhines Ann, a Mr. Frank Morg&n, Coleg Keble, Rhydychain.