Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
Hide Articles List
22 articles on this Page
AIL CYPRES.
News
Cite
Share
AIL CYPRES. XXV. Parhan a chynnyddn y mae y cynnhwrf yn nghylch Mesur Addysg a Mesur Trwyddedau y Liywodraeth, er i'r cyffro o barth i lythyr Ymherawdwr yr Almaen at Arglwydd Tweed- mouth- beri i lawer ei anghofio o'r I iron am rai dyddiau ddiwedd yr wythnos. Hysbys- iad yn y 'Times' a barodd y cyffro hwnw. aeth fanwl_3 ac ni lonyddodd y cyffro yn llwyr Proffesai ysgrifenydd yr hysbysiad wybod- livd yn oed trwy ddadganiad clir Canghell- ydd y Trysorlys yn Nhy y Cyffredin, nos Wen- er. Amlwg ydyw fod cyfran o'r was, LUll- deinig yn awyddus i greu drwg-deimladau rhwng y wlad hon a'r Almaen, ac yn arben- ig i gondemnio yr Ymherawdwr. Ac y mae dynion lied bwvllog, yn wir, yn methu gweled pa ham yr ysgrifenai yr Ymherawdwr o gwbl at un o Weinidogion gwlad arall. Dydd Llun gwnaeth Canghellydd y Trys- orlys, yn Nhy y Cyffredin, ddadganiad pell- ach ar fater yr ohebiaeth rhwng Ymherawd- wr yr Almaen ag Arglwydd Tweedmouth, Prif Arglwydd y Morlys; ac yn Nhy yr Argl- wyddi gwnaeth Arglwydd Tweedmouth ddad- ir ganiad llawn o'r holl amgylcliiadau. A gellir hyderu y bydd. bellach, dawelwch mawr. Swm y cwbl ydyw i'rYmherawdwr anfon trwy y post i Arglwydd Tweedmouth lythyr o nodwedd hollol bersonol, ac answyddogol. Derbyniwyd ef ar y 18fed o Chwefror, dang- oswyd ef i'r Ysgrifenydd Tramor, ac attebwyd ef trwy lythyr personol ac answyddogol ar yr 20fed. Ac nid ystyrir fod yn angenrheidiol mewn un modd cyhoeddi gohebiaeth o'r fath, er mor bwysig ydyw safle y gohebwyr. Bu y mater dan sylw y 'Cabinet' dydd Llun, pan yr oedd yr holl aelodau yn bresennol oddi eit-hr y Prifweinidog, ac Arglwydd Ripon. Pwy a fll yneuog; o ollwng allan y gyfrinach am yr ohebiaeth nid ydyw yn hysbjfs ond y mae'n amlwg fod rhywun yn euog o ymddyg- iad sydd yn galw am gondemniad. Con- demnir y Times a'i ohebydd milwrol yn ddiarbed mewn rhai papyrau; a gosodir ei ymddygiad yn yr amgylchiad hwn yn ochr ei ymddygiad gyda' r Piggott forgery.' Y gwahaniaeth amhvg ydyw fod llythyrau wedi pasio rhwng Ymherawdwr yr Almaen ag Arglwydd Tweedmouth ond fod y disgrifiac1 o'u cynnwys, a'r casgliadau am ddybenion yr Ymherawdwr j yn anghywir. Hwyrach fod yn ormod disgwyl hyd yn oed i'r am- gylchiad hwn beri i'r Times ddysgu doeth- ineb. Ac etto, y mae yn anhawdd peidio dy- muno hyny. Fel y erybwyllais yn fy liythyr yr wythnos o'r blaen, cyfarfu y National Church Council yn Southport yr wythnos ddiwedd- af, dan lywyddiaeth y Parchedig D. Brook, F.C.L. Ac fel yr oeddid wedi rhaghysbysu, dewiswyd y Parchedig Evan Jone, Caernar- fon, i fod yn olynydd Dr. Brook--y Cymro Cymreig cyntaf i lenwi y gadair lywyddol. A gwnaed y dewisiad gydag unfrydedd a brwdfrydedd. Y farn gyffredin ydyw, na chafwyd erioed gyfarfociydd mwy perffaith Iwvddiannus yn mhob ystyr nag a gafwyd yn Southport. Cryf a dibetrus oedd y gefnog- aeth- a roddwyd yno i ddau Fesur mawr y Liywodraeth. Nis gallai pawb ddywedyd eu bod yn hoffi pob peth yn v Mesur Addysg. Dywedodd Mr. R. W. Perks, A.S., mai ei ddyledswydd ef fydd cadw gohvg ar adran y Contracting out 'yn Nhy y Cyffredin ond cydolygid mai dyledswydd amlwg Ymneilldu- wyr fydd cefnogi y Liywodraeth a'u holl rym. Ac am y Mesur Trwyddedu y syniad oedd mai mesur ardderchog ydyw. Gwir fod y Time Limit yn hir— pedair blynedd ar ddeg! OilÍ nid oes neb yn barod i golli y mesur o blegid hyny. Yn wir, nid ydyw yn ammhos- sibl iddo gael ei estvii, fe allaj. 1, ugain mlyn- edd,-er mwyn aehub y mesur, a sicrhau ei dderbyniad gan Dy yr Arglwyddi. Gwelais fwy nag un cyfaill a fu yn South- port. a'u tystiolaeth unfryd oedd, fod y siar- ad yno ar ley- 11,hel iawn. Ac araeth odidog, a dracldodwyj gan.. Mr.. D. Lloyd George, nos Iau. Nid oedd derfyn ar" y brwdfrydedd yn ei groesawiad. Yr unig an- ffawd oedd presennoldeb ac ymddygiad y 'siritraoTt'tes.' Er ei fed y nos Wcner blae.n- orol wedi pleidleisio dros estyn yr etholfraint 1 ferched, nid oedd hyny7 yn ddigon i'w am- ddiffyn rhag eu hymyriad. Ac anhawdd fu- asai meddwl am ymddygiad mwy trwyadl anfoneddigaidd ac anghal'eclig lla'u hymddyg- iad boreu ddydd Gv/ener. Gwnaeth Mr. Lloyd-George appel ddifrifol at Ymneillduwyr y deyrnas i gefnogi yn arbenig y Mesur Trwyddedol ac yr wyf yn hyderu na adewir ganddynt heb ei wneyd ddim ag sydd yn bos- sibl er cadarnhau hreichiau Mr. Asquith, a breichiau y Llyvv'odraeth., Gwna y bragwyr eu goreu yn ei crbyn. Our trade is our politics.' Iachus iawn oedd clvwed Dr. Job n Clifford yn dadgan yn livf yn South- port nad oes yr un gweinidog Ymneillduol yn ])erchenogi shares yn yr un o'r cwmniau bragyddol. Tybed mai olynwyr yr apostolion ydyw pob un o'r 1,680 y dywedir eu bod yn meddu shares ynddynt. Os felly, y mae rhywbeth allan o'i le yn arswydus. Pa fodd y ga^li dyn sydd yn proffesu bod yn weinidog yr Efengyl feddu unrhyw gyfran mewn mas- nach sydd yn achlysuro y fath drueni sydd i mi .yn ddirgelwch nas gallaf ei amgyffred. Yr wyf o'r un deimlad a'r Parchedig Silas Hocking, yr hwn a ddywedai y byddai yn well ganddo farw yn y tlotty na byw mewn llawnder ac esmwythyd ar gynnyrch y fath fasnach. A clyna ddylai fod teimlad pob dyn a dynes sydd yn proffesu dilyn Crist. Y mae yn gysur i ni weled yr argyhoeddiad yn enndl tir mai pasio hyd yn oed trwy Dy yr Arglwyddi a wna y ddau fesur. Ni fyn llawer o Eglwyswyr wrthod y Mesur Addysg. Liwvr fockllonir miloedd o honvnt gan yr addysg Feiblaidd a weinyddwvd dan lawer o Fyrddau Ysgol; a dvwed eraill, 'rha.o- digwydd peth a fyddo gwaeth.' Ac y mae arwvddion clir fod cydwybod y wlad wedi ei hennill o blaidy Mesur Trwyddedu. Y mae yn ofnus na welir y Prifweinidog yn arwain Ty V Cyffiredm yn hir etto, os, ynwlr, o gwbl. Ofnir gan lawer ei fod yn waelach nag yr addefir ei fod. Tro tra charedig yn y Brenin oedd galw i ymweled ag ef cyn y- chwyn i'r Cyfandir. Yn sicr4 y mae y Brenin yn un o ddvnion callaf, mwyaf tactful,' a ™^yaf caradig ei oes. Medda dciawn arbenig 1 ddyweyd y peth iawn a gwneyd y peth iawn, yn yr amser iawn, ac yn y dull iawn. Fel Rhvddfrydwr cadarn, yr wyf o galon yn dy- weyd, 'Byw fyddolr Brenin.' Colled fawr i mi oedd methu myned i Southport, o herwydd llesgedd. Edrychaswn yn mlaen am fisoedd at y fraint o fvned yno i fwynhau y gwleddoedd. A choiled fawr arall oedd methu myned i un o eyfarfodvdd Cymmanfa gyntaf y Weslevaid Cymreig" yn Liverpool, y Sul diweddaf..Pa'ham aiad oedd ganddynt gymmanfa flynyddol yn Jjiverpool cyn hyn, nid ydwvf yn gwybod. Y .If, Cymnianla y ilethodistiaid ar y Sul- gwyn, Cymmanfa y Bedyddwyr ar y Grog- lith a'r Pasc, a Chymmanfa yr Annibynwyr ar yr ail Sabbath o Fedi, yn hen sefydliad- ■au "tra phoblogaidd. Yr oedd pregethwyr goreu y cyfundeb Wesleyaidd yn bresennol eleni; a, chlywais fod y weinidogaeth yn rymus ac eifeithiol. Yn Mynydd Seion y cynnaliwyd y seiat fawr, nos Sadwrn, a dy- wedwyd wrthyf fod y gynnulleidfa yn lliosog iawn, a'r anerchiadau yn wir ragorol. Collais hefyd gyfarfod misol Liverpool nos Fercher diweddaf. Yr oedd yn hwnw amryw bethau dyddorol. Un ydoecld coffad am ddau o flaenoriaid y cylch a fu farw yn ddiweddar. Y naill oedd Mr. David W. Owen, Walton Parks yr hwn a ddewiswyd yn flaenor yn Bethesda; Blaenau Ffestiniog, yn 1862; ac a aeth allan gyda'r diwedar Mr. John Hughes, Tanygraig, i gychwyn egl- wys newydd yn y Tabernacl. Dyn o wybod- aeth eang a dawn arbenig oedd Mr. Owen. Y blaenor araU oedd Mr. Edward Rowlands, Newsharn Park. Brodor o Fon oedd ef, ond wedi treulio pum rnlynedd a deugain yn Liverpool. Gwr hynaws, tirion, a hynod o ffyddlawn, ydoedd; ac un y teimlir yn ei egl- wys golled wirioneddol am dano. Y mae ei goffadwriaeth yn beraroglaidd1. Peth arall dyddorol yno oedd anerchiad ar y 'Genhadaeth Gartrefol' gan y Parchedig. Richard Jones, Mancott. Mi glywais an- erchiad eifeithiol ganddo ar y mater yn Nghymdeithasfa Llanerchymedd, yn Mehefin diweddaf ac yr oeddwn yn awyddus am fraint gyffolyb eilwaith. Mab ydyw i'r hen flaen- or hybarch, y diweddar Mr. Richard Jones, Chatham street; a brawd i Mr. R. W. Jones (Diogenes), Garston a gwr sydd er' llawer o flynyddoedd wedi cymmeryd dyddordeb dwfn yn hanes a gwaith Cenhadaeth Gartrefol y cyfundrefn Methodictaidd yn y Gogledd. Nid yn fynych y clywir ei lais yn y cymdeithasfa- cedd; ond y mae yn un o'r prif arweinwyr er's tymmor hir yn Henaduriaeth Caer a Lancaster. TreuUodd rai blynyddoedd fel gweinidog yr Eglwys Saesnig yn Llanidloes, a chyn hyny yn eglwysi Waverton a Saigh- ton, sir Gaer. Cartrefa bellach er's blyn- yddoedd yn Little Mancott Farm, ger ]law Penarlag ac y mae yn dwr o nerth i Ymneill- duaetb, ac yn arbenig i Fethodistiaeth yn y plwyf Eglwysyddol hwnw. Llawenha pawb o herwydd terfyniad yr ymgyrch r.hyfelgar ar gwr ein hymherodraeth Indiaidd a da fyddai cael clywed am derfyn ar helynt Ffraingc yn Morocco. Nid ydyw trosglwyddiad y Congo i Belgium hyd yma wedi ei gwblhau ac nid ydyw y telerau ar ba rai y sonir yn awr am ei ddwyn oddi am- gylch yn foddhaol. Cryn orchwyl fydd sicr- hau gwarecligaeth oddi wrth y trais a'r gor- thrwm sydd wedi ffynu yno, a dwyn i mewn gyfiawnder a thegwch tuag at y brodorion. Credir ar yr un pryd y llwyddir i wneyd y cwbl yn y man. Nid hawdd fuasai rhagori ar ddadganiadau diweddar yr Ysgrifenydd Tramor Syr Edward Grey, yn Nhy y Cyff redin ar y mater ac y mae dylanwad y dadgan- iadau yn rhwym o aros. Gydag achos Druce yn Llundain y mae y naill surprise' yn dilyn y llall; a'r di- weddaf ydyw cymeryd Mrs. Hammilton i'r ddalfa. Y surprise' a ddymuna pawb ydyw terfyn ar yr achos; and pa bryd y daw nid wyf yn gweled fod neb yn gwybod. Digwyddiad alaethus i'r eithaf oedd y din- ystr ar fywydau plant trwy dan mewn ysgol yn Cleaveland, Ohio, yn Unol Dalaethau yr America. Yn 1892 cefais y fraint o bregethu mewn rhan o'r dref fawr hono, a enwir Newburgh. Ac y mae un yn teimlo fod lie y talwyd ymweliad ag ef unwaith yn parhau yn agosach byth na lie cwbl ddyeithr. Nid ydyw yn ammhossbl nad oed yn mysg Nid ydyw yn ammhossibl nad oedd yn mysg Gymry. Y mae yn y dref boblogaeth Gym- reig go fawr. Crea y fath amgylchiad gofidus ddychryn ynom wrth ddychymygu pa beth allai ddigwydd unrhyw ddiwrnod yn un o ysgolion treli mawrion ein teyrnas. Ond dywedir fod y plant yn y rhai hyny yn cael eu dysgyblu yn y fath fodd fel nas gallai panic' ddigwydd pe torai tan allan. Mi obeithiaf fod hyny yn wir. Gobeithio a gweddio yr ydwyf fi, fel y gwna miloedd eraill, am derfyniad heddychol ar yr anghydwelediad rhwng China a Japan. Arswydus fyddai dadweinio y cledd etto yn y Fat East.' Y nefoedd a'u gwaredo rhag y fath anffawd! Gwasgarer y bobl sydd dda ganddynt ryfel yn mhob gwlad. Mor araf y mae egwyddorion Cymdeithas Heddwch yn ennill tir! Ilyd yn nod yn y wlad hon y mae yr ysbryd rhyfelgar yn hynod o gryf; ac nid ydyw dadleti dros heddwch cyffredinol a pharhaol yn ddim amgen na dirmygus yn ngolwg miloedd o'r boblogaeth yn gystal a'r rhai sydd yn perthyn i'r fyddin a'r llynges. Pob parch i'm hen gyfaill, W. Eleazar Roberts, Hoylake, yr hwn, er uwch law pedwar ugain mlwydd oed, nad yw byth yn blino yn codi ei lef o blaid yr achos y cys- segrodd Mr. Henry Richard, A.S., ei fywyd iddo, Gweledydd.
MERCHED YR ETHOLFRAINT A MR.…
News
Cite
Share
MERCHED YR ETHOLFRAINT A MR. LLOYD CEORCE, A.S. Yn y cyfarfod cyhoeddus gynnaliwyd nos Iau, yn Southport, pan yr oedd Mr. Lloyd George, A.S., yn areithio, aflonyddwyd ef rai gweithiau gan y merched sydd yn dadl- eti dros estyn yr etholfraint i'r rhyw deg.' Boreu ddydd Gwener cafodd dirprwyaeth o'r merched hyn ymgom a, Mr. Lloyd George yn y Prince of Wales Hotel. Llwyddasant i fyned i'r g'westty trwy roddi archeb am foreubryd; ac yna, buont yn disgwyl i'r aelod anrhy7deddus fyned oddi yno. Er fod yna gerbyd yn barod, cerddodd Mr. Lloyd George, ga^i ymddi- ddan a'r boneddigesau ar hyd y ffordd. Yr oedd Dr. Clifford gyda Llywydd Bwrdd Masnach. Pan ofynwyd iddo pa gwrs a wnai ef ei ar- gymmhell, ar nad. oedd wedi cael ei fabvs- iadu eisoes, dvwedodd Mr. Lloyd George nad oedd y dynion yn gweithredu fel yr oeddynt hwy. Yn yr orsaf gwrthodwyd caniatau i'r merched fyned i mewn, ond cod odd un o honynt docyn, a rhedodd ar hyd y banllawr, dan waeddi, Pleidleisiau i Ferched.'
"SARZINE" BLOOD MIXTURE.
News
Cite
Share
"SARZINE" BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUR.—Dvna yr hyn y mae y Sarziiie Blood Mixture' yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi A/Tj- • fel yr Yankee Patent Medicines;' os blinir chwi gan groen ahach, ysfa, pimples, toriad allan, scurvv, dolunau, penddvnod, &c., yn tarddu o waed drwg ac ammhur, mynweh botelaid o Sar- zme Blood Mixture gan y Druggist nesaf atoch, lilt a 2/9 y bote], neu gyda 3c. at y cludiad yn chwanegol, oddi wrth y Perchen- og. HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. 333242.
OiwesMu Clvyl Dewi.I
News
Cite
Share
OiwesMu Clvyl Dewi. Fel y crybwyllais yr wythnos ddiweddaf, terfynodd Cymry Llundam eu dathliad o I Wyl Dewi gyda dwy wledd. Buasai un yn well, a rhyw ddiwrnod gcbeithiwn y daw pethau i hyny. O dan yr amgylcliiadau pre- sennol, mae'r peth allan o'r cwestiwn. Casgla Cymdeithas yr Hen Frythoniaid garedigion Ysgol Gymreig Ashford i gyd- wledda yn yr Holborn Restaurant. Y mae'r hen gymdeithas wedi arfer cyd-fwyta ar Ddydd Gwyl Dewi er's yn agos i ddau gant o flynyddoedd, ac y mae gandd.i, felly, rhyw fath o hnv] etifeddol i'r gylchwyl. Er hyny, fe ddylai gofio fod yr wyl yn wyl gen- edlaethol, ac mai nid yr Ysgol Gymreig yn unig ydyw achos y wledd. Gwyl ddiamcan, i ryw fesur, ydyw yr wyl arall a gynnelir ar Ddygwyl Dewi yn yr Hotel Cecil. Onid ellir ei chyplysu a, rhyw fudiad cenledIaethol, a'i gwneyd yn wir ddefnyddiol. Y mae y sel a'r brwdfrydedd a ddangosir ynglyil a hi, y naill flwyddyn ar ol y lJall, yn sicrwydd y gellir gwneyd llawer o ddaioni drwyddi. A phe gellid, drwy ddoeth gyd-ddealltwriaeth, drefnu i gynnal y ddwy wledd ar nosweith- iau gwahanol, fe fyddai llawer o honom yn foddlawn i gefnogi y ddwy. Nid oes eisieu manylu llawer ar ddigwydd- iadau nos Lun diweddaf. Llywyddodd
Mr. Llewelyn Williams, A.S.,
News
Cite
Share
Mr. Llewelyn Williams, A.S., ar gynnulliad poblogaidd yn yr Hotel, a gwnaeth ef a Syr If or Herbert, o Lanarth, areitbiau cynnes wrth gynnyg ac atteb Uwngcdestyn Coffadwriaeth Dewi Sant, a Chymru, Cymry, a Chymraeg.' Rhoddodd neges Mr. George Meredith at y llyw- ydd foddlonrwydd mawr i'r cynnulliad, a chofir yn liir ei ddywediad na pherthyn i Gymru orphenol marw—yn hytrach, y mae yr amser a fu yn fyw yn ei chalcu yn was- tadol. Mewn araeth Gymreig, llawn o'r ddonioldeb naturiol, cynnygiodd Mr. John Hinds Iechyd da' i'r cadeirydd, ac an- rhydeddwyd y llwrngc-destyiii gyda phob gwresogrwydd. Adroddocld y Prif Fairdd Machreth ddau englyn tarawiadol. Dyma nhw:— Da gogydd, o'i frwd gegin-yrai wledd Arlwy iach gynnefin; Mewn dinas bell, gwell na gwin Yw cael cinio cawl cenin. Mae eurddawn iaith Myrddin Wyllt-yii ei Er gwaetha brad nwydwyllt; [bro Sonia Sais yn Nhy Seisyllt Am glciron, moron, a myllt. Yn y wledd hon cafodd y cWIDmi y pleser o weled. y gasged lIe cedwir memrwn Rhydd- id Dinas Caerdydd i'r Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George. Yn ngwyl yr Hen Frythoniaid llywyddai
Arglwydd Aberdar.
News
Cite
Share
Arglwydd Aberdar. Wrth gynnyg llwngcdestyn llwyddiant a 1. pharhad y gymdeithas, rhoddodd y cadeiriad adroddiad calonogol o'r gwaith a ddygir yn mlaen yn Ysgol y Genethbd Cymreig, yn Ashford, a chafodd y cwmni y fraint o glyw- ed Pencerdd Gwalia, ar ddechreu ei drydedd fiwydd a phedwar ugain, yn chwareu hen a la won Cymru ar y delyn. Y mae Mr. John Thomas yn haeddu llawer mwy o riii- rhydedd nag y mae y wlad, hyd yn hyn, wedi ei estyn iddo. Tybed a wel ef gyfran o hono cyn croesi'r gorwel ?
Yr Aelodau Cymreig.
News
Cite
Share
Yr Aelodau Cymreig. Nos Fawrtb bu yr aelodau Cymreig yn cynnal cyfarfod, o dan lywyddiaeth Syr Al- fred Thomas, pryd yr oedd yn bresemiol Syr Francis Edwards, Syr Ifor Herbert, yr An- rhydeddus Ivor Churchill Guest, Mr. Her- bert Lewis, Mr. William Jones, Mr. David Davies, Mr. Ellis W. Davies, Mr. Vaughan Davies, Mr. Clement Edwards, Mr. Owen C. Philipps, Mr. T. H. W. Id-ris, Mr. Hem- merde, Mr. Robinson, a'r ddau ysgrifenydd, Mr. J. Herbert Roberts a Syr D. Brynmor Jones. Ar gynnygiad Mr. Ellis Davies, a chefnogiad Mr. William Jones, fe basiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i
Mr. Asquith
News
Cite
Share
Mr. Asquith a'r Weinyddiaeth, am roddi yn y Mesur Trwyddedol Newydd drefniadau arbenig yn ymwneyd a'r fasnach yn Nghymru, yn ol dymumad yr aelodau Cymreig. O'r ochr arall, ar gynnygiad Syr Ifor Herbert, a chefnogiad Mr. Clement Edwards, fe bas- iwyd penderfyniad yn beio Mr. Haldane am r.nwvlivddu hawliau Cymru yn nghynllun y Fyddin Diriogaethol. Pa beth a ddigwydd i Mr. Haldane, o herwydd hyny, nid ydwyf yn myned i ddarogan. Galwodd
Mr. Herbert Lewis
News
Cite
Share
Mr. Herbert Lewis syhv at fater sydd yn bwysig yn ngolwg haneswyr a llenorion Cymreig, sef, at y pwysigrwydd o gael rhywun i wneyd trefn a dosbarth,' hyd y gellir, ar y miloedd ys- grifau yn y Record Office, sy'n cadw yn nghudd yn eu dalenaii bennodau lawer o hanes ein gwlad ni. Penderfynodd y cyfar- fod bennodi is-bwyllgor i ystyried y mater yn mhellach, ac i edrych pa beth ellir wneyd i sicrhau calendar priodol o'r ysgrifau y cyf- eiriwyd atynt. Penderfynwyd rhoddi pob cynnorthwy i'r mesurau a ddygwyd i mewn ychydig amser yn ol gan
Mr. David Davies,
News
Cite
Share
Mr. David Davies, J'r amcan o sicrhau rhydd-freiniad prydlesi capeli a gwerthiant gorfodol tir, lie byddo angen am godi tai addoliad. Ar awgrym- iad Mr. Davies, pennodwyd Dirprwyaeth i ymweled ag Iarll Carrington, i, r dyben o osod o'i flaen yr1 angen am Ddirprwywr Tirol i Gymru ynglyn a, Mesur y Man Dy- cldynod, ac un yn meddu gwybodaeth arben- 19 o anghenion ac o iaith v wlad.
Coleg Aberystwyth.
News
Cite
Share
Coleg Aberystwyth. Cynnaliwyd cyfarfod cynghor y coleg uchod yn Chancery Lane, nos Wener, gyda Syr John Williams, Barwnig, yn y gadair, pryd yr oedd yn bresennol y Prifathraw T. F. Roberts, Dr. Henry Owen, y Proffeswr W. P. Ker, Dr. Chattaway, Dr. R. D. Ro- berts, Dr. Garrod Thomas, y Proffeswr D. Morgan Lewis, Mri. David Davies, A.S., J. Lloyd Morgan, A.S., D. C. Roberts, E. Vin- cent Evans, G. Fossett Roberts, Charles Lloyd, Waunifor; John Francis, Mrs. Thos. E. Ellis, Miss E. A. Carpenter, Miss Arm- strong, a r Cofrestrydd, Mr. J. H. Davies. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu y diweddar Syr Lewis Morris, a phleidlais o longyfarchiad i Syr Samuel Evans a. Mr. Lloyd Morgan, ar ddyrchaf- lad y nadl yn, Gyfreithiwr Cyffredinol, a phennodiad y llall ynGofladur Abertawe. Emvyd Syr John Williams, y Prifathraw Rooerts, a'r Cofrestrydd, i gynnrychioli y coleg yn y gynnadledd1 a elwir yughyd, m gais Awdurdod Lleol sir Ddinbych, i ystyr- ied cwestiwn Cynghor Cenedlaethol i Gymru ynglyn a mater axldysg. I Pennodwyd y Prifathraw i gynnrychioli y coleg yn Llys Llywodraethol yr Amgueddfa Genedlaethoi, a Mr D. C. Roberts, Aberyst- wyth, yn gynnrychiolydd ar y Bwrdd Canol- og. Hysbyswyd fod Mr. Owen Edwards, o blegid ei ddyledswyddau yn y Swyddfa Add- ysg. wedi ymddisfwyddo o'i aelodaeth ar y cy- nghor. Derbyniwyd yr ymddiswyddiad gyda llawer o ofid. Pennodwyd Pwyllgor i ys- tyried perthynas gwirfoddolwyr ieuaingc y coleg yn ngwyneb trefniadau newyddion Mr. Haldane ynglyn a'r fyddin. Rhoddodd Mr. J. H. Davies ar ddeall fod chwaer y di- weddar Barch H. Davies Oweti, o Beninyn- ydd, wedi cyllwyno i'r coleg hen ddysgl- bwnsh, fu unwaith yn eiddo i Llewelyn Ddu 0 Fon.
Y Gymdeithas Eiusengar.
News
Cite
Share
Y Gymdeithas Eiusengar. Cynnaliwyd cyfarfod blynyddol y gym- deithas ddefnyddiol lion nos Wener, o dan lywyddiaeth Mr. E. Vincent Evans. Dang- osai yr adroddiad a ddarllenwyd gan yr ys- grifenydd myged-ol, Mr. T. E. Morris, fod y gymdeithas yn ystod y flwyddyn a bas- iodd, wedi gwneuthur llawer i liniaru adfyd ac i leddfu trueni y lliaws tlodion Cymreig sy'n cyfarfod ag afiechyd, coll gwaith, a thywydd garw, o lawer math, yn y brifddin- as. Amcan arbenig y gymdeithas ydyw es- tyn cymmhorth amserol i rai mewn angeii, i'w galluogi i fyned yn ol at eu teuluoedd, neu i ddechreu bywyd o'r newydd yin Llun- dain. Nid yw yn cyfyngu ei hymdrechion i na phlaid nac enwad—y mae ei llygad, yn unig ar gynnorthwyo yr anghenus ac am ei gwaith haedda gefnogaeth haelionus o'r hen wlad. Ar y pwyllgor ceir cynnrychiolwyr pob agwedd ar fywyd Cymreig yn y brif- ddinas. I lenwi dau fwlch ynddo y tro hwn pennodwyd Mri. W. E. Davies a D. R. Hughes. Yn llywydd y gymdeithas, yn He y diweddar Syr David Evans, pennodwyd Syr John Puleston, diweddar gadeirydd y pwyllgor; ac yn lie Syr John, fel cadeirydd, pennoclwyd Mr. Vincent Evans. Ail ethol- wvd Mr. John Hinds yn is-gadeirydd y pwyllgor, a diolchwyd yli dra chynnes i Mr. T. E. Morris am ei sel a'i weithgarwch fel ysrifenydd mygedol y gymdeithas. 41
MR. LLOYD CEORCE, A.S., YN…
News
Cite
Share
MR. LLOYD CEORCE, A.S., YN SOUTHPORT. Yr oedd Neuadd Albert, Southport, yn or- lawn rhyw awr cyn yr amser pennodedig, nos Iau, o bobl awyddns am glywed y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, Llywydd Bwrdd Masnach, yn anerch cyfarfod a gyn- nelid o dan nawdd Cynghor Cenedlaethol Efengylaidd yr Eglwysi Rhyddion. Llyw- yddid gan Dr. David Brook, llywydd y cy- nghor. Mr. Lloyd George, yr hwn a, dderbyniwyd gyda chymmeradwyaeth mawr, a ddywed- odd:—Mr. Cadeirydd, a fy ngliyd-Eglwys- wyr Rhyddion, yr wyf yn gofidio mai dyma y waith gyntaf i mi allu rhoddi fy mliresen- noldeb yn eich cynnulliadau enwog. Yr oeddwn wedi bwriadu bod yn bresennol heddyw boreli, ond cefais fy nghadw yn Nhy y Cyffredin, yn gyntaf oil, i geisio pender- fynu anghydwelediad llafur yn y gogledd; ac yn yr ail le, gyda'r anturiaeth lawer mwy anhawdd o geisio arddangos i'n cyfeillion oedd am Ddiwygio y Tollau nad oedd y Liywodraeth yn gyfrifol am y brychau ar wyneb yr haul (cym.). Yr wyf yn gobeith- io fy mod ar y ffordd i gwblhau y gwaith cyntaf (cym.). ond yr wyf yn anobeithiol hollol gyda golwg ar gyflawni yr ail (chwer- thin). Y mae'n rhaid i mi longyfarch trefnwyl" cjdarfodydd Southport ar y llwydd- iant mawr oeddynt wedi ei gyrhaedd. Y mae Cynghor yr Eglwysi Rhyrldion yn drefn- iant hynod iawn—yr wyf yn meddwl, ar y cyfan, ei fod y trefnlant mwyaf hynod sydd wedi dyfod i fodolaeth yn ystod y blynydd- oedd diweddar. Yr wyf yn llongyfarch y cynghor, yn y He cyntaf, ar yr agwedd y maent wedi ei fabwysiadu ar
Y Cwestiwn Addysg.
News
Cite
Share
Y Cwestiwn Addysg. Yr wyf yn croesawu yr agwedd synwyrol, gymmedrol, ac ar yr un pryd gadarn, a fab- wysiadwyd gan Gynghor yr Eglwysi Rhydd- ion mewn perthynas i fesur fy nghyfaill, Mr. M'Kenna (cym.). Yr oeddynt yn syl- weddoli, wrth benderfynu dadl fawr fel hon, ei bod yn hollol ammhossibl i unrhyw blaid gyrhaedd yr oil ag a fuasai yn ei ddy- muno.
Y mae'n rhaid Cymmeryd a Rhoi.
News
Cite
Share
Y mae'n rhaid Cymmeryd a Rhoi. Wel, y mae Mr. M'Kenna wedi dyweyd ei fod yn erbyn gorfaeliaeth (cym.), ac yr wyf yn meddwl y bydd in cyfeillion Eglwysig gydnabod ei fod wedi gweithio hyny allan mewn modd medrus. Yr wyf yn meddwl y byddai ef y dyn diweddaf i ddyweyd, pe cawsai lechen hollol lan, a'i fod yn ffurfio Mesur Addysg i'r wlad hon am y waith gyntaf, pe byddai yn bossibl myned yn ol at y dyddiau hyny y cyfeiriodd y cadeir- ydd atynt yn ei araeth ragorol, pan yr oeddym oil yn gwisgo crwyn (chwerthin), a phan oedd lleoedd yr archesgob yn cael eu lleuwi gan Dderwyddon o'm cenedl (chwerthin mawr)—pe yn bossib] myned yn ol i'r dyddiau hyny, ac i'r Gweinidog Add- ysg allu ffurfio cynllun newydd hollol, nid wyf yn dyweyd mai dyma y mesur a fuasai Mr. M'Kenna yn ei gyfhvyno i drigolion y dyddiau hyny. Ond yr o'edd ganddo i ym- wneyd a materion fel yr oeddynt. Yr oedd ganddo i gymmeryd i ystyriaeth y ffaitb fod miloedd o'r ysgolion hyn wedi cael eu sefydlu yn y wlad, ac yr oedd ganddo i gymmeryd o dan ystyriaeth amgylchiadau, yr wyf yn gobeithio, yn mhen ychydig flyn- yddoedd, na bydd yn ofynol i un gwlad- weinydd Rhyddfrydig eu cymmeryd o dan ystyriaeth. Wel, y mae yn awr wedi cyf- lwyno ei fesur. Y mae'n fesur a wna
Ryddhau y Rhanbarthau Gwiedig,
News
Cite
Share
Ryddhau y Rhanbarthau Gwiedig, modd bynag, a hyny yn gynawn" (cym. uchel). A dyna He yr oedd y gyfundrefn bresennol yn gwasgu yn galed. Yr wyf yn gwybod rhywbeth am dano (clywch, clywch). Cefais fy magu mewn pentref heb fod yn mhell o'r Wycldfa. Yr unig ysgol yno oedd ysgol yr Eglwys, er fod, o leaaf, naw o bob deg o'r plant yn Ymneillduwyr, a'r gweddill o un ran o ddeg yn eiddo Eglwys Loegr. Ni phennodwyd athraw erioed yn yr ysgol hono ar .nad oedd yn Eglwyswr, "yn ystod yr am- ser yr oeddwn yno dewisid ef bob amser o sect y lleiafrif. Nid oedd un I)acl)gleii na geneth, chwaith, erioed heb law yr Eglwys- wyr, wedi cael eu pigo i fod yn ddysgybl- athrawon yn yr ysgol, oddi eithr ar yr am- mod bendant eu bod yn gadael credo eu tadau (gwaeddiadau o Cywilydd '), er idd- ynt fyned yn aelodau o'r Eglwys. Yr oedd y gyfundrefn hon o brynu plant ieuaingc yn un lygredig, ac yni un oedd yn
Pydru Cydwybod,
News
Cite
Share
Pydru Cydwybod, ac yr oedd yn gyfundrefn y rhoddwn derfyn arni, os pasia y mesur (cym.). Wel, bydd i'r mesur fyned trwy Dy y Cyffredin (cym,). Wel, beth ddigwydda iddo wedi hyny, y ma0 hyny yn dibynu ar Dy yr Arglwyddi. Yr wyf yn credu yn ddiysgog, ac yr wyf yn credu mai dyna fydd argyhoeddiad y wlad, fod y mesur yn ymgais hollol gymmedrol i ym- wneyd a chwestiwn o anhawsder ang- hyffredin. Gwna ymgais at ymwneyd, mewn modd tyner, a chydwybodau y bob! oedd heb fod yn cydweled a. chwi. Dywedid ein bod yn myned i roddi trethi i un math o ysgolion, a dim ond tollau i'r math arall o ysgolion-yr ydych am roddi y flaenoriaeth i'r hyn a alwant hwy yn Ysgolion Ymneill- duol.' Nid ysgolion Ymneillduol -ydynt,. Yr ydym am roddi trethi i'r ysgolion oedd yn cael eu rheoli gan y trethdalwyr (cym. uchel). Nid ysgolion Ymneillduol ydyw y rhai hyn. Fel mater o ffaith, y mae y rhan fwyaf o'r ysgolion hyn yn cael eu rheoli gan Eglwyswyr a llawer o'r atbrawon yn Eglwyswyr. Os ewch chwi i ysgol enwadol, yr oedd yr ath- rawon yn perthyn i'r enwad ei hun, ac ath- rawon eraill yn cael eu cau allan. Yn ysgol- ion y Cynghor yr oedd athrawon Eglwysig, Ymneillduol, a Phabyddol, yn cael yr un driniaeth yn berffaith. Yn yr oil o'r ysgol- ion hyn a gynnelid o'r trethi yr oedd yn sefydliad hollol genedlaethol, agored i bawb. Yr wyf yn hynod o ddiolchgar i Gynghor Cen- edlaethol yr Eglwysi Rhyddion am y pen- derfyniad basiwyd gyda golwg ar
Ddadsefydliad yr Eglwys yn…
News
Cite
Share
Ddadsefydliad yr Eglwys yn Nghymru. Cyfiawnder pur oeddym yn ei ofyn. Nid oeddym yn gofyn ond am chwareu teg. Dyna lie yr oeddym ni yn Nghymtu gyda'r hyn a elwid yr Eglwys Genedlaethol. Dylai Eglwys Genedlaethol fod yn genedlaethol, ond yr oedd yn cynnrychioli y lleiafrif yn Nghym- ru. Yn sicr, nid oedd yr Eglwys Genedlaeth- ol ac, mewn gwirionedd, nid wyf yn gwy- bod pa fodd y gall Eglwys Loegr, corph gallu- og a baleh fel hwnw, ei chanfod yn gysson a'i hunan-barch, ar ol i genedl ddyweyd am- ryw weithiau, a hyny mewn modd cyfan- soddiadol, wrth Dy y Cyffredin, ac wrth yr Eglwys trwy Dy y Cyffredin, 'Nid y chwi ydyw ein Heglwys Genedlaethol; nid ydym .y 11 0 yn dymuno cael ein cynnrychioli yn ys- brydol gan eich trefniadau. Os ydym i gael Eglwys Cenedlaethol o gwbl, yr Eglwys Rydcl ydyw hono.' Yr ydym wedi dyweyd hyny unwaith, dwywaith, teirgwaith—saith gwaith, hyd at berffleithrwydd-yr ydym wedi dyweyd hyny trwy fwyafrif o dri am un. Dywedent, nid ydyw hyny yn ddigon pendant (chwerthin). Gwnaethom ef yn bedwar am un, a dywedent wed'yn, 'Nid ydyw hyny yn ddadganiad clir iawn o farn.' Y tro diweddaf darfu i ni eu
Hysgubo yn gliir i ffwrdd.
News
Cite
Share
Hysgubo yn gliir i ffwrdd. Ond wedi i ni wneyd hyn, nid oeddym ond pedwar ar ddeg ar hugain, ar ol troi bob Tori allaii-dim ond pedwar ar ddeg ar hugain allan o 670; ac felly, yr oedd yn rhaid gwneyd appel at yr ymdeimlad o gyf- ia wnder a chwareu teg y Saeson. Yr ydym ni yn y lleiafrif, ac nis gallwn anfon Cymry dros yr holl wlad, dan waeddi, Dadsefydl- iad,' beth bynag fyddai y pwngc ddigwvdd- a i fod ger bron y wlad; a phe gwnaethem hyny. nid wyf yn meddwl y gwnaem lawer o gyfeillion yn y wlad; yr ydwyf yn medd- wl y byddai i ni dramgwyddo gryn lawyer o'r rhai oeddym wedi ei ga'el. Yi oedd yn well 'genym wneyd appel at ymdeimlad o chwareu teg mwyafrif mawr y bobl yn Mhrydaln. 11 Nid wyf yn gwybod i hwnw erioed droi yn fethiant.
Y Mesur Trwyddedol.
News
Cite
Share
Y Mesur Trwyddedol. IA,T,e,,Il hyny, aeth Mr. Lloyd George yn mlaen i sylwi ar y Mesur Trwyddedol, a dy- wedodd mai hwn oedd yr ymdrechfa fwyaf o'r cwbl. Yr oeddynt yn ymladd a gallu mawr, oedd heb lawer o gydwybod. Os na lwydd- ent, byddent o dan lywodraeth y fasniach feddwol am genedlaeth. Nid oedd y wlad hon i gael ei llywodraethu ar gyfer ychyd- ig, ond er mwyn tair a deugain o filoedd o eneidiau. Byddai tynged y mesur yn gor- phwvs ar yr hyn a wnaent, yn ystod yr ychydig fisoedd iniesaf, o blegid yr oedd yn rhaid iddo fyned i Dy yr Arglwyddi. Pa un a fyddai iddo fyned trwy y mor cyn- nhyrfus hwnw, yr oedd cryn* lawer yn di- bynu ar y gaHu oedd o'r tu ol iddo. Ar ol traddodi ei araeth yn Neuadd Al- bert, a'eth Mr. Lloyd George i gapel y Bed- yddwyr yn Houghton Street, lie y triaddod- odd araeth i tua 500 o bobl, y rhan fwyaf o ba rai oedd yn Gymry. Liywyddid gan yr Henadur Thomas, Caerdydd. Pan aeth Mr. Lloyd George i mewn, yr oedd y Parch. D. Stanley Jones. Caernarfon, yn siarad ar Sosialaeth.'
DAMWAIN YN NOC Y BRENIN, ABERTAWE.
News
Cite
Share
DAMWAIN YN NOC Y BRENIN, ABERTAWE. LLADD DAU, A NIWEIDIO PEDWAR. Cymmerodd damwaiax ddychrynllyd le yn Noe Newydd y Brenin, Abertawe, pryd- nawn dydd Llun, trwy yr hon y lladdwyd dau lafurwr, ac y niweidiwyd pedwar. Tua chwech o'r gloch, tra yr oedd mintai o ddynion wedi ymgasglu ar y llinell o'r tu 01 i'r He yr oedd llafurwyr rhif 5 yn gweith- io gyda'r gweithiau newyddion hyn; ac wedi gwneyd eu hunain yn ddiogel, fel y tybid, trwy fyned o'r tu ol i'r tryciau a lenwid a phridd, gan aros i ddisgwyl yr am- ser iddynt gymmeryd lie mintai y dydd, dyma beiriant oedd yn shuntio' tryciau gweigion i'r llafurwyr rhif 4 yn neidio oddi ar y points;' ac yn lie myned ar linell rhif 4, yn myned i rhif 5, gan ddyfod i wrthdar- awiad a'r tryciau, a'u lluehio, mewn modd ffyrnig, yn erbyn y dynion oedd yn sefyll o'r tu ol iddynt. Cafodd y dynioni eu gwasgaru i bob cyf- eiri.ad; a phan ruthrodd y rhai oeddo gwmpas i'r llanerch gwelwyd fod dau wedi eu lladd, a phedwar wedi eu niweidio i raddau mwy neu lai. Cafodd un o'r dynion dderbyniasant ni- weidiau ei anfon i'w gartref, a thri i'r ys- bytty; tra y eymmerwyd cyrph y meirw i dy y meirw. Enwau y personau laddwyd ydynt:- Richard Beard, 33ain mlwydd oed, yr hwn oedd yn llettya yn 11, Ysgol Street, St. Thomas, yr hwn oedd yn dyfod o Skipton, sir Gaerefrog; a George Timpson, 18 mlwydd oed, 20, Ysgol Street Y personau dderbyniasant niweidiau yd- rrv" 11 Thomas, George Hewitt, Ern- est Timpson, a George Timpson. Gwelir fod teulu Timpson wedi cael dyrnod drom, trwy i un mab gael ei ladd, ac i dad a mab laTaH gael eu niweidio.
[No title]
News
Cite
Share
Cynnaliwyd dros 700 o gyfarfodydd prei- fat yn ystafelloedd pwyllgorau Ty y Cyffredin yn ystod y senedd-dymmor di- weddaf. Achosodd ffrwvdrad yn ngweithiau mwy Birmingham i ddau ddyn golli eu bywyd- au, niweidio un arall, ac i'r adeiladau fyned ar dau.