Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
-. "\"-::":":.'11I;'!¥,..pTiõI!!'.\"'l"'IJ.J::fi;(III'Ifi.if…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
:11I;¥,pTiõI!l"'IJ.J::fi ;( III'Ifi. if Y Cy;V W Y & 1 A D Oyfarfodydd Misol o. 2 Adwy'r Clawdd 2 Marwolaeth Gweddw y Parch Ebenezer Edwards 2 Y Ddau Fesur Mawr 3 Cyfarfod o'r Blaid Seneddol Gymreig 3 Llythyr Llundain 4 Yma ac Acw 4 Deheudir Cymru 5 Mr Lloyd-George yn Southport 5 YSenedd. 6 Dadsefydliad yr Eglwys yn N;liymra 6 Oyngbor Oenedlaethol yr Eghvysi Rhyddion 6 Bwrdd Gwarcheidwaid Llanelwy 6 Penmachno 6 Y Golofn Lnyddol oo. 7 Sylwedydd Llangollen 7 Eisteddfod Dalaethol Gogledd Cymru. yn Llandudno 7 Eisteddfod Dalaethol Pontyberem 7 Pentrecelyn, Rhuthyn 7 Nedien 0 Gaergrawnt oo. 7 Hewyddian Diweddaf 8 Digwyddiadau 8 Prif Erthyglau 9 Newyddion Oymreig 10 0 Ynys Enlli'i Gifftan 0 Abergynolwyn 10 Bala 10 Gokebiaethau .II Richard W Iliams, J. R., Hist, S Barddoniaeth Nantglyn II Brawdlys Oaer ¥ 12 Brawdlys Liverpool 12 Llansannan 12 Nodion o Sir Benfro 12 Caernarfon ,oo. 12 Colwyn Bay 12 Genedigaethau 12 Liverpool. 13 SCarohnadoedd 13 Cynghor Dosbarth Gwledig Llanelwy (Dinbych) 14 Dolgellau 14 Newrddion Tramor 14 Gwrecsam 14 Y Gyfraith 15 8\ratirmynach 16 Hysbysiadau 1, 2-15, 16
--P,._v1,.---Y DDAU FESUR…
News
Cite
Share
--P ,v 1,. Y DDAU FESUR MAWR. Wrth gwrs, cyfeirio yr ydym at y Mesur Addysg a'r Mesur Trwyddedol. Yr ydys weithian wedi cael hamdden i feddwl yn bwyllog uwch ben y ddau; ac nid ydym yn petruso dyweyd mai gwella y maent eili dau wrth eu hys- tyried. Pobl ystyrbwyll, hyd yn oed yn mysg y gwrthwynebwyr, ydynt yn rhwydd addef fod ynddynt elfenau ag y gallant hwythau eu cymmeradwyo, a dymuno eu gweled yn cael eu rhoddi mewn gweithrediad. Bu y gwrthwyn- ebwyr penboeth, nad oes ganddynt ddim ond eu rhagfarn i'w harwain, yn gwneyd ymdrechion egniol i geisio troi yr etholiad eithriadol a gymmergj le yn Hastings i fod yn gondemniad trylwyr a diymmod ar y ddau fesur; y cyfryw gondemniad ag a ddangosai i'r Llywodr- aeth nad oes dim ond y gorthrechiad mwyaf llwyr a hollol yn.ei haros hi, pa bryd bynag yr appelia at y wlad mewn etholiad cyffredinol. Llawer a glyw- som, o bryd i bryd, am freuddwyd y wrach wrth ei hewyllys.' Nid oes dim mewn gwirionedd yn yr ymdrechfa yn y dreflan yn neheubarth Lloegr ag a rydd sail resymol i dynu unrhyw gasgl- iad o'r fath Gwir mai yr ymgeisydd Toriaidd a gariodd y dydd. Nid oedd dim arall yn cael ei ddisgwyl. Tad yr ymgeisydd oedd yr hen aelod, ac yntau, heiyd, ei hun yn wr adnabyddus. Yr ymgeisydd Rhyddfrydig ydoedd wr dy- eithr. Cafodd Mr. Du Cross holl nerth tafarnyddiaeth i'w gefnogi. Daeth byddin o dafarnwyr i'r etholaeth, o le- oedd eraill, i chwyddo rhengoedd y taf- arnwyr cartrefol. Daethant, nid yn gymmaint i ennill y sedd-ystyrid hono yn ddiogel—ond, er mwyn, os byddai fodd yn y byd yn bossibl, i gael mwy- afrif llethol. Buont yn llwyddiannus i gael eu mwy- afrif; ac hwyrach eu bod yn ystyried fod codi mwyafrif 413 y tad i fod yn fwyafrif 1,018 i'r mab, yn atteb i'r dis- grifiad o fwyafrif llethol. Nid yw pobl gall, modd bynag, yn meddwl dim o'r fath. Ni fu ond ychydig gynnydd ar nifer yr etholwyr Undebol. Nid ydyw ond 153 yn chwaneg nag ydoedd yn yr etholiad cyffredinol; ac hwyrach mai etholwyr o'r tu allan i'r cylch yn meddu pleidleisiau yn Hastings ydoedd bron yr oil o honynt, ond analluog i ddyfod yno yn yr etholiad cyffredinol, am eu bod yn rhy brysur mewn manau eraill. Yr esboniad clir a, digonol ar chwyddo y mwyafrif ydyw, fod nifer anferth o Ryddfrydwyr wedi ymattal rhag dyfod i'r pol o gwbl. Gwelai y rhai hyn nad oedd yn ddichonadwy ennill buddugol-, is.etb i'r ymgeisydd Rhyddfrydig; ae, i -4. h- i ddyfod allan o'u tai i gofrestru eu pleidleisiau drosto. Tro ffol, a Ilawn o anftyddlondeb i egwyddor, ydoedd hyn, ni phetruswn ddyweyd. Gan nad beth ydoedd rhagolygon eu plaid, dylasent hwy fanteisio ar y cyfleusdra i daraw dyrnod dros eu hachos. Unig ffrwyth eu gwaith yn aros gartref ydoedd rhoddi achos crechweii i'r gelynion, am eu bod wedi cael mwyafrif o bedwar ffigiwr. Pe daethent hwyallan yn ffyddla-wn o'u llochesau ar y diwrnod pwysig, diau y buasai y mwyafrif Toriaidd yn llai nag ydoedd y tri blaenorol. Y dosbarth goreu o Ryddfrydwyr ydynt bob amser yn teimlo eu dyledswydd i achub pob cyfleusdra i wneyd pob gwasanaeth ar a allont i'w hachos, er nad mewn go- baith ennill ar bob a-chlysur. Yr ydym yn dyweyd y pethau hyn er mwyn dangos nad ydyw yr etholiad eithriadol diweddaf yr ydys wedi ei gael yn arddangos—o edrych arno trwy wydrau gloywon a diragfarn-unrbyw gyffrawd gelyniaethus mawr a chryf yn erbyn y Weinyddiaeth, o herwydd ei dau fesur mawr. Ni raid petruso dy- weyd nad ydyw y Mesur Addysg, nac hyd yn oed y Mesur Trwyddedol, wedi chwanegu nemawr, os dim, at nerth yr Achos Undebol yn Hastings. Ac etto, mewn lie fel Hastings y gallasem ddis- gwyl iddynt gael yr effaith hwnw, yn enwedig Mesur y Trwyddedau. Tref- lan arforawl ydyw hi; a llawer o ym- welwyr yn dylifo iddi yn misoedd yr haf. Yn y treflanoedd hyn y mae pob peth a fyddo yn tueddu i gwtogi ar rwysg y Fasnach Feddwol, ac yn llei- hau y cyfleusderau i ymyfed, yn ang- hymmeradwy. istyrir fod pob peth o r fath yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn y buddiannau Ileol. Ond, hyd yn oed, nid. oes genym dystiolaethau credadwy i brofi fod y naill na'r llall o'r ddau fesur wedi cael yr effaith a ddisgwylid mor hyderus. Mewn gair, nis gall Diwygwyr y Tariff ymffrostio fod eu hachos hwy ronyn cryfach. Od oes rhywbeth yn gryf yn yr etholaeth, achos Tafarnyddiaeth, a'r hyn a, ber- thyn iddo, sydd mewn nerth yno. Yr oedd Mr. Du Cross yn Ddiffyndollwr di- ymmod, a chafodd fendith Mr. Cham- berlain, mewn gwefreb o lanau Mor y Canoldir, gan nad pa elw a fu y fell- ten hono iddo. Ond, nid am ei fod yn ddiffyndollwr y cariodd efe y dydd. Nid am ei fod yn Eglwyswr, na chwaith am ei fod yn ddirwestwr yn eondemnio Mesur y Trwyddedau, yr ennillodd y dydd. Yn hytrach, ennillodd am fod Rhyddfrydwyr y fro yn glaiar! Y gwirionedd, mewn gair byr, ydyw, a chymmeryd y wlad yn gyffredinol, fod teimlad y cyhoedd yn prysur aeddfedu i gael rhyw derfyn ar y ddau gwestiwn a gorphorir- yn y ddau fesur hyn. Mae y wlad wedi diflasu ar y dadleu a'r ym- gecru yn eu cylch, ac yn dyheu am gael rhyw benderfyniad arnynt-am eu sym- mud o'r ffordd. Ac elfen arbenig yn y farn gyhoeddus, hyd y gallwn ni synio, ydyw, mai nid ar linellau ymbleidiaeth politioaidd y dylid eu penderfynu. Yn hytrach, ystyrir fod pwngc addysg, a chwestiwn y ddiod yn rhai ag y dylid eu dyrchafu i dir uwch. Mae y ddau yn rhy gyssegredig i'w gwneyd yn .1 droed-beli i'w cicio ar y llwyfanau gwleidyddol, am fod eu hegwyddorion yn annhraethol uwch nag egwyddorion ym- bleidiaeth boliticaidd yn unig. Arwydd anghamsyniol yn ei daioni a'i gwerth ydyw y duedd gynnyddol a welir yn y dyddiau hyn i gymmeryd yr olwg fwy eang hon ar y pyngciau neillduol hyn. Ceir yr hyn y cyfeiriwn ato yn lied eg- lur yn yr ymddiddan a fu rhwng Mr. A. Henderson, arweinydd y blaid Lafur, a gohebydd un o'r newyddiaduron dydd- iol, ddechreu yr wythnos ddiweddaf. Diau y gallwn edrych ar y gwr galluog hwn fel yn adlewyrchu golygiadau nifer aruthrol liosog o bobl feddylgar, nid yn unig yn mysg ei blaid ef ei hun, ond, hefyd, yn mysg rhai na fynant fod iddynt hwy y cyssylltiad lleiaf a Phlaid Llafur o gwbl. Nid ydyw y Mesur Addysg, mewn Ilawer o'i ranau, yn gymmeradwy gan Mr. Henderson, yn bersonol. Ond y mae efe yn ddigon doeth i weled na fyddai y mesur ag y rlioddai efe ei fendith yn rhwydd arno, o'i safbwynt ei hun, yn dderbyniol gan adranau eraill yn mh'lith y cyhoedd. I Addysg fydol a garai efe, gm gadw, addysg grefyddol allan o'r ysgolion dyddiol, a gadael iddi gael ei chyfranu yn yr acldoldai, ac ar yr aelwydydd. Ond, am fod dosbarthiadau eraill yn teimlo yn selog dros addysg grefyddol, i raddau mwy neu lai, yn yr ysgolion beunyddol, efe a wel, ac a gydnebydd ei bod yn rhaid iddo ildio rhai o'i beth- au ei hun, a dyfod i gyfarfod y rhai hyn, os ydys i gael penderfyniad ar y mater. Hyd yn oed y Dr. Clifford, er maint ei wrthwynebiad i addysg yr offeiriadaeth, a geir yn dyweyd pethau pur agos i'r hyn a draethwyd gan yr Arweinydd Llafur. Dadl Mr. Hender- son ydyw, y dylai y wladwriaeth gadw ei hun yn glir oddi wrth ddysgu crefydd i'w pliobl. Dylai hi sefyll yn hollol neutral yn y pwngc hwn,' medd efe. Yr hyn a olyga ydyw, mai nid ei bus- nes hi ydyw dysgu crefydd; llawer llai enwadaeth. Mae Mr. Mc'Kenna yn llawn cystal yn credu na ddylai y Wlad- wriaeth dalu am gyfranu addysg gref- yddol yn yr ysgolion dyddiol; ond, er hyny, y mae efe yn foddlawn mabwys- iadu cynllun Pwyllgor Addysg Cynghor Sirol Llundain, yr hwn sydd yn myned yn rhy bell gan Mr. Henderson, ac heb fyned agos yn ddigon pell gan yr Egl- wyswyr a'r Pabyddion. Yn wyneb hyn rhaid i bob plaid ildio rhyw gymmaint. Ar gyfer yr amgylchiad hwn y dyfeis- iwyd cynllun y cyttundebu allan contracting out.' Dr. Clifford a Mr. Henderson, er mwyn heddwch, ydynt yn barod i dderbyn y cynllun hwn. Ymddengys i ni na ddylai yr Eglwys Sefydledig godi gwrthwynebiad iddo, chwaith. Nis gall Dr. Davidson, arch- esgob Caergaint, o leiaf, ddyweyd dim yn ei erbyn. Er mwyn bod yn gysson ag ef ei hun, rhaid iddo ef ei dderbyn, am y rheswm da ddarfod iddo ef gyn- nyg yr un peth fel gwelliant ar fesur Mr. Birrell, ddwy flynedd yn ol. Pe ceid gan v Rhyddfrydwyr a'r Toriaid, yr Ymneillduwyr a'r Eglwys- wyr, i gyttuno a'u gilydd ar y cynllun, dim ond dau bwynt dadl bwysig a fydd- ai yn aros. Un o'r rhai hyny ydyw, pa beth y dylid ei wneyd ag ysgol plwyf nad oes tri o'i fewn-hyny ydyw, ysgol Eglwysig. Os mai ysgol rydd ac an- enwadol a fydd yr unig ysgol mewn plwyf, ni bydd unrhyw gwestiwn o gwbl yn cael ei godi. Y cwestiwn arall ag y gall cweryl godi ynglyn ag ef, yw swm y rhodd a gyfrenir i'r ysgolion fydd yn cael eu contractio allan.' Nid oes un- rhyw asgwrn cynnen fawr arall o fewn y mesur, hyd y gallwn ni weled. Hyny ydyw, os yw yr Archesgob David- son am fod yn gysson ag ef ei hun, ac os yw efe heb gael gweledigaeth new- ydd, ac amgen na'r un a welai efe yn haf 1906; ac, wrth gwrs, os bydd ei frodyr yn y Ty Ucbaf, a Mr. Balfour yn y Ty Isaf, yn foddlawn i'w ganlyn, a chymmeryd yn ganiataol, meddwn, ei fod ef yn dal yn ei rych.' Nis gwydd- om pa beth, na pha faint oedd yn medd- wl Mr. Balfour, pan y dywedodd nad oedd ganddo eisieu clywed neb yn dy- fynu yr esgobion iddo ef. Ai meddwl yn benaf yr oedd am yr archesgob a'i gynllun, ddwy flynedd yn ol? Modd bynag, a gadael hwn o'r neilldu, a ydyw y mesur i gael ei ddinystrio ar y ddau bwynt arall ynddo? Trwy Dy y Cyff- redin gall y Gweinidog Addysg gario ei fesur yn rhwydd. A faidd yr argl- wyddi wneyd pen arno, o herwydd y ddarpariaeth ynglyn a'r ysgolion unig- ol, ac ar fater yr arian i'r ysgolion fydd yn contractio ? Dywed yr awdur- dodau Pabaidd nas gallant hwy gario eu hysgolion yn mlaen os na chant chwaneg a arian. A diau fod y parsoniaid yn barod i ddyweyd yr un peth. Ond, yn sicr, nid ar y ddeubeth hyn y gwneir llongddrylliad am y mesur. Yn erbyn Mesur y Trwyddedau y mae y teimladau yn wir gynddeiriog, fel yr awgrymwyd eisoes. Y tafarnwyr yd- ynt yn ei felldithio. Y darllawyr ydynt vn ei regu. Y Daily Telegraph a ddyhysbydda ei eirlyfr o'i edriau bustl- fombastaidd wrth son am dano. Nis gall orphen brawddeg heb ymadrodd- ion diraddiol am y mesur, ei luniaeth- wyr, a'i gefnogwyr. Yr hyn sydd yn blino llawer, os nad yn blino mwyaf ar gyfeillion y fasnach ydyw, fod amser terfynol—pedair blynedd ar ddeg—yn cael ei osod i feddiant o'r drwydded. | Ar siafad ambell un o'i! rhai hyn, g.all.. em dybio mai anghyfiawnder o'r fath berffeithiaf ydyw peidio cyssylltu y gair byth a'r drwydded. Ac, wrth gwrs, daw y dewisiad lleol dan eu con- demniad llvmdostaf. Arswyda y rhai sydd yn y fasnach fyned o dan farn eu cymmydogion. Hwynt-hwy a wyr oreu c 0 pa ham. Eu eydwybodau a ddywedant wrthynt mai yr hyn a wna y bobl, pan y cant yr awdurdod i'w dwylaw eu liun- ain, fydd symmud ymaith y temtasiyn- au ofnadwy gryfion y mynant hwy, er eu budr elw eu hunain, eu gosod yn eu canol, Yr ydym yn barod wedi cry- bwyll am tarn Blaenor Plaid Llafur ar y Mesur Addysg. Da genym ddeall ei fod ef yn iach yn y ffydd ar y pwngc hwn, hefyd. Nid oes bwysau y peis- wyn ysgafnaf yn marn, dyweder, yr hynod Henadur Salvidge, o Liverpool, o'i chymmbaru ag eiddo Mr. Henderson, o Barnad Castle, yn swydd Durham. Y nos o'r blaen ymfflamychai yr henadur poethwyllt yn erwin yn erbyn yr holl fesur, ac yn enwedig yn erbyn yr am- ser terfynol,' a'r 'dewisiad lleol,' gan eu galw yn gamwri a'r gweithwyr. 'Does bossibl na wyr Blaenor Llafur fwy am weithwyr y deyrnas na'r dyn hwn, nad yw cylch ei wybodaeth yn eangach na Cheidwadeth Glanau y Fer- swy. A Mr. Henderson a bleidia y dewisiad lleol yn aiddgar. O'n ran ei hun, hefyd, ni roddai efe amser o gwbl ynglyn a'r drwydded; ond y mae yn barod i foddloni i'r 14eg blynedd. Ffaith galonogol iawn ydyw, fod y Weinyddiaeth yn derbyn dadganiadau eymmeradwyol o bob cwr o'r wlad i'r mesur mawr, aeddfed ei gynllun, a dai- onus ei amcan hwn. Y dadganiadau hyn, gan amlaf, a ddeuant oddi wrth ddynion ag y gellir edrych arnynt fel cynnrycniolwyr barn y cyhoedd, i radd- au helaeth; ae, am hyny, yn wyr o ddy- lanwad. Dengys hyn yn doiwrthdro fod i'r mesur gefnogaeth wresog yn holl ranau y deyrnas. Yr hyn yr ydys yn caru sylwi yn arbenig arno ydyw, na cheir, hyd yma, ddim gwrthwynebiad iddo, ond y gwrthwynebiad a. godir gan dylwyth y fasnach feddwol ei hun. Fel gwneuthurwyr delwau y dduwies Diana, yn Ephesus, yn nyddiau yr Ap- ostol Paul, gwel y darllenwyr fod go- baith eu helw hwy mewn perygl; ae, am hyny, nid ydys yn rhyfeddu eu bod yn ymffyriiigo yn erwin, gan fytheirio pob math o fygythion a chelanedd. Pe na fuasent hwy yn y dymmer hon, aethem yn y fan yn ammheus a, oes gwir ddaioni yn y mesur. Gan fod gwersyll y fasnach fel crochan berwed- ig, ac yn trefnu rhyfelgyrch dychrynllyd a phenderfynol yn ei erbyn, yr ydym, pe am ddim ond hyny, yn credu yn ei wertli. Allan o'u cylch eu hunain ni chant nemawr neb i'w calonogi a'u cefnogi. Nid yw Eglwys Loegr yn debyg o roddi ei swcwr arferol iddynt yn eu cyfwng presennol. Gwelsom adeg pan y byddai yr Hen Fam a'r Fasnach Feddwol yn rhwyfo yn yr un cwch. Ond, yn ffodus, y mae y Llywodraeth eleni wedi darparu peth arall sydd yn debyg o hawlio ei holl fryd hi, heb adael dim ganddi i'w hebgor i'w hen gyfeill- ion. Wrth gwrs, Eglwyswyr selog ydyw naw o bob deg o'r tafarnwyr, a'r on, y mae yn debyg, o'r darllawyr. Ond, dyna, bydd yr esgobion a'r par- soniaid yn rhy brysur yn rliyfela yn er- byn y Mesur Addysg i daflu eu hunain i'r cad yn erbyn y Mesur Trwyddedol, hefyd; ac, ni a obeithiwn, yn rhy gy- wilyddus ganddynt, yn ogystal, gys- sylltu eu hunain a'r fasnach. Gwir fod rhai o'r rhai a gyfrifir yn arweinwyr yn y Blaid Doriaidd yn ceisio cyfuno y gwrthwynebiad i'r Mesur Addysg- a'r gwrthwynebiad i'r Mesur Trwyddedau; a chael un gwrthwyneb- iad mawr i'r ddau fesur. Gan mai 'mewn undeb y mae nerth,' hwy a deimlant yn hyderus o allu, a hwy yn un fyddin gref, dinystrio y ddau fesur. Da genym allu dyweyd nad oes tebygol- rwydd y cerir yr arfaeth hon allan. Gormod gorchwyl a fyddai hyd yn oed i Mr. Balfour Iwyddo i wneyd y cyfun- iad hwn. Y rheswm dros ddyweyd hyn ydyw, fod nifer fawr o'u brodyr Eglwysig yn teimlo yn ffafriol tuag at Fesur y Trwyddedau. Cashant y Mesur Addysg a'u holl galon, y mae yn wir. Ond gan nad faint yw y casineb j hwnw, y. maehfc yn ddirwestwyr eg. wyddorol, a gwelant fod y mesur hwn yn golygu gwneyd a'r fasnach yr hyn y gwaeddant hwy eu hunain am dano ar hyd y blynyddoedd. Ceir hwy, yn hytrach, yn ei bleidio, tra yn rhyfela eu hegni yn erbyn y trefniant addysgol newydd. Nis gwyddom pa faint o wir sydd yn y sibrwd diweddaraf ynglyn â. Mesur Mr. M'Kenna. Yn y sibrwd hwnw dywedir fod Eglwyswr enwog a blaenIJavç-ai yr Esgob Percival, o'r Henffordd, ydyw?—wedi cychwyn tra- fodaeth gyda'r amcan o ddyfod i gyd- ddealltwriaeth, a gwneyd cyttundeb hanner y ffordd.' Chwanegir fod rhai o'r esgobion (ni ryfeddem os yw esgob Llanelwy yn eu mysg) yn rhanog a'r Eglwyswr enwog yn y drafodaeth* Yr hyn a awgrymir fel seiliau cyttun- deb ydyw, fod y rhoddion a gynnygir gan y mesur i'r ysgolion Eglwysig yn cael eu chwyddo. Heb unrhyw fanyl- ion pellach, yr oil a ddywedwn heddyw ydyw, ein bod yn tynghedu Mr. M'- Kenna i fod ar ei wyliadwriaeth rhag yr ystwythder a nodweddodd Mr. Birrell ynglyn a'i fesur ef, eithr cofio nad oes dim a foddlona raib y bobl hyn ond cael gan y wlad i gynnal eu hysgolion yn gyfangwbl.
CYFARFOD O'R BLAID SENEDDOL…
News
Cite
Share
CYFARFOD O'R BLAID SENEDDOL CYMREIC. Prydllawn dydd Mawrth cynnaliodd y blaid seneddol Ryddfrydig Gymreig gyfar- fod yn Nhy y Cyffredin, o dan lywyddiaeth y cadeirydd, Syr Alfred Thomas. Ar gynnygiad Mr. Ellis W. Davies, yn cael ei gefnogi gan Mr. William Jones, pas- iwyd y penderfyniad canlynol:— 'Ein bod yn diolch yn galonog i Mr. As- quith a'r Llywodraeth am osod i mewn yn y Mesur Trwyddedol ddarpariaethau arben- ig yn dwyn perthynas a Chymru, ac am ba rai yr oedd yr aelodau Cymreig yn unfryd- ol wedi gofyn.' Wedi hyny cyflwynodd Syr Ivor Herbert yr attebiad a roddwyd gan Mr. Haldane i'r ddirprwyaeth Gymreig a ymwelodd ag ef yn ddiweddar mewn perthyaias i drefniad- au newydd y fyddin. Wedi i'r mater gael ei ystyried yn ofalus penderfynwyd yn unfrydol, ar gynnygiad y Mil. Syr Ivor Herbert, yn cael ei gefnogi gan Mr. Clement Edwards:— 'Fod y cyfarfod hwn yn dadgan siomedig- aeth yn ngwyneb attebiad Ysgrifenydd Rhyfel i'r ddirprwyaeth a ymwelodd ag ef; a phenderfyna godi y cwestiwn etto pan gymmerir amcangyfrifon y fyddin o dan ys- tyriaeth.' Galwodd Mr. Herbert Lewis, yr hwn, am lawer o flynyddoedd, sydd wedi cymmeryd dyddordeb dwfn ac ymarferol yn y gwaith pwysig o gofrestru a chyhoeddi cofnodion hanesyddol perthynol i Gymru, sylw y cyf- arfod at y mater. Wedi i'r mater gael ei drafod penderfyn- wyd pennodi is-bwyllgor, er ystyried pa, gwrs a ellid ei gymmeryd er sicrhau gwas- anaeth person cynuuhwys i dynu allan gatalog a chalaniadur o'r ysgrifau hanes- yddol Cymreig, &c., sydd yn gorwedd yu. Swyddfa Gyhoeddus y Cofnodion, ac mewn manau eraill. Hysbyswyd yn swyddogol am waith Mr. David Davies yn eyflwyno mesurau gyda'r amcan o sierhau, mewn modd gorfodol, ddarnau o dir i godi lleoedd o addoliad, ac i estyn yr etholfraint i brydleswyr capeli; a phenderfynwyd fod y blaid seneddol Gym- reig yn rhoddi i'r mesurau hyn eu cefnog- aeth unfrydol. Caed trafodaeth ar berthynas Cymru a, Chyfraith y Man Dyddynod. Annogai Mr. David Davies y pwysig- rwydd o wneyd cynnrychioliadau at Fwrdd Amaethyddiaeth i bennodi dirprwy- aeth yn meddu gwybodaeth o'r ammodau tirol yn Nghymru, ac o'r iaith Gymraeg, i gynnorthwyo yn y gwaith o gario allan ddarpariaethau Cyfraith Man Dyddynod yn y Dywysogaeth. Penderfynwyd fod dirprwyaeth yn gosod golygiadau y blaid Gymreig gyda golwg ar hyn ger bron y llywydd ar ddyddiad buan. Y mae Mr. Clement Edwards, yr hwn, gydag aelodau seneddol eraill, a gymmer- odd y cam y prydnawn Sabbath blaenorol, o dynu y cortyn cymmundebol, er attal tren oedd yn teithio o Hastings i Lundain, yn ol yr hyn a ystyrient hwy, yn gyflymder peryglus, wedi rhoddi rhybudd, dydd Mawrth, i ofyn i Mr. Lloyd George wneyd! ymchwiliad i'r achos, gyda'r amcan o gael allan yr achosion o hongciadau brawychus y tren dros droadau a chroesffyrdd neilldu- ol; ac, hefyd, beth acliosodd yr oediad mewn attal y tren ar ol i'r cortyn gael ei dynu, ac yn neillduol pa un a oedd y brake' mewn trefn briodol i weithio. Tybir y gall ymchwiliad o'r fath daflu goleuni pwysig ar y damweiniau difrifol a gymmerodd Ie yn ddiweddar yn Salisbury, Grantham, a'r 9. Amwythig. .>
[No title]
News
Cite
Share
Y mae siopan trwy y llytliyrdy yn cyn- in ddu yn ei boblogiwydd. T-Tii o'r ffigyr- au yn nhaflen arianol ystorfeydd mawr yn Llundain ydoedd 16,000p. am stamps,' ac yr oedd y rhan fwyaf o'r swm hwn yn myned am barseli.