Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
[No title]
Nid ydyw Syr Alexander Acland- Hood yn ddyn sefydlog ei olygiadau. Mae efe yn awr yn Ddiffyndollwr llawn. Newydd ddyfod yw. Fel prif chwip ei blaid, pa fodd y gall efe wneyd gwas- anaeth dibartiaeth ? Yr ydym yn dyfalu y caiff efe ei hun mewn dyfroedd dyfn- ion gyda'r Rhyddfasnachwyr yn fuan.
[No title]
Tra ar ei mordaith o Birkenhead i Rangoon, yn neheubarth Asia, aeth yn ffrwgwd ddifrifol ar fwrdd y Stafford- shire,' agerlong o Liverpool. Croesi y Bay of Biscay yr oeddis. Yn y ty tanio aeth dau i gweryla, ac yna rhwng eu holl bleidwyr. Hindwaid oedd yr ymladdwyr. Lladdwyd un, a dodwyd ei lofrudd mewn heiyrn. Claddwycl y llcfruddiedig yn 'y fynwent fawr.'
[No title]
Dadleuir yn boeth yn y dyddiau hyn a. ydyw y Llywocfraeth yn penderfynu I myned yn mlaen gyda'r brifysgol new- ydd i'r Iwerddon. Dywed y Prif Ysgrif- enydd ei bod hi. Dywed y Times,' ac I eraill, ei bod am esgus i'w droi o'r neill- du. Mr. Birrell, wrth gwrs, sydd yn gwybod oreu.
[No title]
Er's mwy na mis y mae holl lafur- wyr amaethyddol Argenta, yn nhalaeth Ferrara, yn yr Eidal, wedi bod ar streic. Chwaneg o gyflog a llai o oriau yw y cri. Mor benderfynol ydynt fel y mae y mamau wedi anfon eu babanod allan i'w magu. Nid oes dim llai na dau gant ar bymtheg yn ngofal 'nyrsus.' Mae y merched, yn gystal a'r dynion, yn llawn o'r ysbryd sosialaidd. Ofnir y bydd y rhyfel yn un faith.
[No title]
Dydd LIun aeth brenin yr Eidal am dro i Athen. Derbyniodd brenin Groeg yn y Piraeus, pedair milldir o Athen, yn groesawus. Ac ar hyd y ffordd yr oedd croesaw y bobl yn galonog. Pe dig- wyddasai fod gelynion yn agos yr oedd vn.) doraeth o filwyr wrth law i'w ham- ddiffyn. Yr unig waith gafodd y gwyr arfog, wrth gwrs, oedd bod yn osgordd anrhydedd i'r ddau benadur.
PRAWF THAW.
PRAWF THAW. Yn mhrawf Thaw, yr hwn sydd wedi cael ei wrandaw yn New York er's amryw wythnos- au, yr hwn a gyhuddid o saethu Stanford White, symiodd y barnwr y tystiolaethau i fyny ddydd Mercher, ac ymneillduodd y rheithwyr i ystyried eu dyfarniad am 5.17 prydnawn y diwrnod hwnw. Yn ol gwefreb dderbyniwyd oddi wrth oheb- ydd y Central News,' yn New York, dydd Iau, nid oedd y rheithwyr wedi dyfod i un- rhyw derfyniad, a chawsant eu cloi i fyny am y noson. Credir eu bod yn gyfartal ar bob ochr.
TELERAU Y 'FANER.'
TELERAU Y 'FANER.' Pars argraphiad dydd Sadwrn ydyw Ig. yr un ond ei phris am chwarter, yn rhad drwy y post, ydyw Is. 8g., ond talu yn mlaen, neu 2s. os na wneir hyny. Anfonir 2 gopi drwy y post am 2s. 9c. y chwarter, ond talu yn mlaen, neu 3s. os na wueir hyny. Hefyd, anfonir 4, 6, neu unrhyw gvnnifer, yn ddi-draul drwy y post gan y Cyhoeddwyr yn ol Ig. yr un. 1PRis argraphiad dydd Mercher ydyw 2g, Ei phris am chwarter, yn rhad drwy'r post, oscymmerir 2, neu unrhyw nifer mwy dan yr un amlen, yw yn ol 2s. 2g. yr un, ond talu yn mlaen neu 2s. 6c. os na wneir hyny. Ei phris wedi ei sampio ydyw 2! neu 2s. 9c. y chwarter, ond talu talu yn mlaen; a 3a. os na wneir hyny. Y mae y chwarteri yn tcrfynu ddiwedd Mawrth, Mehefin. Medi, a Rhagfyr. Yn rnhob amgylchiad, anfonir hi yn mlaen hyd nes y ceir rhybadd i attal, UNOL DALAETHAU YR AMERICA —Anfonir y ddwy FANER am y prisiau canlynol yn ddi-draul i'r Unol Dal- aethau :-BANER dydd Morcher yn ol 3s. 3e. y chwarter a BANER dydd Sadwrn yn 2s. 2g. y chwarter :-ond yn mhob amgylchiad y mae yn rhaid talu yn mlaen, ac attelir hi pan y bydd yr arian wedi eu treulio. Gellir anfon trwy ddrafft ar fange, neu ar rhyw dy masnachol parchus diogel arall yn Lloegr a gwell hyn na thalu trwy bapyrau dollars yr Unol Dalaethau, gan fod eu gwerth hwy yn gyfnewidiol yu y wlad hon. Gwyr pawb, hefyd, pa bryd y terfyna. BARDDONIAETH.—Y mae ami un o'r beirdd, wrth anfon y oyfansoddiudau i ni, yn pwyso arnom eu eyhoeddi I yr wythnos nesaf.' Dymunwn hysbysu y cyfryw fod yn ammhossibl i ni gyflawni eu cais ond fel hyabysiadau. Os bydd rhyw rai yn dymuno hyny wrth anfon llinellau ar farwolaethau, priodasau, neu enedigaethau, &c., dealler y bydd yn augenrheidiol iddynt anfon 3c. am bob llinell agynnwysay cyfansoddiadau. Cantfelly ymddangos 'yn ein nesaf;' ond ni byddwn yn gyfrifol am eu rhagoroldeb fel cyfausoddiadau. Os na wneir hyn, bydd yn angen- rheidiol i ni anfon y cyfansoddiadar at olygydd y Fardd. oniaeth; a chymmer felly rai wythnosau cyn ymddangos, yn ol swm y Farddoniaeth fydd mewn llaw.
TELERAU AM HYSBYSIADAU.
TELERAU AM HYSBYSIADAU. Y PRIS am Hysbysindau Masnachol, Ysgolion, Eisteddfodan, Cyfarfodydd Cyhoeodus, Llyfrau, &c., fydd yn ol 3s. y fod- fedd-gan fesur i lawr y golofn. Am Hysbysiadau o 'Yn Bisiett,'&c., yn cynnwyg 18 o Eiriau neu lai, codir 6c.; ac yn ol Ie. am bob tri gair dros hyny oe telir yn mlaeiillaw; nei-i 4c. yilinell, os no wneir hyny.'
MARWOLAETH MR. T THOMAS, DIWEDOAR…
MARWOLAETH MR. T THOMAS, DIWEDOAR 0 DY'NYWERN. AR ol cystudd byr, ond blin a phoenns iawn, bu farw y boneddwr urddasol a'r Cristion didwyll a enwir uchod, yn Bryngafel, preswylfod ei anwyl ferch a'i fab-yn-nghyfraith, Mr a Mr-. J. Grawys Jones, Ebenezer, Aberdar. Cym- merodd yr amgylchiad pruddaiddle nos Wener, Ebrill 5ed Yr oedd ei unigla'i anwyl fab, Dr. T. Thomas, Caerphili, a I Dr, Banks-dau feddyg enwog-wedi bod ar eu goreu yn brwydro i'r dolur, a'i anwyl fab-yn nghyfraith t't ferch wedi bod ar eu goreu yn gweini iddo ac trno. Ond nid oedd bwrw a-fau i fod, a hunodd pn yr lesu yr adeg a nodwyd. Claddwyd el if dydd Mawrth, yn mynwent rnwog y Sroes Wen—lie anwyl ganddo, a lie y treullodd does i grefydda a gwasanaethu ei Dduw.
[No title]
Y mae Japan yn gwneyd 150,000,000 o alwyni saki, neu gwrw reis, yn fiynyddol.
AIL DDECHREU.
AIL DDECHREU. PRYDNAWN dydd Llun daeth y CyS'redin- iaid yn ol at eu gwaith. Dechreuwyd ail gyfnod y senedd-dymmor. Dyma y tym- mor i roddi prawf ar ein seneddwyr. Ar y gwaith y gellir ei wneyd rhwng y Pase a'r Sulgwyn, yn wastad, y dibyna tynged I deddfwriaeth yr holl flwyddyn. 0 herwydd i'r Pase ddigwydd mor gynnar eleni ychvdig waith oedd wedi ei wneyd cyn ymwabanu dros y gwyliau. A'r wythnos hon hefyd a I dreuliwyd ar waith tebyg i'r hyn y buwyd arno cyn y Pasc. Bu yn rhaid myned at yr amcangyfrifon, a rhoddi amser i'r Gweinid- og Rhyfel gyda'i gynlluniau newyddion yntau. Ond, yr wythnos nesaf, ceir cym- meryd twysgod o'r mesurau y soniai araeth I y brenin am danynt o dan ystyriaeth. Gallwn wneyd ein meddyliau i fyny y bydd yn ammhossibl myned trwy yr oil o'r add- ewidion brenhinol. Hyny a'i gwna yn ang- enrheidiol i edrych yn mlaen at eisteddiad chwanegol yn yr hydref. Ac yr ydvs i wneyd ein meddyliau i fyny o un peth arall, nid amgen, pan y cymmerir y penderfyniad- au ynglyn a Thy yr Arglwyddi mewn llaw, y bydd trawsffurfiad yn cael ei wneyd ar y sefyllfa boliticaidd. Nis gall lai nag arwain i ymdrechfa. A'r ymdrechfa hono a all ar wain i etholiad cyffredinol yn mhen blwydd- yn, dwy, neu dair. Ni byddai yn syn gweled trefniadau y Llywodraeth yn cael eu cymmedroli, os nad eu newid. Gall mai diwedd yr ymdreebfa fydd gosod y sefyllfa wleidyddol mewn cyflwr tra gwahanol i'r hyn ydyw heddyw. Tywyllwch sydd yn gordoi y dyfodol. Ar yr un pryd, yr ydys yn teimlo yn lied sicr o ddau beth a dim ond dau. Un ydyw, na fydd yn bossibl dinystrio hen drefniant gwleidyddol ag y mae dylati- wad canrifnedd o waed a chyfoeth yn atteg iddo a gwneyd hyny mewn noswaith neu ddwy, ar ol gorphen pob gwaith anhebgor arall. Y peth arall ydyw y bydd yn rhaid i'r blaid a ymgymmera a'r gorchwyl hwn ddal ato yn lew a di-ildio hyd oni choronir ei hegnion a llwyddiant, neu, gyflawni hun- anladdiad politicaidd. 0 herwydd hyn ym- ddengys llawer o'r dadleu sydd yn cael ei gario yn mlaen ar y pwngc yn y dyddiau hyn yn hollol ammherthynasol. Y mae gan Senedd y Diwygiad swm enfawr o ddiffyg mewn deddfwriaeth i wneyd i fyny am dano. Yn mron yn mhob cangen o'n gwas- anaeth gwladol y mae pethau wedi cael eu goddef i redeg yn wyIIt ar hyd y deng mlynedd diweddaf ? Am dymmor hirfaith buwyd yn cymmeryd y rhyfel yn Ne yr Affrig yn esgus dros beidio ymyryd a deddf- wriaeth gartrefol. Yr esgus ydoedd: 'Nid dyma yr adeg. Rhaid gwneyd heddwch yn gyntaf.' At hyn rhaid chwanegu v ffaith fod y Tor/aid, pan yn ymyryd a deddfwr- iaeth gartrefol, wedi I troi yr awrlais yn ei ola'r gwaith anhebgor sydd gan y Rhydd- frydwyr i'w wneyd ydyw uniawnu y camwri a wnaed, a gosod cyfiawnder i fyny rhwng dosbarth a dosbarth. Pan fuddugoliaethodd ysbryd gormes fwy na deng mlynedd yn ol, yn y fan, mewn rhyfel anghyfiawn yn Aff- rica, ac mewn deddfu i gyfeillion gartref, dechreuodd ddwyn ei fifrwythau priodol ei hun. Ond, diolch i Ragluniaeth Ddwyfol, y mae hyn oil wedi myned heibio. v Yr ysbryd cryfaf yn Mhrydain heddyw ydyw ysbryd diwygiad.- Rhoddodd y wladwriaeth fwyafrif aruthrol i'r Llywodr- aeth Ryddfrydig o bwrpas er mwyn iddi hi gyflymu yn mlaen arhydllwybr diwygiadau cenedlaethol. Yr ydys yn gwaeddi am ddi- wygio ein deddfau etholiadol. Rhaid i ni gael uniawnu anghyfiawnderau addysg. Nyni yn Nghymru nis gallwn ddioddef llawer yn hwy heb ddadgyssylltu a dadwadd- oli yr Estrones a hyfryd ydyw edrych ar Loegr yn prysur aeddfedu am yr un fendith. Am reolaeth boblogaidd ary fasnach feddwol yr ydys, hefyd, yn dyheu. A'n. deddfau tirol anwastad, treisiol, a gormesol, nis gellir eu goddef nemawr yn hwy. A phan y cofiom ettomaier mwyn y pethau hyn, a'u cyffelyb, yr ydys wedi anfon Syr Henry Campbell Bannerman a'i' griw i weithio y llong,' y mae ein disgwyliadau yn cryfhau, a bydd chwerwder ein siomedigaeth yn gyf- attebol os na sylweddolir ein gobeithion aiddgar. Cydnebydd pawb ystyrbwyll fod hyn yn golygu gwaith anferth ei faintioli a'i anhawsder. A pha fodd y gellir dyfod i ben ag ef dan yr ammodau presennol 1 Rhaid anfon pob un o'r diwygiadau a nodwyd i Dy yr Arglwyddi. 0 dan ein trefniadau pres- ennol, bydd gan hwnw hawl a rhyddid i gyf- lawni ei ewyllys ei hun arnynt oil. A da y gwyddis pa beth a pha fath ydyw ei ddy- hewyd ef. Gan hyny, pa beth y dylid ei wneyd yn gyntaf oil! Pa beth, hefyd ? Ymddengys i ni yn oleu eglur mai torfynyglu awdurdod y Ty Uchaf i ddinystrio a darnio gwaith cynnrychiolwyr y wlad.
. Y MERCHED YN EU HAFIAETH.
Y MERCHED YN EU HAFIAETH. YN un o baragraphau Digwyddiadau yr Wythnos,' ynjy rhifyn hwn, tynir cym- mhariaeth genym rhwng y merched sydd yn ein plith ni yn ymystwyrian cymmaillt- hyd at fyned i garcbar- am yr etholfraint seneddol, a'u chwiorydd ffodus yn nhywys- ogaeth fechan Ffinland, yn ngogleddbarth Ewrop, y rhai ydynt yn ei llawn fwynhau, a chryn lawer yn chwaneg. A rhyfedd mor ebrwydd y daeth cyfnewidiad mor fawr oddi amgylch yno! Prin y mae dwy tlynedd wedi myned heibio er pan oeddym yn edrych ar ffinland megys ysbryd yn ngharchar yn ymofidio am yr iawnderau a gollasai, ac yn griddfan o dan garnau haiarnaidd gormes; a byd cyfan, o'r tu allan i gylch biwrocrat- iaeth Rwssia, yn cydymdeimloahi. Heddyw y mae hi ar flaen y cenedloedd, ac yn esiampl i'r oil o honynt. Yn nghanol anobaith hi a gododd ar ei tbraed, ac a orchfygodd. Ynddi hi y ceir yr unig senedd "yn yr holl fyd yn yr hon y mae merched yn cael eistedd fel aelodau. Mae canlyniadau yr etholiad cyffredinol a fu yno o fewn y dyddiau di- weddaf wedi eu cyhoeddi; a'r ffaith amlycaf a ddynodir ynddynt ydyw fod y merched, yn y cyfangorph o honynt, wedi pleidleisio ar yr ochr Ryddfrydig. Gwyddis am liaws o Ryddfrydwyr yn ein plith ni nad oes gan- ddynt ond un wrthddadl yn unig yn erbyn estyn yr etholfraint., i ferched ofn m::J.i gyda'r Toriaid y rhoddent eu p!eidlais pe caent hi ? Ond, dyna, beth os mai ar yr un ochr a'u chwiorydd yn y wlad ogleddol y ceid hwy 1 Yr etholiad cyntaf yn Ewrop dan hawl- fraint y merched a droes yn fuddugoliaeth ogoneddus i achos diwygiad a rhyddid, a democratiaeth gymdeithasol. Y demo- cratiaid ydynt ar flaen y rhestr gyda phedwar ugain allan o ddau cant o aelodau a'r chwech ugain gweddill yn cael eu gwneyd i fyny o wahanol bleidiau anghydry wiol. Yn hawdd y gellir rhoddi esboniad ar eu gor- uchafiaeth. Y blaid a safai yn gryf dros ddiwygiad ac iawnder, heb wneyd ammod na chyttundeb a phlaid gormes, yn naturiol, oedd yn appelio at y rhyw fenywaidd yn arbenig, Mae yn y senedd newydd bedair ar bymtheg o ferched yn eistedd fel aelodau etholedig; a naw o honynt yn perthyn i'r blaid Sosialaidd. Ac nid mewn estyn yr etholfraint i ferched ac agor dorau y senedd- dy iddynt yn unig y mae Ffinland anghys- bell wedi achub y blaen ar y cyfanfyd. Trefniant cynnrychiolaeth yn ol cyfartaledd y boblogaeth sydd mewn grym yno, hefyd. Penderfynodd Ffinland gychwyn ar ei gyrfa seneddol o dan y trefniant mwyaf per-ieith- iediif y gallai hi feddwl am dano. A pha beth cyfiawnach a theg na gosod cyfrifoldeb pleidlais ar bob ysgwydd abl i'w gario; yn feibion a merched '< Y cynllun ag y mae hi wedi ei fabwysiadu ydoedd yr un ag y mae pob meddyliwr democrataidd o John Stuart Mill hyd Arglwydd Courtney wedi bod yn dadleu drosto yn y wlad hon. Dadleuant yn ddiarbed, ac yn ddiwrthdro, mai o dan gyf- ryw drefniant a hwn yn unig y gellir gwneyd cyfiawder cymmesur i bawb. Gan ganlyniadau yr etholiadau diweddar yn yr Almaen dysgir gwersi na all y ddemo- cratiaeth—gwersn gwlad fforddio can eu llygaid arnynt. Llwyddodd yr Wrthblaid i gael mwyafrif pendant yn y pleidleisiau trwy y -wlad ond, er hyny, mae hi yn y lleiafrif mawr yn ol cyfrifaelodau y Senedd. Gyda dros dair miliwn o bleidleisiau nid oes gan y Sosiaiiaid hanner nifer yr aelodau a ennillodd y Blaid Glerigol gyda dim ond dwy filiwn o bleidleisiau. Yr oedd anwas- tadrwydd ac anghywirdeb y balot cyntaf yn amlwg ddigon i bawb. Ond, eu trymhau a'u dyfnhau a wnaeth yr ail falot. Mor wahauol y mae y Ffiniaid syml wedi trefnu eu hamgylchiadau Trwy fabwysiadu eu cynllun rhagorol y maent wedi gallu sicrhau cynnrychiolaeth deg i bob barn ac opiniwn gwleidyddol o bwys trwy yr oil o'u tywysog- aeth. Yr unig wrthddadl ag y gellir yn rhesymol ei chodi yn erbyn eu trefniant yd- yw, ei fod yn un anhawdd a dyrus, neu gym- mhlethedig, i'w weithio allan. Ond, credwn mai heb ei feistroli yn drwyadl y maent hwy etto. Rhaid iddynt ddyfeisio rhyw gynllun hwylusach i gyfrif y pleidleisiau. Y tro hwn yr oedd yn rhaid iddynt dreulio pyth. efnos o amser i wneyd eu cyfriion i fyny. Ar yr un pryd, rhaid dyweyd nad ydyw yr etholwr yn cael ei ofidio gan fanylion rhif- yddiaeth. Y cwbl sydd ganddo i'w wneyd ydyw 1 marcio ei bapur.' A rhywbeth yn debyg yw dull y pleidleisio yn Belgium a'r Yswissdir. Yn awr, os yw y cenedloedd hyn yn abl i feistroli y pwngc, dylem ninnau fedru gwneyd. Ac am degweh y dull nis gall fod ammheuaeth.
Y FYDDIN UNW AITH E'rTO.
Y FYDDIN UNW AITH E'rTO. Y PRIF gynnygiad ger bron Ty y Cyffredin prydnawn dydd Mawrth ydoedd ail ddar- lleuiad Mesur y Gweinidog Rhyfel ar y Fyddki; a chynnygiodd Mr. Wyndham eu bod yn ei anghymmeradwyo. Gwnaeth yr oil o fewn ei allu i ddryllio y cynllun new- ydd, ond yn aflwyddiannus. Cryfach na'r rhuthr ydoedd yr amdditfyniad gan Syr Edward Grey, y Gweinidog Tramor. Gyda Haw, dyma y waith gyntaf i Syr Edward wneyd araeth o'r tuallan i'w gylch neillduol ei hun. Mae yn debyg yr edrycha pawb ar Arglwydd Roberts fel awdurdod uwch ar bob peth a berthyn i'r fihvriaeth na Mr. George Wyndham, g\'vr na welodd ryfel o ddifrif yn ei fywyd erioad. Nid oes ond ychydig ddyddiau er pan oedd ei arglwydd- iaeth yn rhoddi ei fendith ar y trefniant newydd fel y goreu oedd etto wedi ei dynu allan. Gwir nad ydyw Arglwydd Roberts yn credu yn llwyddiant y cynllun; ond nid yw yn credu hyny o herwydd diffygion y trefniant. Creda na bydd yn llwyddiannus am nad oes ganddo ef tfydd yn yr egwyddor wirfoddol ynglyn a'r fyddin. Gorfodi pawb, o fewn dau oedrau pennodol, i fyned dan wasanaeth eu gwlad' ydyw cynllun yr hen filwr hwn. Ni chreda efe y gellir cael digon o rai i ymrestru yn wirfoddol; ond, os argyhoeddir ef y bydd yn bossibl cael y cyf- lenwad angenrheidiol o ddynion, heb orfod- aeth, gallem dybio fod cynllun Mr. Haldane yn gwbl wrth ei fodd ef. Ond, hyd yn oed pe ceid y dynion, y mae y cynllun ei hun yn Hawn diffygion yn marn Mr. Wyndham, ar yr un pryd, canmola rai pethau ynddo. Gelyn y cynllun ydyw Syr Charles Dilke; ond, am resymau tra gwahanol i'r ymfflam ychydd Tonaidd. Ei wrthddadl benaf ef ydyw fod Mr. Haldane yn amcanu at wneyd gormod o lawer. Y safle a gymmerir ganddo ef yw hwn Os yw ein llynges yn ddigon- ol i'n hamddiffyn rhag ymosodiadau o'r tu allan, yn enw pob rheswm pa angen sydd am i ni i fyned i'r draul anferth o gadw byddin o 167,000 o wyr yn barod i'w hanfon allan i faes y rhyfel ar foment o rybudd? Ac, hefyd, cadw byddin gref fel gwarchodlu yn y wlad hon tra y bo y llall oddi cartref ? Dyma y ddau eithafion ar y cwestiwn. M n Syr Charles Dilke gynnildeb am fod uwch- afiaeth y m6r yn eiddo i ni. Myn Mr. Wyndham fyned yn mlaen i bob gwastraff heb roddi moment o ystyriaeth i nerth y llynges. Y Weinyddiaeth, o'i thu hi, ni fyn wrandaw ar y naill ochr na'r llall. Ymddir- ieda hi yn y llynges i amddiHyn ein glanau, a rhag pob goresgyniad oddi allan, gan ym- synio os na all hi wneyd hyny, nad yw hi yn werth ei chadw, a bod dyddiau mawredd Prydain, fel y dywedodd Syr Edward Grey, wedi eu rhifo. Ac ar y llaw arall, creda y Llywodraeth mewn cael byddin reolaidd gref yn barod at wasanaeth tramor yn ogystal, ynghyd a byddin warchodol effeithiol gar- tref, i gymmeryd lie y fyddin reolaidd pan wedi ei gyru oddi cartref. Haera Mr. Wyndham nad oes dim yn y cynllun i osod y fyddin gartrefol yn lie y fyddin dramor. Addefai y Gweinidog Tramor nad oes ynddo ddim i alluogi ein gwirfoddolwyr i ymrestru I yn y ryddin dramor. Ond, nis gellir cario rhyfel fawr yn mlaen mewn gwlad dramor I heb gymmhortb y wlad gartref. Y gwahaniaeth mawr rhwng y Llywodr- aeth a'r Blaid Doriaidd ar y pwngc hwn ydyw, fod y flaenoaf yn barod i ymddiried yn ngwladgarwch y genedi, tra nad ydyw y Tor/aid yn barod i wneyd hyny. Angen y wlad, medd Mr. Wyndham, ydyw nerthoedd i helpu y naill y llall; a dywed nad yw y cynllun newydd yn darparu dim o'r fath. Ond, a ydyw efe yn synio yn gywi" ? Onid ydyw y trefniant yn darparu amgenach nerth i'w droi allan i faes tramor na dim afu genym erioed o'r blaen 1 Onid ydyw yn darparu ar gyfer cadw y nerth hwn i fyny yn ei lawn rymusder trwy drefnu i wneyd catrodau arbenig parod i ymuno a'r fydllin reolaidd 7 Ac onid ydyw yn darparu bydd- in gartrefol nerthol i gymmeryd lie y fyddin reolaidd pan wedi ei throi allan ? Yr hyn s.vdd gan v blaenor Toriaidd ei eisieu ydyw, nid byddin yn gyfansoddedig o linell gyntaf ac ail linell, fel ag a gynllunir gan Mr. Haldane, ond, byddin ar yr hen linellau- y milwyr rheolaidd, y cartreflu, a'r gwirfoddol- wyr. Ond, dyna yr hyn y methodd y lilyw- odraeth Doriaidd a'i ddarparu, er ei holl ym- drechion. Wedi mefchu yn hyny, ceir Mr. Wyndham yn awr yn dechreu llefain am or- fodogaeth, a thaeru na cheir cynllun perffaith hebddo Ond, dywedodd Syr Edward Grey j nad yw y cenedloedd sydd yn gweithio o | dan orfodogaeth wedi llwyddo i greu byddin [ fawr os yn ymgymmeryd ag ymrwymiadau j ymladd dros y mor. Dywedodd yrUchgad- ben Seely fod Ffraingc, er dan orfodogaeth, yn cael mwy o drafferth i anfon pum mil o w\r allan nag yr ydym ni yn ei gael i anfon hanner can mil. Dylai hyn fod yn ddigon o atteb i'r rhai a fynant ein gosod dan orfod dysgu trin arfau rhyfel.
IY GWBTHRVFf?L VN NOHVMRT.I…
Y GWBTHRVFf?L VN NOHVMRT. PWYLLGOR. RHYDDFRYDWYR MEIRIONYDD A'R CYXNALIWYD cyfarfod arbenig pwysig o Bwyllgor Gwrthryfel Cymru yn yr Amwyth- ig, prydnawn dydd Llun, er cymmeryd o dan ystyriaeth y sefyllfa bresennol yn sir Feirion- ydd, a dyledswydd Rhyddfrydwyr ac Ym- neillduwyr Cymru yn ngwyneb methiant y Llywodraeth i symmud y cwynion a ddygid ¡ yn erbyn Cyfraith Addysg Mr. Balfour. Llywyddid gan Mr. Haydn Jones, yn absen- noldeb Mr. Lloyd George. Yr oedd yn bres- j ennol:—Mr. Osmond Williams, A.s.. Mr. ¡ Herbert Roberts, A.s., y Mri. Richard Jones, sir Drefaldwyn W. Evans, Livei pool; S. N. Jones, sir Drefaldwyn; E. Thomas, Caer- dydd D. P. Williams, a Beriah Evans, sir Gaernarfon; Evan Jones, Bala; W. P. Evans, R. O. Davies, W. Owen, a'r Parch J. Owen, Ffestiniog; Dr. John Jones a Guthrie Jones, Dolgellau Ffoulkes Jones, Corwen; ac E. R. Davies, ysgrifenydd. i JJarilenodd yr ysgrifenydd lythyr a dder- byniodd oddi wrth Mr. R. Guthrie Jones, yn yr hwn yr eglurai sefyllfa bresennol pwyllgor y gwrthryfel ar addysg yn sir Feirionydd. Mr. Osmond Williams, A.S., a ddywedodd fod y ddirprwyaeth o sir Feirionydd yn I gwneyd appei at y pwyllgor am ystyriaeth It haelfrydig. Adgofiodd y pwyllgor fod eu trysorfi yn cynnwys arian gasglwyd ar y* dechreu i gefnogi y cynllun o wrthryfel yn Nghymru, fel y ffurfiwyd ef, i ddechreu, gan y Gynnadledd Genedlaethol yn Nghaerdydd ac wedi hyny, yn fwy manwl, yn y gynnadl- edd fawr yn y Bala, pan y gofynid i Ym- neillduwyr sir Feirionydd dynu eu plant o ysgolion Eglwysig neillduol er cefnogi amcan- ion y gwrthryfel. Yr oedd hyn wedi cael ei wneyd, ar ysgolion wrth raid a sefydlwyd 'I yr adeg hono wedi cael eu cynnal o drysorfa y pwyllgor; ond hysbyswyd hwy yn awr, er eu mawr syndod, na chawsai y cynnorthwy hwn ei barbau yn mhellach. Yr oeddynt hwy yn sir Feirionydd yn dadleu eu bod, o I ddechreu yr ymgyrch bresennol, wedi cario allan yn ffyddlawn gyfarwyddiadau cynnadl- edd y Bala a'r pwyllgor hwnw (cym.). Yr oedd yr arian a gynnwysai drysorfa y pwyll- gor hwnw wedi cael eu tanysgrifio er cefnogi amcanion y gwrthryfel, ac nid i ddim amcan arall. Yr oedd y cais presennol o sir Feirion- ydd yn hollol unol ft rhaglen y gwrthryfel; a byddai y sefyllfa yn mha un y gosodid hwy, os gwrthodai y pwyllgor y cais hwn, yn un hynod o annymunol. Nid oedd efe yn meddwl y dymunai unrhyw aelod or pwvllgor hwnw i blant Ymneillduwyr a dynwyd unwaith o ysgolion yr Eglwys gael eu gorfodi i fyned i'r ysgolionhynyetto(cym.). Byddai y sefyllfa yn un ddiraddiol. Wrth wneyd hyny bydd- ent yn gweithredu yn ffol atynt eu liunain yn gystal ag at arweinydd y gwrthryfel, Llywydd Bwrdd Masnach (cym.). Mr. S. N. Jones, y trysorydd, a roddodd hanes byr o'r ymdrafodaeth a gymmerodd le rhwng y Pwyllgor Qanolog ac arweinwyr sir Feirionydd. C*ynai fod ceisiadau wedi cael eu gwneyd ato ef o sir Feirionydd am arian y tu allan i gylch y gwrthryfel, hyd yn oed arian tuag at ysgolion nos, y rhai nad oedd a wnelont o gwbl &'r gwrthryfel. Mr. Haydn Jones, gan gyfryngu, a ddywed- odd fod yr arian y cyfeiriodd y trysorydd atynt yn dwyn cyssylltiad uniongyrchol fig ysgolion y gwrthryfel ac amcanion neillduol y pwyllgor hwnw. Wedi hyny rhoddodd Mr. Herbert Roberts, A.s., hanes manwl o weithrediadau y pwyll- gor, mewn cyssylltiad ft r holl symmudiad yn sir Feirionydd. Cadarnhaodd Mr. Haydn Jones ymynegiad wnaed gan Mr. Roberts fel mynegiad cywir o brit ffeithiau yr achos, a thybiai y gallai y pwytlgor yn awr wrandaw beth oedd gan aelodau sir Feirionydd i'w ddyweyd ar y mater. Uyn gwneyd hyn dadganodd amryw o'r siaradwyr eu gofid fod Mr. Herbert Roberts wedi cael ei gyhuddo oddi ar yr esgynlawr, a thrwy y wasg, o weithred o dra awdurdod mewn cyssylltiad A'r mater hwn. Dywedwyd yn bendant, yn nghanol cymmerad wyaeth, nad oedd Mr. Herbert Roberts wedi cymmer- yd unrhyw gam yn y mater, oddi eithr mewn cydymgynghoriad ac mewn cyssylltiad ftr pwyllgor. Mr. Haydn Jones a ddywedodd nad oedd a wnelo ef o gwbl a'r adroddiadau yn y newydd- wnelo ef o gwbl a'r adroddiadau yn y newydd- iaduron y cyfeiriwyd atynt. Yr oedd efe wedi dyweyd bob amser y dylid ymwneyd mewn modd haelfrydig ft hawliau sir Feir- ionydd (cym.). Yr oedd y driniaeth hono yn hanfodol i lwyddiant unrhyw symmudiad dyfodol o nod wed d gyffelyb a allai ei gwneyd yn angenrheidiol i appelio at y genedl. Rhoddodd y ffigyrau i ddangos y nifer o blant i Ymneillduwyr a dynwyd o ysgolion yr Eglwys yn sir Feirionydd ar gais y pwyllgor hwnw; a dangosodd yr aberthau oeddynt wedi cael eu gwneyd gan rieni Ymneillduol wrth gario allan ddymuniadau y pwyllgor hwnw. Pe buasai y bobl dlodion hyny yn deall pan y gelwid arnynt i dynu eu plant o ysgolion yr Eglwys y buasent, mewn canlyn- iad i hyny, yn gosod arnynt eu hunain dreul- iau trymion mewn cyssylltiad fig adeiladau i'r ysgolion, yr oedd efe yn ammheu a. fuasent hwy yn cydsynio i dynu eu plant o'r ysgol i ddechreu. Y Parch. John Owrn, Ffestiniog, ar ran Pwyllgor sir Feiriony.M, a gadarnhaodd yr hyn a ddywedodd Mr. Haydn Jones. Mr. William Owen, cadeirydd Cynghor Dinesig Ffestiniog a Chymdeithas Ryddfryd- ig sir Feirionydd, a gefnogodd, mewn modd gwresog, yr appel o sir Feirionydd. Mr. S. N. Jones a ddywedodd, tra yn awyddus i wneyd Ilawn gyfiawnder ft sir Feir- ionydd, nad oedd sir Feirionydd ar ei phen ei hun gyda golwg ar gario ysbryd a llythyren polisi y gwrthryfel. Yr oedd sir Fynwy a sir Forganwg wedi cario allan lawn weithrediad- au y pwyllgor; a gallai ddyweyd, heb ofni i neb ei wrth-ddyweyd, nad oedd un geiniog wedi myned or trethi i gynnal ysgolion Eg- lwysig yn y siroedd hyny (cym.). Dadleuai, yn mhellach, nad oedd yn un rhan o amcan wreiddiol y gwrthryfel i adeiladu ysgolion parhaus ar draul trysorfa y mudiad hwnw. Mr. E. R. Davies a gyfeiriodd nad oedd yna un cais am swm neillduol o flaen y pwyll- gor. 1- Wedi cryn lawer o ddadleu penderfynwyd yn unfrydol, ar gynnygiad Mr. D. P. Williams, drosglwyddo y cwestiwn i bwyllgor bychan, cynnwysedig o'r Mri. Haydn Jones, Herbert Roberts, S. N. Jones, D. P. Williams, Henry Jones (Liverpool), Osmond Williams, W, Owen (Ffestiniog), a John Parry (Bala). SEFYLLFA Y DRYSORFA. Caed cryn lawer o ddadleu gyda golwg ar y symiau oeddynt mewn llaw gan drysoryddion ileol neu enwadol. Mr. William Evans, Liverpool, trysorydd Trysorfa Cymdeithas y Methodistiaid Calfin- aidd, a ddywedodd fod tua 1,000/). mewn lIa w or swm danysgrifiwyd tuag at drysorfa y gwrthryfel, ac oedd heb ei drosglwyddo dros- odd i'r drysorfa gyffredinol. Mr. S. N. Jones a ddywedodd ei fod yn gwneyd amcangyfrif y gallai fod 800p. arall yn llaw trysoryddion lleol eraill. Yr arian dalwyd hyd yma i'r drysorfa ganolog ydoedd 8,367/5. Talwyd 2,400/?.'or swm hwn tuag at y symmudiad yn sir Feiiionydd, ac yr oedd 50Op. arall wedi cael eu pleidleisio, ond heb eu talu; talwyd 358p, ar ysgolion gwrthryfel yn sir Drefaldwyn, ac yr oedd 1,059p. wedi cael eu talu mewn costau gweinyddiadol, yn cynnwys argraphu, cost cyfarfodydd, cyflog- au, &c. Yr oedd 4,549p. yn awr mewn llaw. Nid oedd hyn yn cymmeryd i mewn y symiau yn llaw trysoryddion enwadol a Ileol. Yr oedd yr Henadur Edward Thomas yn meddwl y dylai cyflogau athrawon yn yr ys- golion rhaid gael eu talu yn ddioed, heb aros ir Is-bwyllgor i gyfarfod. Cyttunwyd ar hyny. GWYLIO Y LLYWODRAETH. Mr. D. P. Williams a ddywedodd nad oedd y pwyllgor, mewn un modd, wedi gorphen ei waith etto, ac y dylai tfylio yn fanwl y drys- orfa oedd ganddo at ei wasanaeth. Yr oedd Cymru yn awr, mewn gwirionedd, yn sefyll yn yr un man ag yr oedd pan y dechreuodd y gwrthryfel. Yr oedd efe yn meddwl y dylid gwasgu ar y Llywodraeth ynglf n ft'r cwestiwn o addysg. Yna cynnygiodd fod is bwyllgor yn cael ei gyfarwyddo i ystyried agwedd y cwestiwn, ac i gyflwyno adroddiad i gyfarfod nesaf y pwyllgor canolog mewn perthynas i r cam a ellid ei gymmeryd i r amcan hwn, Cyttunwyd ar hyn yn unfrydol.
[No title]
y Parchedig Thomas Spurgeon, i gym- meryd seibiant, ac adnewyddu ei nerth. Ar derfyn y cyfnod hwn ail ymeifl yn ei ddyledswyddau, os gall. Os na all, efe a ymddiswydda. Yn awr y mae y ddwy ochr yn deall eu gilydd.