Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

LLYTHYR ODDJ WRTH MR. EVAN…

LIVERPOOL.

Y CYMDEITHASFAOEDD CYNTAF…

ABERHOSAN.

LLANBRYNMAIR.

CONWY.

j BWRDO CANOLOC CYMRU. j

Adroddiadau Preifat. [

Adroddiad y Prif Arolygydd.…

Hawiiau Cymry.

Ysgolheigion Cymreig a'r Cwasanaeth…

News
Cite
Share

Ysgolheigion Cymreig a'r Cwasanaeth Cwladol. Y cadeirydd, wrth sylwi ar adroddiad yr is-bwyllgor, o berthynas i'r angen am wneyd Bwrdd Canolog Cymru yn ganolbwynt gwy- bodaeth ar gyfer bywydau Cymry, mai ychydig o swyddi oedd wedi agor iddynt yn yr amser aeth heibio, a'u bod wedi gweled ieuengctyd cenedloedd eraill yn cael swyddi o bwys yn y gwasanaeth cartrefol gartref ac oddi cartref (clywch, clywch). Yr oedd yn rhaid i holl aelodau y bwrdd fod yn awyddus am weled y Cymry yn chwareu eu rhan bri- odol yn llywodraethiad y wlad hon, a'r gwledydd cyssylltiedig a hi; a dyna pa ham yr oedd y bwrdd yn gosod y fath bwysig- rwydd ar y gwasanaeth gwladol, ac i deimlo yn awyddus i wneyd y bwrdd yn gyfrwng o addysg wirioneddol (cym.). Gosododd y Proffeswr Anwyl bwys, hefyd, ar gyfaddasu yr ysgolion i gyfatteb i anghenion y rhan- barthau gwledig ac i'r amcan hwnw eu bod yn bwriadu gwahodd Mr. Brooke Hunt i'r gynnadledd, yn gymmaint a'u bod yn gwy- bod am y dyddordeb a gymmerai ef yn y mater. Mabwysiadwyd yr adroddiad. Aeth y bwrdd yn mlaen i ystyried y cyn- nygiad i ffurfio Cynghor Cenedlaethol i Gymru, fel yr oedd yn cael ei gynnyg gan Fesur Addysg 1906, yn ei berthynas a'r Bwrdd Canolog. Awgrymodd yr Henadur S. M. Jones eu bod yn gofyn i Dy yr Arglwyddi basio y rhan hwnw o'r mesur (chwerthin). Penderfynwyd, modd bynag, ohirio y cwestiwn. Trefnwyd i gynnal y cyfarfod nesaf yn Ffynnonau Llandrindod.

PONT ROBERT.

[No title]

_.. TYNGED Y MESOR ADDYSG.