Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
30 articles on this Page
Hide Articles List
30 articles on this Page
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Llun, Tachwedd 12fed.—Cymmerodd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri.
MESUR DALIAD TIR.
News
Cite
Share
MESUR DALIAD TIR. Y Ty yn Eistedd trwy y nos. Pan ail agorwyd y ddadl ar Fesur Daliad Tir, yr oedd rhyw un tudalen ar bymtheg o welliantau yn gwynebu y Ty. Yr wythnos ddiweddaf yr oedd Mr. Balfour wedi gofyn am i'r mesur gael ei ohirio, am fod Mr. Wal- ter Long j7n cael ei luddias i fod yn bresen- nol trwv afiechyd; ond nid oedd Mr. Long wedi colli rhyw lawer, pan wnaeth ei ym- dangosiad yn y Ty heddyw o blegid nid oeddynt wedi myned yn mhellach nag adran 2, yr hon sydd yn rhoddi ad-daliad am golled wnaed gan helwriaeth. Cafodd gwelliant i gau Ysgotland rliag dyfod o dan weithrediad adran 2 ei wrthod trwy 284 o bleidleisiau yn erbyn 69. Ar gynnygiad Syr E. Strachey, yr hwn a gynnrychiolai Fwrdd Amaethyddiaeth, cyt- tunwyd i adael adran 3 allan. Amcan yr adran, y mae'n amlwg, ydoedd lleihau y nifer o ysgyfarnogod a cwningod. U Cyn i'r ddadl ar y mesur hwn gael ei de- chreu, yr oedd y rheol o dan ba un yr oedd i gael ei therfynu am un ar ddeg wedi cael ei hattal, er iddynt allu myned yn mlaen gyda'r mesur uchod. Am un o'r gloch boreu ddydd Mawrth hysbysodd Mr. Whiteley fod y Llywodraeth yn bwriadu pasio adranau 4 a 5 yn yr eis- teddiad hwnw; ac i ddwyn y ddadl ar y mesur i derfyniad y diwrnod canlynol; a dy- wedodd fod hyny yn angenrheidiol os oedd- ynt i ohirio cyn y Nadolig. Gwnaeth appel at y Rhyddfrydwyr i roddi eu cefnogaeth i'r Llywodraeth i gario y rhaglen hon allan. Yn ystod y ddadl, gwnaeth yr Wrthblaid amryw geisiadau i ohirio y Ty; ond gwrth- odai y Llywodraeth dderbyn y cynnygion tyny- Am banner awr wedi pump yn y boreu cafodd cynnygiad i ohirio y Ty ei wrthod trwy 182 o bleidleisiau yn erbyn 62. Cariwyd y ddadl yn mlaen yn dawel am ryw gymmaint o amser wedi hyny. O'r diwedd cynnygiodd Mr. Haldane y cloadur, a chafodd y penderfyniad ei dder- byn gan y Llefarydd, a'i gario. Wedi hyny gwrthodwyd y gwelliant yn cyf- yngu yr adran i gontracts yn y dyfodol. Mr. Lambton a gynnygiodd fod yr adran yn cael ei chyfyngu at dir aredig; ac yn unol ag addewid a roddodd Syr E. Strachey yn flaenorol, derbyniodd y gwelliant. Am saith o'r gloch, pan oedd y wawr yn tori, cynnygiodd aelod o'r Wrthblaid eu bod yn gohirio y ddadl i alw sylw at absennol- deb y swyddogion cyfreithiol. Gwrthododd y Llefarydd, modd bynag, dderbyn y cynnygiad. Erbyn hyn yr oedd y Ty wedi bod yn eistedd am ddeunaw awr, a gwelliant ar ol gwelliant wedi cael eu cynnyg a'u gwrthod, a'r ddadl wedi cael ei chadw i fyny yn lied fywiog, mewn Ty lied lawn, pan y dywed- odd Mr. H. Marks:—' Tybier fod y Prifweinid- og ddim yn dyfod i lawr o gwbl, am faint y byddwn ni yma?' Mr. Carlile a sylw odd fod aelodau yn cerdded yn eu cws£:. Ac yr oedd rhai o honoch yn siarad yn eich cwsg,' attebai un o'r aelodau Gwydd- elig.' Tuag ugain munyd i naw yr oedd y Mil. Kenyon-Slaney yn siarad, pan y bloeddiodd rhywun, 'Beth wnaethoch chwi i Horne,?' Sylwodd y Mil. Kenyon Slaney os byddai i'r aelod anrhydeddus adael iddo wybod pwy ydoedd, y daethal yntau i wybod yn mha gornel o'r Ty yr oedd athrodwr yn eistedd (gwaeddiadau o 'Drefn, trefn'). Dylid egluro fod y cyfeiriad hwn yn cael ei wneyd at Mr. Frederick Home, yr hwn a roddodd ei dyddynod i fyny ar eiddo y Mil. Kenyon Slaney, o dan amgylchiadau oedd yn hysbys. Ar hyn daeth Mr. Clement Edwards yn mlaen yn ddioed, fel yr athrodwr. Galwodd Mr. Emmott, yr hwn oedd yn y gadair ar yr adeg, ar y Mil. Kenyon Slaney i alw y gair athrodwr yn ol a chydsyn- iodd vntau i wneyd. Am ddeng munyd wedi naw daeth y Prif- weinidog i'r Ty, a dadganodd ei ofid o her- wydd ei absennoldeb; a dywedodd y gallai ddwyn tystysgrif feddygol yn mlaen os oedd hyny yn angenrheidiol, fel rheswm dros ei absennoldeb. Llwyddwyd i fyned trwy yr oil o'r gwell- iar.tau ar adran 4; a gohiriodd y Ty am ugain munyd i ddeg boreu ddydd Mawrth.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Mawrth, Tachwedd 13eg.-Cymmer- odd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri. Mesur Daiiad Tir. Aeth y Ty yn mlaen i ystyried Mesur Dal- iad Tir, fel yr oedd wedi cael ei ddiwygio mewn pwyllgor. Cynnygiodd Mr. Remnant i adran 5 gael ei gadael allan, yr hon oedd yn rhoddi ad- daliad i denant, ar derfyn ei denantiaeth gan y tirfeddiannwr, mewn modd afresymol, ac heb ddigon o achos. Syr E. Strachey a ddywedodd mai amcan yr adran ydoedd amddiffyn tenant yn erbyn unrhvw weitlired afrywiog neu greulawn. Mr. Balfour a ddywedodd fod gan y tir- feddiannwr yr un hawl i gael ad-daliad oddi wrth denant afresymol. Gwrthodwyd y gwelliant. Y Mil. Kenyon Slaney a gynnygiodd ad- ran yn He adran 5, yn rhoddi ad-daliad pan yr oedd' chwaneg o rent yn cael ei godi ar y tenant ar gyfrif y gwelliantau oedd efe ei hun wedi eu cario allan ar ei fferm. Cydsyniodd Syr W. Robson i dderbyn y gwelliant hwn, yn gystal a nifer o welliant- au geiriol eraill. Dadganai yr Wrthblaid, modd bynag, y byddai yr adran, fel yr oedd wedi cael ei diwygio, vn annheg a'r tirfeddiannwr. Cvnnyglodd Mr. Balfour ar i'r ddadl gael ei gohirio, hyd nes cawsai geiriau yr adran ddiwvgiedig eu gosod o flaen aelodau y Ty. Derbyniodd y Prifweinidog y cynnygiad. Gohiriodd y Ty am ugain munyd i un ar ddeg.
TY YR ARGLWYDDI.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Merclier, Tachwedd I4eg.—Ymffurf- iodd y Ty yn bwyllgor ar Y Mesur Addysg. Cynnygiwyd amryw welliantau ar adran 8. Arglwydd Stanley a gynnygiodd fod ath- taw ar gyfer ysgol elfenol yn cael ei ben- nodi heb un cyfeiriad at ei gredo crefyddol, neu ei enwad. Gwrthodwyd y gwelliant hwn trwy 191 o bleidleisiau yn erbyn 10. Cynnygiodd Arglwydd Camperdown well- iant yn darparu nad oedd un chwanegiad na gostyngiad i gael ei wneyd yn nghyflog athraw, am y rheswm nad oedd ef, neu hi, yn ymgymmeryd a chyfranu addysg gref- yddol. Gwrtbwynebodd Arglwydd Crewe y gwell- iant; a chafodd ei alw yn ol. Archesgob Caergaint a gynnygiodd fod yn rhaid i awdurdodau Ileol foddloni eu hun- ain o berthynas i gymmhwysderau athrawon oedd i gyfranu addysg Cowper-Temple. Arglwydd Crewe a gynnygiodd newid ffurf y geiriau; a phenderfynodd y Ty eu gosod i mewn yn y mesur. Yr oeddynt yn dar- paru nad oedd dim yn y gyfraith yn attal awdurdod leol foddloni ei hun o berthynas i gymmhwysder unrhyw berson oedd yn foddlawn o dan adran Cowper-Temple.
Yr Ymsefydlwyr Prydelnig yn…
News
Cite
Share
Yr Ymsefydlwyr Prydelnig yn Neheudir Affrica. Cododd Arglwydd Lovat ddadl ar arnddi- ffyniad yr ymsefydlwyr Prydeinig yn Neheu- div Affrica. Siaradodd Arglwydd Milner, Arglwydd Lansdowne, a'r Due o Marlborough yn gryf yn ffafr i'r ymsefydlwyr gael eu gosod o dan Fwrdd Tir Ymherodrol, yn lie y Ddeddfwrfa gawsai ei chreu yn fuan. Arglwydd Ripon, mewn attebiad, a ddy- wedodd fod y cwestiwn yn un oedd yn cael ei gymmysgu, i raddau helaeth a'r Cyfan- soddiad newydd, ac yr oedd y Llywodraeth yn meddwl na byddai o ddyddordeb cyhoedd- us i wneyd mynegiad ar y mater yn bresen- nol. Gohiriodd y Ty am un ar ddeg.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Mercher, Tachwedd 14eg.-Cymmer- odd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri.
Yr Etholfraint i Fetched.
News
Cite
Share
Yr Etholfraint i Fetched. Y Prifweinidog, mewn attebiad i Mr. H. Cox, a ddywedodd ei fod yn ofni ei bod yn ammhossibl cael amser yn ystod y tymmor presennol i basio Mesur Etholfraint i Ferch- ed.
Appel Gorllewin sir Caerefrog.
News
Cite
Share
Appel Gorllewin sir Caerefrog. Y Dadleuydd Cyffredinol, mewn attebiad i Mr. Ashley, a ddywedodd ei bod yn am- mhossibl dyweyd yn bendant pa bryd y deu- ai achos Rex yn erbyn Gorllewin Sir Gaeref- rog yn mlaen; ond byddai i gais gael ei wneyd yn fuan at Dy yr Arglwyddi i ben- nodi dyddiad i'w wrandaw.
Mesur Daliad Tir.
News
Cite
Share
Mesur Daliad Tir. Cymmerodd y Ty y Mesur Tir, fel yr oedd wedi cael ei ddiwygio mewn pwyllgor, o dan ystyriaeth. Cariwyd y ddadl yn mlaen ar adran 5, yr hon oedd yn dwyn perthynas ag ad-daliad am aflonyddu ar y tenant. Mr. Ellis Davies (Caernarfon) a gyfeiriodd fod Adroddiad y Mwyafrif ar y Ddirprwy- aeth Dirol Gymreig yn gosod y golled oedd y tenant yn ei gael, trwy ei fod yn cael ei orfodi i adael ei dyddyn, yn y rhan fwyaf o achosion, yn gyfartal i 20 y cant o'i gyfalaf. Nid oedd. efe yn cael ei foddloni fod yr adran, heb welliant Syr F. Banbury, yn deg a'r tenant. Mr. Ivor Guest a dybiai y dylid nodi y swm uchaf a ellid ei roddi mewn ffordd o ad-daliad. Yn niffyg hyny, gallai y cylaf- areddwr nodi unrhyw swm. Os byddai ten- ant, ar ei waith yn gadael ei dyddyn, yn dewis myned i Awstralia, a fyddai yr ad- daliad yn cynnwys holl gost y symmud- iad? Pasiwyd yr adran fel yr oedd wedi cael ei diwygio gan y Llywodraeth. Cyttunwyd ar adran 6, hefvd; yr hon oedd yn diwygio diffyg yn Nghyfraith Ad-daliad i Arddwyr Marchnadol. Wedi rhyw gymmaint o ddadleu pellach, cafodd y mesur ei adrodd i'w ddarllen y drydedd waith.
Arolygwyr Uniaithiog yn Nghymru.
News
Cite
Share
Arolygwyr Uniaithiog yn Nghymru. Mr. J. D. Rees a ofynodd i'r aelod anrhyd- eddus dros ddeheu Somerset, fel un oedd yn cynnrychioli Llywydd Bwrdd Amaethydd- iaeth, pa un a oedd arolygwr y Llywodraeth, yn ddiweddar, wedi anfon i sir Drefaldwyn i wneyd adroddiad ar drochi defaid, oedd yn gyfarwydd a'r Gymraeg mewn Ilawer o achos- ion yr unig, ac yn y rhan fwyaf o achosion, brif iaith y ffermwyr ar y bryniau. Syr E. Strachey:-Nid ydyw yr arolygwr y cyfeiria fy nghyfaill anrhydeddus ato yn !-2 gyfarwydd a'r iaith Gymraeg; ond hysbysa fi nad oedd un anhawsder wedi codi mewn canlyniad. Yr oedd ein harolygwyr bob am- ser, yn gallu ymddiried ar gynnorthwy yr heddgeidwaid Ileol; ac mewn achosion eithr- iadol yn unig yr oeddynt yn cael eu dwyn i gyffyrddiad a. phersonau oedd yn analluog i siarad, neu ddeall Saesneg. Gofynodd Mr. Rees a fyddai i arolygwyr allai siarad Cymraeg gael ei sicrhau mor bell ag yr oedd yn bossibl. Syr E. Strachey:—' Wrth gwrs, os yn bos- siblT Ond, fel yr eglurais yn vr achos hwn, nid oedd un anghyfleusdra wedi codi. Gohiriodd y Ty am un o'r gloch.
TY YR ARGLWYDDI.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI. Dydd Iau, Tachwedd 15fed.—Treuliwyd y rhan fwyaf o'r eisteddiad i ystyried Y Mesur Addysg. Cynnygiodd Archesgob Caergaint, ac eraill, welliantau ar adran 8, yr hon oedd yn dwyn cyssylltiad a, phraflwon i athrawon. Arglwydd Clifford o Chudleigh a gynnyg- iodd nad oedd yr awdurdodau lleol i ben- nodi neb yn athrawon ond y rhai a bennodid gan bwyllgor o rieni. Cafodd y gwelliant hwn ei wrthod, trwy 137 o bleidleisiau yn erbyn 49; mwyafrif, 88. Wedi hyny cariwyd gwelliant Archesgob Caergaint, wedi iddo gael ei gyfnewid yn unol ag awgrym gan Is-iarll St. Aldwyn. Yr oedd y gwelliant i'r perwyl fod yr awdurdodau lleol i ymgynghori a. phwyllgorau rhieni, mewn perthynas i bennodi athrawon y bydd- ent yn dwyn cyssylltiad a hwy, a'u bod yn cael eu boddloni y byddai i'r personal! ben- nodid gyfranu yr addysg grefyddol a ddy- munid. Pan gynnygiwyd i adran 8 gael ei chwan- egu at y mesur, dywedodd Iarll Crewe ei fod yn dymuno ei gwneyd yn glir nad oedd y Llywodraeth wedi rhy/ymo ei hun i dderbyn yr egwyddor fod yna ddim o nodwedd ymchwil- iad blaerorol gan yr awdurdod leol i gredo crefyddol athraw. Cafodd yr adran, fel yr oedd wedi cael ei diwygio, ei chwanegu at y mesur. Wedi hyny, cymmerwyd adran 9 o dan ystyriaeth.
Anfoesoldeb y Chineald yn…
News
Cite
Share
Anfoesoldeb y Chineald yn y Transvaal. Yn yr eisteddiad hwyrol, cafwyd trafodaeth ar drosedd a drygedd yn mysg y Chineaid yn y Transvaal; yn nghwrs pa un y dywed- odd Arglwydd Coleridge fod y gyfundrefn Chineaidd wedi ei thyngedu, ac y byddai gan y cyhoedd eisieu dwyn y cyfrifoldeb am y busnes dychrynllyd hwn adref i rhyw un. Ymffurfiodd eu harglwyddi yn bwyllgor drachefn ar y Mesur Addysg, a buont yn eistedd hyd hanner awr wedi un ar ddeg.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Ian, Tachwedd 15fed.-Cymmerodù y Llefarydd y gadair am chwarter i dri.
Y Chineaid yn y Transvaal.
News
Cite
Share
Y Chineaid yn y Transvaal. Mr. Churchill, mewn attebiad i Mr. Smea- ton, a ddywedodd nad oedd yn gywir dy- weyd fod dau bwys o opium' yn cael ei ganiatau i bob Chinead yn y Transvaal. Nid oedd y llafurwyr Chineaidd yn cael dim opium,' oddi eithr ei fod yn cael caniatad, wedi ei arwyddo gan arolygydd Adran Llafur Tramor, ar gyfarwyddyd swyddog meddygol y cwmpeini.
Adroddiad Undeb Poplar.
News
Cite
Share
Adroddiad Undeb Poplar. Y Prifweinidog, mewn attebiad i Arglwydd R Cecil, ac eraill, a ddywedodd nad oedd yn gweled ei ffordd yn glir; wrth ystyried y galw oedd ar amser y Ty, i ddadleu adrodd- iad Undeb Poplar.
IMesur Llongau Marsiandiol.
News
Cite
Share
Mesur Llongau Marsiandiol. Daeth Mesur Llongau Marsiandiol, fel yr oedd wedi cael ei ddiwygio mewn pwyllgor, ger bron. Wedi i un neu ddau o welliantau gael eu gwrthod, cyttunwyd, ar gynnygiad Mr. Lloyd-George, i ohirio gweithrediad y Gyf- raith hyd Mehefin, 1907.
Y Chineaid yn y Transvaal.
News
Cite
Share
Y Chineaid yn y Transvaal. Yn yr eisteddiad hwyrol, yn unol a chan- latad a gafwyd yn flaenorol, cynnygiodd Mr. Lehmann fod y Ty yn cael ei ohirio, er galw sylw at y cyhuddiadau o anfoesoldeb yn mysg y Chineaid yn y Transvaal; a dywedai, ei fod yn cael ei ofni, mewn canlyniad i'r hyn oedd wedi dyfod yn wybyddus o ymchwiliad Mr. Bucknill, fod sefyllfa pethau yn ddychrynllyd yno. Mr. A. E. W. Mason a gefnogodd y cynnyg- iad i ohirio y Ty. Mr. Winston Churchill, wrth atteb, a ddy- wedodd nad oedd yn deg barnu, yn ngwyneb yr ychydig ddyfyniadau detholedig o dyst- iolaeth oedd wedi eu gwasgaru yn y Ty. Yr oedd llawer o fynegiadau eithafol 'wedi cael eu gwneyd. Nid oedd un ammheuaeth nad oedd drygedd yn bodoli, fel yr oedd y blaid Ryddfrydig wedi dadgan ar hyd yr amser, y gellid disgwyl hyny. Modd bynag, byddai i unrhyw Chineaid a geid yn euog gael eu hanfon yn ol i'w gwlad; ac yr oedd yn rhaid iddo ddyweyd fod y drwg hwn yn un digon drwg i benderfynu tynged y llafur Chineaidd. Cwynai Mr. A. Lyttelton fod rhanau o'r adroddiad wedi cael ei wasgar ar yr ochr Ryddfrydig i'r Ty yn unig; a dywedodd, yn ystod y deunaw mis yr oedd wedi bod mewn swydd, ar ol i'r Chineaid gael eu dwyn dros- odd i'r Transvaal, nad oedd wedi clywed dim am y cyhuddiadau hyn, ac nid oedd y IJlyw- odraeth wedi derbyn y cyfryw gyhuddiadau hyd yn ddiweddar. Cafodd y penderfyniad ei siarad allan; a gohiriwyd y Ty.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Gwener, Tachwedd 16eg.—Cymmer- odd y Llefarydd y gadair ganol dydd.
Mesur y Llongau Marsiandiol.
News
Cite
Share
Mesur y Llongau Marsiandiol. Ail gymmerwyd Mesur y Llongau Marsian- diol, fel yr oedd wedi cael ei ddiwygio mewn pwyllgor, o dan ystyriaeth, ac aed yn mlaen i ymwneyd a'r attodlen newydd, yr hon oedd yn gosod i lawr raddfa mwy haelfrydig o ym- borth i'r morwyr. Gwnaed amryw gyfnewid- iadau bychain yn y raddfa. Wedi hyny, ail gyflwynwyd y mesur mewn cyssylltiad a nifer o adranau newydd a gynnygid gan y Llywodraeth. Yr oedd un o'r adranau newydd yn ym- wneyd a chario llwythi o goed ar y dec yn ystod misoedd y gauaf, ac yn cynnwys dar- pariaethau oedd yn y mesur pan y cyflwyn- wyd ef i ddechreu, ond y rhai a alwyd yn ol mewn pwyllgor, er iddynt gael eu had- drefnu ar ffurf newydd. Cynnygiodd Mr. J. Havelock Wilson eu bod yn gwrthod yr adran. Wedi rhyw gymmaint o ddadleu, cyttun- wyd ar yr adran. Ar argymmhelliad Llywodraeth Canada, cynnygiodd Mr. Lloyd George adran i ddar- paru fod personau a geid, trwy dwyll honiad- au, yn cymmhell personau i ymfudo i gael ea cospi. Cynnygiodd Mr. Lloyd-George, befyd, fod yr holl arolygwyr, clercodl a gweision yn y swyddfeydd o dan y gyfraith hon, i gael eu pennodi a'u symmud gan Fwrdd Masnach; ac wrth gario allan ddarpariaethau Cyfreith- iau Llongau Marsiandiol, fod yr oil o'r arol- ygwyr i fod yn ddarostyngedig i reolaeth y bwrdd. Cafodd y mesur, fel yr oedd wedi cael ei ddiwygio, ei adrodd wedi hyny i'r Ty. Gorchymynwyd i'r mesur gael ei ddarllen y drydedd waith. Cododd y Ty am bum munyd i bump.
VSTADAU ARGLWYDD NEWBOROUGH.I
News
Cite
Share
VSTADAU ARGLWYDD NEWBOROUGH. Yc oedd cynghaws Arglwydd Newborough yn derbyn Wynn, yr hwn oedd yn dwyn perthynas < rhan o ystadau Arglwydd Newborough, ar y papur i gael ei wrandaw gan y Barnwr Neville dydd Iau; ond pan alwyd ef, dywedodd y dadleuydd fod y pleidiau wedi dyfod i gyttun- deb. Mr. Warrington, K.C., dros y diffynydd cyntaf, a ddywedodd fod y cynghaws yn dwyn perthynas ag anghydwelediad teuluaidd; ond yr oedd y pleidiau, fel yr oedd yn dda zanddo ddyweyd, wedi gwneyd trefniadau i. 'u gilydd, yr hwn, fel yr oedd efe yn meddwl, oedd yn foddhaol i bawb. Yr oedd yna amryw gyhudd- iadau, neu achwyniadau, yn cael eu dwyn yn mlaen, yr oil o ba rai oedd wedi cael eu galw yn ol yn hollol; a'r oil a ofynai efe yn awr ydoedd gofyn i'r llys wneyd archeb i attal yr holl weitbrediadau, oddi eithr mor bell ag yr oedd yn angenrheidiol i gario belerau y cyttundeb hanner y ffordd y daethpwyd iddo. Syr Edward Carson, K.C., yr hwn a ym- ddaugosai dros yr erlynydd, a ddywedodd nad oedd yn cael ei fwriadu o gwbl i awgrymu an- rhyw gyhuddiadau yn erbyn y diffynyddion: ond os oedd y cynghaws yn awgrymu dim, yr oeddynt wedi cael eu galw yn ol yn hollol. Mr. Levett, K.c., dros,yr yniddiriedolwyr, a ddywedodd fod yr yniddiriedolwr wedi arfer pob gofal. Pennodorld gyfreithiwr, yr h-wn a dreuliodd bedwav diwrno^ i chwilio y gweithred- oedd. Cyds.vniodd ef A ,I- archeb. Gwnaeth ei arglwyddiaeth archeb yn attal yr holl weitbrediadau, yn unol st'r telerau oedd wedi cael eu trefnu.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae tyfiantfbuau yr ewinedd yn arwydd o iechyd da. Cynnyrcha yr Unol Dalaethau 51 o filiynau o afalau ya flynyddol.
BRAWDLYSI SIROEDD GAERFYRDDiN,…
News
Cite
Share
BRAWDLYS SIROEDD GAERFYRDDiN, PENFRO, AC ABERTEIFI. Agorwyd y frawdlys hon yn Neuadd Sirol Caerfyrddin, dydd Mawrth, ger bron y Barn- wr Walton. Wrth anerch yr uchelreithwyr, dywedodd y barnwr iddo gael ei hysbysu fod y rhag- len o droseddau yn anarferol o drom ond wrth gymmerwyd i ystyriaeth fod y frawdlys yn dwyn cyssylltiad a thair o siroedd, ynghyd a thref a sir Hwlffordd, nid oedd yn ymddangos yn un mor fawr. Nid oedd dim ond wyth achos, mewn gwirionedd, yn aros i gael eu profi. Yr oedd un achos yn dyfod o sir Aberteifi, ac yr oedd hwnw yn un o nodwedd ddifrifol, yn mha un yr oedd dyn o'r enw David James yn cael ei gyhuddo o saethu ei wraig, gyda'r bwriad o'i lladd a'i llofruddio hi. Yr oedd chwech o achosion yn dyfod o Gaerfyrddin. Yn un o honynt yr oedd pedwar o ddynion yn cael eu cyhuddo o der- fysg,' ac ymgasglu i derfysgu yn Tumble, a thrwy hyny dori ar yr heddweh cyhoeddus, ac o ymosod yn anghyfreithlawn, ac achosi colled ar dy y rhingyll heddgeidwadol. Yr oedd y pedwerydd achos, o ddyn-laddiad honedig, yn erbyn William Bassett yn un pwysig, ac yn un, mor bell ag y gallai ef farnu, a allai ofyn am ystyriaeth ofalus yr uchelreithwyr. Yr oedd y cyhuddedig yn brif weithiwr mewn mwnglawdd yn mhlwyf y Bettws, a'i ddyledswyddau ydoedd ymweled a'r rhan hwnw o'r mwnglawdd lie yr oedd glowr, o'r enw Thomas Thomas, wedi cael ei ladd trwy ffrwydrad. Ymddengys i Bassett wneyd adroddiad tua 6.30 yn y boreu, fod pob peth yn iawn yn y mwnglawdd. O'r braidd y cafodd Thomas Thomas a'i fab cldechreu gweithio na chymmerodd ffrwydrad le, a bu y dyn farw. Yr oedd yna dystiolaeth i ddangos nad oedd Bassett wedi talu ymwel- iad a'r rhan hono o'r mwnglawdd y boreu hwnw.
Y Cyhuddiad o Derfysgoedd…
News
Cite
Share
Y Cyhuddiad o Derfysgoedd yn Tumble. Cyhuddid John Henry, 22ain mlwydd oed, glowr, Thomas Lewis, 25ain mlwydd oed, liafurwr Henry L. Evans, 21ain mlwydd oed, gof; a Thomas James, 29ain mlwydd oed, glowr—yr oil yn gweithio yn nglofa y Tumble-y rhai oedd wedi bod allan ar feicn- iafaeth, o derfysg, ac ymgasglu i derfysgu, a thori ar yr heddweh, ac o achosi colled i dy David Lewis, ar yr 16eg o Fehefin, yn Tumble. Ymddangosai Mr. W. Denman Benson ar ran yr erlyniad; a Mr. J. Lloyd Morgan, K 'C., A.S., a Mr. David Rhys dros yr amddi- ffyniad. Mr. Benson a ddywedodd fod y Rhingyll Heddgeidwad Lewis, yr hwn oedd yn byw yn Tumble, wedi ei gweled yn angenrheidiol i gymmeryd dau ddyn i'r ddalfa. Bu raid A iddo eu cloi yn ei dy ei hun hyd nes y gellid ou hanfon i lawr i orsaf heddgeidwaid Llan- olli. Ymgynnullodd tyrfa o bobl i Tumble, i gwnaethant derfysg dychrynllyd o gwmpas ty y rhingyll, taflwyd ceryg trwy ffenestri ifrynt a chefn• y ty. Aed i mewn i ffeithiau yr achos, yn ddiweddar, yn mrawdlys ohwarterol sir Gaerfyrddin pan y cyhuddwyd y pedwar dyn oedd yn y doc, ynghyd ag wyth oraill, o (1) derfysg, (2) terfysg ac ymosod ■it swyddog heddgeidwadol, (3) Terfysg a gwaredu. Y Rhingyll Heddgeidwad Lewis a roddodd lystiolaeth debyg i'r un a roddodd yn y rrawdlys chwarterol. Dydd Sadwrn, Mehefhi L6eg cymmerodd David Howell i fyny yn y Tumble Inn, ac wrth wneyd hyny tarawodd y swyddog yn ei wyneb, gan achosi dau lygad du, a gwneyd i'w drwyn waedu. Wedi hyny cymmerodd Thomas Howells i'r ddalfa, yr hwn a ymosododd arno. Cymmerodd y rhingyll hwy i'w dy tua chwarter wedi wyth. Ymgynnullodd rhyw 200 neu 300 o bersonau wedi hyny, ac yr oedd y carcharorion yn eu mysg. Gwrthodent fyned i ffwrdd, ar ei gais; yr oedd rhai o honynt yn hwtio, ac yn taflu ceryg, a rhai yn gwneyd cais i fyned i'r ty. Gwelodd James yn taflu ceryg at y ffenestr a drws y ffrynt; a gwelodd ef wedi hyny yn cario y llidiart, ac yn ei thaflu trwy y ffenestr. Torodd y llidiart y rhan ganol o'r ffenestr, a syrthiodd rhan o honi i mewn. Gwnaed cais at y bobl i fyned i ffwrdd, ond gwrthodent wneyd hyny. Cafodd ei daraw a. chareg yn ei glun. Yn union wedi iddo gael y ddyrnod hon, gwelodd John Henry, Henry L. Evans, a Thomas Lewis, yn dyfod bob yn un, a phob un o honynt yn cario careg fawr, y rhai a daflasant trwy y ffenestr. Yr oedd y ceryg yn pwyso rhwng 15 a 20 pwys bob un. Yna clywodd swn ceryg yn dyfod trwy ffenestr y cefn; ac o blegid hyny, darfu iddo ryddhau y brodyr Howells. Gwnaeth hyny am ei fod yn meddwl y cawsai y ty ei ddinystrio, a'i fod ef a'i deulu mewn perygl am ep bywydau. Torwyd 15 o gwareli o wydr o gwbl, a gwnaed difrod arall, yr oil yn cyrhaedd 5p. 9s. 6c. Tystiai David Healy a Joseph Morgan mai nid y diffynyddion a daflodd y llidiart trwy y ffenestr. Gan fod tyst pwysig dros yr amddiffyniad yn absennol, gohiriwyd yr achos hyd foreu dydd Mercher.
Cyhuddiad 0 dori i mewn i…
News
Cite
Share
Cyhuddiad 0 dori i mewn i dy yn Merthyr. Plediodd Thomas John Williams, 18 mlwydd oed, ac Emmanuel Thomas 23ain mlwydd oed, llafurwr, eu heuogrwydd o dori i mewn i dy Samuel Davies, Merthyr, ar y 19eg o Hydref, a Uadrata dau bar o esgidiau, eiddo gweithiwr, y rhai a wisgid ganddynt pan gymmerwyd hwy i'r ddalfa. Dywedodd ei arglwyddiaeth, wrth gymmer- yd i ystyriaeth yr amser yr oedd y llangciau wedi bod yn ngharchar, a chan wneyd appel atynt hwy i ddiwygio, darfu i'r barnwr eu rhyddhau ar eu meichiafaeth eu hunain.
Cyhuddiad o ymgais I lofruddio…
News
Cite
Share
Cyhuddiad o ymgais I lofruddio eil wraig. Cyhuddwyd David James, 32ain mlwydd oed glowr gynt o Penrhiwceiber, ac yn ddi- weddar o Parceithyn, Penbryn, sir Aberteifi, (1) o saethu ei wraig, gyda'r bwriad o'i Iladd, (2), ac o wneyd niwed corphorol iddi. Gosodwyd yr achos dros yr erlyniad ger bron gan Mr. Bowen Davies, ac yna galwodd Elizabeth James, y wraig a niweidiwyd, D. Evans, a Dr. Powell, i roddi eu tystiolaeth. Wrth symio i fyny, dywedodd y barnwr, os oedd y rheithwyr yn ammheu fod y car- charor yn bwriadu niweidio ei wraig, gallent ei ryddhau, a gallai gael ei gyhuddo mewn llys arall o archolli mewn modd anghyfreith- lawn. Cafodd y rheithwyr y carcharor yn ddieuog. Wedi hyny gohiriodd y llys hyd foreu Mercher. Aed yn mlaen boreu ddydd Mercher i wrandaw Y Cyhuddiad o Derfysgoedd yn Tumble. Wedi gwrandaw tystiolaethau pellaoh, ac i'r barnwr symio i fyny, ymneillduodd y rheith- wyr. Wedi bod yn absennol am awr a han- ner, dychwelodd y blaenor i'r llys, a dywed- odd eu bod yn cyttuno fod y diffynyddion yn bresennol yr adeg y cymmerodd y terfysg- oedd le; ond gan nad oedd yna ddigon o dystiolaeth, uis gallent foddloni eu hunain, eu bod wedi cymmeryd rhan yn y terfysg; felly, yr oeddynt yn rhoddi iddynt hwy y fantais o'r ammheuaeth. Y barnwr Y l' oedd hyny yn golygu rheithfarn o ddi-euog?' Y bIaenor Oedd.'
Prawf Arolygwr Clofaol,
News
Cite
Share
Prawf Arolygwr Clofaol, Cafodd William Bassett, arolygwr glofaol, ei ryddhau yn ngwyneb y cyhuddiad o ddyn- laddiad glowr, o'r enw Thomas, ar yr 8fed o Fedi, yn nglofa Glandarrant, Bettws, air Gaerfyrddin. Honai yr erlyniad, ar ol y ffrwydrad, idd- ynt gael allan nad oedd Bassett wedi talu ymweliad a'r mwnglawdd. William Morgan, arolygwr glofaol, a ddy- wedodd y gallasai y nwy gydgrynhoi ar ol i Basett arolygu y gwaith. Y barnwr a ddywedodd, fod yn rhaid cael tystiolaeth o esgeulusdra, ac esgeulusdra oedd yn achosi y ddamwain. Felly, yr oedd ya rhaid i'r achos syrthio trwodd.
Achos difrifol o Hwlffordd.
News
Cite
Share
Achos difrifol o Hwlffordd. Cyhuddwyd Charles Arran, 23ain mlwydd oed, llafurwr, Quay Street, a William Henry Owens, 21ain mlwydd oed, St. Martin, llaf- urwr, y ddau o Hwlffordd, o ladrad, gyda ffyrnigrwydd, ar yr 17eg o Fedi, yn Pren- dergast, Hwlffordd-yr eiddo honid oedd wedi cael ei ladrata ydoedd oriadur aur, a thua 20p. mewn arian. Erlynid gan Mr. E. B. Herbert; a rhodd- odd y barnwr gyfarwyddyd, wedi i appel gael ei gwneyd o'r doc, i Mr. Bayley amddiffyn y carcharorion. Mr. Herbert a ddywedodd fod y carcharor- ion yn cael eu cyhuddo o gymmeryd meddiant o nwyddau Mrs. Mary Anne Jones, a'u bod ar yr un pryd wedi arddangos ffyrnigrwydd tuag ati. Noson Medi 17eg, yr oeddyr achwynyddes yn dychwelyd o ffair Maen- clochog i Hwlffordd tuag 8.20, a phender- fynodd aros yn y dref am y noson; ac aeth i chwilio am letty. A thra yr oedd yn holi rhyw fechgyn gyda golwg ar le i lettya, ym- ddengys i'r carcharor Arran ei chlywed, a dyfod yn mlaen, i ddyweyd y gallai: ef ddangos lie y gallai gael llety parchus; yn lie hyny, arweiniodd y carcharor hi i gae o'r neilldu. Yna, gofynodd iddi eistedd i lawr. Gwrthododd hi wneyd, a dechreuodd ei thynu o gwmpas. Ar hyn, daeth y carcharor Owens yno, ac yr oedd un o'r carcharofion wedi gosod ei law ar ei genau, tra yr oedd y Hall yn tori ei phoced. Wedi i'r barnwr symio i fyny, dychwelodd y rheithwyr reithfarn, Eu bod wedi dyfod i'r penderfyniad mai y carcharor Arran oedd yn euog o ladrad gyda ffyrnigrwydd; a bod y carcharor Owen yn euog o gynnorthwyo Arran.' Wrth basio ei ddedfryd, dywedodd y barnwr ei fod yn cymmeryd i ystyriaeth fod v carcharorion wedi bod yn ngharchar am ddau fis. Dedfrydodd Arran i chwe mis o lafur caled; ac Owens i dri mis o lafur caled.
Liadradau.
News
Cite
Share
Liadradau. Alfred Nugent, 25ain mlwydd oed, llafur- wr, a gyhuddwyd o ladrata 11 o allweddau gwerthfawr oddi ar y Parch. John Thomas, ac eraill, o Llanddowror, Mawrth 22ain; a dedfrydwyd ef i bum mis o lafur caled; y ddedfryd i redeg ar derfyn y pum mis o'r deuddeg a basiwyd arno yn mis Mai diweddaf yn sir Benfro, am dori i mewn i dy, a lladrata. Dedfrydwyd Thomas Page, 48ain mlwydd oed, llafurwr, i dri mis o lafur caled, am ladrata caws, gwerth 2s. 4c. oddi ar Thomas Lewis, Handeilo, ar y 23ain o Hydref.
Cyhuddo Morwyn.
News
Cite
Share
Cyhuddo Morwyn. Cyhuddwyd Caroline Jones, morwyn, yr hon oedd yn trigiannu yn Ralph Terrace, Llanelli, o ladrata het, yn Awst, oddi ar Mary Elizabeth Thomas Rose, Crown Hotel, Llanelli; ac o ladrata modrwy, gwerth 15s. 6c. oddi ar Mrs. Jane Warren, King Square, Llanelli, yr hon a ddywedodd iddi ei cholh tua Medi 12fed. Cymmerwyd achos yr het i ddechreu; a chafodd y rheithwyr hi yn ddieuog ar y cy- huddiad hwn. Wedi hyny profwyd hi am ladrata y fod- rwy, a chaed hi yn euog. Dedfrydwyd hi i ddau fis o lafur caled. Dygodd hyn weithrediadau y frawdlys i derfyniad.
LLOFRUDDIO DAU 0 BLANT YN…
News
Cite
Share
LLOFRUDDIO DAU 0 BLANT YN LLUNDAIN. Llettywr yn rhoddi ei hun fyny. Cymmerodd un o'r troseddau mwyaf an- fad gyflawnwyd yn Llundain yn ystod y blynyddoedd diweddaf, le yn Wood-green, nos Sadwrn. Cafodd dau o blant bychain, babanod yn mron, eu llofruddio mewn modd creulawn, a'u llurgynio i farwolaeth mewn modd, yn ffodus, nad ydyw yn cael ei gys- sylltu yn ami a throseddau yn Lloegr. Yn wir, yr oedd yna ystori gyffrous, yn hwyr nos Sadwrn, fod penau y plant wedi cael eu tori oddi ar eu cyrph; ond, yn ffodua, trodd yr ystori hon allan yn un anwiredd- us. Y plant laddwyd oeddynt eiddo Mr. a. Mrs. Yorke, 149, Moselle Avenue, Wood- green, a'u henwau ydoedd Francis Charles Yorke, pedair blwydd a deng mis oed, a Clara Beatrice Yorke, tair blwydd oed. Enw y llofrudd ydyw Arthur Chopping, 24ain mlwydd oed pobydd allan o waith. Ar ol i'r llofrudd gyflawni ei weithred an- fad, cerddodd filldir a banner i orsaf yr heddgeidwaid, a rhoddodd ei hun i fyny yno. Yr oedd yn fwy adnabyddus na'r rhi- en; yn y gymmydogaeth, ac nid oedd neb wedi sylwi ar ddim hynod yn ei ymddygiad. Fel yr oedd yn syn meddwl, ymddangosai yn hoff iawn o blant bob amser; ac yn chwan- egol at chwareu gyda hwy vn ami, yr oedd yn cymmeryd eu gofal yn fynych. Yr oedd Chopping yn llettya gyda'r teulu hwn (Mr. Yorke), pa rai oedd wedi bod yn hynod o garedig wrtho yn ystod yr amser yr oedd wedi bod allan o waith. Ond yr oedd wedi bod am dymmor maith felly; a dywedodd Mr. Yorke wrth Chopping, dydd Iau, y byddai yn rhaid iddo fyned i ffwrdd, os.na Iwyddai i gael gwaith. Atteb Chop- ping ydoedd, Bydd yn ddrwg genych siarad fel yna a fi; cewch chwi weled ai ni fydd- wch.' Nos Sadwrn esgynodd Chopping gynnorth- wy i Mrs. Yorke roi y plant yn y baddon. Yn ddiweddarach yr oedd Mrs. Yorke, fel arfer, yn barod i fyned allan i siopa am yr wythnos. Pan welodd Chopping ei bod yn meddwl cymmeryd y baban gyda hi, dywedir iddo waeddi, Gadewch y baban adref. Mi edrychaf fi yn iawn ar ei ol. Yr ydwyf yn myned i ofalu am danynt oil heno.' Penderfynodd Mrs. Yorke, modd bynag, gymmeryd y baban gyda hi; a'i hunig gysur yn awr ydyw iddi wneyd hyny. Bu hi allan am tua hanner awr; a phan ddychwelodd, dyna lie y gwelai ei dau blent- yn wedi eu llofruddio mewn modd dychryn- llyd. Tra byddaf byw ni bydd i mi byth anghofio yr olygfa,' meddai Mrs. Yorks ar 01 hyny.