Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Y PRIFWEINIDOG YN .JNGWRECSAM.

LLANFYLLIN,

BETTWS, ABERGELE.

COEDPOETH A'R CYLCHOEDD.

CAPEL Y BEDYDDWYR.

CANOLBARTH CEREDIGION.

Y TRYCHINEB YN TALYCAFN.

News
Cite
Share

Y TRYCHINEB YN TALYCAFN. Cynnaliodd Dr. James Hughes, dirprwy drengholydd Gorllewin sir Ddinbych, ymchwil- iad, dydd Mawrth, mewn perthynas i farwol- aeth gwraig ieuangc, a'i phlentyn, yrhai a ladd- wyd gan drên tua 7.20 nos Sadwrn, ddwy filldir o ifordd o orsaf Talycafn, ar cchr Llanrwst. Yr oedd y llys yn cael ei gynnal yn nghegin y ffermdy bychan, a elwid Y Morfa,' lie yr oedd y wraig drangcedig wedi bod yn byw gyda'i gwr, Owen Roberts. Yr oedd yr achos yn cael ei gario yn mlaen gan yr Arolygydd Woollam, Llanrwst. Owen Roberts, y gwr, a ddywedodd fod ei wraig, yr hon oedd yn dyfod o Abergele, ac yn 23ain mlwydd oed, wedi dyfod i fyw yn y fferm gydag ef tuag wyth mis yn ol. Yr oedd ei baban yn bedwar mis oed. Nos Sadwrn dywed- odd wrth ei fam oedranus, yr hon oedd yn byw gydag ef, ei fod ef am fyned i Talycafn i gyrchu potel o stout iddi; a dywedodd ei wraig, yr hon oedd yn nyrsio y baban, 4 Peidiwch a gadael iddynt feddwl ei fod i mi.' Attebodd yntau, 4 Yr ydych chwi yn gref ac iach Maggie, nid oes genych angen stout.' Aeth allan o'r tv, a cherddodd igyfeiriad Llanrwst, gan fod ganddo eisieu cyfarfod y gwas oedd i fyned gydag ef i Talycafn. Wrth glywed llidiart croesffordd breifat i fyned dros linell y ffordd haiarnyncau, trodd yn ol; ac ar ol disgwyl yn y buarth am funyd neu ddau am y gwas, aethat y groesffordd i edrych a oedd y llidiart ar yr ochr arall wedi cael ei gau, gan fod ganddo ferlynod yn y cae tu draw. Ynagweloddei faban bychan ar y groesffordd, a'i wraig yn ochr y Ilinell. Nid oedd wedi marw; ond ni ddarfii iddi ei atteb, a chariodd ef y baban i'r cryd yn y ty; ond nis gallai fyned yn ol at ei wraig. Yr oedd y ddi- weddaf wedi byw yn hollol ddedwydd gydag ef; yr oedd wedi dyweyd y buasai yn well ganddi gael tj o'r eiddo ei hun, ond nid oedd erioed wedi cwyno. Hwyrach iddi gael rhyw gweryl bychan a'i fam, ddau fis yn ol, ynghylch corddi. Yr oedd ei wraig wedi amlygu dymun- iadam fyned adref i gael ychydig o wyliau, ond nid i'w adael ef o gwbl. Torodd y tyst i lawr, ac wylodd yn dost amryw weithiau yn ystod yr ainser y bu yn rhoddi ei dystiolaeth; a gellid clywed ei dad, ar achlysuron felly, yn cysuro ei fab, ac yn dyweyd wrth y llys ei fod yn fachgen da. Ytystnesaf a alwyd ydoedd Catherine Roberts mam-yn-nghyfraitli y wraig drangcedig. Dy- wedoddmaieihoedranoedd66ain. Ymddangosai y fam ieuangc yn galonog iawn wrth y bwrdd swper nos Sadwrn, tua hanner awr wedi ehwech, ac yr oedd yn chwareu gyda'i baban, yr hwn oedd yn chwerthin ar ei nain. Wedi i'r gwr fyned allan, golchodd y dyst yllestri swper; ac fel yr oedd hi yn gwneyd hyny, aeth ei merch- yn-nghyfraith allan gyda'r baban. Nid oedd yn meddwl fod dim allan o Ie. Credai fod ei mhab yn y buarth, a bod ei wraig wedi myned allan i siarad fig ef. Gallai i'r wraig ieuangc fyned i dymmer ddrwg am fod ei gwr yn bwriadu dyfod a stout i'r dyst; ond nid oedd yna unrhyw eiriau na gweithredoedd i ddan^os hyny. Am y baban yr oedd eu holl ymddiddan. Yr oedd y dyst wedi bod yn garedig bob amser wrth ei merch-yn nghyfraith. Nid oedd erioed yn gwybod fod ei mhab wedi meddwi. Dr. H. Williams, Llanrwst, a ddywedodd iddo archwilio y cyrph, a chael allan mai dryllio y penglog oedd achos o farwolaeth y fam a'r baban. Yr oedd yn meddu gwybodaeth fedd- ygol am dani er's wyth mis, ac yr oedd yn meddwl ei bod yn gryf o ran corph a meddwl. John Hughes, Glanddol, llafurwr amaethydd- ol, a ddywedodd iddo, ar ol clywed am y ddamwain, fyned at y groesffordd, a gweled corph y fam yno. Darfu iddo ef a dyn arall ei symmud oddi ar ochr y llinell i'r llwybr yn ymyl. Yr oedd wedi marw. Gan adael y corph yno aeth ef a dau eraill i gyrchu hedd- geidwad. Yr Arolygydd Woollam a ddywedodd wrth y tyst hwn mai ei ddyledswydd ydoedd gweled fod y corph yn cael ei symmud i'r ty, a bod rhywun yn edrych ar ei ol. Pe wedi derbyn, ychydig niweidiau, ac yn anymwybodol, gallasai y driniaeth a dderbyniodd gan y dynion hyn arwain iddi farw yno wrthi ei hun. John Williams, gyriedydd y trSn 7.7 nos Sadwrn, a ddywedodd, nad oedd efe wedi gweled,

Advertising

TAL Y DEGWM.

[No title]

Advertising

DINBYCH.

CAERPHILI.

EISTEDDFOD TWRGWYN, CEREDIGION.

Y TRYCHINEB YN TALYCAFN.