Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
-..-CYNRWYSIAD. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNRWYSIAD. Hanes y Porn Mlyned i Gormes 3 Llythyr Llund&in 4 Marwolaeth Mr. A. O. Humphreys OweD, A. s. 4 Deheudlr Cymru 4 Y Weinyddiaeth Newydd 4 Y Gwrthwyneblad Goddefcl 5 Llythyj Sylwedydd Llangollen .<. 5 Ditihyeh — .M 5 Y Golofn Lenyddol 6 Arddangosfa ao Arwerthiant y Nadolig yn Nhftl-y- 6 cafn 6 Newyddion Creiyddol m 6 Y Dlwygfad Crefyddol yn Ngbymru 6 Mr. Evan Roberts yn Pwllhell 6 Dadgyssylltiad 6 Gohab^aeSfesu — -<- 7 Nodladau 7 Yr Eglwys a'r Ysgol, a'u Petthynas lu Gllydd 7 Ll&nerfyl 7 Newyddton Dlweddaf 8 Dlgwyddladau — 9 Prif Erthyglaa »«,. — — 9 Newyddion Cymre?g 10 Bangor .« >» 10 Corwen 10 Catno 10 Nantymoel 10 Oonwy 10 Newrddlon Tramor 10 Yr Etholiad Cyffredinol 10 Dirvsest ••• 11 Nodlon Dlrwestal 11 Cymru a'r Etholiad Gyffredinol 11 Y Oynçrhora.u. Shol 11 SIr Feirlonydd 11 Damwoinian 11 Etholiad New Forest. 11 Barddoniaetfa — • •« 11 Bhestr o'r Arohdderwyddon 11 Lloffion — 11 Genedlgaefchan, &o. — — 12 Blaen an Ffestiniog a'r Cylch 12 Rhuthyn 12 Addysg 13 M&rchuadoedd « 13 Y Gvfraitb 14 Llangollen ,v. «• 14 Llangefni. — 14 Treffynnon 14 Arddaogosfa Smithfield 14 Trosidclar, 15 Drefnewydd 15 Gastelloedd 15 Caergybl IB Trallwm 15 Bwrdd Gwarobeldwald Forden .n 15 Hyibysladau 1. 2-15, 16
. H A N E S Y PUM MLYNEDD…
News
Cite
Share
H A N E S Y PUM MLYNEDD GORMES. HEDDYW, a'r wythnos nesaf, bwriadwn gyssegra y tudalen hwn i adrodd hanes gweithredoedd v Weinyddiaeth Doriaidd sydd, weithian, trwy drugaredd, wedi dar- fod am dani am byth, a'r ormes ofnadwya ddioddefasom fel teyrnas ar hyd y pum mlynedd. sydd wedi myned heibio; hyny ydyw, er adeg yr ethollad cyffredinol di- weddaf. Os gallwn, trwy yr hanes hwn, gynnhyrfa cymmaint ag un o newydd i gashau Toriaeth, a rhoddi arfau yn nwylaw y ffyddloniaid i ymladd y frwydr fawr fydd yn cael ei cbyhoeddi yn ddi-ymdroi bellach, ystyriwn ein bod wedi cyrhaedd ein ham- can. Un o lenorion blaenaf y Oyfandir a rydd eiriau i'r perwyl a ganlyn yn ngenau un o'i gymmeriadau mwyaf nodedig am ei elynion:—'Pan yn edrych yn ol, ac yn adolygu eich gorphenol, byddaf yn gweled maes rhyfel mawr, a chymmeriadau dryll- iedig yn ei fritho yn mhob cyfeiriad.' Yr ydym yn gofyn yn ddifrifol a ydyw yn hawdd cael argraph mwy gwir a dynod- iadol i'w gosod ar gareg bedd Gweinydd- iaeth a senedd Undebol 1900—5? A oes rhywbeth yn anisnawd Diffyndolliaeth a thuedd uniongyrehol ynddo i ladd cymmer- iadau politicaidd? Gallem dybio yn sicr fod. Ûir hyn lleiaf, rhaid i ni fyned yn ol i'r dyddiau pan oedd Diffyndolliaeth o'r blaen yn 1 bwngc llosgawl' i weled cynnifer o wleidyddion â'u cymmeriadau wedi eu torfynyglu. Nid oes angen am i ni was- traffu amynedd y darllenydd trwy ymhel- aethu ar y modd y mae y blaid Doriaidd wedi ei rhwygo yn ddrylliau; a dyfodol dynion ag yr oeddis yn disgwyl cryn lawer oddi wrthynt wedi ei ddinystrio. Ac ar greiglau DiffyndolIiaeth-ni raid petruso dyweyd-yr aeth y Hong i'w distryw. Y syridcd, mewn gwirionedd, ydyw ddar- fod i'r senedd sydd yn awr yn mron yn v pen edlycha byw fel y gwnaeth cyhyd. I y Daeth i mewn yn mron gyda'r cyfnewid- iad yn y ganrif; ac oes o gyfnewidiadau di-baid a di-orphwys a fu gyrfa. ei bywyd hithau. Daeth penadur newydd l'r orsedd. Daeth Prifweinidog newydd i Downing street, Daeth Llefarydd newydd i gadair Ek y Cyffredin. Ac fel pe na fuasai hyn yn ddigon, daeth archesgob newydd i bre- ii ■—! linn ■■iiiiwwiwum [■iwMiiirn« 11 iiiiimr ladiaeth fawr Caergaint. Y eyfnewidiadau hyn oil a ddigwyddasant o fewn y pum mlynedd diweddaf. heb fyned yn ol bum mlynedd eraill pan y deehreuoid deng mlynedd o ormea ar eu rhawd yn 1895. Y Weinyddiaeth ei hun a wybu am gyf- newidiadau fwy na rhif 0'1 mewn. I dde chreu, aeth cri y cyhoedd yn rhy gryf i Arglwydd SALISBURY al!u c&dw Mr. HENRY OHAPLIN yn ei Weinyddiaeth Hyd yn oed y Torlaid eu hunain a edrychent arno fel yn rhy hen ffasiwn i barhtu yn hwy yn swyddwr. Bu raid i'r Prifweinidog roddi awgrym iddo fod ei le yn well na'i gwm- peini.' Yn lie Mr. CHAPLIN, druan! ac mewn swydd arall, efe a ddododd ei fab yn y naill, a'i fab yn-nghyfraith yn y llall. Taerid eu bod hwy • yn fechgyn da o'r ysgol newydd (o Dorlaid,bid sicr). Am ei fod ef ei hun, a'i nai fab chwaer (Mr. BALFOUR), a'r ddau hyn (os nad chwaneg o'r perthynasau) ynddi, dechreuwyd galw Gweinyddiaeth Arglwydd SALISBURY ar yr enw Cwmni yr Hotel Cecil, Anghyfyngedig (neu I Thd Hotel Cecil Company, Unlimited'). A Thori diymmod, nid amgen Syr GEORGE BARTLEY, a ddododd yr enw rhyfedd hwn ami. Ac nid oedd 'Tealu y Oeciliaid'ei hun, chwaith, yn rhydd oddi wrth ddeddf eyfnewidiadau. Nid dan gyfnewidiadau yn unig y bu gorfod i'r teulu urddasol fyned. Goddefodd golledion yn ogystal. Aeth yr hen ardalydd, pen y tylwyth, at y mwyafrif. Y nai a wisgwyd a'i fantell —i'w llychwino yn ddirfawr. Y mab-yn- nghyfraith (Arglwydd SKLBORNE) a anfon- wyd i Dde yr Affrig i gyflawni dyledswydd- au anhawddach na dim a ddisgynai i'w ran yn ei wlad ei hun Am y cyfnewidiadau mewn llu o swyddogaethau eraill nis gallwn fanylu. Wedi dyfod i swydd yn haf 1900—ac wedi bed ynddi ar hyd y pum mlynedd blaenorol-cafodd Gweinyddiaeth Arglwydd SALISBURY lonyddwch am ennyd gan dry- ehinebau, Gallasem ddisgwyl y buasai dialedd eyfiawnder yn ei goddiweddyd ar unwaith am greulondeb, anonestrwydd, ac anghyfiawnder rhyfel De yr Affrig. Nid felly y bn, modd bynag. Oafodd fwynhau llonyddwch am ennyd, meddwn. Nid allan o le a fyddai adgofio v celwydd dychryn- lIyd ar ba un y marchogodd y Weinydd- iaeth hon i swydd. Ni phetrusai Mr. JOHN MOBLEY ddyweyd 'ddarfod i'r etholwyr mewn anwybodaeth roddi mwyafrif wedi ei drwytho mewn gwaseidd-dra i gefnogi Uywodraeth heb ronyn o ragolygiad gan- ddi.' Llythyrau milwyr o Dde yr Affrig a attaliwyd ar y ffordd rhag i'r gwir am gyflwr y fyddin a seryllfa y rhyfel gael ei wneyd yn hysbys. Cofus gan bawb hefyd am y wefreb waradwyddus a anfonwyd i Heywood i ddyweyd y byddai pob sedd a gollid i'r Llywodraeth yn s6dd wedi ei hen- nill i'r Bwriaid. Ni bu dim mwy gwarad- wyddus na'r telegram hwn mewn unrhyw ethollad cyffredinol erioed. Gwrthwyneb- wyr y rhyfel yn erbyn y Bwriaid a lysenwid yn fradychwyr anwladgar ac annheyrngar. Digwyddai fod llawer o Ryddfrydwyr mor bleidgar i'r rhyfelgyrch anghyfiawn hwnw a'r Torlaid; ond ni chaent glod na diolch am hyny. Rhagrithwyr a thwyllwyr oedd yr enw arnynt hwy. Hyny ydyw, yr oedd y rhyfel (yr hon, meddid, oedd wedi gorphen pan nad oedd mewn gwirionedd) i gael ei gwneyd yn fantais yn yr etholiad i'r Tori- aid yn unig. 'Y mae pob dinesydd Pryd- einig,' meddai Mr. BALFOUR, I sydd yn dymuno na bo y gwaed a gollwyd gan ein eydgenedl o bob rhan o'r byd mewn amddi- ffyniad i'r ymherodraeth wedi ei golli yn ofer yn rhwym o daflu pob ewestiwn arall llai o'r neilldu.' Mewn gair, nid oedd y wlad i bleidleisio ar ddim ond y rhyfel; neu, yn hytrach, nid ar y rhyfel ei hun (canys dywedid fod hono drosodd), eithr ar pa un o'r ddwy blaid oedd gael trefnu yr ammodau heddwch. Er ei glod, ni ddy- wedodd neb ddim cryfach na'r diwoddar Syr WILLIAM HARCOURT yn erbyn yr ystryw i gyfyngu yr etholwyr at y rhyfel yn unig. Er hyny, ystryw a droes allan yn hollol lwyddiannus ydoedd. Ond ni chyrhaedd- odd i fyny i'r nod ag yr ydoedd Mr. CHAM- BERLAIN wedi ei osod o flaen yr etholwyr Gyda'i haerllugrwydd bombastig digywil ydd arferol, gofynai efe i'r etholwyr wneu- thur pen tragyfyth ar y Rhyddfrydwyr fel plaid. A ddisgwyliodd efe am i'r wlad wrandaw ar ei archiad ? Do: y mae yn ddiau Ac y mae yn dda genym gael chwanegu iddo gael ei siomi. Erbyn asglu yr oil o'r pleidleisiau ynghyd, nid oedd y mwyafrif Toriaidd yn mysg yr eth- olwyr ond bychan o'i gymmharu &'r hyn ydoedd yn mysg yr ae-odau dychweledig i'r Ty. Wrth gwrs, addefwn yn rhwydd mai mwyafrif o seneddwyr ydyw y pwysicaf yn y cyssylltiad hwn. Ar yr un pryd, nid dibwys, ar unrhyw gyfrif, nac mewn un- rhyw ystyr, ydyw fod mwyafrif aruthrol yn Nhy y Cyffredin yn mhell o fod yn golygu mwyafrif aruthrol cvfatbebol yn y wlad. Y ffaith mai 2,360,852 ydoedd cyf- anrif y bleidlais Doriaidd trwy Brydain Fawr, a bod cyfanrif y bleidlais Ryddfrydig yn cyrhaedd 2,055,951, a ddengys mor oleu a haul canol dydd fod y mwyafrif Toriaidd o 132 yn Nbý y Cyffredin yn hollol ang- hymmesur a nerth Toriaeth yn mysg yr etholwyr. Gadawn i'r darllenydd ddyfalu pa fodd yr oedd yn bossibl i'r anghymmes- uredd hwn ddigwydd. Modd bynag, daeth cyfnewidiad yn meddwl y cyhoedd yn lied fuan; ond ni fynai y Tonaid ei gydnabod am y rhawg. Yn ddiweddar iawn y gwel- odd Mr. BALFOUR, ac aelodau eraill ei Weinyddiaeth, yn dda addef y gallai fod yn ffaith o gwbl. I bawb arall rid oedd dim arall yn fwy nac mor amlwg. Wedi ennill yr etholiad yn niwedd yr haf, galwyd y s3n- edd newydd ynghyd i drefnu mesurau new- yddion er cyfarfod a thranl y rhyfel. Par- haodd y sesiwn hydrefol' am ychydig wythnosau. Yn yr eisteddiad yn nechreu y flwyddyn ganlynol gwnaed hawliad am chwaneg o arian ynglyn a rhyfelgyrch De yr Affrig. Wrth son am hyny dywedodd Mr. BAL- FOUR, yn ei ddull ysgafala nodweddiadol, fod pob un o aelodau y Weinyddiaeth oedd wedi dyweyd yn adeg yr etholiad fod y rhyfel &'r B4rriaid wedi ei dwyn i derfyn- iad wedi gwneyd camgymmeriad yn hollol fel pe na fuasai eisieu yngan gair yn chwan- eg ynghylch y mater; ac yn enwedig fel pe na buasai dyweyd celwydd goleu er mwyn ennillpleidleisiall yn yr etholiad nac yma nac acw, ac heb y cyssylltiad lleiaf rhyngddo a Deg Gorchymyn Duw. Par- haai yr Arglwydd Ganghellydd i daeru, fel hen fArchetan chwedleugar, nad oedd yno ddim gwerth rhoddi yr enw rhyfel arno wedi bod. Wrth gwrs, 1r ydoedd efe yn unig yn y syniad hwn. Arglwydd ROBERTS, Arglwydd KITCHENER, a'r swyddogion a'r milwyr oeddynt wedi myned trwy y rhyfel- gyrch, a phawb arall a wyddent rywbeth am ryfela, a gredent mai ystori gwraoh oedd gan yr hen ben cyfreithiwr; a madd- euent iddo ar gyfrif ei oedran mawr. Ond am fod ganddo erioed y fath feddwl o hono ei hun, dal i daeru mai nid rhyfel wirion- eddol ond math o ryfel' oedd wedi bod a wnai yr Arglwydd Gangbellydd HALSBURY. Nid i gario math o ryfel' y buaaai yn rhaid i Brydain Fawr a'i Threfedigðau i anfon dau can mil o'i gwyr arfog, a'i chad- fridogion goreu i'w hymladd, a'r rhai hyny ar eu goreu yn eu dwyn i derfyniad ryw sut Modd bynag, hwn ydoedd senedd- dymmor 11 awn cyntaf Gweinyddiaeth ArgL SALISBURY. Yr unig fesur o ddim pwysig rwydd a basiwyd ynddi ydoedd y mesur o dan ba un yr unwyd Trefedigaethau Aws- tralia yn Wladwriaeth. Yn mhob path arall ysgafn a di-werth ydoedd ei deddfwr- iaeth. Bu pethau hynod ynddi er hyny, megys y cweryl cyhoeddus rhwng Ardal- ydd LANSDOWNE ac Arglwydd WOLSELEY, a dymchweliad dirmygedig Mesur Mr. BALFOUR ar Addysg—Mesur 1901. Ysywaetb, egwan oedd yr Wrthblaid y pryd hwn, o herwydd diffyg undeb ac ysbryd. Pe yn unedig, cref, a phenderfynol, nid 068 wybod pa hafog y gallasai hi ei wneyd ar Weinyddiaeth nad oedd dim yn nodweddu ei gweithrediadau yn fwy nag annoethineb a bonglerwch. A pharhaodd y blaid Ryddfrydig yn y cyflwr truenus ac adfydns hwn cyhyd ag y parhaodd y Rhyfel yn Ne yr Affrig. Pan y dirwynodd hono i'w therfyniad, yn mis Mehefin, 1902, de chreuodd yr ymraniadau yn mysg y Rhydd- frydwyr ddiflanu gyd* chyflymder oedd yn mron yn anhygoel, Mewn rhifedi, modd bynag, ni bu y Llywodraeth yn gryfach o gwbl nag oedd hi yn senedd-dymmor pwysig y flwyddyn 1902 yn gryfach, meddwn, am reswm cywilyddus, nid amgen ddarfod iddi ga.el cymmhorth Plaid W ladgarol, neu Gen- edlaethol, yr Iweiddon i'w helpu i wneyd ang- hyfiawnder. Trwy gynnorthwy y rhai hyn y llwyddodd hi i osod Deddf Addysg 1902 yn farn ar Loegr a Chymra ac mewn senedd yn yr hydref y gwnaeth hi hyny Trwy yr help estronol hwn, a chwipio ei chlymblaid ei hun i fyny yn llwyr, hi a lwyddodd i basio yr ormes addysgol yn ddeddf trwy fwyafrif o 237. Mawr ydoedd y gorhoian yn ngwer- syll y parsoniaid a'r offeiriaid Pabaidd o herwydd y fath fuddugolitteth. Y boblach hyn, ar y Haw arall, ydynt yn ochain yn y dyddiau presennol o herwydd bod caredig- ion cyfiawnder a rhyddid yn mhob peth yn nglyn ag addysg wedi dyfod at y llyw. Yn y dyddiau hyny, modd bynag, ymddangosai iddynt fod y Milflwyddiant wedi gwawrio A dyweyd y lleiaf, dyma ddyddiau pen llanw Toriaeth. Ond, ni pharhaodd yr arwyddion ffafriol nemawr. Yn ddioed dechreuodd y llanw droi Yr oedd y Rhyddfrydwyr yn an a dechreuodd y eer yn eu graddau ymladd o'u plaid, O'r brun nad ydym heddyw mewn tymmer i ddiolch am y Mesur Addysg. Bu y modd ion effeithiolaf y gellid meddwl am dano i ennyn ysbryd newydd yn Ymneillduwyr Protestanaidd y Deyrnas Gyfonol. Yr ydym yn barod i raddau liai i ddiolch i Ganghellydd y Trysorlys,y prydhyny, Syr MiCHAELHiCKS BEACH am ei swllto dreth ar yd tramor, yr hwn a osodwyd ganddo yn ei gyllideb am y flwyddyn dan sylw. Dang oswyd i weithwyr y deyrnas pa beth y gallent hwy ddisgwyl am dano gan y blaid Doriaidd. A'r cyfieusdra cyntaf a gawsant, dangosasant hwythau eu bod wedi dysgu y wers Bu etholiad eithriadol yn Bury. Ennillwyd y sedd oddi ar y Tonwid gyda mwyafrif anrhydeddus gan Mr. TOULMIN. Gwelwyd fod y llanw wedi troi. Nid oedd y fuddugoliaeth hon ond y flaenaf mewn cyfres faith. Dro ar ol tro goddiweddid Toriaeth gan drychineb y naill ar ol y llall. Prin y digwyddai eithriad. Hyd yn oed pan y llwyddai ymgeisydd Toriaidd i gadw y sedd, I 4 chroen ei ddannedd yn unig y diangai i fynegu' i'r rhai a'i hudasent i'r maes. Pan ddigwyddai etholiad eithriadol mewn ethol- aeth Ryddfrydig, nid yn unig diogelid y s6dd, ond gwneid hi yn fwy diogel fyth trwy ddyblu y mwyafrif. Byth ni chollid y sêdd. 0 herwydd hyn yr oedd dychryn annaele wedimedditnnu y gwersyll Toriaidd. Mwy annaele fyth ydyw ei ddychryn wrth feddwl wynebu yr etholiad cyffredinol sydd yn awr wrth y drws. Yn mis Gorphenaf, 1902, ymgiliodd Arglwydd SALISBURY i fywyd anghyhoedd. Rhoddodd ei swydd fel Prifweinidog i fyny. Ei olynydd ydoedd Mr. BALFOUR. Cydnabyddai pawb ei dalent- au disglaer. Ar y pryd yn ei wely yn glaf yr oedd efe. Heddyw, pan yr ydys yn gwybod am gynnifer o bethau eraill, syn yw cofio nad oedd neb yn llongyfarch Mr. BALFOUR yn ftvy calonog ar ei swydd newydd na Mr. CHAMBERLAIN. Yn ddioed wedi iddo ef ymaflyd yn yr awenau dechreuodd yr hyn yr ydys wedi cynnefino cymmaint Ag ef ar ol hyny, sef cyfnewidiadau yn y Weinyddiaeth-rhai yn myned allaD, ac eraill yn eu He. Yn mysg y rhai a ymneillduasant taa'r pryd hwn, am wahanol resymeu, gallem enwi Arglwydd CADOGAN, Arglwydd JAMES o'r Henffordd, a Syr MICHAKL HrcKS BEACH, Yn Ganghell- ydd y Trjsorlys yn lie yr olaf penr.odwyd Mr. RITCHIE, gftr eithaf cymmhwys i'r swydd, er hwyrach heb feddu yn llawn gymmhwys- derau Syr MICHAEL. Annhraethol gym- mhwysach na'r un a ddaeth ar ei ol yntau, modd bynag. Ar ol hyn daeth y senedd yn yr hydref v soniasom am dani yn barod i biSio Gormes Addysg. Byth ar ol pasio y ddeddf hono collodd Gweinyddiaeth Mr. BALFOUR flafr y cyboedd yn llwyr. Coliodd yntau am byth ei gyfieusdra hefyd i'w gwneyd yn boblogvdd. 0 ran hyny, rhy brin y gallwn ddyweyd i Mr. BALFOUR a'i Weinyddiaeth fod erioed yn meddu llawn ymddiried y cyhoedd. Pa rvfedd 1 Yn yr etholiad cyffredinol yn y flwyddyn 1900, yr unig beth a ofynid ydoedd dychwelyd y Llywodraeth a ddechreuasai y rhyfel a'r B^riaid yn ol i drefnu yr ammodau heddwch. Wedi i hyny gael ei wneyd, yn lie appelio drachefn at yr etholwyr ar gwestiynau eraill, yn enwedig pan oedd Prifweinidog newydd mewn swydd, yr hyn a wnaed ydoedd din ystrio cyfundrefn addysgol y w lad wriaetb, trwy Berth mwyafrif gwasaidd, heb geisio rhaith yr etholwyr. Pa ymddiried a sllai ywladei rcddi mewn Gweinyddiaeth oedd yn ymddwyn tuag ati jny moddarglwyddaidd, diystyr, ac annheilwng bwn ? A gwneuthur hyn oil o dan ddylanwad yr offeiriadaeth Anglicanaidd a Rhufeinig Dangosodd hithau ei barn am yr ymddygiad yn yr unig ffordd y rhoddid cyfieusdra iddi i wneyd. Yr etholiad cyntaf ar ol pasio y Ddeddf Addysg ydoedd yr un yn New Market, pryd y trowyd mwyafrif mawr y Toriaid yn fwyafrif anrhydeddus i'r Rhyddfrydwyr. I Eisoes yr oedd y chwedl yn cael ei nod- weddu gan yr unffurfiaeth nad oedd p^rygl iddo fyned yn ddiflas gan y Rhyddfrydwyr. Yn y senedd-dymmor dilynol, yn y flwyddyn 1903, cariwyd y chwedl yn hyfryd yn ei blaen. At New Market chwanegwyd Woolwich, ac at Woolwich chwanegwyd Rye. Heb law hyny, wele yr oedd gwrth- giliadau yn cymmeryd lie oddi wrth y Weinyddiaeth o fewn Ty y Cyffredin ei hun. Yr Undebwr cyntaf i adael tywyll- wch a throi ei hunan at I fro y goleuni' yd- oedd Mr. J. W. WILSON. Rhoddodd y gwr hwn ei resyman Tn llawn ac eglur dros ei waith yn gadael Toriaeth, Gwnai y cyfan, meddai, fel gwrthdystiad yn erbyn y doll o swllt ar yr yd, gormes y Ddeddf Addysg, mawredd anferth amcangyfrifon y fyddin; ac mern ystyr gyffredinol, gwastraff cyllidol ynmhobcyfeiriad y rhai yr oedd efe wedi bod yn dilyn eu harweinyddiAeth hyd hyny. Disgynodd ymadawiad Mr. WILSON, ac yn enwedig ei resymau diwrthdro dros ei ym- adawiad, fel taranfolltiu o awyr las yn y gweraylloedd Undebol neu Doriaidd. Nid hollol foddlawn oedd nifer fawr o Dori- aid ar un mesur arall y gwelsai y Wein- yddiaeth yn dda ei ddwyn yn mlaen. Yr ydym yn cyfeirio at Fesur Tir yr Iwerddon. Wrth gwrs, llwyddwyd i gael gan y mwyaf- rif i'w bleidio, ac i gael gan Dy yr Arg- lwyddi hefyd i'w basio. Ond, a wyddost ti, y darllenydd mwyn, pa ham y caed gan Dorxaid y ddau dy i basio hwn 1 Yn unig ac yn hollol am ei fod yn dwyn manteision neiilduol i landlordiaid yr Ynys Werdd! Anghofiwyd pob peth arall yn wyneb hyny. Yn ystod y mis)edd yr ydoedd hyn yn cael ei gario yn mlaen yr oedd Ysgrifenydd y Trefedigaethau wedi myned ar wib i Dde yr Affrig i weled I y gwastad annherfynol.' Nid oes dim yn galw am i ni ymdroi ogwbl gyda'r bleserdaith hono. Hyd y gallwn weled, ni ddeilliodd unrhyw ddaioni oddi wrthi. Gwyddom ddarfod iddi esgor ar lawer o ddrygau. Daeth yn ei ol gyda swrn anferth a addewidion. Dyma ei arfer. Ond, addewidion disylwedd yn terfynu mewn niwl. Nage, nid niwl yn hollol, chwaith. Yn terfynu mewn gwthio llaw yn ddyfnach nag o'r blaen i logellau y treth- dalwyr Prydeinig. Erbyn hyn yr ydym wedi dyfod at drothwy yr helynt sydd wedi profi yn angeu i Weinyddiaeth Mr. BALFOUR, a rhwygo y blaid Doriaidd yn ddeuddarn. Gwelwn nas gallwn wneyd cyfiawnder a'r hanes o fewn y gofod sydd at ein galwad heddyw. Am hyny ni a'i gadawn hyd ail erthygl yr wythnos nesaf.
CENADWRI ARBENIG.
News
Cite
Share
CENADWRI ARBENIG. AT DRYSORYDDION, AC YSGRIFENYDDION SIROL, A BLAENüRIAID YR EGLWYSI. Y MAE y Symmudiad Ymosodol mewn cyfwng difrifol S Hysbysa y trysorydd cyffredinol nad oes dim arian mewn llaw at dalu y 300p. grants am Tachwedd sydd i'w talu ar y 15fed o Ragfyr, na dim at dalu y 300p. wed'yn ar y 15fed o Iocawr, ac yn yr un cyflwr at y 15fed o Chwefror. Felly, bydd 900p. yn eisieu cyn y daw casgliadau dechreu 1906 i law. Taer erfynir arnoch gael cyfran o gasgl- iadau blynyddol yr WYTHNOS WEDDIO i law i'w hanfon i'r trysorydd erbyn y 15fed o Ionawr, er mwyn talu yr over-draft am y mis hwn i'r bangc. Gwrthnaws hollol, ac anfoddlawn iawn ydym i fenthyca o'r bange i Iesu Grist, at achubiaeth eneidiau Y mae hwn yn achos rhy dynerol ac agos at feddwl ein Gwaredwr i commercial transaction o'r fath yna, Gwnai pin cyfeillion cyfoethog, y rhai y mae Duw wedi bod ac yn bod mor dda wrthynt, yn dda i beidio gadael i'r fath tran- saction gymmeryd lie yn eu hanes hwy a benthyca o'r bangc. Gwnai ein cyfeillion anwyl sicrhau iddynt eu hunain gyfathrach anwyl a'r Gwaredwr trwy anfon eu rhodd- ion, nid gweddill o'u rhan o'r da,' i'r Trysor- ydd, Lewis Ellis, neu i Dr. Pne;h—sydd heddyw mewn gwaeledd mawr, dan bryder dirfawr ar yr achos hwn; a bydd rhaid iddo fyned o'r wlad am adferiad iechyd ac arbed- iad bywyd ar frye. Dyna'r genadwri arbenig ger eich bron. I Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed.' Caiff enwau y cyfroddwyr ymddangos yn y FANER a'r Torch,
[No title]
News
Cite
Share
Gofynod ddl. fasnaehwr ya ilys yr ynadoo yn Tower Hamlets, Liandai; oedd wedi cael eu dirwyo am fod ganddyct glorian aughywir, am ddangosiad eu bod hwy wedi talu. Dywadodd y cadeirydd os na thalent y byddat yn t haid iddynt fyned i gaichar. Yr oedd y ffaith eu bod yn cael gadael y Ilys yn ddigon o dderbyaeb iddynt.