Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

MR. EVAN ROBERTS.

News
Cite
Share

MR. EVAN ROBERTS. YN OYRHAEDD I CAPEL CURIG. CYCHWYNODD Mr. Evan Roberts o Liverpool prydnawn dydd Mawrth, am gyfnod o orphwys yn myeg mynyddoedd Gogledd Cymru. Er mor awyddus ydyw ei gyfeiliion am iddo gael gor- phwyBdra hollol, nid oes un ran o Ogledd Cymru, wrth gwrs, y gallai tyned iddo na ddeuid i wybod yn f uan ei fod yno. Cyrhaeddodd nos Fawrth i Gapel Curig. j. Yr oedd nifer liosog o gyfeillion wedi dyfod i orsaf Lime street, Liverpool, i weled Mr. Roberts yn cychwyn gyda'r tren 1 40 yn y prydnawn, am Ogledd Cymru. Yr oedd ei chwaer (Miss Mary Roberts), Miss Annie Davies, a'r Parch. John Williams, gweinidog oapel Prince's Road, Liver pool, gydag ef. Yr oedd cerbyd neillduol wedi cael ei ddarparu ar eu cyfer. Yr oedd Mr. Roberts mewn ysbryd rhagorol, ac yr oedd yn llawn gwea wrth ysgwyd llaw a'r gwahanol gyf- eillion oedd yno, a dymuno iddynt dangnefedd.' Dywedai ei fod yn edrych yn mlaen gyda boddbSd at gael gorphwys yn mysg mynyddoedd Cymru. Teimlai yn gryf, ond nid oedd ei nerfau yn rhyw gadarn iawn. Amlygodd amryw o'r cyfeillion oedd ar y banllawr eu dymuniad am i Mr. Roberts dalu ymweliad yn fa&n â. Liverpool etto, ond dywedodd y diwygiwr nas gallai ef wneyd unrhyw addewid. Nid ydym yn gwybod sut i iyned yn mlaen heboch chwi,' meddai un o'r pwyllgor. Ai nid ydych?' cedd yr atteb, 'Ai ni fydd y Meietr gyda chwi yn barhaus?: Wedi cyrhaedd Llandudno Junction cyflwyn- wyd amryw o'i ewyllyswyr da i'r diwygiwr. Cyrhaeddodd Mr. Roberts a'i gymdeithion i Bettws-y-coed am hanner awr wedi pump. Yr oedd carbyd yn ei ddisgwyl yn yr orsaf, i'w gludo i'r Royal Hotel, Oapel Cnrig. Edrychai yn fywiog a chalonog, a gwenai pan yr oedd amryw yn gwasgu yu mlaea i gael going arno. Cafodd de yn Llugwy Cottage, Bettws y-coed, lie yr ym- gasglodd tyrfa o gwmpas y cerbyd. Rhuthrodd un wraig ato fel yr oedd yn myned i'r cerbyd, a gwaeddodd, I Wel, Evan Roberts anwyl I' ac attebodd yntau, dan chwerthin, 'Ydyw, y mae efe yma.'

YMWELIAD MR. EVAN ROBERTS…

TEYRNGED FICER I MR. EVAN…

MR. EYAN ROBERTS YN FFESTINIOG.

OANIADAU Y DIWYGIAD.

PONTYBEREM.

LLANDUDNO.

LLANON, CEREDIGION, A'R CYLCH.

Y WEINIDOGAETH-A YDYW YN SWYDD…

BWRDD Y GWARCHEIDWAID.

Y OYNGHOR DOSBARTH.

Y iFFAIR.

YR ADFYWIAD CREFYDDOL.

DIRWEST.

Y PARCH. J. M. PRYTHERCH.

YR YMCHWILIAD YN YSGOL CAPEL…

,YR YSGOLION.

LLANSAMLET GER ABERTAWE.

[No title]

MR. EVAN ROBERTS YN LIVERPOOL.