Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
C YNR W YS I AD. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
C YNR W YS I AD. Trefan y Byddinoedd 3 Hanes Rhyfedd Thibet 3 Diesur yr Hatronlit I 3 Deheudir Cymru 4 Addysg 4 Y Rhyfel 5 DinbyoSi 5 Llanelwy. 5 Newyddion Crefyddol 6 Oymdeitbasfa Chwarterol y Methodistkid Calfin- aidd yn Nebendir Cymrn 6 Cynghralr E41wyet Rfcyddion Gogledd Cymru 6 Y Dlwygiad Crefyddol yn Nghymrn 6 Mr. Evan Roberts yn Liverpcol 6 Evan Roberts yn Ffestiniog 6 Pontyberem 7 Llandudno 7 Llanon, Ceredigion, a'r Oylch 7 Y Weinidogieth-A ydyw y Swydd yn ol y Testa. ment Newydd.. 7 Llanymddyfri 7 Nodiadau o Ganolbarth Ceredigion ..o 7 Llansamlat, ger Abertawe 7 N«wydd!aj?;Dfwe<!daf 8 Dlgwyddiadau 8 Pr'f Ertbvlllau > 9 Yn y Glorian 9 Ifavy^ian Cymreft 10 Cynghor Dotbarth Treffynnon 10 Penmaenmawr 10 Abermtw 10 Abergele 10 Conwy n. 10 Bangor 10 Rhosllanerobrueosr, a'r Oylehoedd ,v, 10 Gwallgofdy Gogledd Cymrti 10 Y Senecld 11 Llanaitb 11 Barddoniaetb n Aberaeron Lloffion 11 Dlwygtad (Pathfid) 12 Bethesda 32 ithoullanerebrugog 12 Dinbych ,12 G«me<Ujeaetb.an. &a. « 12 Newyddlort Tramor n. 13 Oerddoriaetb 13 Harciansdoodd 13 Gohebfaethaa — 14 Y Gyfraith 14 Abergynolwyn 14 Ooedpoeth 14 Marwolaeth a Cbiaddedigaeth y Parch. B. D. Thomas, Woodstock, Sir Benfro 14 Oyfarfodydd JVIisol 15 Troserldan ]5 Cross Inn, ger Ceinewydd 15 I, 2-15. 16
TREFNU Y BYDDINOEDD.
News
Cite
Share
TREFNU Y BYDDINOEDD. YR wythnos hon yr ydym yn bvèeru y cpmiiier ern darlJenwyr ni yn esgusodol am be!dio e!n tryee(ld erthygl dan y pen&wd hwn. Dell y pwngc yn ei nas, yn ddisu, am wythnos, a cheiff yr erthygl ymddsngoa yn ein rhifyn nesaf. Yn y cyfamser, na ebo lor golwg ar y ffaith anwadadwy fod y frwydr fftwr yn pry-ur agoBblD, yn yr hon y bydd angen am fn hsrfaa loi yn loywon, a'a 'powdwr yn sych.'
HANES RHYFEDD THIBET.
News
Cite
Share
HANES RHYFEDD THIBET. PA faint o bwysigrwydd y dylid ei roddi 1 r y drafodaeth sydd yn myned yn mlaen rhwng Prydain a China ynghylch Oyttun- deb Thibet nid ydyw yn hawdd pender- fynu ar hyn o bryd. Wythnos i heno, cyn gohiriad y Ty dros "'yliau y Pasc, dywed- odd y Prifweinidog nad oedd ganddo ef ddim i'w ddyweyd, Yr hyn a olygai, yn ddlau, ydoedd nag gallai ddyweyd dim am drafod- aeth nad ydoedd wedi ei gorphen, ac nas gwyddai yn iawn yn mha le y gallai der- fynu Gwnaed y cyttundeb blaenorol & China, a gwrthodwyd i Thibet gael unrhyw lais ynddo. Y canlyniad fa na fynai y Thibetiaid ei gydnabod. Gwrthodent wneyd hyny yn bendant. Nid ydym yn gweled y dylent gael ea beio o herwydd hyny-chwaith. Pa fodd y gellid disgwyl iddynt ymostwng i beth na chawsent na rhan na chyfran ynddo. China, o'i thu hithan. ni feddai allu na thuedd i geisio rhoddi grym gweitbredol ynddo. Yn awr, mewn canlyniad i'r ymgyrch diweddar yno (yr ymgyrch milwraiddymynyllywodraeth mai I cenhaeap-th heddychlawn i ydoedd) y mae cyttundeb newydd wedi ei wneyd; y tro hwn a, Thibet ei bun; ond nid a'r DALAI-LAMA, archofFeiriad Bwddhaidd a phen-llywodraethwr y wlad. Ffoisai hwn, fel llwfrddyn, i Mongolia cyn dyfodiad y Prydeiniaid i Lbassa, y brifddinas. Eithr, ohwareu teg iddo, cyn ymadael, efe a ad- &wodd ei s6l hwr yn Haw y mynach agosaf ato ef mewn awdnrdod. Hwn, ac eraill o'r swyddogion uchaf mewn awdurdod, fa yn gwnevd y cyttundeb a'r Milwriad YOUNG- HUSB4.ND, ac yn gosod s6l y DALAI-LAMA wrtho. Mewn enw, o Ieiaf, China sydd yn meddo penarglwyddiaeth ar Thibet; ond pa mor bell y mae yn angenrheidiol cael cydsyniad a chadarnhhd y Llywodraeth Chingaidd i ammodan y cyttundeb cyn y gall fod grym ynddo, nid ydyw yn hawdd, os yn bosaibl, penderfynu ar hyn o bryd. Hwyrach y goddefir i ni ymohwilio ychydig pa oleuni y dichon hanesiaeth ei daflu ar y cwestiwn hwn. I ddechreu, ni a ddywedwn y dylai Thibet gael ei galw yn Wlad y Lama, nen La- maland. Neillduolrwydd penaf y diriogaeth, yn ddiM, ydyw mai gwlad dan reolaeth yr offeiriadaeth Fwddhaidd ydyw hi, i raddau mwy nag unrhyw randir arall ar wyneb yr holl ddaear. Dangosir hyny yn eglur iawn gan y gyfrol sydd newydd ei chyhoeddi gan un o'r swyddogion oedd gyda'r fintai Bryd- einig yn yr ymgyrch yr ydym wedi s6n am dano. Nid hanes y genhadaeth heddychol a droes yn rhyfelgyrch gwaedlyd a geir gan y swyddog hwn, eithr adroddiad cryno a dyddorol am hanes boreuol Lamayddiaeth a nerth ei ddylanwad yn y rhanbarth ar hyn o bryd. Nid ydyw yn ymddangos fod dadblygiad yr C U chel LAMA'fel swyddwr wedi cymmeryd amser maith i'w ddwyn oddi amgylch. Er hyny, y mae yr ystori yn nodedig o ddyddorol. Yn rhanau cynnftrol y seithfed ganrif yr oedd brenin yn Thibet. I hwn yr oedd dwy o wragedd un o Nepaul, yn yr India, a'r Hall o China. Y teyrn hwn, o barch i'w wragedd, a ddygodd off- eiriaid Bwddhaidd i'w wlad o'r India, a llyfrau Bwddhaidd o'r India a China; a gwnaeth Bwddhaeth yn grefrdd ei wladwr- iaeth, gan ei gwaddoli yn helaeth. Lliosogodd y lamas, neu yr offeiriaid, gyda chyflymder anarferol; a chyn pen nemawr o amser yr oeddynt wedi trawsfeddiannu sylwedd pob awdurdod mewn materion gwladwriaethol, gan wnoyd brenhinoedd y wlad yn ddim ond llamddelwau yn en dwy- law hwy.' Y cam naturiol nesaf ydoedd taflu y brenhinoedd dros y bwrdd yn gyf- angwbl, a gosod i fyny fath o 'frenhinol ofFeiriadaeth' yn eu lie, gwaith penaf pa un a fyddai gofalu am gadw y werin mewn dygn anwybodaeth, a'u gwneyd yn ddim amgen mewn gwirionedd na chaethweision i'r offeiriaid, Cffeiriad-frenin cyntsf y wlad ydoedd archofFeiriad y fynachlog neu Lamasery yn Takya, lie yr oedd pawb yn gwisgo capiau cochion. Dyrchafwyd hwn i'r swydd hono yn y flwyddyn 1252, gan KUBLAI KHAN, ymherawdwr Mongolaidd China, yr hwn a roddodd iddo anrhydedd brenhinol, set yn arwydd awdurdod, a theitl Chineaidd. Gyda chwymp teyrnach MOGUL yn China ffddd tywysogion Kalmuck i Mongolia, ac yno gosodasant i fyny Uchel LAMA newydd mewn lie o'r enw Urga. Ystyrir Urga hyd heddyw y Uanerch fwyaf cyssegredig o fewn holl Mongolia; acyno y ftôdd DALAI LAMA Thibet y flwyddyn ddiweddaf, pan oedd yr ymgyrch Prydeinig yn dynesu tuag at brifddinas Lhassa. Pan y cyfododd lly wodraethwr newydd yn China y peth cyntaf y ceisiodd ei wneyd ydoedd torfynyglu, neu o leiaf ewtogi ar awdurdod Uchel LAMA Thibet, trwy ranu seliau awd- urdod a theitlau brenhinol yn mysg offeir- iaid uwchraddol eraill ac yn 1641 ceis- iodd goresgynwyr o Tartary ddinystrio Lama-yddiaeth yn y wlad. Oymmerodd archoffeiriad • cap melyn' fantais ar y cyfleusdra hwn i berswadio y tywysog Tartaraidd, GUSHI KHAN, i ddi- orseddn yr archoffeiriad 'cap coch' oedd wedi teyrnasu hyd yma. Hyny a fa. Gwnaed archoffeiriad y cap melyn' yn DALAI LAMA, ac yn unbsnaefch hollol ar Thibet, ac yntau, yn ad-daliad, a wnaeth GUSHI KHAN a'i olynwyr yn llywodraeth- wyr milwraidd Lhassa, dan y teitl bren- hinoedd.' Y DALAI LAMA. 'cap melyn' cyntaf hwn ydoedd y blaenaf, hefyd, 'i bdni iddo ei hun a'r rhai a ddeuent ar ei ol ddwyfol darddiad a hynafiaeth: oruwchnaturiol,' gan haeru mai ail ym- gnawdoliad o abad, neu archoffeiriad cyntaf yr urdd, ydoedd yntau, ac mai ymgnawdol- iadau oedd y ddau o I frenin tra galluog a gor-boblogaidd Thibet, nid amgen STRONG- STAKT GAMPO,' yr hwn, yntau yn ei dro, nad ydoedd ond lymgnawdolipd ar y ddaear o Ysbryd mawr cymmwynasgar y Mynydd- oedd, yr hwn a roddasai i'r Thibetiaid yr ymborth swyngyfareddol a'u troes hwynt o fod yn eppaod i fod yn ddynion.' Pob lama neu offeiriad o sect wahanol, ac na fynai gredu yr ofergoel hon, a leddid, au mynachlogydd 'c!Jpiau cochion' a draws- ffurfid trwy orthrech yn fynachlogydd urdd 5 y capiau melynion.' Modd bynag, can iateid i un arall-a dim ond un—gael cyf ran mewn dwyfol anrhydedd. Hwn ydoedd Abad TASHILHUMPO, neu SHIGATSE, ar yr hwn y gosodwyd urddas Uchel LAMA, a'r hwn a adwaenir yn awr gan Ewropiaid fel Lama TASHI. Fel ymgnawdoliad o ryw Bwddha ffagiol yr edrychir arno ef. Y Bwddha y mae hwn yn ymgnawdoliad o hono a elwir r Y Goleuni Annherfynol,' a'i I ragorfraint ef yw gwneyd archwiliad ar y babanod o fewn yr olyniaeth i Lama-ydd- iaeth Lhassa, ac i ethol o honynt pa un a fo teilwng i fod yn ymgnawdoliad newydd Yr ydym yn disgwyl fod y darllenydd yn gallu dyfod gyda ni yn yr hanes rhyfedd hwn. A bron mor ddyddorol, a llawer pwysicach, mor bell ag y mae y wlad hon yn myned, ydyw hanes perthynas China a Llywodraeth Thibet. Yr ydym eisoes wedi dyweyd mai KUBLAI KHAN fu yn creu' yr offeiriad-frenin cyntaf, ac mai pan y daeth teyrnach Manchn, fel ei gelwir, i orsedd China yr ordeiniwyd y DALAI LAMA blaenaf. Y DALAI LAMA cyntaf hwn a dalodd ym- weliad é.'r ymherawdwr ChinSaidd, ac a ordeiniwyd ganddo yn mhellach yn Ben- Arglwydd ar Thibet. Ar farwolaeth yr emprwr Manchuaidd darfu i'w fab, yr hwn a fuasai yn gwasanaethu fel rhaglaw i'w dad, osod glaslangc afradlawn yn Uchel LAMA. Ond nid yn hir y cafodd hwnw fwynhau ei arglwyddiaeth. Diorseddwyd ef gan yr emprwr Chineaidd, alltudiwyd ef, ac yn lied fuan wedi hyny bradlofrudd- iwyd ef. Dilynwyd hyn gan ymdrechfa cydrhwng y rhai a wrtlyyfent yn erbyn athrawiaeth yr ail ymgnawdoli,' gosod- asant Uchel LAMA o'u plith eu hunain yn flaenor arnynt. ClymbJaid arall a gawsant blentyn bychan; a chan hani mai efe yd- oedd yn meddu mwyaf o hawl i ymgnawd- oliad,' gosodariant ef ger bron fel ymgeis- ydd am yr orsedd Oanlyniad y cydym- gais hwn am yr uwchafiaeth ydoedd rhyfel cartrefol. Hyny a ddilynwyd gan ores- gyniad y Tartariaid. A hyny, drachefn, a ddygodd ymherawdwr China i'r maes. H wn 4 a adferodd olyniaeth yr adenedig- aethau,' ac a osododd y plentyn yn swydd yr Uchel LAMA, ond beb roddi iddo ond yr awdurdod ysbrydoi' yn unig. Yr I awdurdod dymmhorol' a roddodd efe i brifweinidog oedranus, gyda'r enw o fod yn frenin. Yn y flwyddyn 1720 hawliodd yr ym- herawdwr benaduriaeth ar y wlad iddo ei hun, a gosododd,' medd yr hanes, 'ddau fandarin (pendefigion) Chineaidd yn Lhassa, fel cynnrychiolwyr politicaidd, neu ambans.' O'r cyfnod hwn yn mlaen hanes llofrudd. iaethau ydyw cyfran helaeth o'r hanes. Y DALAI LAMA newydd a lofruddiodd y bren- in,' ac yntau ei hun a fwriwyd i garchar gan ymherawdwr China am ei anfadwaith. Y rhaglaw a bennodwyd yn ei le a groesodd ewyllys yr ambans, ac a bfruddiwyd gan- ddynt. Hyn a gynnyrchodd chwyldroad a chyflafan ar y Chineaid. Hyny a ddygodd fyddin ddialeddol o China ar y wlad ac wedi adfer iawndrefn, chwanegwyd yn aruthrol at ddylanwad yr ambans, fel y cadwent y pennodiad ar y rhaglaw yn eu dwylaw eu hunain.' Hyd yn oed hwy oedd yn rheoleiddio y dewisiad ar y Dalai Lamas newyddion.' Y pryd hwn digwydd- ai fod pob Dalai Lama yn marw yn ieu- angc Oedran y pedwar Dalai Lama di- weddaraf yn meirw ydoedd un yn un mlwydd ar ddeg, a'r tri arall yn ddeunaw mlwydd.' Oni bae i blaid genedlaethol gael ei ffurfio i wrthwynebu gormes ac ymyriadau y Chine%id yn llywodraethiad y wlad buasai y Dalai Lama a ff6dd o flaen y Prydeiniaid wedi ei ladd. I'r blaid hon a'i! gwaith y mae diolch am fod dylanwad yr ambans a Llywodraeth China ar y wlad wedi lleihau yn ddirfawr. Modd bynag, y mae diswyddiad y Lama ffoedig yn gwbl unol a'r rhagesiamplau; ond nid ydyw rhages- ampl nac yma nac acw yn Thibet, os na bydd rhyw nerth mawr o'r tu cefn iddi. Daw yr ambans i feddu eu hen awdurdod yn ol os gall LlywodraethChina gyrhaedd ei hamcanion ond nid bob hyny. Yn ofer, befyd, y ceisia y ffoadur ennill ei s'1fle yntau yn ol, os na chaiff rywbeth cryfach na'i 'awdurdod ys- brydol' i'w gyfnerthu. Oddi wrth yr holl hanes hwn y cwestiwn a ymgyfyd yn na- turiol ydyw :—A phwy yn Thibet y gellir gwneuthur cyttundeb a fydd yn debyg o fod yn safadwy.
MESUR YR ESTRONIAID.
News
Cite
Share
MESUR YR ESTRONIAID. Nos Fawrth, yr wythnos ddiweddaf, cy- hoeddodd y Llywodraeth ei hail argraphiad o Fesur yr Estroniaid y ceisir, neu y bwr- iedir ceisio, atta.1 eu hymfndiaeth i'r Deyrn- as Gyfunol. Nid oedd yr eglurhad a rodd. odd yr Yagrifenydd Cartrefol ar y mesur yn un ag y gellid ei alw yn eglurhad eglur.' Niwl a thywyllwch a'i hamdoai. Ond mor bell ag y gellid deall y mae yr ail argraph- iad, i gryn fesur, yn welliant ar yr argraph- iad cyntaf. 0 herwydd hyny byddem yn eithaf parod i helaethu peth ar ein penawd, a'i osod i ddarllen ;—• Mesur yr Estroniaid ail argraphiad, gyda chwanegiadau.' Os na chyfyd rhyw oleuni newydd o rywle, nid ydym yn gweled pa ham y dylai y gwrth- wynebiad i yrfa y mesur trwy y Ty fod yn un anhawdd na hirfaith. Or bron na cheir gan bawb i gydnabod mai peth I dymunol,' ac hyd yn oed angenrheidiol, ydyw attal diluw ymfudiaeth lestroniaid annymunol,' anghenus, a di-gymmeriad Cyfandir Ewrop i'n mysg. Nid can y drws ar ymfudiaeth, yn ystyr gyffredin a phriodol y gair, ydyw hyny. Nid cau y drws rhag gwneyd ein gwlad yn deilwng o'i hen enw da, fel noddfa ddiogel ffoaduriaid oddi ar ffordd gormes ac erledigaeth politicaidd, ydyw chwaith. Ni fynem ar unrhyw gyfrif ammharu dim, yn y graddau lleiaf, ar ein hen gymmeriad gogoneddus yn y cyfeiriad hwn. Ond tra yn diogelu ein hunain yn hyn o beth, hyd yr ydym yn gallu, yr ydym hefyd am ddi- ogelu ein hunain rhag bod yn domen i dderbyn pob yBbwrial a gwehilion y dewisa gwledydd eraill y Cyfandir eu bwrw arni yr un pryd. Yr ydym am i Brydain fod yn enwog fel I Noddfa Boliticaidd;' ond ni fynwn iddi fod yn lie ysgarthion dynol- iaeth Nid oes i Brydain Fawr well traddodiad- au yn bod na'r rhai sydd wedi cadw ei dorau yn agored i KOSSUTH, MAZZINI, a ffoaduriaid rhag trais a gormes. Yn LInn. dain-yn enwedig y pen dwyreiniol iddi— y mae y teimlad gryfaf o un man, y mae yn debyg, yn erbvn yr annymunolion' (gair sydd wedi dyfod i'r wyneb yn amlwg yn y ddadl hon), ac yno y gwaeddir am ryw fesur i attal ffrwd eu dylifiad i fod yn faich ar y trethi, ac yn felldith i gymdeithas. Ond, hyd yn oed yno ni chredwn fod gron- yn o deimlad gwrthwynebol i ffoaduriaid rhag gorthrwm. Er i'r ffoadur fod yn dlawd, er iddo fod yn gwbl anghenog, ac yn yr ystyr ac i'r graddau hyn, yn anny- munol, os yn ffoi rhag erledigaeth grefyddol neu wladol, ni phetruswn ddyweyd na teimla neb yr awydd lleiaf i gau drws y noddfa yn wyneb hwnw. Hyd yn oed oddi wrth adroddiad tywyll Mr. AKERS DOUGLAS am gynnwys y mesur, casglwn fod y mesur newydd yn diogelu y cymmeriad Prydeinig yn yr ystyr hwn i raddau Ilawer helaeth ach nag y gwnai y mesur y llynedd. Hyd nes y cyhoeddir y mpsur nid oes genym ond cymmeryd yn ganiatäol ein bod yn gywir yn ein dyfaliadau ar y pen hwn, ac amryw bethau eraill. Nid ydyw ffol-gri y Toriaid fod y Rhyddfrydwyr yn wrthwyn- ebol i bob attalfa ar bob math o dramoriaid a allant ddyfod i'r wlad hon YD gywir, nac o'r bron yn werth myned i'r drafferth i'w gwrthbrofi. Y gwir wahaniaetb rhwng y ddwy blaid ydyw, eu gwahaniaeth ynghylch y peiriannwaith goreu a mwyaf effeithiol i gario amcan ag y credant oil ynddo i radd- au mwy neu lai. GwrthddadI benaf yr Wrthblaid ydyw fod y cynllun i weithio y mesur allan yn wallus. Gadawer i ni geisio gwneyd y gosodiad hwn yn dda, gan ddech- reu gyda'r hyn y mae yn amlwg leiaf o wahaniaeth barn yn ei gylch. Wrth gwrs, nis gallwn ddychymygu am neb yn dangos y gwrthwynebiad lleiaf i'r gosodiad mai da ac angenrheidiol ydyw cau allan o'r Deyrnas Gyfunol y tramoriaid hyny sydd yn ddismmheuol ac yn amlwg yn anghymmeradwy fel dinasyddion, megys troseddwyr cyfreithiau eu gwledydd (lladron, llofruddion, &c.), gwallgofiaid a gwirioniaid, a rhai yn dioddef o dan glefydon heintus. Mor bell ag y mae y mesur yn cau y drws ar y math hwn o ymfudwyr, y mae iddo ein cefnogaeth a'n canmoliaeth drylwyraf. Y darperir ynddo i roddi awdurdod i lys- oedd i anfon yn 01, yn chwanegol at neu yn hytrach yn lIe dedfrydon ar y cyfrywa gym- meradwywn hyd yr eithaf. Ynghylch y mater hwn nid ydym yn gwybod fod un- rhyw ddadl o bwys wedi ei chodi erioed. Ond ar y cwestiwn nesaf—pwngc gweithio y mesur allan—y mae yr amrywiaeth barn yn lied ddig61 o'r dechreu. Yn ol rhai sydd wedi tala sylw manwl i'r mater yr unig ffordd i ddelio a'r annymunolion' ydyw trwy eu bwrw allan yn ddiseremoni. Ond, yn ol y wireb, gwell attaliad na gwell- had. Felly yn y mater hwn. Gwell na'll bwrw allan ar ol eu gollwng i mewn a fyddai eu rhwystro i lanio ar ein gororau o gwbl. Gwir fod attal i mewn yn llawer anhawddach gorchwyl na bwrw allan; ond ni fynwn am fument gydnabod fod yr an- hawsderau yn gyfryw nas gellir eu gorch- fygn-yn y rhan liosocaf o'r amgylchiadaUj a dyweyd y lleiaf. Digon tebygol ydyw y gallai rbai 'annymunolion' lithro i mewn er pob dyfalwch. Digon tebygol hefyd yw y gallai rhai na b6nt mewn gwirionedd yn annymunol' gael eu rbwystro i ddyfod i mewn yn ogystal. Hyny ydyw, nis gellir ffurfio unrhyw gyfraith a fydd yn berffaith o dan bob amgylchiadau, ac yn mhob achos a ddichon ddigwyddo. Mewn cyfeiriad arall, drachefn, bydd yn angenrheidiol rhoddi yr ystyriaeth fanylaf i'r mesur, a'i ddarpariadau. Cywir a theg ydyw cau allan estroniaid a fyddant yn debyg o ddyfod yn bwysau ar drethi y wladwriaeth. Eitbaf rhesymol, yn ogystal, a fyddai gyru y rhai sydd wedi dyfod yn barod yn faich ar y trethi yn eu holau. Dan y cyfreithiau Prydeinig rhaid i bob rhanbarth gynnal ei dlodion ei hun; a pha ham y dylai Prydain gynnal tlodion gwled- ydd eraill ? Ond, yn y cyssylltiai hwn, cyfoda ammheuaeth ynghylch y polisi o gau allan mewn cyferbyniad i'r polisi o fwrw ymaith. Pwy sydd i benderfynn y tebyg- olrwydd' y bydd tramorwr yn dyfod yn anghenog, ac felly yn faich ar ein trethi; a phwy a all ddyweyd gyda sicrwydd y bydct pob un a ddaw i'n gwlad heb ond ychydig neu ddim moddion cynnaliaeth yn haedda cael ei restru yn mysg y rhai y rhoddir yr enw annymanol' arnynt ? O flaen y ddir- prwyaeth frenhinol a to yn gwneathur ym. chwiiiad i'r holl achos derbyniwyd tystiol- aethau diwrthdro yn dangos fod llawer o'r ymwelwyr estronol hyn, trwy eu cynnil- deb, eu diwydrwydd, a'u buchedd sobr a chymmedrol, yn dra buan yn ymddyrchafu, ac yn gwneyd eu hunain yn aelodau gwir ddefnyddiol yn y wladwriaeth, Modd bynag, os na ddaw rhyw ddiffygion i'r golwg yn y mesur pan yr argrephir ef nas dadguddiwyd mo honynt yn araeth yr Ys. grifenydd Cartrefol, yr ydym wedi dyweyd digon i ddangos ei fod yn fesur sydd yn hawlio ein hystyriaeth fwyaf gofalus. Gwrthddadl Syr CHARLES DILKK yn ei erbyn ydyw fod y drwg mor fychan fel nad yw prin yn werth deddfu ar ei gyfer, 'oddi- gerth, hwyrach, mewn rhyw un rhanbarth neu ddau.' Ychydig gysur sydd yn yr athrawiaeth hon i'r un dosbarth neu ddau hyny ag y mae y 1 drwg yn cael ei deimlo yn ddiam- mheuol ynddynt. Heb law hyny, beth pe torai pla, haint, neu glefyd, yn mysg anny- munolion y parth neu ddau hyny, a a Syr CHARLES DILKE ar ei 1* nad ymledant i liaws o barthau eraill 7 Nid drwg' bychan a fyddai hyny, yr ydym yn dyfalu. Ar yr I y un pryd, y mae pwys i'w osod ar yr hyn a ddywed y barwnig Radicalaidd galluog trwy ein gosod ar ein gwyliadwriaeth i beidio disgwyl canlyniadau mawrion oddi wrth y mesnr. Mesur bychan ydyw, a'i effeithiau yn gyfattebol a fyddant yn fychain. Rhe- symol hollol yw cau yr I annymunolion'hyn allan o'n gwlad. Brychau a meflau, a ffyn- nonellau anghysurus, ydynt. Ond, nid ydyw eu nifer mewn gwirionedd agos cym- maint ag y myn y Toriaid i ni gredu ei fod. Yn Unol Dalaethau yr America, yn y flwyddyn 1904, cyfanswm y tramorwyr ymfudol y gwrthodwyd iddynt gael glanio ydoedd 7,994, tra yr ydoedd nifer y tra. morwyr ymfudol a dderbyniwyd i mewn yn 812,000. Hyny yw, nid oedd yr 'anny- munolion yn un o bob cant, Cyfrifa Mr. AKERS DOUGLAS fod y nifer a ddaw i'r wlad hon bob blwyddyn tua 80,000. Yr ydym yn dyfalu ei fod ef yn gosod y ffigiwr braidd yn rhy uehel. Os felly, a cbymmeryd y cyfartaledd yn yrUnolDalaethau yn safon, nifer ein holl annymunolion' ni fyddai rhywbeth o dan wyth cant Gallai y nifer fod yn fwy y flwyddyn gyntaf a'r ail nag yn y blynyddoedd dilynol, canys tuedd un- iongyrchol i fyned yn Uai a fyddai yn sicr o gael ei dangos. Byddai llai o'r ymfudwyr hyn yn debyg o anturio i'n plith. Perchen- ogion y llongau ymfudol, hefyd, a fyddent yn fwy gofalus pwy i'w cludo. Bid a fyno, yr ydym yn awr yn aros am y mesur ei hun mewn argraph.